Agenda item

Adroddiad Blynyddol 2020-21

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad gan y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, a'i ddiben oedd cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2020-21 (yn Atodiad A i'r adroddiad) i'r Cyngor er mwyn iddyn nhw ei ystyried a'i gymeradwyo.

 

I roi rhywfaint o’r cefndir, eglurodd ei bod yn rhai i’r awdurdod, o dan adran 15 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ac yn unol â'r canllawiau statudol cysylltiedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gyhoeddi ei asesiad o berfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol cyn 31 Hydref.

 

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd y Cyngor ei Gynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2018-23, wedi’i ddiwygio ar gyfer 2020-21. Er mwyn rhoi ystyriaeth i effaith sylweddol COVID-19 ar flaenoriaethau, diwygiwyd y Cynllun a gwnaed rhai addasiadau iddo, a chytunodd y Cyngor arnynt ym mis Medi 2020. O fis Mawrth 2020 ymlaen, o ganlyniad i Covid-19, canolbwyntiodd y Cynllun ar y blaenoriaethau oedd â mwy o frys.

 

Diffinia’r Cynllun diwygiedig 32 o ymrwymiadau i gyflawni'r tri amcan llesiant ac mae'n nodi 46 o fesurau llwyddiant i fonitro cynnydd. Fodd bynnag, er mwyn ystyried COVID-19 ac ailgyfeirio adnoddau, dilëwyd y targedau ar gyfer 14 o fesurau llwyddiant. Ar ddiwedd y flwyddyn, nid oedd data ar gael ar gyfer 7 mesur llwyddiant, rhai ym maes addysg yn bennaf yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio arholiadau a defnyddio trefniadau amgen i bennu graddau.

 

Mae'r Adroddiad Blynyddol, a baratowyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn gwerthuso llwyddiant y Cyngor yn 2020-21 wrth gyflawni ei ymrwymiadau a'r canlyniadau a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol, gan ddefnyddio mesurau llwyddiant a thystiolaeth gysylltiedig arall.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, fod y Cyngor wedi gwneud 32 o ymrwymiadau i gefnogi'r gwaith o gyflawni ei amcanion llesiant. Roedd 13 (40.6%) o'r rhain wedi'u cwblhau'n llwyr gyda 19 (59.4%) wedi cyrraedd y rhan fwyaf o'u cerrig milltir.

 

O'r 46 dangosydd a nodwyd ar gyfer y Cynllun Corfforaethol, gellir cymharu 25 yn erbyn eu targed: cyrhaeddodd 14 (48%) eu targed, roedd 2 (8%) o fewn 10% o’r targed, ac roedd 11 (44%) wedi methu'r targed o fwy na 10%. Ceir gwybodaeth fanwl am berfformiad y Cyngor yn Atodiad A yr adroddiad, gan gynnwys perfformiad y Cyngor yn erbyn ei amcanion, a chanmolodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid yr adroddiad o ystyried yr anawsterau a wynebodd awdurdodau lleol ers y pandemig. Dangosodd yr Adroddiad Blynyddol gryn gynnydd yn erbyn amcanion lles y Cyngor a'i saith nod.

 

Ar ôl ei gymeradwyo, cadarnhaodd y bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a'i rannu â rhanddeiliaid. Bydd copïau caled o'r adroddiad hefyd yn cael eu cynhyrchu a'u rhoi yn llyfrgelloedd cyhoeddus y Cyngor.

 

Canmolodd yr Arweinydd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020-21 ynghyd â'r holl staff yn CBSP a fu’n gweithio'n ddiflino i'w gwneud mor braf i'w ddarllen. Teimlai fod staff wedi mynd y tu hwnt i’r galw o ystyried pwysau'r pandemig, a oedd yn dal i fodoli, a rhoddodd enghreifftiau o hyn yng ngwahanol feysydd gwasanaeth y Cyngor. Pan welir lle i wella, ychwanegodd, maent yn mynd ar drywydd hynny, nid yn unig trwy barhau i gefnogi ein gweithwyr, ond yr Aelodau hefyd, fel aelodau’r o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu'r Cyngor.

 

Roedd Aelod yn cefnogi barn yr Arweinydd, ond gofynnodd sut yr oedd CBSP yn cymharu ag 'Awdurdodau tebyg' eraill o ran perfformiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd llawer o'r dangosyddion cenedlaethol wedi'u coladu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a hynny am resymau amlwg, h.y. bod y ddyletswydd hon wedi'i hatal. Fodd bynnag, hysbyswyd Swyddogion yn ddiweddar y byddai'r rhain (h.y. y PAM) yn cael eu casglu'n ôl-weithredol, ond y byddai hynny yn bennaf er mwyn llywio'r broses o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol yn hytrach nac er mwyn cymharu. Ychwanegodd nad oedd rhai o'r Dangosyddion Addysg wedi'u casglu at ddibenion cymharu a chyhoeddi ac, oherwydd hynny, nid oedd yn hawdd gwneud cymariaethau o ran gwybodaeth dangosyddion perfformiad lleol. Fodd bynnag, roedd y rhain yn cael eu cymharu'n fwy cenedlaethol, drwy gyflwyno tablau i Awdurdodau. Felly, roeddem yn gallu cymharu perfformiad ag awdurdodau lleol eraill tebyg yma. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn edrych ar sut yr oedd awdurdodau cyfagos eraill yn rhedeg eu gwasanaethau er mwyn cymharu, er mwyn canfod a oeddent yn eu gweithredu’n well na CBSP o ran eu prosesau, fel bo modd i ni fabwysiadu'r dull hwnnw o weithredu hefyd.

 

PENDERFYNIAD:                       Fod y Cyngor wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2020-21 (yn Atodiad A i'r adroddiad).

 

Dogfennau ategol: