Agenda item

Asesiad Risg Corfforaethol 2021-22

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad i’r Pwyllgor a oedd yn rhoi’r manylion diweddaraf am y newidiadau i’r Asesiad Risg Corfforaethol, yn unol â llinell amser rheoli risg y Cyngor a gynhwysir ym Mholisi Rheoli Risg y Cyngor.

 

Eglurodd fod yr Asesiad Risg Corfforaethol yn Atodiad 1 wedi’i adolygu mewn ymgynghoriad â CMB, a’r Bwrdd Rheoli Corfforaethol a’r Cabinet (CCMB). Nododd y prif risgiau sy’n wynebu’r Cyngor, eu cysylltiad â’r amcanion llesiant corfforaethol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, effaith debygol y risgiau hynny ar wasanaethau’r Cyngor a’r Fwrdeistref Sirol ehangach, gan nodi’r hyn sy’n cael ei wneud i reoli’r risgiau a phwy sy’n gyfrifol am ymateb y Cyngor.

 

Hysbysodd fod Tabl 1 yr adroddiad yn amlinellu’r diwygiadau i’r Asesiad Risg Corfforaethol a oedd yn nodi manylion risgiau 1 i 16. Bydd y risgiau sydd wedi’u hysgafnhau yn cael eu dileu o’r Asesiad Risg Corfforaethol. Bydd 3 o’r risgiau’n cael eu hysgafnhau i gofrestrau priodol y gyfarwyddiaeth a dau risg yn uno yn ôl yr awgrym ar ôl i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei gymeradwyo. Yna bydd gan yr Asesiad Risg Corfforaethol 11 o risgiau..

 

Ychwanegodd bod 7 o’r risgiau yn rhai uchel, 3 yn ganolig, ac 1 yn risg isel o ran eu dosbarthiad.

 

Cwestiynodd yr Aelod Lleyg resymeg symud Risg 3 i lefel gyfarwyddiaeth, a oedd yn seiliedig ar gydymffurfio â deddfwriaeth. Credai fod hyn yn dal i fod yn risg gorfforaethol, yn enwedig gan fod y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 newydd, yn ei barn hi, yn bryder corfforaethol.

 

Nododd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid mai’r rhesymeg y tu ôl i’w symud i risg cyfarwyddiaeth oedd bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r ddeddf newydd. Nid oedd yn credu bod y Cyngor mewn perygl o beidio â chydymffurfio gan nad oedd unrhyw dystiolaeth yn awgrymu hyn. O ystyried Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yr oedd hyn yn fater corfforaethol gwirioneddol, ond rhoddwyd manylion rhoi’r cynlluniau ar waith gerbron bwrdd y cyfarwyddwyr i’w datrys.

 

Holodd y Cadeirydd a oedd sgôr risg 3 wedi gostwng cyn i’r risg gael ei hysgafnhau i lefel gyfarwyddiaeth. Eglurodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid fod archwiliad mewnol wedi’i gynnal yn ystod haf 2021 ac mai un o’r argymhellion oedd ceisio sicrhau bod cofrestrau risg y gyfarwyddiaeth yn cyd-fynd â’r gofrestr risg gorfforaethol. Mae canllawiau rheoli risg wedi cael eu datblygu er mwyn ceisio symleiddio’r broses o ysgafnhau a dwysáu risgiau.

 

Soniodd yr Aelod Lleyg ei bod wedi sylwi bod 3 o’r risgiau wedi cael adolygiadau archwilio mewnol i gofnodi’r rheolaeth risg. Gofynnodd am sylw penodol i hyn wrth gofnodi’r risgiau a’r camau a gymerwyd.

 

O ran risg 12, gofynnodd yr Aelod Lleyg a oedd cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer hyn, ac os felly, a ellid cofnodi hynny gyda’r risg.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod rhywfaint o arian ychwanegol ar gael ar gyfer rhai o’r materion a godwyd yn risg 12 a chadarnhaodd y byddai’r risg yn cael ei diweddaru er mwyn rhoi darlun mwy cyflawn.

 

Soniodd un Aelod am anawsterau canfod contractwyr, fel y soniwyd yn adroddiad Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, a’r ffaith nad oedd y mater hwn yn cyd-fynd ag unrhyw un o’r risgiau ond credai ei fod yn risg gorfforaethol. Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod hyn yn risg wirioneddol ond nad oedd wedi dod i’r amlwg tan yn ddiweddar. Llwyddwyd i reoli trafferthion blaenorol ac felly byddwn am y tro yn cadw llygad ar y mater.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi ystyried diweddariad yr Asesiad Risg Corfforaethol 2021-22 (Atodiad 1) gan gytuno i dderbyn adroddiad pellach ym mis Ionawr 2022 fel rhan o adolygiad yr Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23 a’r Polisi Rheoli Risg Corfforaethol.

 

 

Dogfennau ategol: