Agenda item

Prosiectau Blaenoriaeth Cronfa Cydraddoli

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar Gronfa Cydraddoli Llywodraeth y DU (LUF) gan geisio ardystiad ar y pecyn arfaethedig o brosiectau oedd yn cael eu datblygu ar gyfer etholaethau Pen-y-bont i’w gyflwyno i gylch ymgeisio’r rhaglen LUF yn y dyfodol ac i ddefnyddio adnoddau’r Cyngor a Llywodraeth y DU i wneud hynny. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wrth y Cabinet fod y Gronfa Gydraddoli (LUF) wedi’i chreu gan Lywodraeth y DU yn Adolygiad Gwariant 2020, gyda hyd at £4.8 biliwn wedi’i neilltuo tan 2024-25 ledled y DU. Bydd y Gronfa Gydraddoli’n buddsoddi mewn isadeiledd lleol a phrosiectau cyfalaf sy’n cael effaith weledol ar bobl a’u cymunedau. Mae hyn yn cynnwys ystod o flaenoriaethau buddsoddi lleol gwerth uchel, gan gynnwys cynlluniau trafnidiaeth leol, prosiectau adfywio trefol ac economaidd ac asedau diwylliannol ategol. Dywedodd wrth y Cabinet mai cyllid ar gyfer un cais ar gyfer pob Aelod Seneddol (AS) fydd Awdurdodau Lleol yn ei dderbyn, cyn belled â bod yr etholaeth honno’n gorwedd yn gyfan gwbl o fewn ei ffiniau ac mae bob Awdurdod Lleol yn gymwys i wneud un cais ychwanegol ar gyfer prosiectau trafnidiaeth posibl yn yr ardal. Golyga hyn y gall y Cyngor wneud 3 chais, un ar gyfer bob etholaeth, Pen-y-bont ac Ogwr, a thrydydd ar gyfer prosiect trafnidiaeth strategol. Gall ceisiadau etholaethol fod werth hyd at £20m, gyda chyfle ar gyfer prosiectau trafnidiaeth mwy sylweddol a gwerthfawr, o hyd at £50m, a phob cais yn cael ei annog i gyfranni isafswm o 10% o gyllid gan gyfranwyr lleol a thrydydd parti.

 

Adroddodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar y cynllun arfaethedig ar gyfer etholaeth Pen-y-bont, sy’n ymwneud ag ailddatblygu’r Pafiliwn Mawr ym Mhorthcawl, i gynnwys: gofod digwyddiadau newydd ar lefel y llawr cyntaf (Esplanade); gofod digwyddiadau newydd ar y to a’r caff i gynnig golygfeydd o’r môr ac ar draws Môr Hafren; theatr Stiwdio newydd ac adnoddau ategol, mwy o adnoddau lles gwell yn cynnwys adnodd newid; gofod esblygu busnesau neu weithdai ar lefel y stryd ac adnoddau swyddfa newydd.

 

Adroddodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau am y cais arfaethedig ar gyfer etholaeth Ogwr i greu Cynllun Datblygu Menter Pen-y-bont (EDP) er mwyn hybu cyflogaeth drwy fuddsoddiad mewn safleoedd wedi’u blaenoriaethau ac isadeiledd, gan gefnogi agwedd strategol y Cyngor tuag at ddatblygiad economaidd. Mae angen Cynllun Datblygu Menter Pen-y-bont yn sgil diffyg argaeledd adeiladau modern, darfodiad a gostyngiad yn yr arwynebedd llawer sydd ar gael gan effeithio ar amrywiaeth o sectorau economaidd. Bydd y cynllun yn cynnig cefnogaeth i gymunedau’r cymoedd drwy sefydlu busnesau newydd; datblygu gwytnwch yn ystod blynyddoedd cynnar masnachu; cael mynediad i farchnadoedd newydd a chadwyni cyflenwi newydd a darparu adeiladau busnes ar gyfer busnesau cychwynnol a busnesau newydd. Bydd y buddsoddiad arfaethedig yn digwydd yn neu’n agos at wardiau sy’n dioddef o amddifadedd lluosog, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer busnesau cychwynnol ac adleoli ar gyfer cymunedau Cymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr. 

 

Adroddodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar y cais ar gyfer y prosiect trafnidiaeth arfaethedig a fyddai’n arwain at ailadeiladu pont ffordd Penprysg, fel bod lle i draffig dwy ffordd gan arwain yn y pen draw at gau croesfan reilffordd wastad Pencoed, a phont deithio weithredol newydd sbon ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Dywedodd fod croesfan wastad Pencoed ar brif reilffordd De Cymru yn ogystal â’r Metro lleol. Adeg gweithredu, mae traffig yn cronni ar y ffyrdd gan arwain at dagfeydd sylweddol yng nghanol y dref. Lôn sengl gyda darpariaeth gyfyngedig ar gyfer cerddwyr/teithio gweithredol yw’r bont ffordd amgen gyfredol ar Heol Penprysg. Yn sgil y fath gyfyngiadau, mae moratoriwm hir sefydlog ar ddatblygiad i’r gorllewin o’r groesfan wastad. Bydd y cynlluniau’n arwain at ddatgloi tir datblygu posib sydd wedi’i leoli i’r gorllewin o’r groesfan wastad gyfredol, gan alluogi cyflwyno buddsoddiad newydd ac adnoddau. Cyn gynted ag y bydd y groesfan wastad wedi’i gau, mae’r cais hefyd yn rhoi cyfle i hybu gwella tir y cyhoedd o gwmpas yr ardal fasnachol ger y groesfan ac i wella’r amgylchedd lleol.

 

Amlinellodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau oblygiadau ariannol y gwaith datblygu ar gyfer y tri chais, a bod y Cyngor wedi derbyn £125,000 o arian datblygu i gefnogi’r ceisiadau. Dywedodd y byddai gan bob un o’r ceisiadau eu pecynnau ariannol eu hunain a fyddai’n cael eu dwyn ynghyd ac wrth i fanylion y costau datblygu sy’n gysylltiedig â phob prosiect ddod i’r amlwg yn dilyn gwaith dichonoldeb a dylunio pellach, bydd bob prosiect yn ceisio cefnogaeth sefydliadau partner a ffynonellau cyllid allanol eraill i gefnogi cyflwyno’r prosiectau. Dywedodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wrth y Cabinet y bydd yn derbyn adroddiad pellach cyn cyflwyno’r ceisiadau ym mis Mai 2022 i’w ystyried a chytuno ar unrhyw ymrwymiadau ariannol pellach ar ran yr awdurdod yng nghyswllt y tri argymhelliad unigol yma. Doedd dim ymrwymiadau ariannol cyfredol o fewn rhaglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer cyflwyno’r tri phrosiect yma.

 

Diolchodd yr Arweinydd y swyddogion am eu gwaith yng nghyswllt y cynlluniau yma o fewn cyfnod byr o amser. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda’r AS a oedd yn gefnogol iawn o’r cynlluniau yn eu hetholaethau ac roedd y prosiect trafnidiaeth yn arwyddocaol nid yn unig o safbwynt y Fwrdeistref Sirol, ond yn rhanbarthol a chenedlaethol. Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio fod cynllun pont ffordd Penprysg yn gwbl strategol gydag arwyddocâd o safbwynt gwella cysylltedd ledled De Cymru ac felly’n gwella gweithgaredd economaidd. Gobeithiai y byddai Llywodraeth y DU yn cefnogi’r prosiect hwn ac y byddai’r bont ffordd yn cael ei diogelu i’r dyfodol yn wyneb trydaneiddio’r rheilffordd i’r gorllewin o Gaerdydd.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Cymunedau at yr ymgynghoriad cyfredol gyda busnesau yr oedd ef wedi bod yn rhan ohono yn ymwneud â phont ffordd  Penprysg gan holi sut y byddai’r pryderon ehangach yn ymwneud ag isadeiledd a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn cael eu trin fel bod bob llwybr yn cysylltu â’i gilydd. Dywedodd Y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod sicrhau bod cysylltedd yn gweithio a bod hynny’n gynwysedig yn y cais, gyda ffyrdd ar y naill ochr a’r llall o’r bont, ac arwyddion a theithio gweithredol. Byddai angen hefyd ystyried tir y cyhoedd, sgwâr y dref a’r ddarpariaeth parcio a pharcio a theithio.

 

Dywedodd yr Arweinydd y gallai pont ffordd Penprysg ganiatáu codi’r moratoriwm ar ddatblygiad gan ddweud mai’r argymhelliad hwn oedd y prosiect peirianyddol unigol mwyaf y byddai’r Cyngor wedi ymwneud ag ef erioed. Dywedodd hefyd y byddai prosiect y Pafiliwn Mawr yn hanfodol o safbwynt yr economi ymwelwyr a’r Prosiect Datblygu <enter yn allweddol wrth greu clystyrau busnes. Byddai pobl prosiect yn cynnwys ymwneud â phartneriaid megis Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri.

 

CYTUNWYD:            Fod y Cabinet: 

 

·         Yn nodi’r trosolwg a’r broses ymgeisio oedd yn gysylltiedig â’r Gronfa Gydraddoli (LUF).

·         Yn cymeradwyo’r prosiectau a argymhellwyd gan swyddogion i’w datblygu’n barod ar gyfer cylch ymgeisio yn y dyfodol.

·         Yn dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cymunedau i ddefnyddio Grant Capasiti’r Gronfa Gydraddoli (LUF) i gaffael y gefnogaeth allanol angenrheidiol i lunio cais/ceisiadau ar gyfer y gronfa ac i ddefnyddio adnoddau mewnol cyfredol y Gyfarwyddiaeth Gymunedau i gaffael y gefnogaeth bensaernïol angenrheidiol a chefnogaeth arolwg ar gyfer y Rhaglen Ddatblygu Menter.

·         Yn nodi fod y Cyfarwyddwr Cymunedau’n trafod â Swyddog Adran 151 er mwyn ystyried sut y gellid ariannu unrhyw gostau comisiynu ychwanegol os digwydd i’r costau fod yn fwy na’r gyllideb a amcangyfrifwyd sef £250,000 yn ogystal â'r adnoddau sydd ar gael yn ystod y flwyddyn o fewn y Gyfarwyddiaeth  Gymunedau.

·         Yn cytuno i dderbyn adroddiad yn y dyfodol a fydd yn cyflwyno’r pecyn prosiectau terfynol i’w gyflwyno i’r Gronfa Gydraddoli (LUF) yn cynnwys unrhyw ofynion ariannol pellach i gefnogi’r prosiectau neu geisiadau hynny.

·                             

 

Dogfennau ategol: