Agenda item

Newidiadau i Aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a'i ddiben oedd ystyried y newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a fyddai’n dod i rym yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai 2022.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid yr adroddiad ac eglurodd, er bod gan yr Awdurdod Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio eisoes, fod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wedi gwneud hyn yn ofyniad statudol. Mae'r Mesur yn gwneud nifer o ofynion mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Archwilio, gan gynnwys penodi Cadeirydd a chylch gwaith y Pwyllgor.

 

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bellach wedi rhoi cyfrifoldebau ychwanegol ar ysgwyddau’r Pwyllgor sy'n gysylltiedig â llywodraethu, gan gynnwys ystyried agweddau ar berfformiad a chwynion. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cynnwys 12 Aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac un Aelod Annibynnol (Lleyg) ar hyn o bryd.

 

Bydd yr Aelodau'n cofio, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, y bydd yn ofyniad deddfwriaethol o 5 Mai 2022 i draean o aelodaeth y Pwyllgor fod yn Aelodau Lleyg.  Cynigir felly bod aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei newid i 12 Aelod, 8 Aelod CBSP a 4 Aelod Lleyg, a bod y Cyngor yn cymeradwyo penodi Aelodau Lleyg ychwanegol i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth o 5 Mai 2022 ymlaen.

 

Mae'r canllawiau'n argymell na ddylid penodi Aelod Lleyg am fwy na dau dymor awdurdod lleol llawn. Mae unrhyw Aelod Lleyg sydd â hawliau pleidleisio yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau.

 

Roedd adrannau nesaf yr adroddiad yn amlinellu'r broses recriwtio ar gyfer Aelodau Lleyg, ymhelaethodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid ar yr agwedd hon er budd y Cyngor, yn ogystal â'r meini prawf i'w mabwysiadu i ddyfarnu a yw ymgeiswyr yn addas i'w rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad.

 

Yna, byddai'r ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld gan Banel Swyddogion.

 

Gofynnodd Aelod am gadarnhad y byddai'n rhaid i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn Aelod Lleyg yn dilyn Etholiadau'r flwyddyn nesaf ac, os felly, a fyddent yn cael hyfforddiant ar gyfer y rôl. Gofynnodd hefyd pa lefel o daliadau cydnabyddiaeth y byddai'r Aelod Lleyg yn ei chael fel Cadeirydd.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai hyfforddiant helaeth ar gael, yn fewnol gan Swyddogion a hefyd gan ddarparwr allanol, sef CLlLC mae'n debyg.

 

Ychwanegodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai’r Cadeirydd yn derbyn cyfradd tâl dyddiol uwch, a’u bod yn dal i ddisgwyl canllawiau statudol ar fanylion hyn ac ar y drefn hyfforddi ar gyfer Aelodau Lleyg, gan gynnwys y Cadeirydd. 

 

PENDERFYNIAD:                                Bod y Cyngor:

 

(1)      Wedi cymeradwyo'r newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel yr amlinellir ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad, i ddod i rym yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai 2022;

 

(2) Wedi dirprwyo'r broses ar gyfer dewis ac argymell Aelodau Lleyg priodol i Banel Swyddogion sy'n cynnwys y Swyddog Monitro, y Prif Swyddog Cyllid a'r Pennaeth Archwilio Mewnol;  

 

(3) Yn derbyn adroddiad pellach yn rhoi gwybod am y penodiadau.

     

Dogfennau ategol: