Agenda item

Adroddiad Blynyddol 2020-2021

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid Adroddiad Blynyddol 2020-21 i gael ei ystyried ac i argymell i’r Cyngor ei gymeradwyo. 

 

Dywedodd fod yn rhaid i’r awdurdod, yn unol ag arweiniad statudol, adolygu cynnydd ei amcanion llesiant a chyhoeddi adroddiad i asesu i ba raddau y mae’r amcanion hyn yn cyfrannu at y 7 nod llesiant. Rhaid iddo hefyd gyhoeddi ei asesiad o’i berfformiad am y flwyddyn ariannol flaenorol cyn 31 Hydref. 

 

Tynnodd sylw at y ffaith fod y Cynllun yn diffinio 32 ymrwymiad i gyflawni’r tri amcan llesiant ac yn rhestru 46 o fesurau llwyddiant ar gyfer monitro cynnydd. Gan gymryd Covid-19 i ystyriaeth a’r modd y cafodd adnoddau eu hailgyfeirio, tynnwyd y targedau ar gyfer 14 o’r mesurau llwyddiant. Dywedodd fod Strategaeth Ariannol y Tymor Canol (SATC) yn nodi sut y byddai’n gwneud y defnydd gorau o’i adnoddau i gynorthwyo i gyflawni’r amcanion llesiant a’r dyletswyddau statudol, gan gynnwys rheoli pwysau a risgiau ariannol dros y bedair blynedd oedd i ddod. 

 

Dywedodd Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr Adroddiad Blynyddol yn gwerthuso pa mor dda yr oedd y Cyngor yn gwneud o ran cyflawni ei ymrwymiadau a sicrhau’r canlyniadau cynlluniedig ar gyfer y flwyddyn ariannol, gan ddefnyddio ei fesurau llwyddiant a thystiolaeth arall. Dywedodd fod 13, allan o’r 32 ymrwymiad, wedi cael eu cwblhau, gyda 19 wedi cyrraedd y rhan fwyaf o’u cerrig milltir. Hysbysodd Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid y Cabinet y gellid cymharu 25, allan o’r 46 dangosydd a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol, yn erbyn eu targed a bod 12 wedi cyrraedd eu targed, 2 heb gyrraedd eu targed o 10% ac 11 wedi colli’r targed o fwy na 10%.

 

Gwnaeth yr Arweinydd sylwadau ynghylch mor gynhwysfawr oedd yr adroddiad oedd yn tynnu sylw at y llu o newidiadau a phwysau digynsail a wynebwyd gan y Cyngor yn ystod y pandemig. Dywedodd fod y Fwrdeistref Sirol yn lle da i fyw a gofynnodd am wybodaeth pan oedd ymatebwyr yn anfodlon ac yn meddwl nad oedd y lle da i fyw. Dywedodd Prif Swyddog dros dro Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai hi’n rhoi mwy o fanylion am yr ymatebion ynghylch lle da i fyw i’r Cabinet.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr adborth cadarnhaol am berfformiad y Cyngor gan reoleiddwyr, megis Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru, a’i fod ef yn falch i weld y pwysigrwydd oedd yn cael ei osod ar swyddogaeth Trosolwg a Chraffu a hefyd y ffordd y mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu hyrwyddo ar draws yr awdurdod.

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau at berfformiad Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol a gwblhawyd yn ystod 2020-21 pan drosglwyddwyd 13 o asedau i’r gymuned i’w rhedeg yn ystod y pandemig a holodd pam yr oedd y statws yn cael ei ddangos yn goch. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod y statws yn cael ei ddangos yn goch am fod y targed wedi ei golli o fwy na 10%. Llongyfarchodd hi’r Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol a’r tîm am eu perfformiad yn eu rôl, a’u bod wedi llwyddo er gwaethaf y pandemig i sicrhau trosglwyddo 13 o asedau i gael eu rhedeg gan y gymuned.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet wedi ystyried Adroddiad Blynyddol 2020-21, Atodiad A i’r Adroddiad, ac yn ei argymell i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo.         

Dogfennau ategol: