Agenda item

Rheoli’r Trysorlys - Adroddiad Hanner Blwyddyn 2021-22

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd Dros Dro adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am yr adolygiad canol blwyddyn a sefyllfa hanner blwyddyn gweithgareddau rheoli’r trysorlys a dangosyddion rheoli'r trysorlys 2021-22, gan danlinellu cydymffurfio â pholisïau ac arferion y Cyngor a adroddwyd i’r Cabinet a’r Cyngor.

 

Eglurodd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi’i enwebu i fod yn gyfrifol am archwiliad effeithiol o Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (SRhT) a pholisïau. Hyd yn hyn yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22, yn ogystal â’r adroddiadau rheoli’r trysorlys rheolaidd i’r Cabinet a’r Cyngor, derbyniodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Adroddiad Alldro Rheoli Blynyddol y Trysorlys 2020-21 ym mis Gorffennaf 2021. Roedd rhagor o gefndir yn adran 3 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd Dros Dro fod y Cyngor wedi cydymffurfio â’i ofynion deddfwriaethol a rheoliadol yn ystod hanner cyntaf 2021-22. Cymeradwywyd SRhT 2021-22 gan y Cyngor ar 24 Chwefror 2021 gyda’r Adroddiad Hanner Blwyddyn wedi’i gyflwyno ar 20 Hydref 2021. Amgaewyd Crynodeb o weithgareddau rheoli’r trysorlys ar gyfer hanner cyntaf 2021-22 yn nhabl 1 Atodiad A.

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd Dros Dro fod y Cyngor, ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, wedi derbyn dau randaliad o gyllid craidd Llywodraeth Cymru (Grant Setliad Refeniw) yn ystod mis Ebrill, sef £12.6 miliwn y rhandaliad a’i fod yn gallu cario arian grant ychwanegol ymlaen o 2020-21. O ganlyniad, y balans ar fuddsoddiadau ar 30 Medi 2021 oedd £79.84 miliwn gyda chyfradd llog gyfartalog o 0.06%. Roedd hyn yn ostyngiad sylweddol o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, pan oedd y gyfradd gyfartalog yn 0.24% ac yn dangos effaith gostyngiadau y cyfraddau llog o ganlyniad i’r pandemig.

 

Ychwanegodd nad oedd y Cyngor wedi cymryd benthyciadau hirdymor ers mis Mawrth 2012. Roedd SRhT 2021-22 yn rhagweld y byddai’n rhaid i’r Cyngor fenthyca £30.37 miliwn yn ystod y flwyddyn, fodd bynnag, gan gymryd yn ganiataol y byddai gan y Cyngor £43 miliwn mewn cronfeydd defnyddiadwy i’w defnyddio yn y tymor byr i ariannu gwariant. Ar 31 Mawrth 2021, roedd cronfeydd defnyddiadwy wrth gefn y Cyngor yn £114 miliwn, cynnydd o £83 miliwn i’r hyn oedd ar 31 Mawrth 2020; ni ragwelwyd hyn pan gymeradwywyd y SRhT. Derbyniodd y Cyngor £20.6 miliwn gan Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru, a oedd yn fwy na’r disgwyl yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â grantiau ychwanegol pellach o £8.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn chwarter olaf 2020-21 a £2.9 miliwn o dderbyniadau cyfalaf yn ystod y flwyddyn, fel yr adroddwyd i’r Cyngor yn adroddiad Alldro’r Gyllideb Refeniw 2020-21 ar 23 Mehefin 2021. Roedd rhagor o wybodaeth yn adran 4 yr adroddiad.

 

Tynnodd Rheolwr y Gr?p – y Prif Gyfrifydd Dros Dro sylw at dabl 4 Atodiad A a oedd yn rhoi manylion symud y buddsoddiadau yn ôl mathau cyfatebol ac yn dangos y balansau cyfartalog, y llog a dderbyniwyd, hyd gwreiddiol a chyfraddau llog yn ystod hanner cyntaf 2021-22. Dangosir manylion amcangyfrifon 2021-22 sydd yn SRhT y Cyngor, mewn perthynas â’r rhagamcaniadau cyfredol, yn Atodiad A; dangosodd y rhain fod y Cyngor yn gweithredu o fewn y terfynau a gymeradwywyd. Tynnodd sylw’r Aelodau at dabl 2 Atodiad A a oedd yn dangos y meincnod atebolrwydd. Roedd hyn yn amlinellu faint y gallai’r Cyngor fod angen ei fenthyca i ariannu’r rhaglen gyfalaf.

 

Ychwanegodd fod y Cyngor yn diffinio ansawdd credyd uchel yr un fath â sefydliadau a gwarantau sydd â statws credyd o A- neu uwch ac mae Atodiad B yn dangos tabl cyfatebol sgoriau credyd Fitch, Moody’s and Standard & Poor’s gan egluro'r gwahanol raddau buddsoddi.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg beth oedd y cynnydd mewn perthynas â chronfeydd wrth gefn y Cyngor. Roedd geiriad yr adroddiad wedi awgrymu iddi hi bod cynnydd o tua £70 miliwn, ond dim ond £30 miliwn a ddangoswyd.

 

Dywedodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro fod y geiriad wedi achosi dryswch ac mai tua £30 miliwn oedd y cynnydd ers y flwyddyn flaenorol mewn gwirionedd.

 

Holodd y Cadeirydd am y dyddiad yn yr adroddiad ar dudalen 117, rhif 3. A ellid diweddaru’r dyddiad o 30 Medi 2020 i 30 Medi 2021.

 

PENDERFYNWYD: bod y Pwyllgor wedi rhoi sylw i’r adroddiad. 

 

 

Dogfennau ategol: