Agenda item

Prynu Swyddfa Heddlu Canol Tref Pen-y-bont

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar y cynnydd ym mhryniant posibl Swyddfa Heddlu Canol Tref Pen-y-bont yn Cheapside gyda’r nod o gefnogi dyheadau Coleg Pen-y-bont i adleoli eu prif gampws i Ganol y Dref, a gofynnwyd am ganiatâd i fwrw ymlaen â’r pryniant. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod swyddogion wedi derbyn caniatâd gan y Cabinet ym mis Mehefin 2021 i barhau â’r trafodaethau gyda Heddlu De Cymru o safbwynt prynu Swyddfa Heddlu Canol Tref Pen-y-bont drwy gyfrwng Protocol Cydleoli Ystadau a Throsglwyddo Tir Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd caniatâd i swyddogion hefyd geisio a derbyn cyllid grant oddi wrth LlC i gefnogi’r pryniant sylfaenol a dymchwel adeilad cyfredol y Swyddfa Heddlu yn y dyfodol. Mae cyllid grant wedi’i sicrhau i brynu’r safle a dymchwel yr adeilad, gyda’r nod o gael y Cyngor i brydlesu’r safle i Goleg Pen-y-bont, gan eu galluogi i adleoli campws Heol y Bont-faen i ganol y dref. Roedd gwerth y tir wedi’i bennu gan y Prisiwr Ardal yn £650 mil, a phawb yn gytûn ar y pris. Mae’r cytundeb werthu’n cynnwys cytundeb prydlesu yn ôl i Heddlu De Cymru am 12 mis, er mwyn rhoi cyfle digonol iddyn nhw gael eu swyddfeydd ar safle eu Pencadlys newydd yn barod. Mae swyddogion yn dal i weithio gyda Heddlu De Cymru i’w helpu i ddod o hyd a datblygu swyddfa loeren lai yng Nghanol y Dref er mwyn parhau â phresenoldeb dyddiol yr heddlu.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y Cabinet fod yr argymhelliad i ddod â champws Coleg i ganol y dref yn dod â bywiogrwydd mawr ei i ganol y dref, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr, dod â gwelliannau i’r parth cyhoeddus a sicrhau amgylchedd sero carbon net i ddysgwyr. Pwysleisiodd yr oblygiadau ariannol i’r Cyngor yn achos cyfnod cyntaf y prosiect.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywiad y swyddogion am eu gwaith wrth ddatblygu’r cynllun a diolchodd hefyd i Lywodraethwyr Coleg Pen-y-bont am eu brwdfrydedd am y cynllun, a fydd yn arwain at weld addysg bellach ac uwch yn cael ei gyflwyno yng nghanol y dref, gydag adnoddau ar gyfer y cyhoedd a gofod ar gyfer y celfyddydau perfformio’n cael ei ddatblygu. Dywedodd fod y risg na fyddai’r Cyngor yn prynu i mewn i’r prosiect yn uchel ar gofrestr risg y Coleg a’i fod yn gobeithio y byddai’r caffaeliad arfaethedig o safle gorsaf yr heddlu’n troi’r risg yn wyrdd ar gofrestr risg y Coleg.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar at yr agwedd gadarnhaol tuag at y datblygiad fel cynllun adfywio canol y dref ond dywedodd bod angen bod yn ofalus rhag effeithio’n andwyol ar drigolion canol y dref yn enwedig o safbwynt parcio. Ceisiodd sicrwydd na fyddai’r cyfnod adeiladu’n effeithio’n ddrwg ar y trigolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wrth y Cabinet y byddai dulliau adeiladau ystyrlon yn cael eu hystyried fel y byddai gwaith cloddio ac ati’n digwydd gyda chyfyngiadau ar yrru a phentyrru daear. Eglurodd y byddai ymgyrch i hysbysu’r cyhoedd yn cael ei chynnal. Dywedodd hefyd fod trwyddedau parcio’n cael eu treialu a byddai hyn yn parhau, gyda’r Coleg yn hybu teithio ar drenau a bysiau. Byddai llwybrau’r bysiau’n cael eu diwygio, er mwyn gallu cyrraedd Cheapside. 

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Cymunedau am fanylion uchder arfaethedig adeilad y coleg, er mwyn gallu tawelu ofnau’r cyhoedd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ei bod hi braidd yn gynnar i edrych ar uchder arfaethedig yr adeilad, ond bod posibilrwydd y gallai fod gymaint â 4 neu 5 llawr o ran uchder, yn camu nôl rywfaint o’r pen blaen i’r cefn. Roedd angen i’r Coleg gomisiynu penseiri, ond byddai angen sicrhau fod yr adeilad yn gweddu i’r dirwedd bresennol. Dywedodd y byddai’r Cabinet yn cael eu hysbysu o’r argymhellion unwaith y byddai’r dichonoldeb wedi’i gwblhau.

 

Gobeithiai’r Arweinydd y byddai cynllun o ansawdd uchel yn ganolog i’r prosiect, gan gynnig yr adnoddau gorau i ddysgwyr. Cyfeiriodd at yr adnoddau dysgu arbennig yr oedd y Coleg wedi’u cyflwyno ar gampws Pencoed, a oedd wedi cael gwir effaith ar y profiad dysgu a byddai angen i’r un weledigaeth a dyhead gael eu hymgorffori ar gampws canol y dref. Cyfeiriodd hefyd ar strwythur y trefniant prydlesu a’i bwysigrwydd o safbwynt bod gan yr heddlu bresenoldeb yng nghanol y dref. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y prosiect yn cynrychioli cam mawr ymlaen i’r dyfodol a’i fod yn ddiwrnod da nid yn unig o safbwynt tref Pen-y-bont, ond i’r Fwrdeistref Sirol er mwyn darparu cyfleoedd dysgu gydol oes.

 

CYTUNWYD:            Fod y Cabinet:

 

·           Yn nodi’r cynnydd oedd wedi’i wneud yng nghyswllt y caffaeliad arfaethedig o Swyddfa Heddlu Canol Tref Pen-y-bont yn Cheapside a’r argymhellion adfywio i greu Campws Coleg Pen-y-bont newydd ar y safle. 

·           Yn caniatáu i’r swyddogion gwblhau’r dogfennau cyfreithiol a throsglwyddo er mwyn prynu safle Heddlu De Cymru yn Cheapside Pen-y-bont yn unol â Phrotocol Cydleoli Ystadau a Throsglwyddo Tir Llywodraeth Cymru.

                        

 

Dogfennau ategol: