Agenda item

Rheoli'r Trysorlys - Adroddiad Hanner Blwyddyn 2021-22

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, er mwyn:

 

 · cydymffurfio â gofyniad ‘Rheoli Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer’ y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) i gynhyrchu adroddiadau Rheoli Trysorlys;

 · i geisio cymeradwyaeth o weithgareddau Rheoli'r Trysorlys y Cyngor ar gyfer 2021-22 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021 a’r Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys rhagamcanol ar gyfer 2021-22.

 

Atgoffodd yr Aelodau mai rheoli'r trysorlys yw’r gwaith o reoli llif arian parod, benthyca, a buddsoddiadau'r Cyngor, a'r risgiau cysylltiedig. Mae'r Cyngor yn agored i risgiau ariannol gan gynnwys colli arian a fuddsoddwyd ac effaith newid cyfraddau llog ar refeniw. Felly, mae nodi, monitro a rheoli risg ariannol yn llwyddiannus yn rhan ganolog o reolaeth ariannol ddarbodus gan y Cyngor.

 

Arlingclose yw cynghorwyr rheoli trysorlys y Cyngor, fel y g?yr y Cyngor. Roedd y gwasanaethau a ddarparwyd i'r Cyngor yn cynnwys:

 

·         cyngor ac arweiniad ar bolisïau, strategaethau ac adroddiadau perthnasol

·         cyngor ar benderfyniadau buddsoddi

·         hysbysiad o sgoriau credyd a newidiadau

·         gwybodaeth arall am ansawdd credyd

·         cyngor ar benderfyniadau rheoli dyledion

·         cyngor cyfrifyddu

·         adroddiadau ar berfformiad y trysorlys

·         rhagolygon o gyfraddau llog

·         cyrsiau hyfforddi

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod TMS 2021-22 wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor ar 24 Chwefror 2021 gyda'r Adroddiad Hanner Blwyddyn i'w gyflwyno ar 20 Hydref 2021.

 

Mae crynodeb o’r gweithgareddau rheoli trysorlys ar gyfer hanner cyntaf 2021-22 i’w cael yn nhabl 1 yn Atodiad A i'r adroddiad. Dywedodd, ers dechrau'r flwyddyn ariannol, fod gan y Cyngor arian dros ben ar gyfer buddsoddi. Ym mis Ebrill, derbyniodd y Cyngor ddau randaliad o £12.6 miliwn yr un o gyllid craidd Llywodraeth Cymru (Grant Setliad Refeniw), a llwyddodd i gario arian grant ychwanegol ymlaen o 2020-21. O ganlyniad, y balans ar fuddsoddiadau ar 30 Medi 2021 oedd £79.84 miliwn, gyda chyfradd llog gyfartalog o 0.06%. Roedd hyn yn ostyngiad sylweddol o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd pan oedd y gyfradd gyfartalog yn 0.24%, ac mae’n dangos effaith y gostyngiadau mewn cyfraddau llog o ganlyniad i'r pandemig.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid nad yw'r Cyngor wedi cymryd benthyciadau hirdymor ers mis Mawrth 2012. Roedd TMS 2021-22 yn rhagweld y byddai angen i'r Awdurdod fenthyca £30.37 miliwn yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, roedd hyn yn rhagdybio y byddai gan y Cyngor £43 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio yn y tymor byr i ariannu gwariant. Ar 31 Mawrth 2021, roedd cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn £114 miliwn, cynnydd o £83 miliwn o gymharu â 31 Mawrth 2020, cynnydd na ragwelwyd pan gymeradwywyd y TMS. Derbyniodd y Cyngor £20.6 miliwn o Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru, a oedd yn fwy na'r disgwyl yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â grantiau ychwanegol pellach o £8.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn chwarter olaf 2020-21, a derbyniadau cyfalaf yn ystod y flwyddyn o £2.9 miliwn

 

Yn seiliedig ar y rhaglen gyfalaf bresennol a'r defnydd disgwyliedig o gronfeydd wrth gefn a ddyrannwyd ynddo, disgwylid na fydd gofyniad am fenthyca hirdymor newydd yn 2021-22. Mae’r manylion am y gwariant cyfalaf a ragwelir i’w cael yn y Strategaeth Gyfalaf 2021-22, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 24 Chwefror 2021, ac yn adroddiad Monitro Cyfalaf Chwarter 2 a oedd yn mynd i'r Cyngor ar 20 Hydref 2021.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid at Dabl 4 yn adran 4 o Atodiad A, a oedd yn manylu ar symudiad y buddsoddiadau yn ôl y math o barti i gontract, ac yn dangos y balansau cyfartalog, y llog a dderbyniwyd, y cyfnod gwreiddiol a'r cyfraddau llog ar gyfer hanner cyntaf 2021-22.

 

Roedd Atodiad A yn gosod manylion yr amcangyfrifon ar gyfer 2021-22 a nodwyd yn TMS y Cyngor yn erbyn amcanestyniadau cyfredol, ac roedd y rhain yn adlewyrchu bod y Cyngor yn gweithredu yn unol â therfynau cymeradwy.

 

Diffiniad y Cyngor o ansawdd credyd uchel yw sefydliadau â gwarantau statws credyd o A- neu uwch, ac mae Atodiad B i'r adroddiad yn dangos y tabl cyfatebol ar gyfer sgoriau credyd ar gyfer Fitch, Moody's a Standard & Poor’s ac yn esbonio'r gwahanol raddau buddsoddi.

 

Daeth i gasgliad drwy gynghori fod Cod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli'r Trysorlys yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal adolygiad canol blwyddyn o'i bolisïau, ei arferion a’i weithgareddau rheoli'r trysorlys. Canlyniad yr adolygiad hwn yw nad oes angen unrhyw newidiadau yn CBSP.

 

PENDERFYNIAD:                              Cymeradwyodd y Cyngor weithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor ar gyfer 2021-22 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021 a'r Dangosyddion Rheoli Trysorlys rhagamcanol ar gyfer 2021-22.

 

Dogfennau ategol: