Agenda item

Cynllun Gwres Caerau

Cofnodion:

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau am weithgaredd diweddar mewn perthynas â Chynllun Gwres Caerau a gofynnai am gymeradwyaeth i newid cwmpas Cynllun Gwres Caerau a chyflwyno ail-broffil o'r prosiect i Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru (WEFO).

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod Cynllun Gwres Caerau wedi'i sefydlu fel prosiect arloesol iawn oedd yn cynnig tynnu gwres allan o dd?r a gynhwysir mewn hen weithfeydd pyllau glo sydd dan dd?r, i ddarparu adnodd ar gyfer eiddo yn Caerau. Câi'r d?r ei gludo drwy rwydwaith o bibellau i'r eiddo gyda'r tymheredd yn cael ei gynyddu i lefel ofynnol y preswylwyr gan bwmp gwres o'r ddaear. Dywedodd fod natur arloesol y prosiect wedi cyflwyno nifer o heriau, yn fwyaf arbennig sut i ddefnyddio d?r mwynglawdd yn fasnachol fel adnodd, sut i ennill cwsmeriaid ar gyfer rhwydwaith gwres sy'n gwasanaethu'r farchnad dai i raddau helaeth a sut i greu prosiect masnachol fforddiadwy a hyfyw. Penderfynodd y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Mehefin 2021 i symud ymlaen gyda dewis cyfunol o gynllun d?r mwyngloddio arddangosol, yn gwasanaethu'r ysgol, a rhwydwaith gwres gyda ffynhonnell wres wahanol yn gwasanaethu cartrefi a chysylltiad gwifren breifat o'r fferm wynt. 

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod gwaith pellach wedi cael ei wneud ar y cynnig a gymeradwywyd yn sail i ail-broffilio cynllun busnes y prosiect i WEFO. Dywedodd fod nifer o heriau wedi'u canfod, oedd eto i arwain at gyflwyno'r ail-broffil, yn fwyaf arbennig, hyfywedd ariannol ar ôl cynnwys ardrethi busnes, cofrestru cwsmeriaid domestig i'r rhwydwaith gwres, gan gyrraedd dyddiad targed cyflawni'r prosiect sef Mehefin 2023 a chyflawni prosiect ariannol hyfyw.   Amlinellodd asesiad o bob her a disgrifiodd y dewisiadau oedd yn addas ar gyfer symud ymlaen, sef cau'r prosiect neu gael gwared ar elfen rhwydwaith gwres Tudor Estate o'r prosiect a chyflawni prosiect arddangos d?r mwynglawdd gyda threfniant gwifren breifat o'r fferm wynt yn darparu cyflenwad trydan am gost is i'r pwmp gwres yn Ysgol Gynradd Caerau. Dywedodd y byddai angen i WEFO gytuno bod cau'r prosiect yn dal i gyd-fynd â meini prawf y cyllid a gofynnwyd am gymeradwyaeth ar gyfer dewis B, i baratoi a chyflwyno i WEFP ail-broffil ar gyfer prosiect arddangos d?r mwyngloddio wedi'i ganoli ar yr ysgol gan ddefnyddio pwmp gwres a chysylltiad gwifren breifat â'r fferm wynt leol.  

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau oblygiadau ariannol cost y cynllun a hysbysodd y Cabinet y byddai angen cyflwyno'r ail-broffil, gyda set newydd o ffigurau i'r Swyddog Adran 151 i'w gytuno cyn ei gyflwyno i WEFO a chyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad ail-broffil WEFO ac i amlinellu'r camau nesaf mewn perthynas â'r cynllun, gan gynnwys y goblygiadau ariannol.   

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau i’w ragflaenydd, y Cynghorydd Young, am ei waith yn hyrwyddo'r prosiect a nododd y dylid dilyn dewis B gan ei fod yn brosiect arddangos a’i fod yn cyd-fynd ag agenda datgarboneiddio'r Cyngor. 

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y Cabinet hefyd fod yr Awdurdod Glo wedi dangos diddordeb arbennig yn y prosiect hwn fel prosiect gwres wedi'i ddatgarboneiddio a gâi ei efelychu ar draws yr hen feysydd glo yn Lloegr a'r Alban. 

 

Hysbysodd yr Arweinydd y Cabinet y câi'r sefyllfa mewn perthynas â dim eithrio rhag ardrethi busnes ei chymryd i fyny gyda Llywodraeth Cymru er mwyn iddi gael ei hail-ystyried gan fod hynny’n effeithio ar hyfywedd y prosiect ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD: 

Bod y Cabinet:

·      yn cymeradwyo’r newid i Gynllun Gwres Caerau fel y’i disgrifir yn adrannau 4.8 a 4.9 yr adroddiad, sef cael gwared ar elfen rhwydwaith gwres Tudor Estate o'r prosiect a chyflawni prosiect arddangos d?r mwynglawdd gyda threfniant gwifren breifat o'r fferm wynt yn darparu cyflenwad trydan am gost is i'r pwmp gwres yn Ysgol Gynradd Caerau;

·      yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol a'r Swyddog Adran 151 i gytuno a chyflwyno ail-broffil y Cynllun i WEFO yn seiliedig ar y newidiadau i Gynllun Gwres Caerau a amlinellir yn adrannau 4.8 a 4.9 yr adroddiad hwn;

yn nodi y câi adroddiad pellach ei gyflwyno i'r Cabinet yn dilyn canlyniad cyflwyno'r ail-broffil i WEFO.      

Dogfennau ategol: