Agenda item

Newidiadau i Aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn gofyn i’r Aelodau sylwi ar y newidiadau yn aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a ddaw i rym yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai 2022.

 

Eglurodd fod aelodaeth bresennol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cynnwys 12 Aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac un Aelod Annibynnol (Lleyg). O ran Aelodaeth Leyg y Pwyllgor hwn, ailbenodwyd yr Aelod Lleyg presennol, Ms J Williams, am dymor pellach yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 17 Mai 2017 ac yn unol â’r Mesur, caniateir iddi fod yn y swydd hon ar y Pwyllgor am uchafswm o ddau dymor. Daw’r tymor hwn i ben ym mis Mai 2022.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid y bydd hi’n ofynnol o 5 Mai 2022, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, i draean aelodaeth y Pwyllgor fod yn Aelodau Lleyg ac i’r Cadeirydd fod yn Aelod Lleyg. Ar 20 Hydref 2021, cymeradwyodd y Cyngor newid i aelodaeth y Pwyllgor i 12 Aelod sy’n cynnwys 8 Aelod CBSP a 4 Aelod Lleyg a chymeradwywyd ymhellach benodiad Aelodau Lleyg ychwanegol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth o 5 Mai 2022 ymlaen. Bydd seddi’r Pwyllgor yn cael eu penodi yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai 2022 yn unol â chyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor bryd hynny. Cafwyd rhagor o wybodaeth am yr hyn a olyga i fod yn aelod lleyg yn 4.3 a 4.4 yn yr adroddiad.

 

Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth, eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, fod hysbysebion cenedlaethol wedi’u gosod ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal ag ar wefan y Cyngor, i hysbysebu’r swyddi. Bydd angen i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais. Yna bydd yr holl geisiadau a dderbynnir yn cael eu cyflwyno i Banel Swyddogion sy’n cynnwys y Swyddog Monitro, y Prif Swyddog Cyllid a’r Pennaeth Archwilio Mewnol er mwyn llunio rhestr fer o ymgeiswyr i’w cyfweld. Roedd rhagor o wybodaeth yn 4.5 a 4.6 yn yr adroddiad.

 

Soniodd un Aelod am y pryderon oedd ganddi pan drafodwyd hyn mewn cyfarfod diweddar o’r Cyngor, sef beth fyddai’n digwydd pe na bai digon o ymgeiswyr ar gyfer swyddi’r Aelodau Lleyg. Gan fod y ceisiadau bellach wedi cau, a ydym yn fodlon bod digon o bobl wedi ymgeisio er mwyn llenwi’r swyddi gwag. Aeth â hyn ymhellach drwy ofyn, pe bai gennym 8 cais allan o 8, a fyddai’r ymgeiswyr yn cael y swyddi aelodau lleyg, neu a fyddai angen iddynt basio’r meini prawf o hyd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod 4 swydd aelod lleyg ar gael a bod ceisiadau wedi dod i law ond nad oeddent wedi cael eu hasesu eto.

 

Gofynnodd hefyd, petai 5 aelod o blaid wleidyddol, er enghraifft, yn gadael y blaid honno, a fyddai hynny’n cael ei ystyried fel buddiant anffafriol posibl petaent yn gwneud cais am swyddi’r Aelodau Lleyg.

 

Nid oedd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid yn gallu rhoi ateb pendant gan mai’r Swyddog Monitro fyddai’n ystyried hynny, ond credai y byddai’n cael ei ystyried petai’r sefyllfa’n codi.

 

Gofynnodd un Aelod ai Llywodraeth Cymru fyddai’n ariannu’r gost o bennu 3 aelod lleyg arall, gan ei bod yn ofynnol i CBSP wneud toriadau pellach i’r gyllideb a byddai hynny’n cyfrannu rhagor o gostau. Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai hyn yn debygol o gael ei gynnwys yn setliad y gyllideb, ond na fyddai’n fawr o draul ar yr awdurdod.

 

Gofynnodd un Aelod a fyddai aelodau lleyg yn cael eu had-dalu am dreuliau yn ymwneud â darllen y pecyn agenda neu ai dim ond ad-daliad am fynychu cyfarfodydd fydden nhw’n ei gael. Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod amser darllen wedi’i bennu a hwnnw’n gynwysedig yn yr ad-daliad ar ôl iddynt fynychu’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD: bod y Pwyllgor wedi:

 

rhoi sylw i’r newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel yr amlinellir ym mharagraff 4.2 yr adroddiad, i ddod i rym yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai 2022;

 

cytuno i dderbyn adroddiad pellach yn rhoi gwybod am benodiadau Aelodau Lleyg addas.

 

 

Dogfennau ategol: