Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Mae’r mis diwethaf wedi bod yn un cymharol brysur felly ni fyddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am bopeth sydd wedi digwydd, ond soniaf am rai uchafbwyntiau.

 

Roedd y digwyddiad Codi Arian Elusennol a drefnwyd gan fy ngwraig a minnau yng Ngwesty’r Heronston ddiwedd Tachwedd yn noson allan wych a chodwyd dros £1,000.  Cafodd pawb a oedd yno noson hwyliog. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a brynodd docynnau ac i’r rhai a gyfrannodd wobrau raffl neu a roddodd gyfraniadau oherwydd eu bod yn methu â bod yn bresennol. Nid yw digwyddiadau o’r fath yn hawdd i’w trefnu heb unrhyw gefnogaeth, ond rwy’n falch o ddweud i’r noson fod yn llwyddiant.

 

Mynychais agoriad swyddogol Canolfan Addysg a Lles Y Nyth ym Mharc Bryngarw sy’n gyfleuster gwych i blant o bob oed ddysgu am ein hamgylchedd a’n mannau awyr agored. Roedd nifer o blant yn bresennol a oedd â chryn ddiddordeb yng nghadwyn y maer ond fe lwyddais i’w gadael heb iddi gael ei thorri! Fy mai i yn rhannol serch hynny oedd y diddordeb oherwydd i mi ddechrau gwneud argraffnodau clai o arfbais y maer.

 

Cynhaliwyd fy ymweliad cyntaf â Chwm Ogwr gyda gwahoddiad i lansiad llyfr blynyddol Cymdeithas Treftadaeth Leol a Hanes Cwm Ogwr yn y Mem yn Nantymoel. Cafwyd perfformiadau gan Gôr Meibion Cwm Ogwr a hefyd Seindorf Arian Cwm Ogwr gyda nifer o garolau Nadolig. Gobeithiaf ddychwelyd eto’n fuan i agor yn ffurfiol gofeb newydd y glowyr sydd wedi’i gosod ger y man lle safai Canolfan Berwyn ar un adeg.

 

Yn olaf, nodwch fod y Gwobrau Dinasyddiaeth ar agor ar gyfer enwebiadau ond byddant yn cau ddydd Gwener 7 Ionawr 2022. Fy mhle i chi i gyd yw i bob Cynghorydd enwebu o leiaf un unigolyn neu gr?p o'ch ardal. Gyda dim gwobrau yn bosibl y llynedd, gadewch i ni wneud eleni yn un o’r blynyddoedd gyda’r nifer fwyaf o enwebiadau erioed, i ddiolch i’r rhai yn ein cymunedau sy’n mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau arferol ddydd ar ôl dydd i helpu eraill a gwneud gwahaniaeth.

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Mae manylion trefniadau ailgylchu a chasglu gwastraff y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd wedi'u cadarnhau.

 

Gyda’r pandemig yn dal i fod mewn grym, rydym yn gofyn unwaith eto i gartrefi lle mae rhywun yn dangos symptomau coronafeirws wneud yn si?r bod yr holl wastraff papur, fel papur cegin, papur toiled neu weips gwlyb, yn cael ei roi mewn bagiau dwbl a’i roi o’r neilltu am 72 awr.

 

Ar ôl hyn, gellir gosod y bag y tu mewn i'r bag sbwriel cartref. Er mwyn helpu i gadw casglwyr yn ddiogel, ni ddylid ar unrhyw gyfrif gynnwys gwastraff o’r fath gyda phapur sy’n cael ei ailgylchu.

 

Bydd casgliadau eleni yn cael eu gwneud yn ôl yr arfer hyd at ac yn cynnwys ar Noswyl Nadolig, ond nid ar Ddydd Nadolig, G?yl San Steffan na Dydd Calan.

 

Rhwng dydd Llun 27 a dydd Iau 30 Rhagfyr, bydd casgliadau'n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na'r dyddiad casglu arferol.

 

Bydd gwastraff sydd i’w gasglu ar Nos Galan yn cael ei godi ddydd Sul, 2 Ionawr, a bydd y casgliadau’n dychwelyd i’r arfer o ddydd Llun 3 Ionawr 2022.

 

Bydd preswylwyr yn gallu rhoi un bag sbwriel ychwanegol allan ar gyfer y casgliad sbwriel cyntaf a drefnwyd ar ôl y Nadolig. Bydd cerbyd ychwanegol yn casglu cardbord hefyd, felly sylwch y gallai hwn gael ei gasglu ar wahân i ddeunydd ailgylchu arall o'r cartref.

 

Efallai y bydd yr Aelodau am atgoffa trigolion nad oes cyfyngiad ar faint o ailgylchu y gellir ei roi allan i’w gasglu, ac y gellir ailgylchu mwyafrif helaeth y deunyddiau. Y prif eitemau na ellir eu hailgylchu yw cardiau sydd â glitr arnynt, papur lapio, plastig du, papur lapio seloffen, papur lapio swigod a pholystyren.

 

Gellir cael gwared ar goed Nadolig go iawn mewn canolfannau ailgylchu cymunedol lleol ym Mrynmenyn, Llandudwg a Maesteg, neu gellir eu gollwng yn Nepo Waterton o ddydd Mawrth 4 Ionawr ymlaen.

 

Yn olaf, hoffwn ddiolch i Gill Lewis, Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid sydd yn ei chyfarfod olaf o’r Cyngor heddiw cyn iddi adael yr Awdurdod ddiwedd yr wythnos hon. Mae ei gwasanaethau i’r Awdurdod yn ei swydd ers iddi gyrraedd y Cyngor wedi bod yn anfesuradwy ac mae wedi bod yn ased gwych. Mae hyn wedi profi’n arbennig o wir ers y pandemig, lle mae hi wedi cadw cyllid yr Awdurdod yn ddiogel mewn un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus yn ein hanes. Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â Gill, y mae gennyf barch mawr ati fel Swyddog.

 

Estynnaf groeso cynnes hefyd i olynydd Gill, Carys Lord.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei ddiolchgarwch personol i Gill Lewis, ar ran y Cyngor. Ychwanegodd fod Gill wedi bod yn weithiwr proffesiynol eithriadol ers iddi ymuno â’r Cyngor am gyfnod a oedd wedi’i gynllunio i fod yn ychydig fisoedd yn unig er iddi aros am 4 blynedd yn y diwedd. Y rheswm am hynny, serch hynny ychwanegodd, oedd oherwydd iddi osod y bar mor uchel nid yn unig fel Swyddog Adran 151, ond hefyd fel y Swyddog â Gofal Tai, Gofal Cwsmeriaid a TGCh.

 

O ran yr olaf, bu’n rhaid i Gill gefnogi dros nos drwy ddarparu offer hanfodol, tua 2,000 – 3,000 o Swyddogion er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu gwasanaethau’r Cyngor drwy weithio gartref, yn ogystal â darparu llety dros dro i dros 200 o bobl oedd yn ddigartref ac rydym yn wir yn dal i ddarparu cymorth i’r bobl fregus hyn, yn ogystal ag i eraill yn y gymdeithas. Er gwaethaf yr ymrwymiad hwn, roedd Gill hefyd wedi cadw gafael haearnaidd ar bwrs y Cyngor a'i gyllid.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn hynod ddiolchgar am y gwasanaeth rhagorol yr oedd wedi’i ddarparu yn ystod y 4 blynedd diwethaf a chroesawodd yn gynnes y sawl a benodwyd i gymryd ei lle fel Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, Carys Lord, a oedd yn sicr fyddai’n darparu cymorth rhagorol tebyg ym meysydd gwasanaeth uchod y Cyngor.

 

Ategwyd y teimladau hyn gan y Maer a'i gyd-Aelodau.

 

Diolchodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid i'r Aelodau am y sylwadau cynnes hyn o werthfawrogiad.

 

Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Ynghyd â’r Maer, yr Arweinydd a chydweithwyr yn y Cabinet, roeddwn yn falch iawn o fynychu agoriad canolfan addysg a lles newydd yn ddiweddar ym Mharc Gwledig Bryngarw ynghyd â Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon.

 

Mae’r ganolfan newydd o’r enw ‘Y Nyth’, yn un o nifer o welliannau newydd a gyflwynwyd mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn dilyn buddsoddiad o £750,000 gan raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd.

 

Mae’r rhaglen wedi sefydlu deuddeg o ‘byrth darganfod' sydd wedi'u dylunio i gydnabod a gwneud y mwyaf o asedau naturiol a diwylliannol i gynhyrchu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

 

Mae Y Nyth yn cynnwys ystafell ddosbarth a chegin bwrpasol, tra bod canolfan ymwelwyr y parc wedi cael ei hailddatblygu i gynnig gweithgareddau gydol y flwyddyn i deuluoedd ac ymwelwyr.

 

Mae offer chwarae naturiol awyr agored newydd wedi’i osod sydd wedi’i gynllunio i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol plant, datblygu eu creadigrwydd, eu dychymyg a’u meddwl beirniadol, ac annog eu rhyngweithio cymdeithasol.

 

Mae lloches feiciau newydd wedi’i gosod gyda tho ‘gwyrdd’ i gynyddu bioamrywiaeth, a gosodwyd paneli solar yn y ganolfan ymwelwyr, y caffi, adeilad B-Leaf a swyddfeydd y stablau.

 

Mae’r parc hefyd wedi elwa o lwybrau pren newydd ac uwchraddio’r llwybrau, cyfleusterau cyhoeddus wedi'u hadnewyddu a llwybr cerfluniau newydd sy'n arwain trwy bump o'r cynefinoedd naturiol sydd i'w cael ym Mryngarw.

 

Mae Parc Gwledig Bryngarw yn wirioneddol yn un o’r gemau yng nghoron y fwrdeistref sirol, a gobeithiaf y bydd yr aelodau’n ymweld â’r parc i weld drostynt eu hunain sut mae’r gwelliannau hyn yn rhoi profiad gwell i ymwelwyr.

 

Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Lyn Walters am ei holl waith caled yn ddiweddar, drwy gynorthwyo yn Ravenscourt i weinyddu’r pigiad atgyfnerthu Covid er mwyn helpu i amddiffyn unigolion rhag y clefyd ac yn enwedig y straen Omicron newydd.

 

Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Efallai y bydd yr Aelodau’n cofio mai ym mis Rhagfyr 2020 y bu’r Cynghorydd Burnett yn hysbysu’r Cyngor gyntaf am y pwysau eithafol sy’n wynebu ein gwasanaeth gofal cartref, a sut yr oedd hyn yn cael ei adlewyrchu ar draws y sector gofal cymdeithasol ledled Cymru.

 

Flwyddyn yn ddiweddarach, hoffwn godi hyn drwy roi trosolwg byr i chi o’r sefyllfa bresennol, a’r hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud i’w lliniaru dros y deuddeg mis diwethaf.

 

Er bod y sefyllfa'n parhau i fod yn anodd a'n gwasanaethau'n parhau i wynebu heriau difrifol, rydym yn bodloni'r mwyafrif llethol o anghenion lleol mewn ffordd amserol ac effeithiol.

 

Mae cymhariaeth â ffigurau cyn y pandemig yn datgelu cynnydd o wyth y cant yn nifer yr oriau gofal a ddarparwyd ers 2017-18, ac mae tueddiadau presennol yn dangos y gallwn ddisgwyl gweld angen cynyddol er mwyn cefnogi pobl i aros mor iach ac annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.

 

Hoffwn ddechrau’r datganiad hwn drwy dalu teyrnged i’n gweithlu gofal cymdeithasol rheng flaen sydd wedi gweithio’n ddiflino am y ddwy flynedd ddiwethaf ac sy’n gofalu am fwy o bobl, gyda lefel uwch o anghenion, nag erioed o’r blaen.

 

Mae angen i mi hysbysu'r Cyngor, fodd bynnag, bod nifer y bobl sy'n aros i gael eu hanghenion wedi'u hasesu am ofal a chymorth yn cynyddu ar hyn o bryd.

 

Mae llawer iawn o waith wedi digwydd dros y deuddeg mis diwethaf, ar lefel leol a chenedlaethol.

 

Ddoe cymeradwyodd y Cabinet drefniadau comisiynu newydd ar gyfer gofal a chymorth yn y cartref a fydd yn galluogi pob darparwr i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i’w gweithlu.

 

Rydym wedi cefnogi’r sector yn sylweddol drwy’r gronfa adfer gofal cymdeithasol i sicrhau bod darparwyr mewn sefyllfa i dalu eu staff ar y lefel honno cyn i’r contractau newydd ddod i rym yn 2022-23.

 

Fel y gwyddoch, rydym wedi sefydlu gr?p prosiect gyda'r nod o ddatblygu cynllun gweithredu a all ddiwallu anghenion mewn ffordd wahanol. Rydym yn edrych ar ffyrdd o gefnogi staff yn y sector gofal cymdeithasol ac wedi bod yn cefnogi darparwyr drwy’r gronfa adfer gofal cymdeithasol.

 

Os yw pobl yn aros am ofal a chymorth gartref, mae risgiau i'w llesiant yn cael eu rheoli gan adolygiad ac asesiad rhagweithiol o amgylchiadau pob unigolyn. Rydym yn cynnwys pobl eu hunain, eu teuluoedd a gofalwyr anffurfiol yn uniongyrchol yn hyn.

 

Lle nad yw dal i aros yn ddewis, mae darpariaeth amgen megis cyfleoedd dydd, gofal preswyl, ail-alluogi preswyl a seibiannau byr yn cael eu harchwilio a'u cynnig.

 

Rydym hefyd yn defnyddio taliadau uniongyrchol cyflym a’r grant gofalwyr i ddiwallu anghenion asesedig pobl ac rydym yn cysylltu’n agos â theuluoedd ynghylch faint o gymorth y gallan nhw ei gynnig.

 

Mae’r sefyllfa’n parhau i fod yn anodd ac nid yw wedi cael ei helpu gan y ffaith bod tri darparwr annibynnol wedi rhoi rhybudd ynghylch rhai pecynnau gofal, sy’n golygu ei fod wedi creu galw ychwanegol gan oddeutu 39 o bobl a mwy na 400 o oriau gwasanaeth.

 

O ran ein cynllun gweithredu cartref, mae’r gr?p prosiect yn anelu at gynyddu capasiti o ran 20 aelod staff ychwanegol erbyn 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, tra bod Gwasanaeth Ailalluogi wedi’i ailgyflwyno ym Mryn y Cae i gefnogi pobl ag anghenion ailalluogi.

 

Mae strategaethau marchnata amrywiol wedi’u cyflwyno i roi cyhoeddusrwydd mor eang â phosibl i swyddi gweigion, ac rydym wedi cymryd rhan yn y rhaglen recriwtio genedlaethol ‘Rydym yn Gofalu’ ac wedi elwa ohoni.  Rydym hefyd wedi cymryd rhan mewn sioeau recriwtio teithiol.

 

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio staff achlysurol i feithrin gallu ar gyfer ein gwasanaethau mewnol, tra bod Adnoddau Dynol yn adolygu achosion o absenoldeb hirdymor ac yn cefnogi staff i ddychwelyd i'r gwaith cyn gynted ag sy'n ymarferol.

 

O ran camau gweithredu sy’n cael eu paratoi ar hyn o bryd, mae sioeau teithiol recriwtio cymunedol wedi’u cynnal ym Mhorthcawl a Chwm Ogwr ac yn cael eu cynllunio ar gyfer Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr, ac rydym wrthi’n hyrwyddo llwybrau gyrfa i farchnata dewisiadau sydd ar gael yn y sector gofal cymdeithasol.

 

Mae ymgyrch gyhoeddusrwydd ar y cyd yn cael ei chynllunio a fydd yn cynnwys cyfres o hysbysebion ar Bridge FM a fydd yn rhoi sylw i ofalwyr presennol yn siarad am eu rolau, ac mae staff hefyd wedi cael cynnig cyfle i gynyddu eu horiau cytundebol.

 

Mae cynlluniau yn cael eu datblygu ar gyfer gwneud y defnydd gorau o staff nad ydynt yn gyrru, ac mae cynnig trafnidiaeth amgen yn un o’r dewisiadau sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

Os bydd yn llwyddiannus, gallai hyn weld lansio ceir fflyd cwbl newydd, beiciau trydan, sgwteri a mwy fel ffordd o sicrhau bod staff nad oes ganddynt gar yn gallu dal i wneud eu rowndiau.

 

Rydym hefyd yn datblygu system rhybuddio cynnar a fydd yn adnabod arwyddion bod y sector annibynnol yn ei chael hi’n anodd darparu pecynnau gofal ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r Rhaglen Gweithlu Datblygu Gofal Cymdeithasol i greu rhaglen sefydlu sy’n cefnogi darparwyr annibynnol sy’n cael trafferth cadw staff.

 

Yn olaf, cytunwyd ar gynllun peilot i ddefnyddio gweithwyr cymorth gofal iechyd ac mae wrthi'n cael ei roi ar waith, ac mae adolygiad o wasanaethau dydd ar y gweill.

 

Mae’r cynllun yn archwilio ystod eang o opsiynau ar gyfer ymestyn oriau agor, addasu amserlenni gofal, dadansoddi problemau staffio a chludiant, a llawer mwy.

 

Felly, i grynhoi, rydym yn gwneud mwy nag erioed o'r blaen. Gyda chynlluniau tymor byr, canolig a hwy ar waith, ymdrinnir â thelerau ac amodau drwy gronfeydd adennill ac ail-gomisiynu. Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ac y gellir diwallu anghenion mewn ffyrdd gwahanol lle bo angen.

 

Hoffwn ychwanegu hefyd fod pob rhan o Gymru ac yn wir y DU yn yr un sefyllfa ac yn wynebu’r un mathau o heriau.

 

Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant

 

Efallai yr hoffai Aelodau hysbysu eu hetholwyr y gallai pobl sy’n rhentu’n breifat ond sydd ar ei hôl hi gyda’u rhent oherwydd Covid-19 wneud cais am y Grant Caledi i Denantiaid, menter a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

I fod yn gymwys, rhaid iddynt fod ag o leiaf wyth wythnos o rent heb ei dalu wedi’i gronni rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2021, ac ni ddylai tenantiaid fod wedi derbyn budd-dal tai tra roedd y rhent nas talwyd yn cronni.

 

Mae’r grant wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer tenantiaid yn y sector rhentu preifat a allai fod wedi bod ar ffyrlo, a allai fod wedi profi gostyngiad aruthrol yn eu horiau, neu hyd yn oed sydd wedi colli eu swyddi oherwydd y pandemig.

 

Mae’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’r landlord neu’r asiant i leihau’r tebygolrwydd o golli’r denantiaeth ac nid oes rhaid ei dalu’n ôl.

 

Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefannau'r cyngor a Llywodraeth Cymru.

 

Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio

 

Yn dilyn ymlaen o newyddion da tebyg y mis diwethaf gydag Ysgol Gynradd Plasnewydd, Maesteg, mae Ysgol Gynradd Cwm Ogwr bellach hefyd wedi derbyn anrheg Nadolig cynnar gyda’r un newyddion, sef ei bod wedi cael ei symud allan o fesurau arbennig. Felly nid oes unrhyw ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn mesurau arbennig ar hyn o bryd.

 

Mae arolygwyr o Estyn wedi cadarnhau eu bod yn fodlon fod yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol ar gyfres o argymhellion.

 

Mae hyn yn newyddion ardderchog i'r ysgol. Gwn fod Swyddogion y Cyngor a chydweithwyr o Gonsortiwm Canolbarth y De wedi bod yn gweithio’n agos gydag athrawon a phrifathro’r ysgol er mwyn cyflawni’r cynnydd angenrheidiol sydd bellach wedi’i wneud a hoffwn eu llongyfarch i gyd am eu hymdrechion.

 

Mae Chris Elmore AS wedi cyflwyno Cerdyn Nadolig eleni, gyda dyluniadau hyfryd arnynt a roddwyd at ei gilydd gan rai o blant ysgol y Fwrdeistref Sirol. Hoffwn felly ddiolch i Dylan Simmonds, Ysgol Gynradd Betws, Layla Roll-Jones, Ysgol Gynradd Cynwyd Sant, a Lucy Evans, am eu dawn a’u dychymyg gyda chynllunio’r cerdyn.

 

Yn olaf, bydd Cerddorfa Gymunedol Porthcawl yn chwarae Carolau Nadolig yn John Street, Porthcawl, ddydd Sadwrn nesaf, rhwng 11am – 1pm, felly byddai croeso mawr i unrhyw gyfraniadau gan y cyhoedd at elusen yma.

 

Y Prif Weithredwr

 

Efallai bod Aelodau wedi gweld sylw yn y cyfryngau neu bostiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â chyfyngiadau dros dro yr ydym wedi cael ein gorfodi i’w gosod ar y defnydd o barthau gollwng disgyblion wrth dair ysgol leol.

 

Er mwyn eglurder, hoffwn gadarnhau'n fyr pam yr ydym wedi cael ein gorfodi i roi'r cyfyngiadau hyn ar waith.

 

Mae’r parthau gollwng yr effeithir arnynt wedi’u lleoli yn Ysgol Gynradd Brynmenyn, Ysgol Gynradd Pencoed a Choleg Cymunedol y Dderwen lle, os cânt eu defnyddio’n gywir, maent yn cynnig cyfleuster diogel a chyfleus.

 

Yn anffodus, dywedwyd wrth rieni a gofalwyr yn yr ysgolion fod asesiad o’r parthau gollwng wedi datgelu rhai pryderon eithaf difrifol ynghylch y camddefnydd a wneir ohonynt a allai, pe bai’n parhau, arwain at eu tynnu’n ôl.

 

Er gwaethaf hyn, parhawyd i sylwi ar ddigwyddiadau lluosog o gerbydau’n gwneud symudiadau peryglus, yn teithio’n gyflym, yn blocio neu’n peidio â defnyddio’r mannau gollwng yn gywir, gan anwybyddu cyfarwyddiadau gan swyddogion ar y safle a mwy, gan gynnwys nifer o ddigwyddiadau a fu bron yn ddamweiniau.

 

Yn amlwg, ni allwn gyfaddawdu lle mae diogelwch disgyblion yn y cwestiwn. Penderfynwyd sicrhau bod y parthau gollwng ar gael i staff sy’n gweithio yn yr ysgol, rhieni a gofalwyr sy’n ddeiliaid Bathodyn Glas, a cherbydau cludiant rhwng y cartref a’r ysgol a ddarperir gan yr awdurdod lleol yn unig

 

Fel y gallech ddisgwyl, nid yw hyn wedi bod yn boblogaidd gyda nifer o rieni a gofalwyr, ond gobeithiaf y bydd yr aelodau’n gwerthfawrogi sut mae’r brys i gau yn adlewyrchu pa mor ddifrifol y mae’r awdurdod a’r ysgolion yn cymryd y mater.

 

Mae swyddogion eisoes yn edrych ar opsiynau a allai ddarparu dewis amgen diogel sy’n blaenoriaethu diogelwch disgyblion a cherddwyr sy’n mynychu neu’n ymweld â’r ysgolion hyn, ond tan hynny, rhaid i’r cyfyngiadau dros dro aros yn eu lle.

 

Gobeithiaf y bydd yr eglurhad byr hwn yn dangos rhywfaint o gefndir y penderfyniad.

 

Fel y mae’r Aelodau wedi’i gadarnhau eisoes, newydd arall yw mai heddiw yw’r tro olaf y bydd ein Pennaeth Cyllid, Gill Lewis, yn mynychu’r Cyngor.

 

Rydych chi fel arfer yn ennill amser i ffwrdd am ymddygiad da, ond efallai y bydd yr Aelodau'n cofio bod Gill wedi ymuno'n wreiddiol am chwe mis ac wedi aros am fwy na phedair blynedd yn y diwedd!

 

Roedd hyn yn bennaf oherwydd inni geisio droeon recriwtio rhywun o’i hansawdd hi, ond wedi methu â gwneud hynny.

 

Roedd cyfnod Gill yn cyd-daro â rhai o’r amgylchiadau ariannol llymaf y mae’r Cyngor hwn wedi gorfod eu hwynebu erioed, ac ar ben hynny, rydym wedi cael pandemig Coronafeirws i ymdopi ag ef hefyd.

 

Drwy gydol hyn oll, mae gafael Gill ar y materion dan sylw wedi bod yn ddiguro, ac mae hi wedi dangos doethineb amhrisiadwy ac arweinyddiaeth gref.

 

Mae hi wedi gwneud gwaith rhagorol yn llywio cyllid y Cyngor drwy adegau anodd ac ansicr iawn, yn ystod cyfnod o lymder i ddechrau ac yna’n ddiweddarach drwy’r pandemig a’r holl heriau a ddaeth yn ei sgil, nid yn unig o ran cyllid a darparu grantiau lluosog, ond hefyd mewn meysydd fel digartrefedd, TGCh, trawsnewid digidol, gofal cwsmeriaid a mwy.

 

Nid yw'n gyfrinach na fydd gweithredu fel swyddog Adran 151 y Cyngor byth yn helpu unrhyw un i ennill cystadleuaeth poblogrwydd. Dyma’r swydd lle rydych yn aml yn gweld eich hun yn gorfod dweud ‘na’ wrth i chi geisio ymdrin â materion fforddiadwyedd a chydymffurfio â nifer o godau cyfrifyddu, egwyddorion ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig a mwy.

 

Y newyddion da yw bod Gill wedi chwarae rôl 'dihiryn pantomeim' yn dda iawn. Mae ein rheolaeth ariannol yn cael ei hystyried yn arbennig o dda gan reoleiddwyr ac archwilwyr fel ei gilydd, ac mae profiad ac arbenigedd Gill yn parhau i gael ei barchu’n fawr gan rai fel y Pwyllgor Archwilio, ei chydweithwyr yn y CMB ac aelodau yn gyffredinol.

 

Er bod Gill yn bwriadu treulio mwy o amser yn chwarae golff ac yn teithio pan fydd amodau’r pandemig yn caniatáu, deallaf ei bod yn bwriadu parhau i weithio i ddechrau gyda chydweithwyr ym maes iechyd, a’i bod hefyd wedi cael rhywfaint o waith yn Jersey ac yn ddiau, bydd hynny’n ei gwneud yn haws iddi ddelio efo’i holl gyfrifon alltraeth!

 

Rwyf i a’i chydweithwyr yn y CMB hefyd yn amau y bydd Gill yn poeni ei bwtler, sy’n dyblu fel ei g?r, am fwy o baneidiau o de.

 

Diolch i Gill ar ran y Cyngor, am bopeth y mae hi wedi'i wneud tra bu yn yr Awdurdod a dymunaf y gorau iddi ar gyfer y dyfodol.