Agenda item

Dadl Chwarterol - "Sut bydd gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu ar ôl pandemig Covid?"

Cofnodion:

Agorodd yr Arweinydd y ddadl ar yr eitem hon.

 

Cadarnhaodd fod COVID-19 wedi amlygu pa mor hanfodol yw gofal cymdeithasol o ran cefnogi pobl i fod mor annibynnol â phosibl. Mae'r materion sy'n wynebu gofal cymdeithasol – yn enwedig y cynnydd yn y galw, maint y pwysau ariannu a heriau'r gweithlu – yr un mor bwysig yn awr ag yr oeddent cyn COVID, gyda llawer wedi'u gwaethygu gan y pandemig.

 

           Mae'r angen cynyddol am wasanaethau yn amlwg ar ôl Covid, ac fel y dywedasom wrth y Cabinet ddoe, rydym bellach yn darparu 8% yn fwy o ofal cartref o gymharu â’r adeg hon y llynedd. Mae hyn o ganlyniad i bobl yn gorfod disgwyl cyn cael triniaeth gan y GIG oherwydd y pandemig, dirywiad mewn cyflwr o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud a gwarchod, ac effaith Covid hir. Felly, mae angen llawer mwy o arian i gefnogi lefelau uwch o ofal cymdeithasol dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Yn ei hanfod, mae gofal cymdeithasol yn ymwneud yn bennaf â pherthnasoedd dynol a chefnogi anghenion gofal a chymorth unigolion a'u teuluoedd, gan gynnwys pobl h?n, y rhai sy'n agored i niwed, a'r rhai ag anghenion cymhleth, fel bo modd iddynt wella ansawdd eu bywyd. Dylai trafodaethau am ddyfodol gofal cymdeithasol ymwneud â gwella ansawdd gofal a sicrhau canlyniadau i'r unigolyn, yn seiliedig ar 'yr hyn sy'n bwysig iddynt'. Mae hyn yn dechrau ar lefel leol a dylai adeiladu ar gryfder awdurdodau lleol yn eu hardal a'u cymuned, gan fynd i'r afael ag anghenion unigolion a theuluoedd, meithrin gwydnwch a chanolbwyntio ar les. 

 

Mae iechyd a gofal cymdeithasol cyn bwysiced â’i gilydd, ac yn aml maent yn dibynnu ar ei gilydd o ran sicrhau llif drwy'r system iechyd a gofal cymdeithasol. Dylai penderfyniadau a blaenoriaethau ar gyfer dyfodol y gwasanaethau adlewyrchu hynny, yn ogystal â'r angen i gynllunio a chydweithio, gan ymgorffori dulliau llawer mwy ataliol o ymdrin â lles sy'n gweithio'n agos gydag iechyd y cyhoedd a thai. Cynghorau sydd yn y sefyllfa orau i gynnull partneriaethau'n lleol i ddod â'r gwasanaethau hyn at ei gilydd mewn modd sydd â ffocws lleol ac sy'n cael ei harwain yn ddemocrataidd.

 

Wrth ystyried dyfodol gofal cymdeithasol a chymorth, dylid mynd i'r afael â'r blaenoriaethau sydd â mwyaf o frys fod yn gyntaf, mae'r rhain yn cynnwys:

 

·         Darparu cyllid cynaliadwy hirdymor sy'n ddigon i fodloni'r gofynion ychwanegol rhagweladwy ar ofal cymdeithasol sy'n cael eu gyrru gan bwysau demograffig a phwysau eraill, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym.

·         Yr angen am gyllid ychwanegol i fynd i'r afael ag anghenion sydd heb eu diwallu. Mae angen rhoi mwy o werth ar ddulliau o ymdrin â gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cydnabod ysfa pobl i barhau i fyw yn eu cymunedau, yn eu cartrefi yn bennaf, a hynny gydag ystyr a phwrpas.

·         Gwella canlyniadau i blant. Mae heriau sylweddol o hyd o ran darparu'r lleoliadau cywir i blant mewn gofal, yn enwedig i'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth yn lleol. Mae'r 18 mis diwethaf hefyd wedi rhoi llawer o blant a theuluoedd dan bwysau a straen aruthrol, gyda phryderon yngl?n â 'niweidion cudd' cynyddol yn ogystal â dysgu a gollwyd, ac effaith ymbellhau cymdeithasol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc ac ar eu hiechyd a'u lles meddyliol ac emosiynol hefyd.

·         mae gwerth a buddsoddiad yn y gweithlu gofal cymdeithasol hefyd yn fater brys, mae angen gwerthfawrogi'r angen am barch cydradd â gweithwyr y GIG, gan gynnwys sicrhau bod y gweithlu'n cael ei wobrwyo'n briodol ac yn deg am y gwaith amhrisiadwy y maent yn ei wneud a bod ganddynt lwybr at ddilyniant gyrfa o fewn sector gofal proffesiynol.

·         Integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, pan fo gofal cymdeithasol o'r diwedd yn cael ei ystyried yn bartner cyfartal i'r GIG. Mae hyn yn gofyn am ymddiriedaeth mewn llywodraeth leol a’u grymuso i ddarparu a diwallu anghenion cymunedau lleol a chyflymu'r symudiad oddi wrth systemau iechyd sy'n canolbwyntio ar ysbytai a thuag at rhai lle mae systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn canolbwyntio ar gymunedau mewn lleoliadau penodol; gwasanaethau a lles sylfaenol a chymunedol, gan fynd i'r afael ag anghenion iechyd corfforol, iechyd meddwl a chymdeithasol pobl gyda'i gilydd.

 

Wrth edrych ar ddyfodol gofal a chymorth, mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd hyrwyddo 'egwyddor sybsidiaredd' fel nodwedd sylfaenol angenrheidiol o iechyd, gofal a lles effeithiol ac ystyried sut y gellir atgyfnerthu hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol fel rhan o'r system.

 

Mae diffygion y model ariannu presennol ar gyfer gofal cymdeithasol bellach yn hysbys iawn ac mae angen mawr am fuddsoddiad amser ac adnoddau i sicrhau cydlyniad ac i gynllunio system sy'n gallu bodloni gofynion gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

 

Mae canfod ateb cynaliadwy hirdymor i'r dull o ariannu gofal cymdeithasol yn hanfodol os ydym am ddarparu system sy'n cael ei threfnu o amgylch yr unigolyn a'i deulu ac sy'n diwallu eu hanghenion ac yn hyrwyddo eu lles gyda gwasanaethau diogel ac o ansawdd uchel.

 

O ystyried yr heriau economaidd difrifol sy'n wynebu Cymru a'i chymunedau, mae cynghorau eisoes wedi galw am raglen fuddsoddi uchelgeisiol mewn sawl rhaglen gyfalaf a allai helpu i ailadeiladu cymuned ac economi Cymru. Mae dal angen buddsoddi yn ein seilwaith gofal cymdeithasol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn helpu i sicrhau bod adeiladau'n cyrraedd safonau modern. Datblygwyd cyfleusterau 'gofal ychwanegol' hefyd gan nifer o awdurdodau lleol gan gynnwys yn CBSP, ym Maesteg, T? Llwyn Derw, T? Ynysawdre a Llys Ton, Mynydd Cynffig.

 

Credwn fod lle i fuddsoddi ymhellach yn y rhain pe bai cyfalaf a refeniw ar gael ar lefel genedlaethol. Mae menter Ysgolion yr 21ain Ganrif yn darparu model y gellid ei ddefnyddio i gefnogi rhaglen waith a ddyfeisiwyd ar y cyd o fuddsoddiad hirdymor i wella a datblygu ein seilwaith gofal cymdeithasol.

 

Mae llywodraeth leol wedi bod yn gefnogol ar y cyfan i'r ymrwymiadau a wnaed yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol ac sydd wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni'r uchelgeisiau hyn. Mae hyn yn cynnwys yr angen i ddod o hyd i ateb ariannu cynaliadwy sy'n ein galluogi i ddiwallu ein hanghenion gofal hirdymor, rhywbeth y mae llywodraeth leol wedi bod yn galw amdano ers tro.

 

Mae’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ar 7 Medi, a nododd eu cynlluniau ar gyfer gofal iechyd, gofal cymdeithasol i oedolion a'u cynllun ariannu, yn golygu y bydd Cymru'n elwa o tua £700m o'r arian ychwanegol a godwyd. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn rhoi cyfle sylweddol i Gymru ddiwygio'r system gofal cymdeithasol a helpu i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau brys a nodir. Mae mwy o fuddsoddiad yn dod â chyfleoedd i ddatblygu atebion hirdymor cynaliadwy.

 

Mae llywodraeth leol, drwy CLlLC, yn parhau i gwrdd a thrafod â Gweinidogion yn rheolaidd er mwyn helpu i lywio meddylfryd Llywodraeth Cymru ar sut y gellid defnyddio'r cyllid ychwanegol, gan adlewyrchu uchelgais a blaenoriaethau llywodraeth leol ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal, mae Llefarwyr CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn parhau i gyfarfod â'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i dynnu sylw at y pryderon cynyddol am y pwysau sy’n bodoli ym maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, ac i geisio trafodaethau ar gamau gweithredu posibl yn awr, rhai y gellid eu cymryd ar lefel genedlaethol i helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n cael eu nodi ar hyn o bryd ar draws y Cyngor.

 

Fel rhan o hyn credwn fod angen datblygu dull cytbwys sydd ddim yn rhoi blaenoriaeth i un rhan o'r system dros y llall wrth ymdopi â'r pwysau sy'n wynebu gofal cymdeithasol ac iechyd yn y tymor byr a'r tymor hir, lle bydd iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu trin yn gydradd gan y gyllideb,  lle cydnabyddir bod iechyd a gofal cymdeithasol yn bartneriaid cyfartal yn y dyhead i ddarparu un system iechyd a gofal cymdeithasol di-dor ar gyfer Gymru, wedi'i threfnu o amgylch yr unigolyn a'i deulu.

 

Nid yw llywodraeth leol eisiau bod mewn sefyllfa lle rydym yn cystadlu ag iechyd am fuddsoddiadau mewn gwasanaethau lleol er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iechyd, gofal cymdeithasol a lles ein dinasyddion. Rydym yn bartneriaid ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ddarparu gwasanaethau, er ein bod i gyd yn gwybod y gallem wneud mwy, ac y dylem wneud mwy, i sicrhau bod gwasanaethau di-dor o safbwynt y dinesydd. Ond rhaid cydnabod a mynd i'r afael â'r ffaith anffodus nad yw'r cyhoedd yn deall nac yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol a'n partneriaid, ddim yn yr un modd ag y mae dinasyddion yn gweld y GIG – adlewyrchir hyn yn y ffaith bod y cyhoedd yn deall yr angen am fuddsoddiad pellach mewn iechyd ond nad ydynt yn galw am yr un buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol. Rhaid inni barhau i godi ymwybyddiaeth gyda'r cyhoedd am werth gofal cymdeithasol a'i effaith ar les ac annibyniaeth pobl.

 

Nododd Aelod fod pob awdurdod lleol a'r rhan fwyaf o ddarparwyr wedi newid eu harferion recriwtio. Ag yntau wedi gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol, eglurodd pa mor werthfawr yw hyn, h.y. y berthynas yr ydych yn ei hadeiladu, eich bod yn dod yn bresenoldeb cyson sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd pobl. Er gwaethaf hynny i gyd, yr oeddem yn wynebu'r argyfwng recriwtio a chadw staff mwyaf mewn cof byw.  

Dywedodd fod gofal cymdeithasol yn y wlad hon wedi'i danariannu ers degawdau ac mae canlyniadau hynny i’w gweld yn awr, gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a nifer sylweddol o bobl yn byw yn hirach gydag anghenion iechyd.  

Mae cyflog teg am ddiwrnod teg o waith, yn deg. Fodd bynnag, nid oedd hynny'n wir yn aml. Yn ystod y 18 mis diwethaf mae cydweithwyr gofal cymdeithasol wedi gwneud yn eithriadol o dda, ond dyw eu cyflogau ddim yn adlewyrchu hynny. Er bod llawer o ddarparwyr trydydd sector a phreifat sy'n gyfrifol ac yn foesol, mae rhwymedigaethau cytundebol rhai yn dal i fod yn llai na ffafriol, er enghraifft pan fo gweithwyr yn gorfod talu am eu gwisgoedd eu hunain, neu pan nad yw'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei dalu.  

Dywedodd fod angen gwella cyflogau, mae angen gwella telerau ac amodau ac mae angen gwella'r cyllid ar gyfer y system.  

Nid yw’n syndod bod pob llywodraeth olynol ers 1996 yn y DU wedi comisiynu saith papur polisi, pum ymgynghoriad, a phedwar adolygiad annibynnol i ofal cymdeithasol. Mae llywodraethau olynol yn y DU hefyd wedi anwybyddu’r argymhellion ac nid ydynt wedi bwrw iddi i sicrhau bod system iechyd a gofal cymdeithasol unedig, lle nad oes neb yn disgyn rhwng y bylchau.  

Eglurodd bod achos i edrych arno yma, arbedion maint.

Soniodd yr Arweinydd mai Cynghorau sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu gofal ac, er nad oedd yn anghytuno â'r egwyddor hon, tybiodd a oedd cyfaddawd lle gellir dyfeisio a darparu pecynnau'n lleol, ond efallai eu bod yn cael eu goruchwylio ar sail fwy rhanbarthol. Roedd yn deall yn iawn nad yw mwy gwastad yn well o ran darparu gwasanaethau a chreu canlyniadau, ond credai fod angen ei ddadansoddi ar sail debyg i ôl troed economaidd Cymru o ran cytundebau rhanbarthol. 

Aeth ati i herio Llywodraethau'r DU a Chymru i edrych yn rhyngwladol a dysgu gan eraill, yn arbennig, ein cymdogion yn Sgandinafia sy'n cydnabod ac yn ariannu eu system gofal cymdeithasol ac iechyd yn briodol, yn yr achos hwn hyd at ddwywaith cymaint ag y mae'r DU yn ei wneud ar hyn o bryd. Dyna ran o'r rheswm bod pobl Sgandinafia â’r ansawdd bywyd gorau yn y byd.

Nododd Aelod nad oedd yn arbenigwr ym maes Gofal Cymdeithasol, ac nid oedd ganddo'r atebion o ran atebion hirdymor cynaliadwy o ran darparu cymorth digonol yn y maes gwaith hollbwysig hwn. Rhoddodd ei deyrnged i’r staff i gydnabod eu hymdrechion eithriadol yn ystod y pandemig.

 Er mai testun y ddadl heddiw oedd sut y gellir ariannu Gofal Cymdeithasol yn y dyfodol, roedd Covid-19 yn ddi-os wedi dangos pa mor fregus oedd y system Gofal Cymdeithasol yn ei chyfanrwydd ac y dylai'r profiad fod yn gatalydd ar gyfer rhywfaint o newid.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi datgan y byddai ariannu'r system yn y dyfodol yn heriol a hyd yn oed pe bai gwariant blynyddol ar Ofal Cymdeithasol yn cynyddu o 6%, fel y gwnaeth rhwng 2017 a 2019, annhebygol y byddai hynny’n ddigon i ariannu’r galw am Ofal Cymdeithasol yn y dyfodol. Felly, os bydd y galw hwn yn parhau, fel y disgwylid, ac os bydd pwysau ariannol a phwysau gweithlu hefyd yn cynyddu, byddai mwy o angen nag erioed am ateb i'r problemau cyffredinol.

Roedd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar uno Iechyd a Gofal Cymdeithasol a cheisio atal problemau rhag digwydd neu rhag gwaethygu yn y lle cyntaf. Credai felly, gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, ein bod yn debygol o weld cynnydd pellach yn yr angen am gymorth Gofal Cymdeithasol, a bod canfod rhagor o lwybrau ariannu ar gyfer rhoi mesurau ataliol ar waith yn hanfodol i'r Awdurdod hwn.

Roedd Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar Ofal Cymdeithasol yn ddiweddar a ganfu fod rhai Cynghorau wedi ehangu eu gwasanaethau ataliol drwy ddechrau newid oddi wrth Ofal Cymdeithasol fel y cyfryw tuag at ddarpariaeth ataliol a chymunedol. Ond er mwyn gwneud y cam hwn yn llwyddiannus, roedd angen cael mesurau ataliol digonol ar waith yn y lle cyntaf.

Gofynnodd felly, pa mor dda yr oedd y Cyngor yn perfformio o ran darpariaeth ataliol a chymunedol, darpariaeth a fydd yn y pen draw yn lleddfu'r pwysau ym maes Gofal Cymdeithasol, a holodd hefyd sut y bydd cyllid yn cael ei ddargyfeirio yn y dyfodol i gefnogi mesurau ataliol gan barhau i ymateb i anghenion Gofal Cymdeithasol mwy uniongyrchol ein preswylwyr.

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod ariannu Gofal Cymdeithasol yn ystyriaeth wleidyddol sydd wedi arwain at wneud penderfyniadau gwleidyddol pwysig iawn, yn y gorffennol a'r presennol. Byddai hyn yn sicr o barhau i fod yn wir yn y dyfodol hefyd.

Un o'i dyletswyddau fel Swyddog Statudol oedd sicrhau bod gan y Cyngor y lefel angenrheidiol o adnoddau i roi cefnogaeth ddigonol i’r dyletswyddau statudol o ran darparu gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Diogelu a Lles. Roedd Lles yn faes lle gwnaeth yr Awdurdod gynnydd sylweddol o ran cyflawni ei Amcanion Llesiant, a hynny trwy’r Cyngor ei hun a thrwy rai cynlluniau arobryn ac enghreifftiol gyda phartneriaid yn y trydydd sector, megis y cynllun ‘Super Agers' . Fodd bynnag, roedd mwy o waith i'w wneud, gan gynnwys llunio Achos Busnes er mwyn symud at wasanaethau mwy ataliol, sy'n hollbwysig wrth symud ymlaen.

O safbwynt proffesiynol, roedd am ddweud bod dal angen buddsoddi mewn darpariaeth Gofal Cymdeithasol yn ogystal â gwasanaethau ataliol, o ganlyniad i'r pandemig a chyn hyn.

Cyn Covid-19, roedd awdurdodau lleol yn dal i ddod i delerau â chefnogi poblogaeth sy'n heneiddio, cymhlethdod anghenion, yr unigolion hynny ag anabledd a'r rhai sydd, wrth heneiddio, yn datblygu problemau iechyd. Ychwanegwyd rhagor ar y llwyth o ganlyniad i'r pandemig, gan gynnwys gofynion cymorth Covid Hir, oedi cyn cael triniaeth ar gyfer hyn ac anhwylderau a chlefydau meddygol eraill. Roedd pobl hefyd wedi cael cyfnodau hir o unigrwydd yn ystod Covid, ac wrth warchod hefyd, a’u cyflwr yn dirywio o ganlyniad i fod yn segur am gyfnodau hir yn ystod y cyfnod clo. Felly roedd angen dull gweithredu ar y cyd o ran buddsoddi mewn gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac ataliol yn y dyfodol, yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir, yn enwedig ers y pandemig.

Roedd hi’n credu bod buddsoddi hefyd yn flaenoriaeth, er mwyn mynd i'r afael â chadernid y gweithlu Gofal Cymdeithasol a oedd yn cyrraedd pwynt tyngedfennol, oherwydd heriau cyffredinol o ran recriwtio a chadw staff. Roedd yn rhaid datblygu llwybrau gyrfa i liniaru hyn, megis sefydlu strwythurau cyflog a graddio mwy effeithiol. Mae ADSS Cymru wedi gweithio gyda swyddogion o Lywodraeth Cymru a CLlLC i ystyried y ffordd orau o fuddsoddi mewn Gofal Cymdeithasol yn y dyfodol. Bydd hyn, os caiff ei wireddu, yn rhoi gofal o ansawdd gwell ac yn arwain at ganlyniadau gwell i'r rhai sy’n ei dderbyn.

Dychwelodd yr Arweinydd at rai o'r pwyntiau a wnaed yn gynharach yn y ddadl. Roedd yn falch o gadarnhau bod atebion rhanbarthol i broblemau rhanbarthol o ran Gofal Cymdeithasol yn cael eu hystyried, a hynny trwy waith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ar y cyd â Chynghorau Rhondda Cynon Taf a Merthyr a'r trydydd sector, mewn perthynas â chomisiynu gwasanaethau ar y lefel honno, gan ddefnyddio mentrau fel cyllid ICF Llywodraeth Cymru.

Roedd materion fel telerau ac amodau staff hefyd yn cael eu hystyried gyda chymorth partneriaid, gan gynnwys cyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel isafswm cyflog i staff Gofal Cymdeithasol. Fodd bynnag, roedd problem gan nad oedd aelodau o'r cyhoedd sy’n chwilio am waith yn dangos yr un diddordeb yn y math hwn o waith ag yr oeddent o’r blaen. Hefyd, i ddwysáu hynny, roedd y sector preifat yn dal i gynnig gwell telerau ac amodau yn y maes hwn a meysydd cyflogaeth tebyg eraill. Roedd hyn wedi arwain ar brinder llafur ar draws yr economi o fewn amgylchedd cystadleuol. Arweiniodd hyn i gyd at drafferthion o ran recriwtio a chadw'r gweithlu.

O ran cymorth ariannol, tynnodd yr Arweinydd sylw at y ffaith bod cyfle gwirioneddol yma, gyda chyllid o £800m wedi'i ymrwymo i Gymru, a theimlai y dylai gael ei ganolbwyntio ar Ofal Cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau ataliol, yn ogystal â'r GIG, yn seiliedig ar resymau cydraddoldeb ac angen. Roedd llwybrau cymorth Gofal Cymdeithasol Statudol yn parhau i fod ar gael, ychwanegodd, ac yn bwysig iawn roedd cymorth o'r fath hefyd yn parhau i gael ei ddarparu yng nghartrefi’r rhai sy’n ei dderbyn ac mewn lleoliadau cymunedol hefyd.  

Dywedodd Aelod nad oedd yn anghytuno â rhai o'r pwyntiau a wnaed heddiw ar yr eitem hon o fusnes ac roedd yn ymwybodol o'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwobrwyo staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Roedd wedi gweld darparwyr gofal yn gwneud elw hawdd ar bwrs y cyhoedd, a hynny oherwydd eu bod yn gwrthod yr holl becynnau gofal cymhleth sydd eu hangen. Roedd y ddadl heddiw wedi cynnwys gwahaniaeth cyflog a thelerau amodau staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol o'i gymharu â staff y GIG. Mae staff y GIG â hawl i gael 41 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, ac roedd codiad cyflog o 4% wedi’i gynnig iddynt.

Telir staff Llywodraeth Leol yn ôl y llyfr Gwyrdd, ac fe'n hysbyswyd nad yw ein cyflogwyr am drafod ymhellach yngl?n â'r hawliad cyflog eleni, sef 1.75%, sy'n annerbyniol, o ystyried bod unrhyw beth llai na 5.6% yn gyfystyr â thoriad cyflog. Roedd y rhan fwyaf o'r staff mewn swyddi rhan-amser hefyd, yn y Gwasanaeth Iechyd eto yn aml, ychwanegodd.

Daeth Aelod i'r casgliad drwy ddweud pa mor bwysig oedd cynnal ansawdd a maint y staff ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan fod gweithwyr yno'n wynebu amodau anodd. Roedd nifer sylweddol ohonynt hefyd yn gweithio llawer o oriau ychwanegol ar ben yr amodau gwaith caled hyn, oherwydd lefelau salwch uchel y gweithlu sy’n deillio o bwysau gwaith, a oedd wedi cynyddu o ganlyniad i'r pandemig.