Agenda item

I dderbyn y Cwestiwn canlynol gan:

Cynghorydd Altaf Hussain i’r Arweinydd

Mr Arweinydd, rydym ni i gyd yn ymateb i anghenion sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, yr amgylchedd a dyfodol y blaned yr un pryd ag ymateb i argyfwng tai. Ellwch chi gadarnhau sut y byddwch chi’n cydbwyso’r angen i ddatblygu ein hamgylchedd a hefyd lleihau allyriadau carbon ar yr un pryd ag ymgysylltu â chymunedau ynghylch y datblygiadau arfaethedig sydd weithiau heb gael eu hystyried yn drwyadl?

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Altaf Hussain i'r Arweinydd

 

Arweinydd, mae pob un ohonom yn gorfod ymateb i anghenion sy’n cystadlu a’i gilydd, yr amgylchedd a dyfodol y blaned ac ymateb i argyfwng tai oll ar yr un pryd. A allwch gadarnhau sut y byddwch yn cydbwyso'r angen i ddatblygu ein hamgylchedd a lleihau allyriadau carbon tra hefyd yn ymgysylltu â chymunedau am ddatblygiadau arfaethedig, rhai nad ydynt wastad yn gynlluniau da o reidrwydd?

 

Ymateb:

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr awdurdod hwn wedi datgan Argyfwng Hinsawdd yn 2020, a bod y Cabinet wedi creu Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd. Ar ôl cymryd y camau hyn amlygwyd y ffaith fod gan yr awdurdod rôl fel:

 

• Arweinydd cymunedol – gweithio gyda phreswylwyr, grwpiau a busnesau mewn perthynas â'u defnydd o ynni a pharatoi ar gyfer effeithiau'r hinsawdd 

• Darparwr gwasanaethau – i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon o ran adnoddau sy'n llai dwys o ran carbon, i annog mwy o wytnwch ac i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

• rheolwr ystâd – i sicrhau bod yr ystâd a'i weithrediadau mor effeithlon o ran adnoddau â phosibl, gan ddefnyddio ynni glân a pharatoi ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd. 

 

Erbyn 2030 rhaid cyrraedd y targed o gael Awdurdodau Lleol carbon sero-net yng Nghymru. Mewn ymateb, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Arweinwyr llywodraethau lleol wedi sefydlu Panel Strategaeth Datgarboneiddio, gyda chefnogaeth pob un o'r 22 awdurdod lleol, LlC, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Phrifysgol Caerdydd. Mae’r Panel Strategaeth Datgarboneiddio, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, wedi diffinio'r meysydd ffocws i gyrraedd carbon sero-net fel a ganlyn:

 

• Symudedd a Thrafnidiaeth

• Adeiladu ac Ynni

• Defnydd Tir a Bioamrywiaeth

• Caffael

 

Mae gan y system gynllunio ran allweddol i’w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sef datgarboneiddio'r system ynni a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (Polisi Cynllunio Cymru 11, 2021). 

 

Cymru'r Dyfodol – y cynllun cenedlaethol 2040, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol sy'n gosod cwys ar gyfer datblygu yng Nghymru hyd at 2040. Mae'n gynllun datblygu sydd â strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy'r system gynllunio, gan gynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, sicrhau datgarboneiddio a chadernid yn yr hinsawdd, datblygu ecosystemau cryf a gwella iechyd a lles ein cymunedau.  Ar lefel leol, atgyfnerthir y polisi cynllunio cenedlaethol drwy'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), dogfen strategaeth lefel uchel y mae'n rhaid i'r Cyngor ei pharatoi. Mae'r CDLl hefyd yn mynegi gweledigaeth, amcanion llesiant a blaenoriaethau'r Cyngor mewn termau defnydd tir, ac yn gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Mae'r CDLl yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a chafodd ymgynghoriad ar y cynllun drafft ei gwblhau yn ddiweddar, a bydd adroddiad ymgynghori yn cael ei baratoi maes o law.

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ganllaw Sector Cyhoeddus Cymru ar gyfer Adrodd ar Garbon Sero-Net ym mis Mai 2021.  Mae hyn yn nodi cwmpas a ffiniau manwl allyriadau nwyon t? gwydr yn ogystal â methodoleg gyfrifo gyson ar gyfer pennu i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn nesáu at gyrraedd carbon sero net.  I gyrraedd sefyllfa lle mae gweithrediadau'r Cyngor yn garbon sero-net, mae'r awdurdod hwn yn ceisio ymgymryd â rhaglen ddatgarboneiddio arloesol a radical ar draws y Cyngor, gan ddatblygu cymorth technegol cywir, gwyddonol a chadarn i’n galluogi i gyflawni'r uchelgais hwn.  Mae gwaith ar y gweill i gwblhau adolygiad trylwyr o gwmpas allyriadau nwyon t? gwydr yn ogystal ag adolygiad sylfaenol o allyriadau er mwyn cefnogi'r awdurdod i ystyried a phennu ffin, cyfnod a chwmpas yr hyn a gaiff ei gynnwys yn llinell sylfaen allyriadau nwyon t? gwydr yr awdurdod. Bydd hyn yn diffinio ac yn cyfrifo ôl troed carbon cadarn i'w ddatblygu fel y llinell sylfaen ar gyfer y llwybr lleihau a'r map llwybr carbon sero net.  Wedi hyn, bydd llwybr lleihau allyriadau nwyon t? gwydr eang yn cael ei greu a fydd yn addasu yn ôl data blynyddol i gysoni llwybr lleihau carbon yr awdurdod gyda chytundebau rhyngwladol ar gyllidebu carbon i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac i gyfyngu cynhesu byd-eang ymhell islaw 2 ºC.  Bydd hyn yn arwain at ddatblygu map llwybr carbon sero-net gyda strategaeth a chynllun gweithredu datgarboneiddio cynhwysfawr sy'n nodi'r amcanion a'r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni carbon sero-net.  Bydd hyn yn datblygu cyfres gadarn o brosiectau a gweithgareddau gydag asesiadau manwl a chyfleoedd wedi'u blaenoriaethu yn seiliedig ar botensial, costau ac amserlenni arbed carbon.

 

Mae gan yr awdurdod hwn brofiad o ganolbwyntio ar themâu blaenoriaeth (a) symudedd a thrafnidiaeth (b) adeiladau ac ynni (c) defnydd tir a bioamrywiaeth a (d) caffael. Fel rhan o’u gweithgareddau diweddar ar y themâu hyn mae'r awdurdod wedi sicrhau grant gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) i ddatblygu Rhwydwaith Gwres Ardal Pen-y-bont ar Ogwr, wedi sicrhau cyllid drwy'r rhaglen Re:fit i ôl-ffitio 18 o adeiladau, gan osod mesurau arbed ynni megis gosod goleuadau LED newydd, systemau Solar PV a Systemau Rheoli Adeiladu, wedi sicrhau cyllid i blannu targed o 15,000 o goed yn 2021/22, ac wedi derbyn grant o bron i £500k gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Ultra (ULEV) cenedlaethol i wella ei seilwaith gwefru cerbydau trydan gyda'r posibilrwydd o gyllid pellach o £300k drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn ogystal â'r prosiectau hyn, mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo mewn perthynas â cham 2, rhesymoli eiddo, drwy ddiweddaru polisi gweithio o’r cartref a datblygu llwybrau teithio llesol, Cynlluniau Metro Plus ar draws y Fwrdeistref a chyfleuster bws cyswllt Metro ym Mhorthcawl. 

 

Er mwyn goruchwylio'r gwaith y mae’n rhaid i’r awdurdod ei wneud yn y presennol ac yn y dyfodol, rydym wedi datblygu strwythur llywodraethu newydd yn fewnol, sef Bwrdd Rhaglen Datgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr 2030. Ar ôl iddo gael ei sefydlu, bydd Bwrdd Rhaglen Datgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr 2030 yn ymgysylltu'n uniongyrchol â Chynulliad Dinasyddion ynghyd â Gr?p Llywio o bartneriaid cyflenwi sydd â diddordeb. Cynhelir ymgysylltiad uniongyrchol â'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) i sefydlu synergeddau, adnoddau a rennir a gweledigaeth gyffredin.

 

Mae’n rhaid i'r system cynllunio defnydd tir gydbwyso'r angen am dwf yn y dyfodol, er mwyn darparu'r cartrefi a'r tir cyflogaeth sy’n angenrheidiol i sicrhau economi fywiog ac iach tra hefyd yn diogelu asedau naturiol, gan sicrhau cynaliadwyedd a hyrwyddo amgylchedd carbon isel.  Un o amcanion allweddol y CDLl yw creu lleoedd cynaliadwy o ansawdd uchel drwy sefydlu egwyddorion cadarn o ran creu lleoedd, ac er bod nifer o safleoedd datblygu strategol mawr yn cael eu cyflwyno, rhaid datblygu'r rhain mewn ffordd gynaliadwy.  Bydd hyn yn cynnwys datblygu mewn lleoliadau sy'n agos at, neu ar gyrion, aneddiadau presennol sydd eisoes â seilwaith a chysylltiadau da â chanolfannau cyflogaeth a chyfleusterau manwerthu/hamdden/addysg (cymdogaethau 20 munud), cynnwys digon o fannau agored/ardaloedd hamdden gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i deithio llesol a chludiant cyhoeddus, a'r gallu i gartrefi a busnesau gysylltu â rhwydweithiau gwres ardal.  Felly, mae'n hanfodol sicrhau bod y CDLl newydd yn cael ei fabwysiadu er mwyn sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn y dyfodol ac osgoi datblygiad tameidiog, heb ei gynllunio.

 

O'r herwydd, pe caiff ei reoli'n gywir drwy'r system cynllunio defnydd tir a'r CDLl ystyrir y bydd datblygiad Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyrraedd targedau lleihau carbon.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Altaf Hussain

 

Nid yw cymesuredd y CDLl yn CBSP yn gweithio i gymunedau'r cymoedd, ac mae hynny’n amlwg pan fydd rhywun yn gweld mai ond 14% neu 1,360 o'r 9,200 o gartrefi a gynlluniwyd, sydd wedi’u lleoli mewn cymoedd yng Ngogledd Pen-y-bont ar Ogwr, fel Ogwr a Garw.

Pam fod proses CDLl Pen-y-bont ar Ogwr yn fethiant i gymunedau'r cymoedd, pan mai uwchraddio’r cymoedd yw’r buzzword gwleidyddol newydd?

 

Ymateb:

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod yn rhaid i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) CBSP, pan gaiff ei gwblhau, fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gredadwy, gan fod yn rhaid iddo gael ei arolygu gan Lywodraeth Cymru. O ran ardaloedd ein cymoedd, yn enwedig yn Ogwr a Garw, roedd cyfyngiadau ar y seilwaith datblygu tai. Er hynny, roedd safleoedd adeiladu tai llai a mwy cyfyngol yn cael eu hannog yn yr ardaloedd hyn. Ychwanegodd bod enghreifftiau o adeiladu datblygiadau preswyl yn ardaloedd y cymoedd, yn Ewenny Road, ym Maesteg ac mewn safle bach ym Metws.

 

Ategodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau hyn drwy ychwanegu bod y CDLl yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal ymgynghoriad ardaloedd er mwyn canfod safleoedd Tai Strategol, gan fod rhaid i'r awdurdod lleol gyrraedd targedau penodol Llywodraeth Cymru yma. Ar hyn o bryd roedd yn anodd darparu tai i'r gogledd o'r M4 a'r Groesfan Reilffordd ym Mhencoed, tra bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu arian i adeiladu ar ddatblygiad Ewenny Road. Roedd datblygwyr safleoedd ac ati yn cael anogaeth gref i ystyried darparu tai mewnlenwi llai yn Ogwr a Garw, yn unol â maint cyfyngedig y safleoedd sydd ar gael yno. Ychwanegodd fod Swyddogion Cynllunio a Datblygu hefyd yn edrych ar yr agenda Creu Lleoedd a gwerth safleoedd tai llai, gan nad oedd pawb eisiau byw mewn datblygiadau tai mawr. Roedd lleoliadau ar gyfer y rhain wrthi'n cael eu nodi. Roedd y Cyngor hefyd yn gwneud cais am arian i gael gwared ar y Groesfan Reilffordd ym Mhencoed ac i osod pont droed a phont gerbydau yn ei lle. Byddai hyn yn gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yno, yn ogystal â rhyddhau safleoedd i'w datblygu i'r gogledd o gyffordd yr M4.

 

Ategwyd yr uchod gan yr Arweinydd, a ychwanegodd fod Cymoedd Garw ac Ogwr yn gulach na Chwm Llynfi ac wedi’u hamgylchynu gan fynyddoedd a bryniau, ac oherwydd daearyddiaeth a thopograffeg y tir nid oes llawer o dir y gallai datblygwyr adeiladu arno. Croesawodd farn pob Aelod o ran lleoliadau lle gellid ystyried datblygu tai. Roedd y Cyngor hefyd wedi derbyn cyllid grant Tai Cymdeithasol ychwanegodd, gan Lywodraeth Cymru.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau fod yr Awdurdod yn edrych ar ddull 'system gyfan' o weithredu, gan gynnwys ailddefnyddio eiddo gwag mewn ardaloedd lle’r oedd cyflenwad a galw, felly byddai asesiadau o'r farchnad yn cael eu dadansoddi yma, gan gynnwys y rhai sy'n seiliedig ar angen. Roedd hefyd yn anodd adeiladu ar safleoedd wedi’u halogi, fel y digwyddodd â datblygiad Ewenny Road, nes bod cyllid wedi'i dderbyn i’w liniaru.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Tim Thomas

 

O fewn lleoliadau Porth y Cymoedd ceir rhwystrau llai ac achosion o or-ddatblygu na lwyddodd fynd i’r afael â rhai materion capasiti, megis River Bridge, Abergarw Road a'r A4061. A oes gan yr Aelod Cabinet – Cymunedau unrhyw sylwadau i'w gwneud ar sut y gellid gwella'r rhwystrau hyn yn ôl-weithredol, gan fod datblygiad eisoes wedi digwydd mewn lleoliadau fel y rhain.

 

Ymateb:

 

Gan fod angen ateb eang i hyn, byddai angen ymchwilio a pharatoi'n drylwyr cyn gallu ymateb ag unrhyw sylwedd, dywedodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau y byddai ateb yn cael ei lunio y tu allan i'r cyfarfod a'i anfon at y Cynghorydd Thomas a chyd-Aelodau'r Cyngor cyn gynted â phosibl.

 

Trydydd cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Rod Shaw

 

Sut y gallwn fynd i'r afael â'r anghydbwysedd o ran adnoddau, pe gellid ei gyflawni gallai ryddhau llawer o'r safleoedd yn ardaloedd y Cymoedd.

 

Ymateb:

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau nad oedd anghydbwysedd o ran adnoddau mewn gwirionedd, gan nad oedd unrhyw safleoedd mawr yn ardaloedd y Cymoedd ar hyn o bryd lle cynigiwyd datblygiadau. Yn hytrach, roedd CBSP yn edrych ar ddatblygu tai mewn lleiniau mewnlenwi neu drwy ddarparu datblygiadau llai (mewn ffyrdd mwy dyfeisgar efallai) yn lleoliadau Ogwr a Garw er mwyn diwallu'r angen a gofynion y CDLl. Fel rhan o'r ymgynghoriad yma, gwahoddwyd unrhyw un a allai fod â diddordeb i gynnig awgrymiadau o ran Safleoedd Ymgeisiol i adeiladu arnynt.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd nad datganiadau o ddiddordeb gan drigolion, adeiladwyr a datblygwyr a geisiwyd yn unig, ond rhai gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig hefyd. Roedd angen edrych ar bob lefel o ddiddordeb, ychwanegodd, yn seiliedig ar safleoedd sydd ar gael a'r angen am dai mewn gwahanol leoliadau.