Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Ymysg rhai o’r cynigion sy’n rhan o ymgynghoriad ‘dylunio da’ Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mae parcio aml-lawr modern yn Hillsboro Place, gwesty moethus ar lan y d?r, tirlunio a phedestreiddio ar hyd Promenâd y Dwyrain, gwell trafnidiaeth gyhoeddus, ymestyn Stryd y Dociau a safleoedd cymunedol newydd.

 

Wedi’i drefnu yn unol â Siarter Dylunio CCD Cymru, mae’r ymgynghoriad yn gwahodd busnesau a thrigolion ym Mhorthcawl i fynegi barn am y cynigion naill ai ar-lein, neu drwy ymweld â sesiynau galw-i-mewn lle gallant weld byrddau arddangos a sgwrsio â swyddogion adfywio. 

 

Bydd y sesiynau galw-i-mewn yn digwydd yn y Pafiliwn Mawr rhwng 9 y bore a 5 y prynhawn, Ddydd Mercher 24 Tachwedd, a 9 y bore tan 8 yr hwyr, Ddydd Iau 25 Tachwedd.

 

Yn dilyn hyn, caiff y byrddau arddangos eu gosod ar hysbysfyrddau yn Cosy Corner am dair wythnos, a bydd gwefan y Cyngor yn cynnwys manylion pellach ac arolwg byr i alluogi pobl i gynnig adborth pellach. 

 

Rydym yn dal yn uchelgeisiol iawn o safbwynt y cynlluniau yma, ac rydym eisiau iddynt ddarparu adfywiad realistig, cynaliadwy ym Mhorthcawl.

 

Hyderaf y bydd Aelodau’n helpu i hyrwyddo’r ymgynghoriad pwysig hwn a hefyd yn annog pobl i gymryd rhan a dweud eu dweud.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau pa brosiectau sydd wedi’u cymeradwyo er mwyn derbyn nawdd gan Gronfa Adfywiad Cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dyma raglfaenydd y Gronfa Cyfoeth ar y Cyd, a fydd yn cael ei lansio’r flwyddyn nesaf yn lle grant nawdd strwythurol y Gymuned Ewropeaidd.

 

Clustnodwyd cyfanswm o £46m ar gyfer prosiectau ledled Cymru, a bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn £785,000 o hwn.

 

Bydd £213,000 yn mynd i Fenter Pen-y-bont ar Ogwr, menter sy’n helpu pobl sydd wedi bod ar ffyrlo neu sydd wedi bod yn economaidd anactif i ganfod swyddi newydd.

 

Clustnodir £200,000 ar gyfer The Life You Want, sy’n cefnogi pobl sydd eisiau datblygu a gwella’u sgiliau neu ymgymryd â hyfforddiant newydd er mwyn sicrhau swydd newydd a gwella eu bywydau.

 

Bydd Young Minds for Tomorrow yn derbyn £86,800 er mwyn annog mwy o ddisgyblion i ystyried gyrfaoedd ym maes gweithgynhyrchu a pheirianwaith, tra bod Elevate and Prosper Pen-y-bont yn elwa o £125,000 i gefnogi dechrau busnesau newydd.

 

Bwriad rhaglen yr Incubator for Ambitious Entrepreneurs yw helpu entrepreneriaid benywaidd i ddatblygu rhwydweithiau busnes cadarn a bydd yn derbyn £92,700.

 

Clustnodwyd £56,700 pellach ar gyfer Connecting Teachers with Industry, sy’n galluogi athrawon i annog disgyblion sy’n awyddus i ddilyn gyrfaoedd o fewn y sectorau creadigol, digidol, yr amgylchfyd a deunyddiau pellach a gweithgynhyrchu.

 

Bydd Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn elwa o gais pellach a gyflwynwyd gan Gyngor Torfaen ar ran y 10 awdurdod lleol sy’n cydweithio drwy Ranbarth Cyfalaf Caerdydd – prosiect Cysylltu, Ymwneud, Gwrando a Thrawsffurfio, a gynlluniwyd i ychwanegu gwerth i raglen Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr gyfredol y cyngor.

 

Dyma brosiectau gwerth chweil bob un a fydd yn cael effaith cadarnhaol ar fywydau pobl leol ac rwy’n croesawu buddsoddiad gan Lywodraeth y DU ar eu cyfer.

 

Fodd bynnag, mae’n fater gofid sylweddol o hyd nad Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i chynnwys ymysg y 100 o fannau blaenoriaeth ar gyfer cefnogaeth gan y Gronfa Cyfoeth ar y Cyd arfaethedig. 

 

Cawsom ein cydnabod fel rhywle sydd â’r cymunedau tlotaf yng Nghymru, ac rwy’n cael fy hun, unwaith eto, yn gal war Lywodraeth y DU i ailystyried eu penderfyniad.