Agenda item

I dderbyn y Cwestiynau canlynol oddi wrth:

Cynghorydd Tim Thomas i’r Dirprwy Arweinydd

A all y Dirprwy Arweinydd amlinellu'r dyraniad a'r defnydd o ran Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai (DHP) ar gyfer y flwyddyn ariannol hon?

 

Cynghorydd Ross Penhale Thomas i’r Aelod Cabinet drosLesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Pa asesiad mae Aelod y Cabinet wedi'i wneud o argaeledd tai fforddiadwy o ansawdd da ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr?

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Tim Thomas i’r Dirprwy Arweinydd

 

All y Dirprwy Arweinydd amlinellu dyraniad a defnydd y Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD) ar gyfer y flwyddyn ariannol hon?

Ymateb

 

Beth yw Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn?

Caiff Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (DHP) eu talu o gyllideb gyfyngedig arian parod gyda’r bwriad o helpu pobl i dalu costau tai, fel arfer lle mae diffyg rhwng eu Budd-dal Tai (BT), neu elfen dai o Gredyd Cynhwysol (CC), a'u rhent. Dim ond os yw'r hawlydd yn hawlio HB, neu CC sydd â chostau tai tuag at atebolrwydd rhent y gellir dyfarnu. Gellir dod o hyd i’r ddeddfwriaeth wreiddiol yn ymwneud â TTD yn Rheoliadau Cymorth Ariannol yn ôl Disgresiwn 2001 (S1 001/1167).

 

Nid yw ‘costau tai’ yn cael eu diffinio yn y rheoliadau ac mae’r dull hwn yn bwrpasol ganiatáu disgresiwn eang ar gyfer dehongli. Yn gyffredinol, mae ‘costau tai’ fel arfer yn cyfeirio at atebolrwydd rhent, er y gellir defnyddio’r term yn fwy eang i gynnwys:

 

           rhent ymlaen llaw

           blaendaliadau rhent

           costau cyfandaliadau eraill sy’n gysylltiedig ag anghenion tai, megis  costau symud

 

Prosesu Cais TTD

 

Wrth brosesu cais ar gyfer TTD, ystyrir:

 

cyfanswm yr incwm wythnosol neu fisol ar gyfer yr aelwyd

tynnu

costau byw rhesymol wythnosol neu fisol

sy’n penderfynu

y diffyg mewn incwm ar gyfer ystyried cyfraniad TTD

 

Ni allu gwerth parhaus taliad TTD fod yn fwy na gwerth elfen costau tai CC ar gyfer y rhai sy’n derbyn BT, y rhent cytundebol heb daliadau gwasanaeth anghymwys (gweler paragraff 5.1 isod) e.e. os mai’r rhent cytundebol yw  £400 y mis, a’r £344 yw’r BT, felly uchafswm y TTD fyddai £56 y mis.

 

Pa fath o ddiffygion all TTD wneud iawn amdanynt?

 

Ymysg y diffygion all BT a CC TTD wneud iawn amdanynt (ond nid yn gyfyngedig felly) y mae:

 

           diffygion rhent er mwyn rhwystro digartrefedd tra bod yr awdurdod tai yn ystyried opsiynau gwahanol

           diffygion lle mae’r cap budd-daliadau’n weithredol (mae’r cap budd-daliadau’n cyfyngu ar yr incwm budd-dal allan-o-waith i isafswm o £20,000 ar gyfer cyplau a rhieni sengl, a £13,400 ar gyfer oedolion sengl)

           diffygion yn sgil tynnu cymhorthdal ystafell sbâr (y cyfeirir ato fel y cap ystafell wely) neu o ganlyniad i gyfyngiadau budd-dal tai

           didyniadau an-ddibynnol mewn BT neu gyfraniadau costau tai o safbwynt CC gan nad ydynt yn ddibynnol

           Cyfyngiadau deddfwriaethol technegol eraill: 

 

o           cyfyngiadau swyddog rhent megis rhent cyfeirnod lleol neu gyfradd llety ar y cyd

o          cyfyngiad 2 blentyn budd-dal y llywodraeth

o          lleihad tapr incwm

o          diddymu premiwm y teulu

 

           unrhyw newidiadau polisi eraill sy’n cyfyngu swm taladwy BT neu CC

 

Gellir dyfarnu TTD ar gyfer blaendal rhent neu rent ymlaen llaw ar gyfer eiddo nad yw'r un sy’n hawlio wedi symud iddo eto os oes ganddo eisoes hawl ar BT neu CC yn eu cartref presennol, a hefyd taliadau ar gyfer costau tai yn y gorffennol (gan gynnwys ôl-ddyledion rhent). Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am feini prawf ac ystyriaethau yn Llawlyfr Canllawiau Taliadau Dewisol yr Adran Gwaith a Phensiynau

 (https://www.gov.uk/government/publications/discretionary-housing-payments-guidance-manual).

 

AGPHh ac arian TTD ar gyfer 2021-2022

 

Darperir y cyllid cyfyngedig o arian gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) ac ers 2011-12, mae cyllid ychwanegol ar gael i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu cefnogaeth drosiannol i hawlwyr wrth iddynt addasu i Ddiwygiadau Lles BT.

 

Cyfanswm y gronfa TTD ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2021-22 yw £140 miliwn. Clustnododd yr AGPh £100m ar ddechrau’r flwyddyn gyda £269,861 yn cael ei glustnodi’n wreiddiol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ar ddiwedd mis Medi, dyrannodd yr AGPh y cyllid neilltuedig o £40 miliwn – ar y pwynt hwn, dyrannwyd £94,596 arall i Ben-y-bont gan ddod â chyfanswm dyraniad yr AGPh ar gyfer Pen-y-bont i £364,457.

 

Mae rheoliadau cyllido'r DHP yn darparu terfyn uchaf cyffredinol ar gyfer gwariant TTD i 2.5 x dyraniad yr AGPh; byddai'n rhaid i'r gwariant ychwanegol dros ddyraniad yr AGPh gael ei ariannu gan yr awdurdod lleol. Yn achos Pen-y-bont ar Ogwr, y terfyn uchaf ar gyfer 2021-22 yw £911,143. Ni chaiff unrhyw ddyraniad TTD nas defnyddiwyd ei hawlio gan yr AGPh, na'i ddychwelyd iddo (h.y. ni all yr awdurdod lleol gadw unrhyw arian sydd heb ei wario).

 

Gwariant DHP ar 12 Tachwedd 2021:

 

Blwyddyn - 2021

Cyfanswm Cronfa AGPh - £364,457

Net a Dalwyd hyd yn hyn - £234,878

Clustnodwyd*         -  £43,025

Heb glustnodi         -  £86,554

 

*Mae cyllid sydd wedi’i glustnodi’n cynnwys dyfarniadau cyfandaliad i'w talu ar unwaith, a dyfarniadau parhaus yn y dyfodol i'w talu yn unol â chylch rhentu'r un sy’n hawlio.

 

Nifer y penderfyniadau TTD a wnaed i'r 12 uned 2021 yw 481, gan arwain at 354 o ddyfarniadau. Mae 140 o'r rhain wedi bod yn daliadau cyfandaliad (costau symud / rhent ymlaen llaw / adneuon / ôl-ddyledion), ac mae 214 ar gyfer dyfarniadau parhaus.

 

Cyllid TTD Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022

 

Ym mis Mawrth 2021, gwnaeth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ddatganiad yn cyhoeddi cyllid pellach o £4.1m yn ychwanegol at y gronfa TTD er mwyn helpu awdurdodau lleol i gefnogi tenantiaid oedd ar ôl â’u rhent (https://gov.wales/written-statement-extension-tenancy-saver-loan-scheme-and-additional-funding-discretionary-housing). Darparwyd y cyllid ledled Cymru fel arf atal digartrefedd i fynd i’r afael â diffyg mewn rhent yng nghyd-destun y pandemig.

 

Y dyraniad ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod 2021-22 yw £165,988, a fydd yn cael ei ddefnyddio unwaith y bydd y dyraniad ADG wedi’i wario’n llawn (mae’r swm ychwanegol yma’n disgyn o fewn yr uchafswm). Bydd unrhyw wariant dros ddyraniad yr AGPh hyd at £165,988 yn cael ei hawlio’n ôl gan LlC; bydd unrhyw wariant dros y swm hwn yn cael ei dalu o gyllidebau presennol CBSP.

 

Yr hyn sydd ddim yn gynwysedig yn y TTD

 

Mae rhai elfennau o rent hawlydd y mae rheoliadau BT a CC yn eu heithrio felly ni ellir eu cynnwys fel ‘costau tai’ at ddibenion TTD. Ymysg yr elfennau sydd wedi’u gwahardd mae:

 

           taliadau gwasanaeth anghymwys, megis gwresogi, goleuo, d?r poeth, neu daliadau ar gyfer cyfraddau d?r, neu ddarparu a chostau nwyddau gwyn

          codiadau mewn rhent yn sgil ôl-ddyledion rhent sy'n ddyledus

          sancsiynau a gostyngiadau penodol mewn budd-dal

          pan fydd taliadau BT yn cael eu hatal

          llai o BT oherwydd ad-daliad.

 

Ymhellach, ni ellir defnyddio TTD i wneud iawn am ddiffygion rhwng atebolrwydd treth y cyngor a dyfarniadau Lleihau Treth Gyngor.

 

Hyd taliadau

 

Nid oes terfyn amser diffiniedig ar gyfer gwneud taliadau TTD. Efallai y bydd dyfarniad â therfyn amser yn briodol pan fydd newid mewn amgylchiadau sydd ar ddod yn arwain at gynnydd mewn budd-dal (e.e. genedigaeth plentyn sy'n arwain at ddyfarniad BT uwch). Efallai y bydd dyfarniad tymor byr hefyd yn briodol er mwyn rhoi amser i hawlydd gael trefn ar ei amgylchiadau ariannol neu dai, yn enwedig os yw'n ceisio dod o hyd i lety arall neu swydd newydd.

 

I’r gwrthwyneb, gall taliad hir dymor fod yn fwy priodol yn achos hawlydd lle mae ei amgylchiadau’n annhebygol o newid a bydd dyfarniad tymor byr yn achosi trallod gormodol iddynt.

 

Cwestiwn ychwanegol gan y Cynghorydd Tim Thomas

 

Yn ddi-os, wrth edrych ar y data perthnasol, bydd TTD yn dod yn fwy a mwy poblogaidd oherwydd rhesymau fel diwedd Ffyrlo a Chredyd Cynhwysol ac oherwydd Diwygio Lles. Gyda hyn mewn golwg, a ydych wedi ystyried dyfeisio Strategaeth Gyfathrebu, er mwyn i rentwyr cyhoeddus a phreifat sy'n ei chael hi'n anodd o safbwynt ariannol, gael eu hysbysu'n llawn bod TTD ar gael ac o'r meini prawf sy'n ofynnol i fod yn gymwys ar gyfer hyn.

 

 

Ymateb

 

Ceisiwn fanteisio’n llawn ar unrhyw gyfle sydd gennym i hyrwyddo'r gwasanaethau ayb y mae’r Cyngor yn eu darparu i’r cyhoedd ac yn achos TTD, rydym yn ymwneud â sefydliadau cynghori am ddim, megis Biwro Cyngor ar Bopeth sydd, yn ei dro, sy’n cynnig cyngor rhad ac am ddim ci breswylwyr sy'n wynebu anawsterau, yn cynnwys problemau ariannol.  Byddaf hefyd yn trefnu bod datganiad i'r wasg ar gael yn ymwneud â TTD a’r buddion sydd ar gael.

 

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Ross-Penhale Thomas i’r Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol 

 

Pa asesiad y mae’r Aelod Cabinet wedi’i wneud o safbwynt argaeledd tai fforddiadwy o ansawdd da o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr?

 

Ymateb

 

Tai Fforddiadwy

 

Dyma fater amlhaenog ag iddo lawer o gydrannau, sy'n cynnwys argaeledd tir, cyfleoedd datblygu a gweithio mewn partneriaeth, a rôl y sector preifat wrth ddarparu llety ar rent, a gall amrywiadau yn y farchnad dai ddylanwadu ar bob un ohonynt.

 

Mae polisïau penodol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLL) gyda chefnogaeth Canllawiau Cynllunio Atodol yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob datblygiad newydd o 5 t? neu fwy gyfrannu at dai fforddiadwy naill ai fel rhan o'r cynllun neu drwy gyfraniad oddi ar y safle. Gall hyn gynnwys darpariaeth uniongyrchol neu gymhorthdal. Mae timau Cynllunio a Thai yn gweithio'n agos ar bob cais datblygu i gytuno ar union gwmpas a natur y cyfraniad a’r modd y caiff ei gymhwyso. Yna gellir sicrhau hyn drwy gytundebau Adran 106.

 

Mae yna lawer o strategaethau a chynlluniau sy'n cefnogi'r asesiad o anghenion tai fforddiadwy – Y Cynllun Datblygu Lleol, Asesiad Marchnad Tai Lleol, Asesiad Sipsiwn a Theithwyr. Ategir y rhain gan y gofrestr ailgartrefu sy'n cofnodi'r galw a'r angen am dai cymdeithasol ledled y Sir sydd yn ei dro’n cefnogi cyflwyno'r rhaglen ddatblygu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) sydd wedi gweld cynnydd yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac am y 2 flynedd nesaf, i £10m Grant Tai Cymdeithasol y flwyddyn. Mae trafodaethau gyda’r LCC a Llywodraeth Cymru’n digwydd yn rheolaidd i gefnogi datblygiad ceisiadau. Gan mai dim ond yn rhannol y mae’r grant yn ariannu bob datblygiad, bydd cyllid preifat ychwanegol yn cael ei ddenu ar gyfer y prosiectau hyn fesul cynllun gan y LCC. Mae ein Strategaeth Ddigartrefedd hefyd yn darparu gwybodaeth am anghenion, ac mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd ar ddiweddaru'r wybodaeth hon trwy Adolygiad Digartrefedd a Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai a fydd yn nodi anghenion tai a chymorth ar gyfer y dyfodol.

 

Ymysg y LCC sy’n gweithio o fewn y Sir mae Wales and West, Hafod, Linc (Cymru) United Welsh, Coastal a V2C, sy’n meddu ar y stoc fwyaf o fewn y Fwrdeistref. Ceir trafodaethau cyson yn ymwneud â chynlluniau i ffurfio rhaglen ddatblygu’r LCC er mwyn cyflenwi’r gofyn am dai ledled y Sir. Rhaid i ddatblygiadau tai cymdeithasol gydymffurfio â chaniatâd cynllunio, canllawiau costau ariannol LlC a safonau ansawdd cyn eu cefnogi ar gyfer derbyn grant. Ni chaiff cyfleoedd eraill eu diystyru o reidrwydd ond mae gofyn iddynt ddilyn y prosesau perthnasol a derbyn caniatâd cyn iddynt gael eu hystyried.

 

Ymhellach, fel rhan o Ymateb Covid-19 y Cyngor Ymateb llwyddwyd i ddenu grant cyllid cyfalaf ychwanegol o £2,508,231 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau digartrefedd ar gyfer cyfuniad o adeiladu newydd, adnewyddu a chaffael eiddo. Pan gynhwysir cyllid preifat, mae'n debygol y bydd cyfanswm y gwariant oddeutu £6,783,689.

 

Ansawdd da

O ystyried ôl-adeiladu, mae'r Gwasanaeth Rheoleiddio ar y Cyd yn gweithio gyda Landlordiaid yn y Sector Rhentu Preifat i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u hymrwymiadau wrth rentu eiddo. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Rhentu Cymru sy'n gweithredu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ar gyfer Landlordiaid, ac fel rhan o'r Landlord ac asiantau Rheoli mae'n ofynnol i gwblhau Hyfforddiant Gorfodol. O fethu cydymffurfio, gallwn ddefnyddio ein Pwerau Gorfodi o dan Ddeddf Tai 2004 i sicrhau gwelliannau i eiddo. Yn ogystal, rydym hefyd yn gweithio gyda pherchnogion Empty Properties ac yn eu cynghori ar fentrau sydd ar gael iddynt ddod â'u heiddo yn ôl i ddefnydd a'u gwneud ar gael i'w rhentu.

 

Cwestiwn ychwanegol oddi wrth y Cynghorydd Ross Penhale-Thomas

 

Gennym ni mae rhai o’r stoc dai hynaf a mwyaf annigonol yn Ewrop ac mae Shelter Cymru, er enghraifft, yn ymwybodol o rai achosion ar hyn o bryd lle mae rhent tenantiaid wedi dyblu dros nos o £700 i £1,400 y mis, gyda chwyddiant yn codi’n gynt na chyflogau. Beth arall y gellir ei wneud fel awdurdod lleol i wella'r sector rhentu preifat sy'n gwasanaethu tenantiaid a landlordiaid ac yn hwyluso'r argyfwng tai, er mwyn sicrhau bod gan denantiaid ddiogelwch o ran llety tymor hir. Mae tenantiaeth tymor hir yn rhoi tawelwch meddwl i'r tenant a'r landlord.

 

Ymateb

 

Rydym yn gweithio ar y cyd â Cartrefi Hafod i hybu cynlluniau rhentu drwy gyfrwng landlord preifat. Rwy’n byw mewn cymuned lle mae landlordiaid llety preifant yn rhentu nifer sylweddol o dai yn ardal Dyffryn Ogwr. Ar sail hynny, mae tystiolaeth nad yw’r awdurdod yn cysylltu’n effeithio â landlordiaid preifat lle mae’r rhain ar gael, sy’n darparu tai rhent mewn ardaloedd fel f’un i, am mai prin iawn yw’r tai eraill sydd ar gael, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd ar incwm isel neu fach iawn. Yn nhermau tai fforddiadwy, rwyf newydd dderbyn llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru sy’n cadarnhau eu bod yn lansio cynllun i helpu gwneud iawn am unrhyw ddiffygion hyfyw. Mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i’r ddarpariaeth o 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Senedd ac o fewn cyfyngiadau’r cynllun, gall awdurdodau lleol wneud cais am hyd at 50% tuag at leihau’r diffygion hyfyw. Rwy’n hapus i drafod y mater hwn ymhellach gyda’r Aelod y tu allan i’r cyfarfod hwn.

 

Ail gwestiwn ychwanegol oddi wrth y Cynghorydd Paul Davies

 

All yr Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant egluro sut fod nifer o dai fforddiadwy newydd wedi’u hadeiladu o fewn y Fwrdeistref Sirol yn ystod oes y weinyddiaeth a chyda grant tai cymdeithasol ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru, faint o gyllid ychwanegol y mae disgwyl i CBSP ei dderbyn.

 

Ymateb

 

O safbwynt yr elfen ariannu, mae LlC wedi cynyddu’r swm o £3m a ddyrannwyd i £10m ers 2019. Rwy'n credu bod hynny'n gynnydd sylweddol ac rwy'n ddiolchgar i LlC am hyn. O safbwynt y dyfodol, mae'n anodd dweud; fodd bynnag, rhagwelir 432 o dai dros y 3 blynedd nesaf. Ond mae hyn yn dibynnu ar ffactorau megis y farchnad ar y pryd ac a oes gan ein LCC yr adnoddau i adeiladu’r nifer amcangyfredig hwn o anheddau o fewn y cyfnod penodedig.