Agenda item

Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl - Adroddiad Cynnydd a Datganiad Sefyllfa

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gyda’r manylion diweddaraf am y camau a gymerwyd i wella’r gwasanaeth Grant Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) a rhoi gwybodaeth am y sefyllfa ar hyn o bryd.

 

Esboniodd fod nifer o adroddiadau wedi cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor dros y 3 blynedd diwethaf yn tynnu sylw at yr heriau a’r diffygion o ran darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Cynhaliodd y Cydwasanaethau Archwilio Mewnol Rhanbarthol archwiliad hefyd a derbyniwyd eu hadroddiad ym mis Gorffennaf 2020 gydag argymhellion. Roedd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p – Tai ac Adfywio Cymunedol fod y Cyngor, ar 1 Ebrill 2021, wedi rhoi’r gorau i’r model cyflenwi drwy asiantau a’u bod wedi cymryd rheolaeth lawn, o’r dechrau i’r diwedd, o’u Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl. Fodd bynnag, gallai’r defnyddiwr ddewis gwasanaeth allanol o hyd, petai’n dymuno.

 

Ychwanegodd fod Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Addasiadau Tai 2018 wedi gwneud 9 argymhelliad (A1 – A9). Swyddfa Archwilio Cymru (SAC): Gwnaeth Persbectif Defnyddwyr Gwasanaeth Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl 2018 10 argymhelliad (P1 – P10) a gwnaeth y Cydwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol 2019/20 7 argymhelliad (SS1 – SS7). Roedd nifer o’r argymhellion yn debyg a chawsant eu grwpio yn adran 4 yr adroddiad, a’r canfyddiadau llawn wedi’u rhestru yn atodiadau 1-3 yr adroddiad.

 

Soniodd un Aelod fod un o’i etholwyr wedi colli aelod o’i chorff ac yn teithio mewn cadair anfecanyddol. Nid oes llawer o balmentydd gydag ymyl isel yn ei hardal ac mae hynny’n golygu nad yw’n gallu teithio i rai mannau penodol. Gofynnodd yr Aelod a ellid ystyried sicrhau bod y gwasanaeth GCA yn gweithio mewn partneriaeth â’r adran briffyrdd gan nad oedd y mater hwn, yn ogystal â llawer o faterion eraill, wedi’i gyfyngu i un maes gwasanaeth. 

 

Nid oedd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth yn ymwybodol o’r achos penodol hwn ond byddai’n ystyried y mater ar ôl y cyfarfod ac yn cysylltu â’r Aelod. Ychwanegodd fod y gwasanaeth GCA wedi gwella’n sylweddol ers i’r Cyngor ddod yn gyfrifol amdano a bod modd cydweithio gyda gwasanaethau mewnol eraill i sicrhau bod gofynion trigolion lleol yn cael eu bodloni.

 

Tynnodd un Aelod sylw at bwynt a wnaed yn yr adroddiad ynghylch prinder contractwyr oherwydd bod llawer o ddatblygiadau tai yn yr ardal. Holodd a oedd Rheolwr y Gr?p – Tai ac Adfywio Cymunedol wedi cael cyfle i gyflwyno hyn gan ein bod wrthi’n datblygu sylfeini Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) y 10 mlynedd nesaf ar hyn o bryd. Nid oedd Rheolwr y Gr?p – Tai ac Adfywio Cymunedol yn si?r a oedd y materion hyn yn rhan o’r CDLl ond byddai’n holi’r adran gynllunio yngl?n â’r peth. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth fod gwaith datblygu’r fframwaith yno hefyd er mwyn sicrhau cysylltiadau gwaith da ac ymrwymiad yr adeiladwyr a chontractwyr i wneud y gwaith angenrheidiol.

 

Gofynnodd un Aelod a oedd unrhyw gostau i’r awdurdod am weithredu’r cynllun hwn.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth fod y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno’n fewnol ac felly mae modd llogi’n fewnol, sy’n fanteisiol i’r awdurdod o ran costau ac yn dal gafael ar brofiad hefyd.

 

Credai un Aelod fod angen gwneud mwy i sicrhau bod cartrefi’n addas cyn i bobl symud iddynt. Esboniodd fod llawer o’r Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn esblygu o amgylch yr unigolyn ond y gallai gymryd misoedd i’w gweithredu a chredai y dylid adeiladu tai sy’n fwy addas. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth fod hyn yn fwy perthnasol i adeiladau newydd ond dywedodd fod pwysau’n cael ei roi ar Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac adeiladu cartrefi addas o safbwynt rampiau, mynediad at fannau gwefru ac ystafelloedd ymolchi addas i’r diben. Ychwanegodd Rheolwr y Gr?p – Tai ac Adfywio Cymunedol bod modd i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wneud cais am Grantiau Addasiadau Ffisegol er mwyn gwneud addasiadau. Mae hyn ar wahân i’r Awdurdod Lleol; fe’i darperir gan Lywodraeth Cymru.

 

Soniodd un Aelod am waith sydd angen ei wneud y tu allan i eiddo hefyd, megis trwsio tyllau a phalmentydd wedi torri, gan fod hyn yn effeithio ar breswylwyr sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd.

 

Holodd y Cadeirydd sut yr oedd Gwybodaeth Rheoli (GRh) yn cael ei gynnwys yn y mater hwn, gan ei bod yn bwysig deall sut mae’r awdurdod yn cyrraedd ei dargedau a’i amserlenni i sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithiol. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth ei fod yn wasanaeth mewnol newydd ac nad oedd y wybodaeth hon yn derfynol eto, yn enwedig gan fod y pandemig wedi achosi llawer o broblemau o ran cyflawni’r gwasanaeth. Ychwanegodd fod y diwrnodau dosbarthu presennol oddeutu 307; cyn hynny 330 diwrnod ar gyfartaledd. Y rhif targed cyn y pandemig oedd 240 diwrnod - gwelliant bach iawn efallai, ond gwelliant serch hynny o ystyried effaith y pandemig.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i adroddiad diweddaru arall gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor tua mis Mehefin 2022 i weld sut yr oedd y gwasanaeth GCA yn cael ei ymgorffori, gan y byddai’n flwyddyn ers i’r gwasanaeth gael ei gyflwyno’n fewnol.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi rhoi sylw i ddatblygiadau diweddaraf gwella’r gwasanaeth Grant Cyfleusterau i’r Anabl.

 

 

Dogfennau ategol: