Agenda item

Deddf Gamblo 2005 - Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu 2022-2025

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad gan ofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo cyhoeddi Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu’r Cyngor ar gyfer y cyfnod nesaf o dair blynedd o 2022 i 2025, ac anfon y polisi ymlaen at y Cabinet a’r Cyngor i’w cymeradwyo’n derfynol. 

 

Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu mai’r Comisiwn Hapchwarae oedd y rheolydd unedig ar gyfer gamblo ym Mhrydain Fawr a’i fod yn gyfrifol am roi trwyddedau personol a thrwyddedau gweithredu ar gyfer gweithredwyr gamblo masnachol. Fodd bynnag, awdurdodau lleol oedd yn gyfrifol am drwyddedu safleoedd tir, yn ogystal â swyddogaethau mewn perthynas â rhoi trwyddedau a chofrestru. Roedd y Cyngor, fel awdurdod trwyddedu, yn cyhoeddi Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu bob tair blynedd a hwn oedd yn llywodraethu polisi, rheolaeth a'r broses o wneud penderfyniadau yn ymwneud â safleoedd gamblo.

 

Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu y byddai'n bosibl mewn amgylchiadau arferol adolygu tueddiadau a phroblemau a allai lywio datblygiad polisi yn y dyfodol. Fodd bynnag, gwelodd y cyfnod o 2020 i 2021 osod mesurau digynsail yn eu lle a chau mangreoedd gamblo. At hynny, ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd y Gweinidog dros Chwaraeon, Twristiaeth a Threftadaeth Adolygiad o Gylch Gorchwyl Deddf Gamblo 2005 a Galwad am Dystiolaeth oedd yn gorgyffwrdd â’r broses adolygu dair blynedd gyfredol. Roedd yn rhaid cynnal yr adolygiad tair blynedd o’r Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu, ond yng ngoleuni effaith y pandemig ar fangreoedd, absenoldeb adrodd am dueddiadau lleol, a’r adolygiad oedd ar ddod, teimlid y gellid cynnal adolygiad mwy cytbwys yn 2022. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor rhwng 6 Awst 2021 a 10 Medi 2021. Derbyniwyd un ymateb oddi wrth Gosschalks Solicitors. Roedd yr ymateb yn gofyn am un gwelliant a oedd yn ymwneud â hen derminoleg ddiangen nad yw bellach yn cael ei defnyddio yng nghanllawiau statudol y Comisiwn Hapchwarae i awdurdodau lleol. Ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion eraill gan ymgyngoreion statudol na thrwy'r ymgynghoriad ar y wefan.

 

Gofynnodd aelod a dderbyniwyd llawer o gwynion gan y cyhoedd mewn perthynas â gamblo. Atebodd y Swyddog Polisi Trwyddedu mai anaml y derbynnid cwynion am hyn ond bod mwy, fodd bynnag, mewn perthynas â gamblo ar-lein. Cododd yr aelod bryderon ynghylch y cynnydd mewn gamblo yn ystod y cyfnod clo.

 

Holodd aelod ynghylch gorfodi mewn perthynas â phroblemau gyda raffl a chystadlaethau eraill gyda gwobrau oedd yn cael eu trefnu gan gyrff heb eu cofrestru ar y cyfryngau cymdeithasol. Gofynnodd pa ddarpariaethau oedd yn eu lle i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â’r ddeddf. Atebodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod grym gorfodi yn ei le a’u bod yn edrych i mewn i gwynion. Ychwanegodd y byddai’n ofynnol i’r rhan fwyaf o’r rhai oedd yn trefnu raffl fod wedi eu cofrestru gyda’r awdurdod lleol pan fyddent yn gwerthu tocynnau ymlaen llaw; byddai gamblo ar-lein yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol yn ffurfio rhan o’r adolygiad yr oedd y llywodraeth yn ei gynnal. Dywedodd yr aelod i derfynu fod gamblo ar-lein yn cynyddu a’i bod yn duedd yr oedd angen edrych arni gan gynnwys sut yr oedd yn effeithio ar y cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y cabinet yn cefnogi anfon y Datganiad o Egwyddorion Gamblo, yn cynnwys y diwygiadau y tynnwyd sylw atynt yn Atodiad A ynghyd â’r diwygiad ychwanegol yn 4.6 i’r Cabinet a’r Cyngor i’w cymeradwyo a’u cyhoeddi yn unol â’r rheoliadau.

Dogfennau ategol: