Agenda item

Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) 2021 ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (CDLl) 2006 - 2021

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog Polisi Cynllunio Strategol ar ganfyddiadau Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) 2021, gan nodi’n benodol fod yr ymgais i gyflenwi tai yn methu â chadw i fyny â'r gofyn am dai a bod angen brys am ddyraniadau tai newydd y gellid eu cyflawni i leddfu’r pwysau cynyddol i gyflenwi tai. Dywedodd ei bod yn hanfodol bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn parhau i symud ymlaen gyda'r adolygiad statudol o'r CDLl, er mwyn atal datblygiad ad-hoc rhag dod ymlaen y tu allan i system y cynllun datblygu.

 

Adroddodd fod yn rhaid cyflwyno AMB 2021 i Lywodraeth Cymru cyn 31 Hydref 2021 ac mai ei nod oedd asesu i ba raddau yr oedd Strategaeth a Pholisïau'r CDLl yn cael eu cyflawni. Dywedodd fod gan yr AMB ddwy brif swyddogaeth; yn gyntaf ystyried a oedd y polisïau a nodwyd yn y broses fonitro yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus; ac, yn ail, ystyried y Cynllun yn ei gyfanrwydd yn erbyn yr holl wybodaeth a gasglwyd er mwyn penderfynu a oedd angen adolygiad cyflawn neu rannol o'r Cynllun.

 

Dywedodd mai canfyddiadau allweddol yr AMB oedd diffyg blynyddol mewn cyflenwi tai, lle roedd 300 o anheddau'r flwyddyn yn llai nag a ddisgwylid wedi cael eu cwblhau. Roedd 2,920 o anheddau yn brin ymhlith y tai a gyflawnwyd mewn perthynas â'r gofyniad tai blynyddol cyfartalog cronnus, tra roedd 111 o unedau tai fforddiadwy wedi'u hadeiladu ac 1.46 hectar o dir gwag wedi'i ddatblygu yn ystod y flwyddyn. Amlinellodd gyfraddau eiddo masnachol gwag yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg. Hysbysodd y Pwyllgor fod y Cabinet wedi cymeradwyo Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft ar 15 Rhagfyr 2020 ac, ers ei gymeradwyo, bod angen wedi'i nodi am 6 llain arall. Dywedodd y byddai unrhyw angen nas diwallwyd am safleoedd yn cael ei ddiwallu drwy'r CDLl Newydd.  

 

Adroddodd hefyd fod Adroddiad Adolygu’r CDLl (2018) eisoes wedi cydnabod angen brys i fynd i’r afael â’r diffyg yn y cyflenwad tir ar gyfer tai drwy nodi safleoedd tai ychwanegol. Roedd y diffyg yn y cyflenwad tai yn fwy difrifol fyth erbyn hyn ac yn methu â chadw i fyny â'r gofyn am dai.  Dywedodd ei fod yn fater sylfaenol bod digon o safleoedd y gellid adeiladu arnynt yn cael eu cynnwys yn y CDLl Newydd er mwyn lleddfu’r pwysau cynyddol ar y cyflenwad tai neu, fel arall, y byddai’r bwlch rhwng nifer y tai a gâi eu cyflenwi a’r nifer yr oedd galw amdanynt yn parhau i ledu a byddai angen safleoedd tai ychwanegol er mwyn sicrhau bod modd cyflawni gofynion tai y Fwrdeistref Sirol. Hysbysodd y Pwyllgor y gallai methu â gweithredu hefyd arwain at ‘gynllunio drwy apêl’ ac y byddai datblygiadau ad-hoc yn dod ymlaen nad oeddent yn unol â strategaeth y Cynllun.    

 

Daeth i'r casgliad bod canfyddiadau'r AMB yn rhoi cyfle pwysig i'r Cyngor asesu effeithiolrwydd y CDLl mabwysiedig a phenderfynu a oedd angen ei adolygu. Dywedodd fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwrw ymlaen ag adolygiad statudol y CDLl, fydd yn mynd i'r afael â'r diffyg yn y cyflenwad tai ac yn hwyluso adnabod / dyrannu tir ychwanegol ar gyfer tai. Hysbysodd y Pwyllgor fod dros 1,200 o ymatebion wedi'u derbyn i'r CDLl drafft a bod y rhain yn cael eu hadolygu gan swyddogion.  Dywedodd fod angen buddsoddiad pellach yn yr economi leol ac y byddai’r CDLl Newydd yn ysgogi rhai i fanteisio ar dir cyflogaeth newydd, safleoedd defnydd cymysg a chyfleoedd adfywio (gan gynnwys safleoedd sydd ym mherchnogaeth y Cyngor). Byddai hyn yn dod â chynlluniau, uwchgynlluniau a briffiau datblygu newydd ymlaen i wneud datblygu’n bosibl. Dywedodd fod angen dybryd i symud y CDLl Newydd tuag at ei fabwysiadu er mwyn sicrhau y gellid cyflawni gofynion tai’r Fwrdeistref Sirol ac atal y bwlch rhwng nifer y tai a gyflenwir a’r nifer y mae gofyn amdanynt rhag ehangu ymhellach.

 

PENDERFYNWYD:           

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol.    

Dogfennau ategol: