Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont (LDP) – Cytundeb Cyflwyno wedi’i Ddiwygio

Cofnodion:

Adroddodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar yr angen i adolygu Cytundeb Cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol (DA), er mwyn i’r Cabinet gytuno i’r Cytundeb Cyflwyno ac argymell y dylai’r Cyngor gymeradwyo’r addasiadau i Amserlen y Cynllun Datblygu Lleol a chymeradwyo cyflwyno’r Cytundeb Cyflwyno i’w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

 

Adroddodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at yr Awdurdodau Cynllunio Lleol i’w cynghori i ymgymryd ag adolygiad o’r dystiolaeth dechnegol sy’n sail i’r Cynllun Datblygu Lleol ochr yn ochr â’r strategaeth a’r polisïau a ffafrir o safbwynt canlyniadau’r pandemig Coronafeirws. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynghori y dylid addasu’r Cytundeb Cyflwyno i ystyried unrhyw newidiadau angenrheidiol i amserlen y Cynllun Datblygu Lleol yng ngoleuni’r oedi a achoswyd yn sgil y pandemig. Dywedodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wrth y Cabinet fod Blaen Ddrafft o’r Cynllun Datblygu Lleol wedi bod dan ymgynghoriad a bod y symud ymlaen i’r cam nesaf, sef ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio, wedi’i ohirio yn sgil yr angen i adolygu’r Cytundeb Cyflwyno, gan fod angen adolygu a mireinio’r dystiolaeth ategol sylfaenol o ganlyniad i’r sylwadau a dderbyniwyd gan ein cymunedau a’n rhanddeiliaid allweddol. Hysbysodd Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu y Cabinet fod y Cyngor eisoes wedi gwneud camau sylweddol o safbwynt llunio’r Cynllun Datblygu Lleol Drafft o fewn y rhanbarth – un o’r cynghorau lleol cyntaf i gyrraedd y cam hwn.

 

Adroddodd Arweinydd y Gr?p Polisi Cynllunio Strategol fod 1,200 o sylwadau wedi’u derbyn, a bod nifer yr ohebiaeth yn cael ei thrin ac o’u gwblhau, byddai swyddogion yn coladu’r ymatebion ac yn cyflwyno adborth ar yr ymgynghoriad i’r Cyngor. Amlinellodd y llinynnau gwaith oedd angen eu cytunol cyn cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol Drafft ym mis Mehefin 2022, ynghyd â’r adolygiadau i’r amserlen. Dywedodd ei bod hi’n hollbwysig fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwrw ymlaen â’r adolygiad statudol o’r Cynllun Datblygu Lleol. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn osgoi ‘cynllunio drwy apêl’ a datblygiadau ar hap yn cael eu cyflwyno y tu allan i’r system gynllunio datblygiad heb fod yn unol â strategaeth y Cynllun, gan gryfhau fframwaith y Cyngor o safbwynt penderfynu yngly?n â cheisiadau cynllunio a chynnig gwell sicrwydd i gymunedau yn y cyswllt hwn.  

 

Roedd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol yn falch i weld fod cymaint o drigolion wedi ymwneud â’r broses Cynllun Datblygu Lleol, a oedd wedi derbyn y nifer fwyaf o ymatebion mewn cymhariaeth â holl ymgynghoriadau’r Cyngor, er gwaethaf y pandemig. Mae’r amserlen ddiwygiedig yn rhoi amser i swyddogion ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd. Dywedodd yr Aelod Cabinet Cymunedau bod angen diogelu’r Cynllun Datblygu Lleol i’r dyfodol a bod angen edrych ar dueddiadau’r dyfodol wrth i fwy o bobl weithio o gartref a’r math o dai fydd eu hangen. Dywedodd yr Arweinydd fod llinynnau hanfodol oedd angen eu hystyried megis hen safle Ford, er mwyn sicrhau seiliau cadarn i’r Cynllun Datblygu Lleol. Tynnodd sylw’r Aelodau i’r sesiwn Datblygu Aelodau arfaethedig yn ymwneud â Nodyn Cyngor Technegol 15 – Datblygiad a Risg Llifogydd (TAN15), sy’n llinyn allweddol arall o’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

CYTUNWYD:          Fod y Cabinet yn nodi ac yn cytuno ar gynnwys yr  

                                adroddiad ac yn argymell fod y Cabinet yn derbyn yr

                                adolygiadau i’r amserlen ac yn cymeradwyo fod

                                Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu

                                yn cyflwyno’r Cytundeb Cyflwyno (atodwyd yn Atodiad

                                1) i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ategol: