Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben oedd:
· cydymffurfio â gofyniad 'Y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (argraffiad 2017)’ y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA)
· rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyfalaf ar gyfer 2021-22 ar 30 Medi 2021 (Atodiad A)
· ceisio cymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 i 2030-31 (Atodiad B)
· nodi'r Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill a ragwelir ar gyfer 2021-22 (Atodiad C).
Eglurodd fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd, yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer y rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, gan gynnwys y rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf a'r hyn y dylid ei drin fel gwariant cyfalaf. Maent yn addasu arferion cyfrifyddu mewn gwahanol ffyrdd i atal effeithiau andwyol ar adnoddau refeniw awdurdodau.
Yn ogystal â'r ddeddfwriaeth hon, mae'r Cyngor yn rheoli ei weithgareddau Rheoli Trysorlys a Chyfalaf yn unol â'r canllawiau cysylltiedig a ddangosir ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad.
Atgoffwyd yr Aelodau gan y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor, ar 24 Chwefror 2021, wedi cymeradwyo cyllideb gyfalaf o £62.363 miliwn ar gyfer 2021-22 fel rhan o raglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod rhwng 2021-22 a 2030-31. Y tro diwethaf i’r rhaglen gael ei diweddaru a'i chymeradwyo gan y Cyngor oedd ar 21 Gorffennaf 2021.
Rhoddodd yr adroddiad hwn y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
• Monitro'r Rhaglen Gyfalaf chwarter 2 2021-22
• Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 hyd 2030-31
• Monitro'r Strategaeth Gyfalaf
• Dangosyddion darbodus a dangosyddion eraill
Rhoddodd yr adran hon o'r adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2021-22, ers y tro diwethaf iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor ac ers ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. Ar hyn o bryd, mae gan y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 gyfanswm o £76.600 miliwn, daw £54.378 miliwn ohono o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn, gyda'r £22.222 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol.
Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn adlewyrchu’r rhaglen gyfalaf ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth o’r safle Cyngor a gymeradwywyd ym mis Gorffennaf 2021 hyd chwarter 2.
Crynhodd Tabl 2 y tybiaethau ariannu presennol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2021-22. Rheolir yr adnoddau cyfalaf i sicrhau'r budd ariannol mwyaf posibl i'r Cyngor. Gallai hyn gynnwys adlinio cyllid i wneud y mwyaf o grantiau'r llywodraeth.
Nodwyd bod nifer o gynlluniau eisoes yn gofyn am lithriant cyllideb i'r blynyddoedd i ddod (2022-23 a thu hwnt). Yn chwarter 2, cyfanswm y llithriant y gofynnwyd amdano oedd £12.826 miliwn. Amlinellwyd manylion y rhain ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.
Ers yr adroddiad cyfalaf diwethaf a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2021, mae nifer o gynlluniau newydd a ariennir yn allanol wedi'u cymeradwyo yn ogystal â chynlluniau wedi’u hariannu'n fewnol, ac maent wedi'u hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf, fel y nodir ym mharagraff 4.5 o'r adroddiad. Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid grynodeb o’r rhain er budd yr Aelodau
Ym mis Chwefror 2021, cymeradwyodd y Cyngor y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2021-22, a oedd yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2021-22 i 2023-24, ynghyd â rhai dangosyddion lleol.
Roedd Atodiad C i'r adroddiad yn manylu ar y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2020-21, y dangosyddion amcangyfrifedig ar gyfer 2021-22 a nodir yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor, a'r dangosyddion rhagamcanol ar gyfer 2021-22, yn seiliedig ar y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig. Mae'r rhain yn dangos bod y Cyngor yn gweithredu yn unol â'r terfynau cymeradwy.
Mae'r Strategaeth Gyfalaf hefyd yn gofyn am fonitro buddsoddiadau rheoli nad ydynt yn ymwneud â'r trysorlys a rhwymedigaethau hirdymor eraill. Mae gan y Cyngor bortffolio buddsoddi eisoes, ac mae 100% ohono wedi'i leoli yn y Fwrdeistref Sirol, yn bennaf y sectorau swyddfa a diwydiannol. Yn gyffredinol, mae'r ffrydiau incwm wedi'u gwasgaru rhwng y buddsoddiadau mewn swyddfeydd sengl ac aml-osod ym Mharc Gwyddoniaeth Pen-y-bont ar Ogwr, a’r buddsoddiadau mewn ystadau diwydiannol aml-osod a'r rhent tir rhydd-ddaliad. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod cyfanswm gwerth yr Eiddo Buddsoddi yn £5.090 miliwn ar 31 Mawrth 2021.
Roedd gan y Cyngor hefyd nifer o rwymedigaethau hirdymor eraill sydd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth Gyfalaf, fel y nodir ym mharagraff 4.12 o'r adroddiad.
PENDERFYNIAD: Fod y Cyngor wedi:
· nodi diweddariad Chwarter 2 Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2021-22 hyd at 30 Medi 2021 (Atodiad A)
· cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig (Atodiad B)
· nodi'r Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill a ragwelir ar gyfer 2021-22 (Atodiad C.
Dogfennau ategol: