Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad, gyda’r bwriad o gynnig arweiniad i’r Cyngor am yr angen i adolygu’r Cytundeb Cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol (CCD); i geisio cymeradwyaeth i’r estyniad o Amserlen y CDLl ac i gyflwyno’r cynllun diwygiedig i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.
Eglurodd Arweinydd Tîm y Polisi Strategaeth Cynllunio fod Cytundeb Cyflwyno Diwygiedig yn rhan statudol o’r broses CDLl a’i fod yn ddull allweddol er mwyn creu cynlluniau defnydd tir yn fwy sydyn. Mae’n cynnwys y ddwy elfen ganlynol:
Estyniad i amserlen y CDLl oedd pwnc yr adroddiad, eglurodd.
Ymgymerwyd ag ymgynghoriad cyhoeddus o Amserlen Ddrafft y CCD yn ystod mis Ebrill a Mai 2018 a chymeradwywyd y ddogfen gan y Cyngor i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru, a gymeradwyodd ddrafft terfynol cyntaf y CCD ar 25 Mehefin 2018.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth bob Awdurdod Cynllunio Lleol y dylid addasu pob CCD er mwyn ystyried unrhyw newidiadau angenrheidiol i amserlen y CDLl yng ngoleuni’r oedi a ddigwyddodd oherwydd y pandemig.
O ganlyniad, cymeradwyodd y Cyngor y CCD ar 16 Medi 2020, a gafodd ei gymeradwyo wedyn gan Lywodraeth Cymru ar 5 Hydref 2020.
Ers y dyddiad hwnnw, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llunio Blaen Ddrafft o’r CDLl (BDdCDLl), a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet i’w drafod ar 18 Mai 2021. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus am 8 wythnos rhwng 1 Mehefin a 27 Gorffennaf 2021.
Cafwyd oedi o safbwynt y datblygiad tuag at gam allweddol nesaf y CDLl newydd, cyflwyno’r BDdCDLl i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio, a dyma oedd sail y newidiadau angenrheidiol i’r CCD, fel y nodir yn rhan nesaf yr adroddiad.
Aeth Arweinydd Tîm y Polisi Strategaeth Cynllunio yn ei flaen drwy ddweud bod angen nawr i’r Cyngor lunio CCD newydd gyda LlC yn dilyn yr ymgynghoriad ar y BDdCDLl. Y rheswm am hyn oedd bod angen adolygu a mireinio sylfaen tystiolaeth gefnogol y CDLLl o ganlyniad i’r sylwadau a dderbyniwyd gan ein cymunedau a rhanddeiliaid allweddol. O gymeradwyo’r Blaen Ddrafft i’w drafod roedd y Cyngor yn ymrwymo i’r cymunedau hynny. Hynny yw, byddai’r Awdurdod yn ystyried, yn ffurfio a chyhoeddi ymateb i bob un o’r sylwadau ar y BDdCDLl a dderbyniwyd. Roedd y Cyngor wedi derbyn dros 1,200 o sylwadau, a fu’n waith gweinyddol sylweddol.
Yn ogystal ag ymateb i sylwadau unigol, mae angen adolygu a mireinio sylfaen anghenion y CDLl yn sgil y wybodaeth newydd a ddaeth i law, o ganlyniad i newidiadau yn y ddeddfwriaeth, diweddaru canllawiau cynllunio a chwblhau’r wybodaeth dechnegol gefnogol.
Nodwyd y llinynnau gwaith yma ym mharagraff 4.3 yr adroddiad gyda manylion pellach er budd y Cyngor, gan Arweinydd Tîm y Polisi Strategaeth Cynllunio.
Dangoswyd yr estyniad posib i’r Amserlen yn Nhabl 1 (paragraff 4.4 o’r adroddiad) gan ddangos bod angen i Cam 4, sef y cam y mae’r Cyngor wedi’i gyrraedd erbyn hyn, gael ei ymestyn tan Fehefin 2022 er mwyn galluogi cyflwyno’r Cynllun i Lywodraeth Cymru’r haf nesaf.
Cyn ei gyflwyno, gellir gwneud gwelliannau i’r BDdCDLl o ganlyniad i’r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus a chyn cyflwyno adroddiad i’r Cyngor i geisio caniatâd i gyflwyno’r cynllun ar gyfer astudiaeth annibynnol gan y cyhoedd.
Yn olaf, cadarnhaodd y byddai Aelodau’n ymwybodol fod y CDLl cyfredol yn dirwyn i ben eleni, gan roi’r Cyngor mewn sefyllfa gynyddol anodd ac agored i heriau gan y diwydiant datblygu. Mae’n hollbwysig felly fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn parhau i fwrw ymlaen â’r adolygiadau statudol o’r CDLl.
Yr un mor bwysig, pwysleisiodd, oedd yr angen i sicrhau bod y cynllun yn gadarn ac yn addas i bwrpas a’i fod yn cael ei gefnogi gan yr holl dystiolaeth angenrheidiol. O ganlyniad, roedd angen amser ychwanegol ar yr adroddiad er mwyn trafod a lleihau’r potensial o heriau pellach o safbwynt proses y CDLl.
Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau ac Arweinydd Tîm y Polisi Strategaeth Cynllunio i ambell gwestiwn gan Aelodau, cyn symud ymlaen:
CYTUNWYD: (1) Bod y Cyngor yn cytuno ar y gwelliannau i’r
amserlen ac yn rhoi caniatâd i Reolwr y Gr?p
Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu
gyflwyno’r Cytundeb Cyflwyno diwygiedig
(atodwyd yn Atodiad 1 o’r adroddiad) i
Lywodraeth Cymru.
(2) Bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i
Reolwr y Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a
Datblygu wneud unrhyw gywiriadau ffeithiol
neu fân welliannau angenrheidiol i’r
Cytundeb Cyflwyno.
Dogfennau ategol: