Agenda item

Derbyn y Cwestiwn canlynol oddi wrth: Y Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet - Cymunedau

Pa ganran o ffyrdd a phriffyrdd lleol sydd heb eu mabwysiadu?

 

 

Cofnodion:

Pa ganran o ffyrdd a phriffyrdd lleol sydd heb eu mabwysiadu?

Ymateb

 

Yn seiliedig ar y cyfrifiad o gyfanswm hyd y ffyrdd heb eu mabwysiadu o gymharu â mesuriad llinellol y rhwydwaith priffyrdd yn gyffredinol, mae canran y ffyrdd heb eu mabwysiadu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn llai nag 1% (0.08%).

Cofiwch fod y ffigur hwn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn 2018 ac mae’n gyfrifiad lefel uchel iawn, fodd bynnag, yr hyn sy’n amlwg yw ei fod yn isel iawn o’i gymharu â’r rhwydwaith priffyrdd yn gyffredinol.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd T Thomas

 

Mae canran fach o ffyrdd heb eu mabwysiadu yn parhau i achosi problemau penodol i drigolion sy'n byw yn yr ardaloedd hyn. Rwy’n ymwybodol, yn ardal Pencoed o ardal Porth y Cymoedd fod yna ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu ers degawdau. Felly, beth yw Strategaeth y Cyngor ar gyfer mabwysiadu’r ffyrdd hyn sydd heb eu mabwysiadu yn y tymor hir, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad yw datblygwyr safleoedd bellach yn masnachu, oherwydd eu bod efallai wedi’u diddymu neu o bosibl wedi’u dirwyn i ben am resymau eraill.

 

Ymateb

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau ei fod wedi bod yn gweithio gyda’n dau AS a’r Aelod lleol dros Fryncoch, gan edrych ar fater ffyrdd heb eu mabwysiadu, gan gynnwys yn ardaloedd Porth y Cymoedd. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn ofyniad ar ddatblygwr y safle i sicrhau bod ffyrdd yn cael eu codi i safon y gellir eu mabwysiadu, ac os yw hyn yn disgyn i ran CBS Pen-y-bont ar Ogwr, yna bydd y darn o ffordd dan sylw yn dod yn gyfrifoldeb yr awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Cronfa Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu ac mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am ddosraniad o’r arian hwn, gan arwain at waith yn cael ei wneud ar stryd ym Mhorthcawl, i ddod â hon i safon y gellir ei mabwysiadu ac yna gael ei mabwysiadu gan y Cyngor. Yn anffodus, nid yw lefel y cyllid sydd ar gael yn mynd i allu cefnogi’n ariannol y gwaith o fabwysiadu nifer y ffyrdd heb eu mabwysiadu sydd yn y Cyngor Bwrdeistref Sirol, nac yng Nghymru gyfan, felly mae’r Cyngor yn mynd i orfod ystyried y ffordd orau o ymdrin â'r mater o ffyrdd heb eu mabwysiadu yn ei ardal gyffredinol. Pe bai gan Aelodau unrhyw ymholiadau ynghylch ffyrdd heb eu mabwysiadu o fewn eu Wardiau, anogodd hwy i fynd ato'n bersonol yngl?n â'r rhain.

 

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau y  pwynt mai dim ond nifer fach o briffyrdd dosbarthedig yn y Fwrdeistref Sirol nad oeddent wedi’u codi i safon lle gellid eu mabwysiadu. Ond roedd cryn dipyn o ffyrdd heb eu mabwysiadu yn parhau. Roedd y rhain yn y prif ardaloedd nad oedd yn wynebu datblygiadau tai, ond yn fwy o lonydd ochr neu lonydd cefn ac ati, yn hytrach na phrif ffyrdd, lle nad oedd unrhyw lif sylweddol o gerbydau.  Ailadroddodd y ffaith bod gennym gyllid gan Lywodraeth Cymru i fabwysiadu ffyrdd heb eu mabwysiadu ac i gyflwyno’r ardaloedd hyn i’r prif rwydwaith priffyrdd ac mae treialon wedi dechrau mewn perthynas â hyn. Roedd yna achosion lle’r oedd datblygwyr safleoedd yn datblygu stadau tai o fewn gwahanol ardaloedd o’r Fwrdeistref Sirol, fodd bynnag, ni allai’r ffyrdd sy’n gwasanaethu’r datblygiadau hyn gael eu cyflwyno i’w mabwysiadu hyd nes bod y datblygiadau wedi’u cwblhau’n llawn gyda’r ffyrdd sy’n eu gwasanaethu yn rhai sydd o safon lle gellid eu mabwysiadu. Roedd yn dymuno pwysleisio, fodd bynnag, fod yr ardaloedd hyn yn fach o’u cymharu â hyd cyffredinol y ffyrdd a oedd yn cysylltu pob ardal ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’i hardaloedd ehangach, a oedd yn cael eu hystyried fel rhai y gellir eu cynnal. Nid oedd yn ganran fawr mewn cymhariaeth. Roedd yn bwysig sicrhau bod yr holl ffyrdd sy'n gwasanaethu lefel uchel o draffig yn cael eu mabwysiadu, er mwyn sicrhau llif llyfn ac effeithiol o gerbydau'n teithio ledled y Fwrdeistref Sirol. Byddai’r Cyngor hefyd yn parhau, ychwanegodd, i ddod â rhai strydoedd preswyl i safon lle gellid eu mabwysiadu, allan o ddyraniad cyllid Llywodraeth Cymru.