Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Mae’r mis diwethaf wedi bod yn gymharol dawel, ond rwy’n si?r nad felly y bydd pethau yn ystod yr wythnosau nesaf yn arwain at y Nadolig. Peidiwch anghofio mai’r wythnos hon yw eich cyfle olaf i sicrhau tocyn ar gyfer y noson Codi Arian i Elusennau sy’n digwydd ar nos Sadwrn 27 Tachwedd yng Ngwesty Heronston gyda bwffe, hypnotydd llwyfan comedi a cherddoriaeth gan Lee Jukes o Bridge FM ac mae croeso i bawb.

 

Ymhellach, mae raffl Nadolig fawreddog yn cael ei chynnal gyda gwobr gyntaf o £200 mewn arian parod ac o gwmpas 20 gwobr arall a’r rhifau’n cael eu tynnu ar ddydd Mercher 15 Rhagfyr 2021 yn dilyn cyfarfod nesaf y Cyngor. Os hoffech brynu tocyn am £2.00 yr un, anfonwch neges er mwyn gallu gwneud trefniadau i sicrhau eich tocynnau. Mae holl elw’r digwyddiadau yma’n mynd at Lads & Dads a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont.

 

Yn ystod y mis diwethaf, cefais y pleser o dderbyn gwahoddiad i agoriad Academi STEAM Coleg Pen-y-bont ar gampws Pencoed. Ystyr hyn yw gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg ac roedd gweld yr adnoddau yma’n cael eu cynnig i fyfyrwyr o fewn yr adrannau yma’n arbennig a llongyfarchiadau i Goleg Pen-y-bont am ddod â’r fath adnodd ardderchog i’r fwrdeistref sirol.

 

Ar ddiwedd mis Hydref, agorais Ffair Lyfrau Clwb Llewod Pen-y-bont yng Nghanolfan Gymunedol Westward a phrynu llwyth sylweddol o lyfrau. Mae’r Llewod wedi codi dros £180,000 ers i hyn ddechrau yn 1995 ac roedd hi’n braf clywed am y bartneriaeth y maent bellach wedi’i ffurfio gyda phwyllgor rheoli gwirfoddol Canolfan Gymunedol Westward gyda chymorth abl y Cynghorydd David White.

 

Yn dilyn hyn, cefais wahoddiad i agoriad y gwasanaeth milfeddygol symudol cyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, am wn i, yn Abercynffig. Sefydlwyd Mobivet mewn hen siop ddodrefn sydd wedi’i thrawsnewid i fod yn syrjeri filfeddygol gydag offer cystal ag unrhyw ysbyty. Mae hwn yn wasanaeth sydd i’w groesawu’n fawr iawn, ac ar gael 24 /7 ar gyfer galwadau cartref ac a fydd yn bendant o ddefnydd i bobl sy’n ei chael hi’n anodd teithio at y milfeddyg neu sy’n dymuno i’w hanifail anwes gael ei drin yn hwylus yn y cartref. 

 

Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn i’n falch o dderbyn gwahoddiad i berfformiad awyr agored gan Ysgol Gyfun Brynteg yng nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yng nghwmni’r Cynghorydd Dhanisha Patel. Perfformiwyd eu fersiwn fer nhw eu hunain o Hansel & Gretel ac roedd hi’n braf gweld y gr?p blwyddyn gyfan yno hefyd yn canu yn ystod y perfformiad gyda thyrfa sylweddol o bobl yn gwylio hefyd. Byddai’n braf gweld mwy o ddigwyddiadau o’r fath yng nghanol y dref.

 

Yn ystod yr wythnos, ymwelais â Choed Tremains gyda’r Arweinydd a’r Cynghorydd Stuart Baldwin i longyfarch Ceidwaid Coed Tremains ar sicrhau gwobr y Faner Werdd am eu gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn diogelu a gwella’r goedwig hynafol hon sydd â choed yn hy?n na 400 mlwydd oed a hynny yng nghanol Bracla.

 

Ar Sul y Cofio cefais y fraint a’r anrhydedd o gael mynychu’r orymdaith yng nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a gosod torch ar ran pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd y tywydd yn braf ac ymysg y llu o gyn-filwyr a phobl yn y gwasanaethau a oedd yn gorymdeithio, roedd gr?p bychan o bobl yno’n gwisgo’u hetiau oren. Cynrychiolaeth o’r Lads & Dads, a ffurfiwyd ychydig dros 2 flynedd yn ôl, oedd y rhain. Gosodwyd torchau pabi mewn gwasanaethau ledled y Fwrdeistref Sirol gan gyd-gynghorwyr, felly diolch o galon i bawb a gymerodd ran ar y diwrnod. 

 

Yn olaf, mae enwebiadau nawr ar agor ar gyfer y Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer ac mae ffurflenni cais er mwyn gallu enwebu unrhyw un o fewn y gymuned ar gael ar wefan CBSP.

 

Nawr, dyma gyhoeddi rhai newidiadau i gyfarfodydd Pwyllgor: 

 

Bydd newid i’r dyddiadau canlynol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn unol ag amseriad setliad cyllideb Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. Cytunwyd y canlynol gyda Chadeiryddion y Pwyllgorau perthnasol:

 

SOSC 1 – newid o 8 Rhagfyr i 20 Ionawr am 9.30 y bore;

SOSC 2 – newid o 13 Rhagfyr i 21 Ionawr am 9.30 y bore;

SOSC 3 – newid o 16 Rhagfyr i 24 Ionawr am 9.30 y bore;

 

Bydd rhaid canslo cyfarfod y SOSC 1 ar 17 Ionawr er mwyn gwneud lle i’r uchod a phwysau gwaith ehangach o fewn y tîm Gwasanaethau Democrataidd. 

 

Bydd angen trefnu cyfarfodydd pellach o’r canlynol, eto yn unol â’r Datganiad Ariannol Tymor Canolig (MTFS):

 

COSC 19 Ionawr am 9.30 y bore

COSC 1 Chwefror am 9.30 y bore (i dderbyn Argymhellion ar Gynigion y Gyllideb / Datganiad Ariannol Tymor Canolig o Graffu a BREP).

 

Bydd aildrefnu dyddiadau’r cyfarfodydd uchod yn golygu y bydd angen symud y canlynol:

 

Pwyllgor Datblygu Rheolaeth dyddiedig 20 Ionawr i 27 Ionawr 2022

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio dyddiedig 27 Ionawr i 28 Ionawr 2022.

 

Mae Cadeiryddion y Pwyllgorau yma hefyd wedi cytuno i aildrefnu’r cyfarfodydd yma.

 

Awgrymwyd newid yn aelodaeth y Pwyllgor Llywdraethiant ac Archwilio, gyda’r Gynghrair Annibynnol yn dymuno tynnu’r Cynghorydd Elaine Venables i ffwrdd a chael y Cynghorydd Mike Clarke yn ei lle. Nid yw hyn yn effeithio ar y cydbwysedd gwleidyddol yn y Pwyllgor hwn nac unrhyw un o bwyllgorau eraill y Cyngor.

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Mae cynlluniau ar gyfer safle cyflogaeth strategol ym Mrocastell wedi symud ymlaen yn dilyn cwblhau gwaith sylweddol ar yr isadeiledd.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £10 miliwn i’r safle 116-erw, sydd â hawl cynllunio amlinell ar gyfer gofod llawr 770,000 troedfedd sgwâr.

 

Mae’r ffyrdd a’r gwasanaethau allweddol bellach yn eu lle ac yn gallu gwasanaethu hyd at naw plot ar gyfer datblygu busnesau modern i helpu tyfiant economaidd a chreu swyddi.

 

Bwriedir llwybr teithio gweithredol ar gyfer y gwanwyn, eto wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae ymholiadau eisoes wedi’u derbyn oddi wrth amrywiol ddatblygwyr eiddo a pherchnogion preswyl.

 

Dyma newyddion ardderchog ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, a hyderaf y bydd hyn yn arwain at greu llawer o swyddi newydd.

 

Aelod Cabinet – Cymunedau

 

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y gweill yngly?n â beth allai fod un un o’r prosiectau isadeiledd priffyrdd unigol mwyaf i’w gyflwyno ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Rhwng nawr a Dydd Sul 30 Ionawr y flwyddyn nesaf, rydym yn gofyn am farn pobl am y cynlluniau £17m uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r problemau traffig ym Mhencoed.

 

Bwriad y cynigion yma yw lleddfu’r problemau gyda thagfeydd, cynyddu diogelwch a chyflwyno gwelliannau newydd i drigolion a busnesau fel ei gilydd drwy wahanu’r heol oddi wrth y rheilffordd.

 

O’u caniatáu, bydd y cynlluniau’n galluogi cau croesfan reilffordd wastad Pencoed yn y pen draw, drwy ailadeiladu pont ffordd Penprysg er mwyn creu lle ar gyfer traffig dwyffordd, a chreu pont deithio ddiogel, weithredol, newydd sbon dros y rheilffordd ar gyfer cerddwyr a beicwyr. 

 

Bydd hyn wedyn yn galluogi’r posibilrwydd ar gyfer datblygu tir i’r gorllewin o’r groesfan wastad gyfredol yn ogystal â galluogi buddsoddiad newydd a chyflwyno adnoddau.

 

Rydym yn cynnal nifer o sesiynau galw-i-mewn lle gall aelodau’r cyhoedd ddysgu a holi mwy o gwestiynau, ac mae’r holiadur ymgynghori ar gael mewn sawl ffurf wahanol.

 

Ceir manylion llawn am y cynigion cyffrous yma ar wefan y cyngor.

 

Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ddiogelu Genedlaethol 2021, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymuno â sefydliadau eraill ledled Cymru fel rhan o’r ymgyrch genedlaethol.

 

O dan y thema ‘Diogelu ein Cymunedau’, cynhelir nifer o sesiynau rhithiol yn amrywio o sesiynau hyfforddi ar gyfer pobl broffesiynol, dadleuon cyngor ieuenctid, gweithdai ar gyfer y cyhoedd, digwyddiadau codi ymwybyddiaeth a llawer mwy.

 

Bydd bob sesiwn yn trafod amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar blant, pobl ifanc ac oedolion yn cynnwys trais yn y cartref, iechyd meddwl, atal hunanladdiad, trais rhywiol ac ecsbloetio plant.

 

Mae ein cymunedau wedi wynebu nifer o anawsterau yn ystod y pandemig Covid-19, ac rydym yn annog trigolion i fanteisio ar y digwyddiadau rhithiol yma er mwyn dysgu mwy am y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael.

 

Ceir manylion llawn ar wefan Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg.

 

Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant

 

Hoffwn gyfeirio’n fras at ddau beth. Yn gyntaf, dylai aelodau yn ymwybodol fod cryn alw o hyd am ein gwasanaeth opsiynau tai o ganlyniad i’r pandemig Covid.

 

Yn ymarferol, mae hyn wedi arwain at nifer sylweddol uwch o geisiadau i’r gwasanaeth yn dod i law, gan arwain at effeithio ar yr amserlen ar gyfer prosesu’r ceisiadau a dod i benderfyniad amdanynt. 

 

Er mwyn rhoi syniad ar y galw cyfredol, mae’r gwasanaeth yn derbyn tua 350 o geisiadau bob mis ar hyn o bryd.

 

Ymhellach, mae tua 40 cais ychwanegol ar gyfer y digartref, sy’n galw am adnoddau dwys, oherwydd eu natur gymhleth. 

 

Er bod yr adran yn gwneud popeth o fewn ei gallu i reoli’r galw, mae’r cynnydd yn golygu bod y sefyllfa’n effeithio ar bethau eraill, ac rydym yn gwneud pob ymdrech i gefnogi’r gwasanaeth a rheoli disgwyliadau mewn modd effeithlon a gwir.

 

Ar nodyn mwy cadarnhaol, hoffwn longyfarch y Gwasanaeth Rheoleiddio a Rennir am ennill gwobrau Aur, Arian ac Efydd ym menter PawPrints 2021 yr RSPCA.

 

Cynlluniwyd y fenter i gydnabod llwyddiannau’r gwasanaethau c?n strae, cynllunio wrth gefn, polisi tai, gweithgareddau trwyddedu anifeiliaid a lles c?n mewn cenel, a chafodd y SRS eu cydnabod mewn tri chategori gwahanol – C?n Strae, Gweithgareddau Trwyddedu Anifeiliaid a Ch?n mewn Cenel.

 

Efallai y byddwch yn cofio bod y gwasanaeth hefyd wedi ennill gwobrau aur, arian ac efydd yn 2019, felly mae ailadrodd y gamp honno er gwaethaf heriau’r pandemig coronafeirws yn ystod y 18 mis diwethaf yn rhywbeth y dylent ymfalchïo’n fawr ynddo.

 

Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio

 

Cafwyd nifer o lwyddiannau o fewn ysgolion lleol yn ddiweddar yr hoffwn eu rhannu ag aelodau.

 

Ysgol Gynradd Pencoed yw’r drydedd ysgol yn Ne Cymru i dderbyn statws Ysgol Gyfeirio gan gwmni technoleg ar-lein.

 

Mae’r wobr, a gyflwynir i ysgolion a cholegau yn ogystal â rhanbarthau penodol, yn cydnabod y defnydd arbennig o dechnoleg addysg o fewn y dosbarth.

 

Ysgol Gynradd Afon-y-Felin wedyn yw’r ysgol gyntaf yn rhanbarth Cwm Taf i ennill Gwobr Aur Campws Cymraeg am eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg. Bydd yr Arweinydd a minnau’n ymweld â’r ysgol cyn hir i longyfarch yr athrawon a’r plant yn bersonol.

 

Mae llwyddiant yr ysgol yn mynd i fod yn destun eitem ar deledu cenedlaethol wedi i S4C dreulio’r prynhawn yn ffilmio gyda staff a disgyblion ar gyfer y rhaglen gylchgrawn nosweithiol, Heno.

 

Ym Maesteg, mae Ysgol Gynradd Plasnewydd wedi dod allan o fesurau arbennig wedi i arolygwyr Estyn gadarnhau bod yr ysgol wedi gwneud gwelliannau sylweddol ers adnabod materion yr oedd angen eu gwella yn 2018. 

 

Yn dilyn cefnogaeth ddwys gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chonsortiwm y De Canolog, mae Estyn wedi cadarnhau bod sylfaen eang bellach ar waith y gall yr ysgol seilio gwelliannau pellach arno. Bydd newyddion tebyg yn dilyn yn achos un o’n hysgolion eraill cyn hir. 

 

Yn olaf, mae Melanie Treadwell, athrawes Ysgol Gynradd Coychurch wedi cymryd rhan mewn digwyddiad a drefnwyd gan y Swyddfa Addysg Hinsawdd cyn cynhadledd COP26.

 

Roedd Melanie’n un o dri athro o’r DU a ddewiswyd i wneud cyflwyniad yn ymwneud ag arwain y ffordd ym maes Addysg Hinsawdd, a’r unig athrawes ysgol gynradd i wneud hynny. O ganlyniad, ymwelodd ITV Wales ag Ysgol Gynradd Coychurch yn ddiweddar i ffilmio ychydig o’r gwaith CCD sy’n digwydd yno. 

 

Hyderaf y bydd yr aelodau’n barod i ymuno â mi wrth longyfarch bob un o’r uchod.

 

Y Prif Weithredwr

 

Efallai fod aelodau wedi gweld fod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i dewis fel un o bedair ardal yng Nghymru lle mae ffyrdd newydd, hyblyg o bleidleisio’n mynd i gael eu peilota. Torfaen, Caerffili a Blaenau Gwent yw’r lleill.

 

Llywodraeth Cymru sy’n trefnu’r treialon a byddant yn digwydd yr un pryd ag etholiadau llywodraeth leol sydd wedi’u bwriadu ar gyfer mis Mai’r flwyddyn nesaf.

 

Fe’u cynlluniwyd i ganfod ffyrdd o’i gwneud yn haws ac yn fwy hwylus i bobl bleidleisio a byddant yn profi ffyrdd gwahanol o alluogi trigolion i fwrw pleidlais.

 

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cytuno ar fanylion pellach yngly?n â beth y gallwn ddisgwyl gweld, felly dyma rannu rhai o’r syniadau gyda chi nawr.

 

Bydd dau gynllun peilot yn rhedeg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda’r cyntaf yn canolbwyntio ar Ysgol Gyfun Cynffig.

 

O ddod â’r oed pleidleisio i lawr i 16 y llynedd, caiff gorsaf bleidleisio newydd ei chreu o fewn yr ysgol er mwyn i ddisgyblion cymwys allu bwrw’u pleidlais yn ystod y dyddiau’n arwain i fyny at y prif ddiwrnod pleidleisio.

 

Bydd yr ail gynllun yn canolbwyntio ar wardiau lle cafwyd cyfraddau isel o bobl yn pleidleisio gyda 20 o’r gorsafoedd pleidleisio cyfredol yn agor ar gyfer pleidleisio cynnar yn ystod yr wythnos yn arwain i fyny at yr etholiad.

 

Mae’r manylion i’w cadarnhau, ond mae disgwyl iddynt gael eu lleoli yn Nwyrain Bracla a Coychurch Isaf, Canol Dwyrain Bracla, Gorllewin Bracla, Canol Gorllewin Bracla, Cornelly, Y Pîl, Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr, St Brides Isaf ac Ynysawdre.

 

Ar yr un pryd, cynhelir ymgyrch hyrwyddo dan arweiniad LlC gyda’r bwriad o gynyddu nifer y bleidlais drwy ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymgyrchu pellach.

 

Caiff holl ganfyddiadau a’r dystiolaeth a gesglir yn sgil y cynlluniau peilot eu dadansoddi gan Lywodraeth Cymru ac yn y pen draw, byddant yn dylanwadu ar y modd y caiff etholiadau eu cynnal ledled Cymru yn y dyfodol.

 

Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd llawn i ystyr hyn i bleidleiswyr cymwys a sut y gallant gymryd rhan a chaiff manylion pellach eu darparu wrth i ni ddod yn agosach at yr etholiad.