Agenda item

Y Gwir Gyflog Byw

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol ar gynnydd o safbwynt gweithredu’r Gwir Gyflog Byw (RLW) a gofynnodd i’r Cabinet gymeradwyo gwneud cais i ddod yn gyflogwyr achrededig Cyflog Byw.

 

Adroddodd fod yn rhaid i bob cyflogwr, yn unol â’r gyfraith, dalu’r cyflog byw cenedlaethol i bob cyflogai 23 oed a throsodd, ac isafswm cyflog cenedlaethol i bob cyflogai o dan 23 oed, ac mai’r raddfa gyflog byw cenedlaethol cyfredol oedd £8.91 yr awr o Ebrill 2021. Mae ymgyrch sefydliad y Real Living Wage Foundation (RLW) i weithwyr gael cyfradd sy’n seiliedig ar yr hyn sydd ei angen i fyw ac a gyfrifir yn annibynnol gan ystyried ffactorau ehangach na’r rhai a ddefnyddir i osod y cyflog byw cenedlaethol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol, ern ad oedd yn sefydliad achrededig, roedd y Cyngor wedi ymrwymo i dalu’r Gwir Gyflog Byw i’w weithwyr ei hun yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Ddoe roedd sefydliad y Real Living Wage Foundation wedi gosod cyfradd newydd o £9.90 yr awr a phe bai’r Cyngor yn dod yn achrededig, byddai’n gweithredu’r raddfa hon o Ebrill 2022 ymlaen. 

 

Roedd swyddogion wedi cyfarfod â Cynnal Cymru, sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliad y RLW Foundation yng Nghymru gan sefydlu llwybr tuag at achrediad er mwyn sicrhau fod staff y Cyngor yn derbyn y Gwir Gyflog Byw. Dywedodd fod elfen fwy anodd achrediad yn ymwneud â’r gofynion am wasanaethau comisiynu a chaffael a bydd cynllun gweithredu’n cael ei ddatblygu gyda chymorth Cynnal Cymru i osod camau er mwyn annog contractwyr a chyflenwyr i dalu’r Gwir Gyflog Byw. Mae’r Cyngor, fel rhan o’r Strategaeth Gaffael Gorfforaethol wedi ymrwymo i gynyddu buddion cymunedol a ddarperir gan gyflenwyr, ond ni allai’r Cyngor fandadu cyflenwyr cyfredol i ddod yn gyflogwyr Gwir Gyflog Byw hanner ffordd drwy eu cytundebau. Dywedodd y byddai’r Gwir Gyflog Byw yn cael sylw drwy amodau gwerth cymdeithasol pan fyddai cytundebau’n cael eu hadnewyddu neu eu comisiynu. O dderbyn achrediad, bydd yn destun monitro blynyddol a bydd y Cabinet yn derbyn diweddariad blynyddol hefyd.

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol y Cabinet o oblygiadau ariannol gweithredu’r Gwir Gyflog Byw gan y gallai greu pwysau cyllidebol sylweddol, nad yw’n cael ei ystyried yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar hyn o bryd. O’i weithredu ar draws y gwasanaethau a gomisiynir yn allanol ceir oblygiadau ariannol sylweddol a phwysau cyllidebol cylchol mawr, nad ydynt yn amlwg ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, wrth ganmol y cynnig, ei fod yn cynrychioli diwrnod da a chyfeiriad clir ar gyfer y Fwrdeistref Sirol i fod yn economi â chyflog uchel. Dywedodd Aelod y Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y bydd ei weithredu’n cael effaith gadarnhaol ar staff y gwasanaethau cymdeithasol a bod y pandemig wedi dangos pa mor ddibynnol oedd y fath staff. Wrth gefnogi’r cynnig, diolchodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol y Dirprwy Arweinydd am ei weithredu. Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Swyddog Cyfreithiol a Gwasanaethau Rheolaethol am y gwaith a gyflawnwyd yng nghyswllt y fenter hon oedd yn ymwneud â thegwch ac ecwiti ar gyfer staff sy’n cael eu talu lleiaf ond sy’n ymgymryd â rolau pwysig iawn, ac yn cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Dywedodd fod yr awdurdod yn ei chael hi’n anodd cadw staff a bod hi bellach yn anodd cyflawni pecynnau gofal yn sgil prinder staff.

 

CYTUNWYD:            Fod y Cabinet:

·                     yn nodi cynnwys yr adroddiad;

·                     yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Cyfreithiol

           a Gwasanaethau Rheoleiddio, AD a Pholisi 

           Corfforaethol i wneud cais am achrediad Gwir

           Gyflog Byw.

  

Dogfennau ategol: