Agenda item

Cyflwyniad gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabl De Cymru a Rhaglen Gyflwyniadau ar gyfer Cyfarfodydd y Cyngor i’r Dyfodol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad uchod, gyda rhan ohono’n cyflwyno cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru oedd yn bresennol.

 

Cyflwynodd y Maer y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Alun Michael a DCC Jenny Gilmer i siarad am waith yr heddlu yng nghyswllt 3 Uned Reoli sylfaenol a 7 Awdurdod Heddlu yn ardal De Cymru. 

 

Dechreuodd ei gyflwyniad drwy egluro pa mor anodd fu’r 18 mis diwethaf i’r Heddlu yn sgil y pandemig Covid-19, sydd hefyd wedi effeithio ar sefydliadau mawr eraill, megis y Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodol lleol megis CBSP. Roedd y sefyllfa’n dal i barhau, ychwanegodd. 

 

Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn, sicrhaodd fod Heddlu De Cymru wedi cadw ffocws clir ar eu blaenoriaethau, gyda chyflawni gwasanaethau a chefnogaeth leol yn dal i fod yn ganolog i’r Cynllun Cyflawni Heddlu a Throsedd, a gyflwynwyd i Gynghorwyr lleol yn flaenorol.

 

Roedd sefydliadau megis y GIG a Gofal Cymdeithasol, yn ogystal â’r heddlu ychwanegodd, wedi simsanu, gyda’r heddlu’n wynebu heriau anferth yn ystod y cyfnod hwn. Cadarnhaodd fod llai o droseddu wedi digwydd yn ystod y clo mawr cyntaf, ond wrth i gymdeithas ailagor, roedd lefelau wedi cynyddu unwaith eto i fod cymaint os nad yn fwy na’r lefelau blaenorol.

 

Byddai’r drafodaeth heddiw, eglurodd, yn edrych ar waith yr heddlu yn y gymuned, rôl PCSO’s, ymateb i alwadau 999 ac 101, lefelau troseddu, trais yn erbyn menywod a diogelwch cymunedol. Roedd yn falch i allu dweud wrth y Cyngor, fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu 100 PCSO ychwanegol ledled Cymru, gyda 41 ohonynt yn gwasanaethu ardal De Cymru. Roedd timau cymunedol hefyd yn cefnogi’r Swyddogion yma, eglurodd Comisiynydd yr Heddlu.

 

Gyda’r cynnydd yn lefelau gwaith ac ar adegau, galw digynsail, roedd yr Heddlu wedi edrych ar ffyrdd y gellid cysylltu â nhw ar wahân i drwy ffonio 999 neu 101. Roeddent felly wedi ychwanegu dulliau cysylltu hefyd drwy e-bost a system gyfathrebu gymdeithasol unigol ar-lein newydd.  

 

Eglurodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd fod galwadau 999 at yr heddlu wedi cyrraedd uchafbwynt ym mis Gorffennaf 2021, h.y. 18,000 ond roedd y nifer bellach wedi disgyn ychydig. Ymatebwyd yn sydyn iawn i 99% o’r galwadau yma. Nid yw’r galwadau i rif 101 yn cael eu hystyried fel rhai brys, fodd bynnag, ymatebodd yr Heddlu i’r rhain cyn gynted â phosibl. O safbwynt yr ystadegau diweddaraf ar gyfer galwadau 101, ymatebwyd i 85% ohonynt cyn gynted â phosibl ar ôl eu derbyn. 

 

Deliwyd â’r mwyafrif o alwadau ffôn gan yr Ystafell Reoli i ddechrau, gyda’r galwadau mwyaf brys yn derbyn ymateb sydyn drwy bresenoldeb yr heddlu’n ymweld â’r person oedd yn galw/eu lleoliad yn bersonol.

 

Yn ôl y disgwyl mae’n debyg, roedd lefelau troseddu wedi disgyn yn ystod y cyfnod pan gafwyd clo llawn, am nad oedd economi gyda’r nos a dim ond allfeydd manwerthu hanfodol oedd ar agor. Ond roedd gweithredoedd troseddol difrifol, megis er enghraifft, lefelau gwerthu cyffuriau yn dal i fod yn uchel. Yn wahanol i gred y mwyafrif hefyd, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, disgynnodd enghreifftiau o drais neu gamdriniaeth yn y cartref yn rhyfedd iawn. Fodd bynnag, roedd y niferoedd yma wedi dechrau cynyddu nawr i’r lefelau arferol ac yn uwch, yn yr un modd â chamdriniaeth plant, yn drist iawn. Yn yr un modd, wrth i’r economi gyda’r nos ailagor, cynyddu wnaeth enghreifftiau o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd i’r un lefel â chynt neu’n uwch na’r cyfnod cyn-Covid.

 

Roedd grwpiau’n cael eu cyflwyno hefyd, megis ‘Drink less, Enjoy more’ a hyfforddiant pellach ar gyfer staff Rheoli Drysau mewn llefydd oedd ar agor yn hwyr er mwyn cadw llygad ar ymwelwyr bregus a allai fod yn darged ar gyfer drwgweithredwyr. 

 

Roedd yr Heddlu’n gweithio ar y cyd â’r diwydiant Lletygarwch a’r Timau Gorfodi Llywodraeth Leol, i sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu hatal a’u rhwystro rhag digwydd.

 

Pwysleisiodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd y ffaith fod galwadau 999 yn rhoi pwysau mawr ar adnoddau’r Heddlu, yn enwedig ar nosweithiau Gwener a Sadwrn. Ychwanegodd na fu’n fwriad erioed i’r gwasanaeth 101 gael ei weithredu’n unig gan yr Heddlu, am iddo gael ei gyflwyno’n wreiddiol fel gwasanaeth ar y cyd gyda sefydliadau allweddol eraill, er enghraifft y Gwasanaeth Tân.

 

Eglurodd pe bai unrhyw Aelod yn dymuno ymweld â’r Ystafell Reoli ym mhencadlys yr Heddlu lle’r oedd y mwyafrif o alwadau’n cael eu derbyn, bod croeso iddynt wneud.

 

Aeth y DCC Gilmer ymlaen drwy gyflwyno ychydig wybodaeth yn ymwneud â thaclo trais yn erbyn menywod a merched drwy:

 

·           Erlid troseddwyr yn weithredol ac os yn briodol, sicrhau eu bod yn cael eu cyhuddo, gan weithiau arwain at ddedfryd o garchar; 

·           Y fenter Safer Spaces – yn cynnwys adrodd yn ddienw i’r Heddlu a chyflwyno amgylchedd economi gyda’r nos fwy diogel (e.e. ymweld â staff mewn sefydliadau a sicrhau eu bod yn ymwybodol o sbeicio diodydd a gweithredoedd troseddol treisiol, ayb);

·           Gwella ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu (yn cynnwys drwy fentrau pwysig megis Black Lives Matter);

·           Tasglu Cymru Gyfan (sy’n bwydo Tasglu’r DU)

 

Aeth ymlaen wedyn i rannu ychydig wybodaeth gyda’r Aelodau am Ddiogelwch Cymunedol – gweithgareddau’r heddlu yn y gymdogaeth, sy’n targedu:

 

  1. Partneriaeth a chyd-berthnasedd
  2. Ail-alinio arweinyddiaeth i gynnig gwell cefnogaeth i’r heddlu yn y gymuned (e.e. drwy ddarparu mwy o PCSO’s)
  3. Ystyried datrys problemau ar y cyd gyda phartneriaid allweddol

 

Eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd mai ef oedd un o’r bobl a gyflwynodd Bartneriaethau Diogelu’r Gymuned, fel rhan o’r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Cyflwynwyd hwn fel modd o gynnig cefnogaeth yn ystod y cyfnod cyni, ar adeg pan oedd sefydliadau cyhoeddus megis yr Heddlu, Tân ac awdurdodau lleol wedi’u gorfodi i wneud toriadau o ran cyllid a staffio.

 

Roedd Bwrdd Cymunedau Diogelach yn bodoli a oedd yn helpu i gydlynu cymunedau diogelach ledled pob un o’r 4 Awdurdod Heddlu yn Ne Cymru, oedd yn edrych i atal troseddu a niwed i bobl, er mwyn hybu diogelwch o fewn y gymuned.

 

Eglurodd fod nifer y PCSO’s wedi lleihau yn ystod y 18 mis diwethaf, gan eu bod wedi’u secondio i helpu gyda gwaith hanfodol arall a oedd wedi cynyddu yn sgil Covid-19. Fodd bynnag, roedd y rhain yn dychwelyd i’w rôl flaenaf, gan eu bod yn cael eu hystyried yn allweddol am fod ganddynt ddealltwriaeth o faterion a phroblemau o fewn y cymunedau lleol yn yr ardaloedd yr oeddent yn eu gwasanaethau ac felly roedd ganddynt fantais o safbwynt ymwybyddiaeth ohonynt a’r camau angenrheidiol i fynd i’r afael â nhw. Roedd gan PCSO’s berthynas allweddol hefyd ag Aelodau lleol yn yr ardaloedd yr oeddent yn eu gwasanaethu.

 

Wedyn, agorodd y Maer y drafodaeth gan ofyn i’r Aelodau os oedd ganddynt unrhyw gwestiynau ar gyfer y gwahoddedigion.

 

Holodd Aelod faint o amser oedd yr Heddlu’n treulio wrth batrolio canol trefi, yn nhermau cefnogi a gofalu am aelodau o’r cyhoedd, a oedd o bosib wedi bod mewn cweryl ac wedi cael anaf neu wedi’u canfod ar y stryd yn feddw, a ddylai fod wedi derbyn gofal gan y gwasanaeth ambiwlans a’u cymryd i’r ysbyty. Roedd hi’n ymwybodol mai dyma’r achos weithiau am fod yr Heddlu’n digwydd bod yn yr ardal, tra bod galw am ambiwlans yn aml yn cymryd cryn amser. Credai fod achosion o’r fath yn sicr o effeithio ar adnoddau’r heddlu.

 

Eglurodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd fod hyn yn digwydd weithiau a bod y mater yn rhywbeth a drafodwyd gyda Llywodraeth Cymru oherwydd ei fod yn destun gofid. Roedd yn dipyn o gylch dieflig, ychwanegodd, gan fod y Gwasanaeth Iechyd yn ogystal â’r Heddlu dan bwysau difrifol, yn enwedig ers dechrau’r pandemig ac roedd angen nifer sylweddol o staff ac ambiwlansys fel help ychwanegol y tu allan i ysbytai a sefydliadau gwasanaeth gofal hanfodol eraill. Roedd yn sefyllfa anodd drwyddi draw, credai.

 

Ychwanegodd y DCC Gilmer, fod yr Heddlu fel arfer yn cyrraedd yn gynt nag ambiwlans i gynnig cefnogaeth i bobl yn y fath sefyllfaoedd y cyfeiriwyd atynt uchod, oherwydd eu bod wedi derbyn galwad 999 ac wedi ymateb ar frys. Gyda misoedd y gaeaf i ddod a chynnydd posibl mewn achosion Covid, teimlai y gallai’r sefyllfa gyfredol waethygu cyn gwella.

 

Cadarnhaodd Aelod y dywedwyd wrtho ar un adeg, mai dim ond un Swyddog Heddlu Lleol yn y Gymuned oedd yn bresennol ‘ar y strydoedd’ yng ngogledd a gorllewin y Fwrdeistref Sirol. Er ei fod yn ymwybodol o fodolaeth PCSO’s mewn cymunedau lleol, teimlai nad oedd hyn yn ddigonol ac y dylid cynyddu’r nifer er mwyn sicrhau bod yr heddlu’n fwy effeithiol.

 

Cadarnhaodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd y byddai’n ymchwilio i’r mater. Ychwanegodd er hynny, fod llawer o amser ac ymroddiad yr Heddlu wedi mynd ar ganolbwyntio ar ymateb yn weithredol i alwadau 999 neu 101 ac eraill ar ddigwyddiadau eraill, gan arwain at yr her o sicrhau bod Swyddogion ar gael i batrolio ardaloedd o fewn cymunedau llai. 

 

Ychwanegodd DCC Gilmer, fod gwaith yr heddlu yn y gymuned ar ei fwyaf effeithiol wrth ymdrin â phroblemau unigol a godwyd gan etholwyr yr Heddlu, ac a gafodd eu trosglwyddo wedyn i’r PCSO’s i ymdrin â nhw.  Roedd y Llywodraeth Ganolog wedi cymeradwyo cynnydd mewn cefnogaeth i’r Heddlu ledled Cymru a Lloegr drwy gyflwyno 20,000 o Swyddogion ychwanegol. Fodd bynnag, byddai’r rhain yn derbyn hyfforddiant ar y dechrau ac yn cael eu tynnu o’u gwaith yn aml yn ystod blwyddyn gyntaf ac ail eu cyflogaeth, felly ni fyddent yn cael effaith llawn ar Dde Cymru am gyfnod sylweddol wedi hynny. Roedd recriwtio’n digwydd o hyd ychwanegodd. Dywedodd y DCC Gilmer ymhellach ei bod hi’n bwysicach gwybod beth i’w wneud a bod yn ymwybodol o faterion oedd angen eu datrys, na chael nifer o swyddogion heddlu allan ar y strydoedd. 

 

Credai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ei bod hi’n werth pwysleisio, hyd yn oed gyda’r 20,000 o Swyddogion ychwanegol y cyfeiriwyd atynt gan DCC Gilmer, roedd y nifer hwn yn dal yn is na’r lefel nôl yn 2010.

 

Mynegodd Aelod ofid yngly?n â rhewi cyflog yr Heddlu yn ddiweddar. Credai hefyd y gallai cyfeirio’n uniongyrchol at ‘drais yn y cartref yn erbyn menywod,’ roi mwy o rym i ddrwgweithredwyr, gan ei fod mor benodol.

 

Teimlai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd fod y rhewi cyflogau a ddigwyddodd yn y sector cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn annheg. Pan fyddai ychydig newid yn y sefyllfa, dylid gwneud cynnig sylweddol yn nhermau cynnydd yn y ganran, ychwanegodd. Y broblem oedd, byddai’n rhaid i Awdurdod yr Heddlu wneud iawn am unrhyw godiadau cyflog pellach.

 

O safbwynt problem trais yn y cartref a chamdriniaeth, nid oedd hyn yn cyfeirio’n unig at gamdriniaeth gorfforol a thrais, ond hefyd enghreifftiau o reolaeth orfodol. Roedd yr Heddlu wedi bod yn ymwneud â rhaglen o’r enw DRIVE, a oedd yn cynnwys gwaith a oedd yn ceisio diwygio unigolion oedd yn tueddu ymddwyn yn dreisgar ayb. Roedd hyn wedi’i beilota ym Merthyr a Chaerdydd ac wedi profi i fod yn llwyddiannus. Dynion yn bennaf oedd yn rhan o’r peilot, cadarnhaodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Er nad oedd nawdd ar ôl bellach ar gyfer y fenter, profodd i fod mor llwyddiannus gan dorri ar y galw am adnoddau’r Heddlu i’r fath raddau nes ei fod wedi’i ail-gyflwyno yn achos 7 awdurdod lleol yng Nghymru yn 2020.

 

Cyfeiriodd Aelod at barcio a throseddau parcio gan yrwyr cerbydau. Roedd yn ymwybodol mai mater ar gyfer CBSP a’i Swyddogion Gorfodi oedd hwn. Fodd bynnag, holodd os oedd PCSO’s neu Swyddogion yr Heddlu’n gweithredu’n ymarferol i atal problemau o’r fath. 

 

Eglurodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd mai gwaith yr awdurdod lleol oedd hwn yn bennaf, er bod Swyddogion yr Heddlu yn ymyrryd yn achos gyrwyr oedd yn parcio’u cerbydau mewn mannau a allai achosi perygl i’r cyhoedd neu ddefnyddwyr cerbydau eraill. Fodd bynnag, roedd cyfle ar gyfer gweithio ar y cyd rhwng y ddau Awdurdod er mwyn lleihau’r fath achosion, ychwanegodd.

 

Dywedodd Aelod na allai bwysleisio pwysigrwydd PCSO’s yn y gymuned ddigon. Ofnai, serch hynny, pan fyddai’r unigolion yma’n cael eu hyfforddi a’u symud ymlaen efallai yn sgil dyrchafiad, y byddai hyn yn gadael bylchau o safbwynt sicrhau Swyddogion newydd i gymryd eu lle.

 

Sicrhaodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd y Cynghorydd y byddai llawer o fynd a dod ymysg y PCSO’s petaent, er enghraifft, yn cael eu dyrchafu i fod yn Swyddogion Heddlu. Fodd bynnag, mae nifer sylweddol o’r Swyddogion yma’n parhau yn eu rôl ar sail boddhad swydd, e.e. yn gweithio yn ac yn cefnogi cymunedau, yn ogystal â dod i adnabod y trigolion sy’n byw yno.

 

Teimlai Aelod fod pwysau ar adnoddau’r heddlu wrth i berson gael ei arestio ym Mhorthcawl a bod y gefnogaeth ar gyfer yr arestio’n dod o Ben-y-bont. Yn ôl yn 2020 yn Llanilltud Fawr, cafodd pedwar gwasanaeth eu hadleoli mewn un adeilad, h.y. yr Heddlu, gwasanaeth Gwylwyr y Glannau, y Gwasanaeth Tân a’r gwasanaeth Ambiwlans. Mae gan Lanilltud Fawr 9,500 o etholwyr. Roedd swyddfeydd yr Heddlu, y gwasanaeth Tân ac Ambiwlans i gyd mewn cyflwr cymharol wael a chan Borthcawl 16,000 o drigolion. O ystyried hyn, holodd, a oedd modd gwneud yr un peth ag a wnaed yn Llanilltud Fawr ym Mhorthcawl.

 

Cadarnhaodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd fod hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried yn y dyfodol gyda chefnogaeth sefydliadau partner, ym Mhorthcawl ac ym Maesteg.

 

Daeth yr Arweinydd â’r drafodaeth ar yr eitem hon i ben drwy ddiolch i gynrychiolwyr yr Heddlu am fynychu’r cyfarfod, am rannu gwybodaeth allweddol gyda’r Aelodau ac am ymateb i gwestiynau. Dymunai gofnodi ei ddiolch i Geraint White o’r Heddlu oedd yn gadael Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn dyrchafiad, am ei fod wedi darparu cefnogaeth arbennig i etholwyr yn ystod ei gyfnod yno.

 

CYTUNWYD:                         Bod adorddiad y Prif Weithredwr a chyflwyniad cynrychiolwyr Heddlu De Cymru’n cael eu nodi.

     

Dogfennau ategol: