Agenda item

Polisi Taliadau Atodol Ar Sail Y Farchnad

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a’i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth i'r Polisi Taliadau Atodol Ar Sail Y Farchnad.

 

Esboniodd nad oedd darpariaeth o fewn y Cyngor ar hyn o bryd ar gyfer gwneud taliadau atodol ar sail y farchnad. Roedd gweithredu Cydgytundeb Gwerthuso Swyddi Statws Sengl y Cyngor ym mis Medi 2013 yn golygu bod pob un o'r hen daliadau atodol ar sail y farchnad wedi dod i ben wrth gyflwyno'r strwythur cyflog a graddio newydd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Polisi Cyflog y cytunwyd arno gan y Cyngor ar 10 Mawrth 2021 yn cadarnhau'r sefyllfa hon.  Fodd bynnag, cyfeiriwyd at y ffaith y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ail-gyflwyno taliadau atodol ar sail y farchnad er mwyn cydnabod yr heriau a wynebir wrth recriwtio a chadw staff mewn rhai proffesiynau ar y strwythur cyflog presennol.

 

Byddai cyflwyno'r Polisi Taliadau Atodol ar Sail y Farchnad yn mynd i'r afael â mater nad oedd cynllun gwerthuso swyddi a strwythur graddio'r cyngor yn ei ystyried, ffactorau marchnad megis cyfraddau cyflog y farchnad neu alw amrywiol am sgiliau yn y farchnad.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Gweithredol at y Polisi Taliadau Atodol ar Sail y Farchnad sydd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, a fyddai’n galluogi'r Cyngor i ymateb i unrhyw faterion recriwtio a chadw drwy gynyddu’r cyflog a ddyfarnwyd i swydd am gyfnodau byr, a hynny heb orfod newid y radd gwerthuso a bennwyd i’r swydd. Bydd hyn yn sicrhau bod yr egwyddorion o fewn y cynllun gwerthuso swyddi wrth gynnal cyflog cyfartal yn cael eu cadw.

 

Pwysleisiodd y byddai Taliadau Atodol ar Sail y Farchnad ond yn cael eu defnyddio pan fo angen, a byddai’n rhaid eu hystyried yn ofalus a chyflwyno achos busnes cadarn ar eu cyfer, gan gynnwys tystiolaeth wrthrychol glir ar yr holl ffactorau perthnasol sydd ar waith.

 

Daeth y Prif Weithredwr â’r adroddiad i ben trwy ddweud eu bod wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr undebau llafur gyda chynigion yr adroddiad a’u bod wedi cyfrannu at ddatblygu'r polisi newydd hwn. Os bydd y Cyngor yn cymeradwyo'r polisi, mae partneriaid yr Undebau Llafur wedi cydnabod y bydd angen cytuno ar atodiad i Gydgytundeb Gwerthuso Swyddi Statws Sengl y Cyngor yn unol â hynny.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cefnogi’r adroddiad gan ei fod yn mynd i'r afael â mater a fu’n broblem i’r Cyngor ers peth amser, byddai'r Polisi yn helpu i lenwi swyddi allweddol lle cafwyd anhawster recriwtio yn y gorffennol, a byddai hynny yn ei dro yn cyfrannu at wneud ein gwasanaethau'n fwy gwydn.

 

Holodd Aelod, gan nodi nad oedd yn erbyn y Polisi, sut yr oedd yr Awdurdod yn bwriadu gweithredu i ddarbwyllo staff mewn swyddi allweddol rhag gadael y Cyngor a symud i Awdurdod sydd â’r un math o bolisi ar waith i gefnogi swydd debyg, ond â chyflog gwell.

 

Atebodd y Prif Weithredwr trwy ddweud nad oedd modd osgoi’r perygl o golli staff os yw Awdurdodau eraill yn talu cyflogau gwell na CBSP am swydd debyg. Fodd bynnag, roedd y Polisi'n anelu at recriwtio a chadw staff, ac ond un o nifer o ddulliau yr oedd yr Awdurdod yn eu rhoi ar waith ydoedd, gan gynnwys taliadau gwell ar gyfer rhai swyddi lle gwelwyd problemau hanesyddol o ran recriwtio a chadw staff.

 

Nododd Aelod, o ran y Polisi, y byddai'r Taliadau Atodol ar Sail y Farchnad yn gymwys am 2 flynedd ac yna'n destun adolygiad yn dilyn y cyfnod hwnnw. Roedd yn teimlo, ar ôl i'r cyfnod o 2 flynedd ddod i ben, y gallai'r cyflogai yn y swydd ddechrau chwilio am swydd debyg yn rhywle arall sydd â phecyn mwy deniadol. Holodd hefyd a fyddai nifer y cyflogeion a effeithir gan ddarpariaethau'r Polisi, h.y. y rhai sydd â chyflog uwch ac ati, yn cael eu monitro, er enghraifft drwy'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CMB).

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gofyniad o fewn telerau'r Polisi i gynhyrchu Achos Busnes ar gyfer pob achos, yn seiliedig ar rinweddau unigol yr achos hwnnw ac â chymeradwyaeth gan y Rheolwr priodol yn unol â hynny.

 

Byddai'r Polisi a'r cyflogeion yr effeithir arnynt yn cael eu monitro'n rheolaidd gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol, ychwanegodd.

 

O ran cyflog, cafodd y cyfnod adolygu ei gynnwys yn y Polisi fel taliad dros dro yn unig, gan y byddai’n cael effaith ar hawliadau Cyflog Cyfartal fel arall. Roedd lle i ystyried talu taliadau atodol ar sail y farchnad am gyfnod hirach a/neu ffyrdd eraill o edrych ar gadw staff, os byddai angen. Gellid cymhwyso'r Polisi ar gyfer swyddi yn unrhyw ran o’r Awdurdod, ychwanegodd, ond roedd yn rhaid cael digon o dystiolaeth cyn ei gymhwyso.      

 

PENDERFYNIAD:                         Cymeradwyodd y Cyngor y Polisi Taliadau Atodol ar Sail y Farchnad, yn Atodiad 1 i'r adroddiad.          

Dogfennau ategol: