Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Bydd yr Aelodau wedi gweld y newid sydd wedi’i wneud ar y Cabinet ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r Cynghorydd Nicole Burnett am ei hymroddiad a’i phroffesiynoldeb fel Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar.

 

Hoffwn hefyd gynnig croeso cynnes i’r Cynghorydd Jane Gebbie fel yr Aelod Cabinet newydd sy’n egnïol, yn angerddol ac yn brofiadol iawn.

 

Mae newidiadau brys i’r ffordd y mae pobl yn derbyn eu brechiadau atgyfnerthu Covid-19 yn cael eu cyflwyno wrth i ymdrechion cenedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad yr amrywiolyn Omicron newydd ddechrau.

 

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau y bydd pob oedolyn cymwys yng Nghymru yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu brechlyn Covid-19 erbyn diwedd y mis.

 

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddarparu 166,000 o bigiadau atgyfnerthu ledled y rhanbarth erbyn 31 Rhagfyr 2021.

 

Cyfarfu’r Prif Weithredwr a minnau ynghyd ag Arweinwyr a Phrif Weithredwyr Cynghorau Rhondda Cynon Taf a Merthyr â Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i drafod a datblygu’r gwaith o gyflymu’r rhaglen frechu ar frys, er mwyn cyrraedd y targedau hyn. 

 

Ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, mae'n golygu bod angen cyflwyno nifer o newidiadau pwysig yng nghanolfan frechu Ravens Court.

 

Er mwyn darparu ar gyfer mwy o apwyntiadau, mae oriau agor yn cael eu hymestyn i gynnwys 7am-10pm. Yr unig eithriadau fydd Noswyl Nadolig (7am-2pm) a Nos Galan (7am-4pm).

 

Bydd y ganolfan hefyd yn parhau i fod yn weithredol bob dydd o'r wythnos, gan gynnwys gwyliau banc, ac eithrio ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan.

 

Oherwydd y bydd y ganolfan ar agor yn gynharach yn y bore ac yn hwyrach yn y nos, mae goleuadau allanol ychwanegol a llochesi yn cael eu gosod.

 

Y tu mewn i’r ganolfan, bydd pigiadau atgyfnerthu a brechiadau safonol yn cael eu rhoi ochr yn ochr â'i gilydd. Mae lonydd brechu newydd yn cael eu sefydlu i wneud hyn, ac mae staff ychwanegol yn cael eu cyflogi i sicrhau bod y broses yn gallu rhedeg yn esmwyth. Rydym wedi secondio 5 aelod o staff ychwanegol i gynorthwyo gyda gweithredu hyn.

 

Er nad oes apwyntiadau galw i mewn ar gyfer brechiadau atgyfnerthu ar gael ar hyn o bryd, bydd slotiau galw i mewn yn parhau i gael eu cynnig i bobl gymwys sydd angen derbyn dos cyntaf neu ail ddos o’r brechlyn.

 

Unwaith y byddant wedi cael eu pigiad, bydd yr amser y bydd angen i bobl aros cyn gadael y safle yn cael ei leihau i bum munud.

 

Mae'r apwyntiadau'n cael eu trefnu nawr a byddant yn cael eu cynnig yn awtomatig i bob oedolyn cymwys yn y fwrdeistref sirol.

 

Ni fydd angen i bobl gysylltu â’r bwrdd iechyd na’r meddyg teulu lleol, ond dylent ddisgwyl cael apwyntiad drwy neges destun. Dim ond y rhai nad ydynt wedi rhoi rhif ffôn cyswllt fydd yn cael apwyntiad drwy’r post, sy’n wahanol i’r hyn a oedd yn digwydd ar gyfer y ddau ddos blaenorol.

 

Hyd yn oed os yw’r apwyntiad ar Noswyl Nadolig neu Nos Galan, ni allaf bwysleisio’n ddigon cryf pa mor bwysig fydd hi i bobl dderbyn yr un a gynigir.

 

Mae'n parhau i fod yn hanfodol i bobl sicrhau eu bod yn cael y pigiad atgyfnerthu. Mae hyn yn dal i fod yn hanfodol ar gyfer gwella ein lefelau o amddiffyniad yn erbyn y straen Omicron sy'n symud yn gyflym, ac mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein hunain, ein ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chymdogion yn ddiogel.

 

Bydd yr apwyntiadau yn dechrau dod drwodd yn fuan iawn, a byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am gyflwyno system y pigiadau atgyfnerthu.

 

Mewn newyddion eraill, rwy’n si?r y bydd yr aelodau’n falch o wybod bod contractwr newydd wedi’i benodi ar gyfer adeiladu’r cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg sydd wedi’i gynllunio ar dir oddi ar Stad Ddiwydiannol Isfryn ym Melin Ifan Ddu.

 

Ar ôl i'r contractwr blaenorol fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, mae Stafford Construction Ltd, cwmni lleol a phrofiadol, wedi derbyn y contract ar gyfer y gwaith. Mae amserlen newydd yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd, a disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn y Flwyddyn Newydd.

 

Bydd yr hyb yn un o bedwar cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg cwbl newydd a gynllunnir ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Wedi’u cynllunio i wasanaethu Cwm Ogwr, bydd y lleoliadau’n darparu 16 o leoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg sesiynol, ynghyd â chwe lle i blant hyd at ddwy oed, a darpariaeth gofleidiol neu y tu allan i'r ysgol am 52 wythnos y flwyddyn.

 

Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd yn cynnwys man chwarae newydd, ystafelloedd tawel, cyfleusterau storio, swyddfeydd a maes parcio gyda lle i hyd at saith cerbyd. Gyda thirlunio newydd o flaen ac ar ochr yr hyb, bydd cyfleusterau chwarae meddal yn cael eu gosod yn ogystal â chanopi a fydd yn gallu rhoi cysgod i blant chwarae yn yr awyr agored.

 

Ar yr un pryd, mae Stafford Construction hefyd wedi dechrau gweithio ar y cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd yn Betws.

 

Wedi’i leoli ar safle’r hen Glwb Bechgyn a Merched, bydd hwn yn gwasanaethu Cwm Garw ac ardal gyfagos porth y cymoedd ac yn cynnwys cyfleusterau tebyg i’r rhai ym Melin Ifan Ddu.

 

Gyda dwy ganolfan arall eto i ddod ym Mhorthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr, mae hyn yn fuddsoddiad sylweddol o £2.8m mewn cyfleusterau a gwasanaethau Cymraeg, ac mae hefyd yn tanlinellu ymrwymiad parhaus y cyngor tuag at ofal plant a hyrwyddo'r Gymraeg.

 

Rwyf yn si?r y bydd yr aelodau’n croesawu’r newyddion da hwn, a’ch bod chi, fel fi, yn edrych ymlaen at weld yr hybiau’n datblygu.