Agenda item

I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Dechreuodd y Maer ei gyhoeddiadau i'r Cyngor gyda datganiad personol fel a ganlyn:-

 

Ymddengys bod sylw diweddar a wnes mewn sgwrs â rhywun ar fy nghyfrif Facebook personol wedi digio rhai aelodau o'r wrthblaid, gan eu bod wedi’i  atgynhyrchu ar sawl tudalen ar y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â galwadau i mi ymddiswyddo. Er eglurder, roedd fy sylw'n ymwneud â'r gystadleuaeth dybiedig rhwng fy rôl i fel Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a rôl Maer Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Yn fwy penodol, dywedais fy mod yn edrych ymlaen at ei 'ei weindio i fyny' mewn digwyddiad lle’r oedd y ddau ohonom am fod yn bresennol, gan gyfeirio ato mewn jest fel 'maer bach', a gwneud jôc fod ei gadwyn 'fwy na thebyg yn fwy na fy un i'.

 

Nid neges gyhoeddus oedd hon i fod, roeddwn ar ddeall mai sgwrs breifat oedd hi, ond cyn gynted ag y sylweddolais ei bod yn gyhoeddus, dileais y neges ar unwaith er mwyn osgoi cynhyrfu neu ddigio neb. Nid oeddwn yn bwriadu niweidio neu sarhau trwy wneud hyn, ac mae'n ddrwg gennyf os pechais unrhyw unigolyn neu sefydliad, nid hynny oedd fy mwriad o gwbl.

 

Ni fu llawer o ymweliadau Maerol ers cyfarfod diwethaf o'r Cyngor, ond yr oeddwn yn falch o gael fy ngwahodd gan Steve Brace o Bridgend Athletics i ail-lansio’r trac athletau a'r cyfleusterau yn Newbridge Fields ar ôl eu hadnewyddu. Roedd nifer o sêr y byd chwaraeon yno, gan gynnwys y Cyng. Eric Hughes, sydd bellach yn ei 80au ac sy'n dal i redeg yn rheolaidd er gwaethaf llawdriniaeth fawr ar y galon. Mae Bridgend Athletics wedi cynhyrchu nifer o sêr rhanbarthol, sêr cenedlaethol, sêr byd eang a sêr Olympaidd dros y blynyddoedd, a hir oes i’r traddodiad hwnnw wrth iddynt ddechrau ar bennod nesaf eu datblygiad fel clwb.

 

Bûm yn ymweld ag enillwyr gwobrau Dinasyddiaeth y Maer o'r cyfnod pan oedd y Cynghorydd Stuart Baldwin yn Faer, gan na chyflwynwyd y gwobrau hynny oherwydd y pandemig. Pleser mawr oedd ymweld ag Isabella Evans yr wythnos diwethaf, sydd yn 15 oed ac wedi gwneud gwaith anhygoel wrth ddysgu iaith arwyddion o'r enw Makaton i helpu gyda'i brodyr a'i chwiorydd a'u datblygiad. Mae'n amlwg ei bod yn un o sêr y dyfodol.

 

Yna, ymwelais ag Ysgol Gyfun Pencoed a'u Gr?p Gofalwyr Ifanc. Gwych oedd dysgu am y gefnogaeth y mae’r ysgol yn ei roi iddynt, a chlywed rhai o'u straeon am sut y maent yn helpu ac yn cefnogi eu rhieni a'u brodyr a'u chwiorydd cyn yr ysgol ac ar ôl ysgol, gwnaeth i mi sylweddoli pa mor rhyfeddol yw'r bobl ifanc hyn, a’u bod yn saff o ddod yn bobl hyd yn oed yn fwy rhyfeddol yn y dyfodol.

 

Yn olaf, es yn fy mlaen i i Glwb Rygbi Mynydd Cynffig i gyflwyno gwobr i Chris Leyshon sy'n gwneud gwaith anhygoel a hanfodol wrth godi arian a gwella ymwybyddiaeth o Ganser y Prostad. Dyma'r math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith dynion yn y DU, gan effeithio ar 1 o bob 8, ac mae hyn yn cynyddu i 1 o bob 3 os oes hanes teuluol o ganser y prostad. Nid yw dynion yn cael eu sgrinio yn awtomatig yn y wlad hon, ac felly byddwn yn argymell bod pob dyn dros 50 oed, neu unrhyw un sydd â phryder neu hanes teuluol, i fewngofnodi i wefan Prostate Cymru i gwblhau rhestr wirio syml a fydd yn dweud wrthych a ddylech ymweld â'ch meddyg i ofyn am brawf gwaed PSA.

 

Bydd rownd nesaf Gwobrau Dinasyddiaeth Flynyddol y Maer yn cael ei lansio'n fuan a gwahoddir enwebiadau o ddydd Llun 8 Tachwedd. Mae’r gwobrau yn agored i bobl sy'n byw yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â grwpiau a busnesau lleol. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan CBSP lle gellir lawrlwytho ffurflen enwebu, a bydd yr aelodau hefyd yn derbyn e-bost gyda'r holl wybodaeth berthnasol.  Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw Dydd Gwener 7 Ionawr 2022, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad ym mis Mawrth 2022.

 

Bydd y Maer yn cynnal digwyddiad Elusennol Cyn-Nadolig ar ddydd Sadwrn 27 Tachwedd yn Heronston Hotel & Spa gyda hypnotydd llwyfan comedi a cherddoriaeth gan Lee Jukes o Bridge FM. Mae tocynnau yn £22.50 ac yn cynnwys pryd bwffe. Mae tocynnau'n gwerthu'n gyflym, felly anogodd y rhai sydd â diddordeb i brynu’n fuan. Mae'r digwyddiad yn agored i bawb a byddai'n wych gweld cynifer o Gynghorwyr yno â phosibl, ynghyd â'u partneriaid, eu teulu a’u ffrindiau.

 

Hefyd, roedd wrthi'n trefnu Raffl Nadolig a bydd tocynnau ar werth yn fuan am £2 yr un, gyda gwobr gyntaf o £200 mewn arian parod. Roedd yn bwriadu tynnu'r tocynnau buddugol ddydd Mercher 15 Rhagfyr, ychydig ar ôl cyfarfod y Cyngor ar gyfer y mis hwnnw. Roedd y Maer wedi derbyn cefnogaeth wych o ran gwobrau raffl gan nifer o fasnachwyr Tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Sony, Pencoed ac Asda, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Ychwanegodd y byddai cefnogaeth yr Aelodau â’r uchod yn cael ei werthfawrogi'n fawr, gan nad oes cymorth gan swyddogion na phwyllgor elusennol mwyach wrth drefnu unrhyw weithgareddau Maerol i gasglu arian ar gyfer Lads & Dads a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, ac felly roedd yn gobeithio y byddai'r digwyddiadau hyn yn llwyddiannus, gan ei fod ef a’i wraig wedi gwneud llawer o waith wrth eu trefnu, a byddent yn parhau i wneud hynny am weddill eu tymor fel Maer a Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.