Agenda item

Adroddiadau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Archwilio Cymru

Cofnodion:

Cyflwynodd cynrychiolydd Archwilio Cymru adroddiad am yr wybodaeth ddiweddaraf am yr Archwiliad Ariannol a Pherfformiad a wnaed, ac sydd ar fin cael ei wneud, gan Archwilio Cymru. Cafwyd amlinelliad gan gynrychiolydd Archwilio Cymru o’r rhaglen waith a’r amserlen y mae’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol ei gynhyrchu yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

 

Esboniodd fod Archwiliad datganiad cyfrifon 2020-21 y Cyngor ac Archwiliad Ffurflenni 2020-21 Awdurdod Harbwr Porthcawl wedi’u hardystio erbyn 31 Gorffennaf 2021, ac Amlosgfa Llangrallo erbyn 30 Medi 2021

 

Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru waith yr Archwiliad Grantiau a Ffurflenni 2020-21 a oedd newydd ddechrau. Roedd disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd Rhagfyr 2021 ac roedd 5 cais yn gynwysedig yn yr archwiliad.

 

Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru waith archwilio perfformiad 2020-2021 a dywedodd fod y gwaith ar fin cael ei orffen ac mai’r Crynodeb Archwilio Blynyddol oedd y gwaith olaf. Roedd i fod i gael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2021.

 

Tynnodd sylw at waith archwilio perfformiad 2021-2022 a dywedodd fod y gwaith Asesiad Risg a Sicrwydd bron wedi’i gwblhau. Roeddent wedi cysylltu â’r Cyngor er mwyn cael dyddiad i ddod â’r canfyddiadau gerbron y  Bwrdd Rheoli Corfforaethol rywbryd ym mis Chwefror 2022, gyda’r nod o ddarparu adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ddiweddarach yn 2022.

 

Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru y gwaith datblygu a dywedodd fod y ffocws yn olrhain dau drywydd, sef asedau a’r gweithlu. Roedd hyn ar fin cael ei sefydlu gyda’r nod o ddechrau ym mis Rhagfyr 2021.

 

Ychwanegodd fod adolygiad y Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ar y gweill ac y byddai'r adroddiad ar yr agenda yn helpu gyda hyn. Roedd gwaith adolygu partneriaeth iechyd a gofal cymdeithasol Cwm Taf Morgannwg ar y gweill ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda rheoleiddwyr allanol ar y broses adborth a drefnwyd ar gyfer mis Ionawr 2022 ar ôl i’r gwaith maes gael ei gwblhau.

 

Rhoddodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru grynodeb o’r adran Cynaliadwyedd Ariannol a oedd yn rhoi cefndir gwaith cynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol 2020-21, gan gynnwys y pwysau ariannol, strategaethau, sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn a pherfformiad mewn perthynas â’r gyllideb. Tynnodd sylw at rif 4 a oedd yn amlinellu cymorth ariannol llywodraeth Cymru a fu o gymorth gyda’r costau ynghlwm â Covid-19. Fodd bynnag, roedd ansicrwydd ynghylch ariannu yn y dyfodol.

 

Yn ôl Cynrychiolydd Archwilio Cymru, ystyrir bod y sefyllfa ariannol yn well yng Nghymru nag yn Lloegr ond bod pryder o hyd o ganlyniad i ansicrwydd.

 

Esboniodd cynrychiolydd Archwilio Cymru mai canfyddiad y gwaith yn 2020-21 oedd bod Cynghorau wedi derbyn cyllid ychwanegol sylweddol i ddelio â’r pandemig, ond bod cynaliadwyedd y sector llywodraeth leol yn y dyfodol yn parhau i fod yn heriol, gyda phwysau ariannol eraill o hyd ar y gorwel. Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad cenedlaethol cryno ym mis Hydref 2020, edrychodd Archwilio Cymru ar gynaliadwyedd ariannol pob prif Gyngor yng Nghymru cyn cynhyrchu adroddiad lleol ar gyfer pob un ohonynt. Oherwydd y cyllid ychwanegol a dderbyniodd y Cynghorau yn sgil y pandemig, mae sefyllfa ariannol pob un o’r 22 Cyngor wedi gwella eleni. Mae darlun cyffredinol cynaliadwyedd ariannol y Cynghorau yn parhau’n amrywiol; roedd rhai Cynghorau mewn gwell sefyllfa nag eraill i ymateb i heriau’r dyfodol.

 

Amlinellodd ymhellach sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn fel ag a nodir yn rhif 5, a’r camau a luniwyd i helpu cynaliadwyedd ariannol Cynghorau. Nodwyd hyn yn rhif 6.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Lleyg at y ffaith, o ran gwaith yn y dyfodol, nad oedd rhagor o sôn am effeithiau’r pandemig; gofynnodd am sylw ar hyn.

 

Esboniodd cynrychiolydd Archwilio Cymru eu bod yn edrych ar sefyllfa ariannol y Cyngor ac yn cysylltu â swyddogion allweddol ac archwiliadau mewnol fel rhan o’r asesiad risg a sicrwydd. Roedd y wybodaeth o bwys i Archwilio Cymru gydol yr amser ond yn anffodus ni allant wneud sylw ar y dyfodol na sut i fod o gymorth i liniaru’r ansicrwydd. Ychwanegodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, ei bod yn amhosibl cynllunio ar gyfer effeithiau hirdymor y pandemig ar y Cyngor a’i gadernid ariannol - hyd yn oed gyda’r holl adolygiadau cynaliadwyedd ariannol a thrafodaethau. Ychwanegodd fod adroddiadau rheolaidd yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor a’r Cabinet fodd bynnag, yn nodi pa mor ddarbodus oedd y Cyngor wrth fonitro cyllidebau a chynllunio ariannol.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad yn trafod y materion cyfredol a chynllunio ar gyfer cynaliadwyedd ariannol, ond nad oedd unrhyw sôn fod Llywodraeth Cymru am helpu CBSP i gynllunio ymlaen yn dilyn y pandemig. Nid oedd Cynrychiolydd Archwilio Cymru yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar hyn ond addawodd ymchwilio a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Ychwanegodd yr Aelod Lleyg fod hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn medru ystyried y rhagolygon.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi rhoi sylw i Adroddiadau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Archwilio Cymru yn Atodiad A ac Atodiad B.

 

Dogfennau ategol: