Agenda item

Rheolaeth Ansawdd Aer Lleol – Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2021

Cofnodion:

Cyflwynodd Y Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Menter ac Arbenigol Cynnydd Blynyddol (Gwasanaethau Rheolaethol ar y Cyd) adroddiad, oedd yn ceisio cymeradwyaeth o Adroddiad Cynnydd Blynyddol (APR) Rheolaeth Ansawdd Aer Lleol (LAQM) yn seiliedig ar setiau data ansawdd aer a gasglwyd yn 2020, i gyflwyno fersiwn derfynol i Lywodraeth Cymru (LlC). Adroddodd hefyd ar y cynnydd tuag at Gynllun Gweithredu Drafft Ansawdd Aer ar gyfer Ardal Rheoli Ansawdd Aer Stryd y Parc.

 

Adroddodd Y Rheolwr Gweithredol - Gwasanaethau Menter ac Arbenigol ei bod hi’n ofynnol dan Adran 82 o Ddeddf Amgylchedd 1995 i bob awdurdod lleol i adolygu ac asesu ansawdd yr aer yn eu hardaloedd, a phwyso a mesur a yw’r amcanion ansawdd aer i amddiffyn iechyd yn debygol o gael eu cyflawni. Lle mae’r adolygiadau ansawdd aer yn dangos nad yw’r amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni, neu’n annhebygol o gael eu cyflawni, mae Adran 83 o Ddeddf 1995 yn gofyn i awdurdodau lleol bennu Ardal Reoli Ansawdd Aer (‘AQMA’). Mae Adran 84 o’r Ddeddf yn sicrhau bod angen gweithredu wedyn ar lefel leol yn unol â’r Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer (AQAP) er mwyn sicrhau gwelliant yn ansawdd yr aer yn yr ardal dan sylw.

 

Hysbysodd y Cabinet fod yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol yn cynnig manylion yn ymwneud â’r data a gadarnhawyd ar gyfer y monitro ansawdd aer a gynhaliwyd o fewn y Fwrdeistref Sirol ac yn gyffredinol, fod ansawdd yr aer yn dal i gydymffurfio â’r amcanion ansawdd aer perthnasol fel y nodir yn y Rheolau. Eglurodd fod effaith amlwg y trefniadau cyfnod clo llym a roddwyd ar waith ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig a’r cyfnodau clo dilynol, wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn traffig ar y ffyrdd yn unol â’r gwaharddiad ar deithio sydd heb fod yn hanfodol a’r gofyniad i weithio o gartref os oedd modd. Ledled y Fwrdeistref Sirol yn 2020, gwelwyd cyfartaledd lleihad o 22% mewn crynodiad cymedrig blynyddol NO2 a brofwyd mewn safleoedd monitro tiwbiau trylediad fin y ffordd, mewn cymhariaeth â 2019. Fodd bynnag, roedd ansawdd aer yn dal i fod yn ofid ar hyd Stryd y Parc, Pen-y-bont, gan gyd-daro â ffin yr Ardal Reoli Ansawdd Aer.

 

Adroddodd Y Rheolwr Gweithredol - Gwasanaethau Menter ac Arbenigol Cynnydd Blynyddol oherwydd yr oedi derbyn caniatâd cynllunio a chytundebau cyfreithiol, fod system fonitro ansawdd aer awtomataidd (AMS) bellach wedi’i lleoli ar dir Ty? Cyfarfod y Crynwyr ar Stryd y Parc. Mae’r safle monitro’n mesur a chofnodi lefelau NO2 a PM10 ar sail 24/7, ac yn llunio rhan o Rwydwaith Ansawdd Aer Cymru. Cyflwynodd ddiweddariad o Gynllun Gweithredu Rheolaeth Ansawdd Aer Lleol Stryd y Parc yn yr ystyr bod Gr?p Llywio o wahanol adrannau’r Cyngor ac asiantaethau partner wedi’i sefydlu i ddatblygu syniadau ac i sicrhau Cynllun Gweithredu effeithiol. Daeth y Gr?p Llywio i’r casgliad, gyda chefnogaeth adborth o sesiwn ymgysylltu mai ciwio a llif traffig anghyson yw prif achos lefelau ansawdd aer gwael ar Stryd y Parc. Datblygwyd y canlynol fel yr opsiynau lliniaru mwyaf ffafriol: gweithredu cyffordd pedair-gwedd (3 traffig, 1 cerddwyr) ar droad Heol-y-Nant (Mesur 21); rhwystro bob mynediad i Heol St Leonards (Mesur 18); ac optimeiddio Cyffordd Stryd-y-Parc/Stryd Angel/Heol Tondu (Mesur 20). Dywedodd fod Mesur 21 yn annhebygol o arwain at y gwelliant a ddymunwyd o safbwynt ansawdd aer oherwydd traffig yn ciwio, fodd bynnag roedd amod wrth ganiatâd Persimmon yn gofyn am greu troad i’r dde i mewn i Heol-y-Nant. Roedd bwriad modelu ansawdd aer ar sail y trefniant hwn. Bydd gwaith i fodelu  Mesurau 18 a 20 yn dilyn ar gyfer ystyriaethau trafnidiaeth ac ansawdd aer ac unwaith y caiff deilliannau’r gwaith modelu’n ddealladwy, bydd modd llunio’r Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer ar gyfer Ardal Reoli Ansawdd Aer (AQMA) Stryd y Parc yn unol â hynny a’i gyflwyno i’r Cabinet i’w ystyried cyn ymgynghori â’r cyhoedd.

 

Adroddodd Y Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Menter ac Arbenigol fod amgylchiadau digynsail y pandemig COVID 19 wedi effeithio ar fonitro ansawdd aer a datblygiad y cynllun gweithredu ar gyfer Ardal Reoli Ansawdd Aer Stryd y Parc, o safbwynt amserlenni a chyflawniad. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa a’r oedi anochel wrth gyflawni’r cynllun gweithredu, gyda dyddiad cau diwygiedig o 31 Mawrth 2022 ar gyfer ei gyflwyno.  

 

Holodd yr Aelod Cabinet Cymunedau p’un ai oedd Mesur 21 yn dal i fynd yn ei flaen hyd yn oed o fethu cyflawni’r deilliant a ddymunir o wella’r ansawdd aer a lleihau’r ciwiau traffig. Holodd pryd y byddai Mesur 18, mynediad i Heol St Leonards, yn cael ei weithredu am y byddai traffig yn cael ei wirio i Heol y Nant o’r herwydd ac a ellid ystyried plannu coed fel modd o wella ansawdd aer. Holodd hefyd beth oedd y camau nesaf yngly?n â’r Cynllun Ansawdd Aer ar gyfer Stryd y Parc. Dywedodd Y Rheolwr Gweithredol –  Gwasanaethau Menter ac Arbenigol y byddai’n ymchwilio i’r syniad o blannu coed er mwyn gwella’r ansawdd aer yn Stryd y Parc. Hysbysodd Y Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Menter ac Arbenigol y Cabinet fod mesurau lliniarol wedi’u datblygu gan y Gr?p Llywio, a bod Mesurau 18 a 20, sy’n fesurau llai, yn bwrw ymlaen ac y byddai ymwybyddiaeth gyhoeddus yn cael ei gynnal. Dywedodd Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu wrth y Cabinet fod y lôn droi oddi ar Stryd y Parc yn amod o’r caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Persimmon, er budd diogelwch priffyrdd ac ansawdd aer. Disgwylir data monitro’n fuan ac unwaith y derbynnir y data hwnnw, bydd swyddogion yn edrych ar oblygiadau’r briffordd a’r effaith ar ansawdd aer a’i effaith ar gerddwyr a theithio gweithredol.

 

CYTUNWYD:           Fod y Cabinet:-

·      Yn nodi ac yn derbyn canlyniadau’r gwaith monitro ansawdd aer a gasglwyd yn 2020

·      Yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth ddatblygu’r Cynllun Ansawdd Aer ar gyfer  Stryd y Parc; a

Yn cytuno ar gwblhad terfynol Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2021 (a atodwyd fel Atodiad 1) i’w gyflwyno fel fersiwn derfynol i Lywodraeth Cymru. 

 

Dogfennau ategol: