Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022-23 i 2025-26

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams - Dirprwy Arweinydd

Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

 

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Carys Lord - PennaethCyllid, Perfformiad a Newid

Kelly Watson - PrifSwyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol

 

Deborah Exton - DirprwyBennaeth Cyllid

Martin Morgans – PennaethGwasanaeth - Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth

Christopher Morris - Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr

Cofnodion:

Cyflwynwyd crynodeb o'r adroddiad gan y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid, i gyflwyno drafft o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022-23 i 2025-26 i'r Pwyllgor, sy'n gosod blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a'r meysydd cyllido sydd wedi'u targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Mae'r strategaeth yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2022-2026 a drafft manwl o gyllideb refeniw 2022-23.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid a gofynnodd yr Aelodau’r cwestiynau canlynol:

 

Cyfeiriodd un Aelod at yr arbedion gwerth £300,000 a ragwelir o drosglwyddo cyfrifoldeb am reoli asedau i glybiau, grwpiau a Chynghorau Tref a Chymunedol. Gofynnodd am ragor o wybodaeth ynghylch sut oedd y £300,000 wedi’i gyfrifo.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd ganddi’r wybodaeth wrth law ac y byddai’n cyflwyno ymateb ysgrifenedig i’r pwyllgor. Ychwanegodd Aelod arall y byddai’n codi’r broses CAT yn y cyfarfod SOSC3 a fyddai’n cael ei gynnal yr wythnos ganlynol, ac y byddai crynodeb pendant yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwnnw. Gofynnodd un Aelod, nad yw’n aelod o SOSC3, i wybodaeth gael ei chyflwyno yn y cyfarfod hwnnw ynghylch y grantiau a oedd yn cael eu cynnig ar gyfer gwaith cynnal a chadw adeiladau etc ac o ble roedd y grantiau’n dod.    

 

Cyfeiriodd un Aelod at y gyfres o bwysau cyllidebol o’r newidiadau deddfwriaethol a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r amgylchedd, newid yn yr hinsawdd, anghenion dysgu ychwanegol, Profi Olrhain a Diogelu, defnydd o Gyfarpar Diogelwch Personol, rhaglen brechu’r cyhoedd, a diwedd y Gronfa Caledi Covid-19. Dywedodd y dylai cyllid canlyniadol fod ar gael gan y Llywodraeth Ganolog, ac ni ddylai'r cyllid hwn orfod cael ei weithredu o'r cyllidebau presennol. Roedd eisiau gwybod a oedd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid canlyniadol yno. Aeth ymlaen wedyn i gyfeirio at y newidiadau deddfwriaethol a fyddai wedi effeithio ar y gyllideb, gan gynnwys cytundeb cyflogau athrawon, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r cyflog byw. Gofynnodd am gadarnhad bod y tri yn dod i gyfanswm o £1.2 miliwn allan o gytundeb gwerth £19.6miliwn. Gofynnodd hefyd a oedd y newidiadau deddfwriaethol yn bwysau parhaus, gan nad oedd hyn wedi’i nodi’n glir yn yr adroddiad. 

 

Ymatebodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a newid bod gofynion deddfwriaethol newydd yn dod heb unrhyw gyllid newydd yn fwyfwy aml. Roedd cyllid ychwanegol ar gyfer newid yn yr hinsawdd, ond nid oedd y manylion yn glir. Mewn perthynas â Chyfarpar Diogelwch Personol a chanolfannau brechu, roedd y rhain yn cael eu cyllido gan y Gronfa Caledi ar y pryd. Byddai cyllid ar gael ar gyfer y rhain, ond byddai’n cael ei gynnwys yn y cytundeb cyffredinol, a chyfrifoldeb yr awdurdodau lleol oedd amcangyfrif faint oedd yn cael ei neilltuo ar gyfer y costau hyn. Ychwanegodd bod CLlLC wedi bod yn lobïo dros y flwyddyn ddiwethaf o ran Covid yn ogystal â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau. Mewn perthynas â’r cytundeb cyflog athrawon, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r Cyflog Byw, eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid bod y cronfeydd hyn o fewn y cytundeb, fodd bynnag, nid oedd y manylion wedi'u meintioli na’u cadarnhau. Cadarnhaodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid y sefyllfa bresennol ac, o ran cyflogau athrawon, nad oeddent yn gwybod beth fyddai'r sefyllfa o fis Medi 2022 oherwydd nad oedd wedi'i gytuno eto. O ran cyfraniadau Yswiriant Gwladol, y ffigwr gwaelodlin oedd £2.1 miliwn ar gyfer staff awdurdodau lleol ond roedd staff hefyd ar gyfer y gwasanaethau a gomisiynwyd. Nid oedd y Canllawiau ar gael ar gyfer y Cyflog Byw Go Iawn, ond roedd hyd at £2.5 miliwn wedi’i neilltuo yn seiliedig ar y gwaith arwyddol. O fewn y tair ardal hynny'n unig, roedd pwysau posibl o £5.5 miliwn.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod llawer o ansicrwydd ynghylch y gyllideb o hyd. Ar un llaw, roedd cytundeb mwy hael, ond nid oedd yn manylu ar swm y cytundeb a neilltuwyd i’r pwysau ychwanegol. Yn ystod Covid, roedd cynnydd wedi bod yn y galw am yr holl wasanaethau. Byddai'r Gronfa Caledi bellach yn dod i ben, ac roedd yn anodd amcangyfrif beth fyddai'r galw wrth symud ymlaen.

 

Gofynnodd un aelod am yr atebolrwydd ariannol i'r sector annibynnol ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gofynnodd a fyddai wedi’i ysgrifennu yn y contract y byddai’r awdurdod lleol yn atebol am y math hwn o gynnydd. Gofynnodd hefyd a oedd hi’n bryd ailedrych ar y broses MTFS yng ngoleuni ansefydlogrwydd yr ymgodiadau, yn amrywio o 3 a 4% i 9%. Awgrymodd eu bod yn lobïo Llywodraeth Cymru am strategaeth 3 blynedd er mwyn gallu cyllidebu’n effeithiol.

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr bodPrif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru y byddai’n well cael cytundeb hirdymor. Cyflwynwyd cytundeb arwyddol ar gyfer pob awdurdod lleol dros y 2 flynedd nesaf ond nid oedd unrhyw arwydd beth fyddai'r dyraniad unigol. Roeddynt wedi awgrymu y byddai’n is na’r 9.2% presennol ac yn agosach at yr hyn y mae wedi bod yn ystod blynyddoedd blaenorol. Cytunodd y byddai'n well o ran cynllunio tymor hir ond cydnabyddodd y gallai fod newidiadau i bleidiau a blaenoriaethau gwleidyddol gyda'r etholiadau ym mis Mai. Ychwanegodd bod yn rhaid iddynt fod yn ddoeth wrth symud ymlaen a bod rhaid blaenoriaethu.     

 

Cytunodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid eu bod wedi bod yn lobio ers peth amser ac y byddai’r cytundeb arwyddol 3 blynedd yn helpu. O ran atebolrwydd Yswiriant Gwladol, ni fyddai eu contractwyr wedi bod yn ymwybodol o hyn ac felly ni fyddai wedi cynllunio ar ei gyfer. Pe na bai'r Awdurdod yn cefnogi rhai meysydd fel gofal cymdeithasol lle'r oedd y rhan fwyaf o'r arian a dalwyd wedi mynd ar gostau staff, yna byddai'n rhaid iddynt ei dalu eu hunain a bod angen cymorth ar Halo ac Awen hefyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at nifer o Ddeddfau newydd a oedd wedi'u cyflwyno'n ddiweddar neu a oedd ar fin cael eu cyflwyno, ac roedd pob un ohonynt yn gyfrifoldeb ariannol ychwanegol i awdurdodau. Cafwyd trafodaeth ynghylch a ddylid ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Cyllid drwy'r Cadeirydd ynghylch y pwysau ychwanegol hwn ar awdurdodau lleol, fodd bynnag, disodlwyd hyn yn ddiweddarach gan gynnig Argymhelliad 4 isod: "Argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Awdurdod lobïo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am gyllid canlyniadol ar gyfer y gofynion ychwanegol a osodir ar Awdurdodau Lleol o bwysau deddfwriaethol a rheoleiddiol,... etc."

 

Ategodd aelod arall yn llawn y sylwadau a wnaed ynghylch ansefydlogrwydd cyllid a chydymdeimlodd â'r Prif Swyddog – Perfformiad, Cyllid a Newid ynghylch y cytundeb hwyr iawn. Gofynnodd Aelod am ragor o wybodaeth ynghylch y ffigyrau AEF.

 

Eglurodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid bod y ffigyrau arwyddol ar gyfer y 2 flynedd nesaf yn is o lawer na’r ffigyrau roeddent newydd eu derbyn, ac nid oedd sefyllfa Pen-y-bont ar Ogwr o fewn y 22 awdurdod yn glir. Eleni, roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn is na’r cyfartaledd. Roedd y cytundeb hefyd yn aml yn cynnwys cyllid ar gyfer cyfrifoldebau newydd a phan dynnwyd yr elfen hon allan, roedd y cyllid yn llawer is. Gan dybio y byddai costau ychwanegol, roedd y cynnydd gwirioneddol yn debygol o fod yn debycach i 1%.       

 

Cyfeiriodd Aelod at drothwy’r Dreth Gyngor a’r rhewi dros y flwyddyn i ddod. Gofynnodd yn union sut y byddai toriad o 1% a chynnydd o 1% yn edrych o ran ffigurau, yng ngoleuni diffyg posibl o 4.2% wrth symud ymlaen.    

 

Atebodd y Prif Weithredwr fod pob 1% o'r Dreth Gyngor wedi dod â £¾ miliwn i'r awdurdod lleol felly byddai cynnydd o 4% yn hafal i £3 miliwn.

Roedd y cytundeb hael yn cynnig posibilrwydd untro o rewi’r Dreth Gyngor, sef y ffordd orau o helpu trigolion eleni.

 

Eglurodd yr Aelod ei fod yn ceisio deall pa opsiynau amgen eraill oedd wedi’u hystyried yn ystod y broses cytundeb cyllideb.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod y cytundeb yn eithaf hwyr ac nid oedd yn caniatáu llawer o amser i ystyried opsiynau amgen. Roeddynt wedi ystyried ystod o senarios a sut fyddai’r gyllideb yn cydbwyso. Yng ngoleuni’r argyfwng costau byw, ystyriwyd rhewi’r Dreth Gyngor fel gwell blaenoriaeth ar gyfer eleni, yn hytrach na gwario ar bethau eraill. Pe bai Pwyllgorau Craffu yn anghytuno â hyn, gallent awgrymu opsiynau eraill.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai cyfle i ofyn cwestiynau i’r Arweinydd / Dirprwy cyn i’r Cyngor osod y Dreth Gyngor. Eglurodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Decomcrataidd-Craffu y byddai pob un o’r 4 pwyllgor Craffu yn ystyried yr adroddiad o fewn eu maes llafur unigol dros y dyddiau nesaf ac mae’r Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd wedi cael eu gwahodd i fynychu pob un ohonynt. Byddai’r argymhellion o’r holl Bwyllgorau Craffu yn cael eu hadrodd i COSC ar 1 Chwefror ynghyd ag Argymhellion y BREP a byddai’r Cabinet yn ystyried y rheiny cyn cwrdd eto ar ddiwedd Chwefror, cyn cyfarfod y Cyngor i osod y Dreth Gyngor.

 

Ategodd un Aelod fod yr Arweinydd ac aelodau'r Cabinet, yng nghyfarfod y Cabinet y diwrnod cynt, wedipwysleisio nad oedd eu safbwynt wedi'i benderfynu ymlaen llaw ac y byddent yn ystyried y sylwadau a wnaed gan y pwyllgor Craffu a'r ymgynghoriad cyhoeddus. Byddai'n rhy hwyr i drafod y materion hyn yn y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol y byddai cyfle i ofyn cwestiynau i'r Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd yn y tri chyfarfod Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu a gynhelir dros y tri diwrnod gwaith nesaf. Ychwanegodd ei bod wedi bod yn mynychu fel Aelod Cabinet gwrando.   

 

Ymddiheurodd y Dirprwy Arweinydd am gyrraedd yn hwyr, ac eglurodd y bu mewn digwyddiad y bu’n rhaid iddo ei fynychu cyn dod yma.

 

Gofynnodd Aelod pa ystyriaethau eraill oedd y Cabinet wedi’u gwneud wrth osod y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Atebodd y Dirprwy Arweinydd mai lefel y Dreth Gyngor oedd rhan olaf y cyfrifiad bob amser. Gwnaethant ystyried pa bwysau roeddent yn medru eu hariannu o’r cytundeb a’r ffigwr cydbwyso oedd y Dreth Gyngor. 

 

Nododd un Aelod ei bod wedi gofyn mewn cyfarfod diweddar faint oedd yr Awdurdod yn ei arbed wrth ofyn i staff weithio gartref. Cafodd wybod bod arbedion wedi'u gwrthbwyso gan y gost o ddarparu offer i bawb ac roedd yn cwestiynu pam fod y bil llungopïo mor uchel, os oedd gan bawb eu hoffer eu hunain. 

 

Eglurodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid fod pwysau'r gyllideb yn ymwneud â phostio gan fod angen dogfennau neu gopi papur ar staff o bryd i'w gilydd ac anfonwyd y rhain i'w cyfeiriad cartref. Gwrthbwyswyd hyn gan yr arbedion a wnaed oherwydd nad yw staff yn y swyddfa mwyach, ac felly nid ydynt yn argraffu pethau nad ydynt efallai eu hangen. Roedd problem gydag argraffwyr ar brydles yn y swyddfeydd a'r gost brydles yn daladwy arnynt. Roedd diffyg yn y gyllideb argraffu TGCh, a bu'n rhaid iddynt bennu'r model cyflenwi a'r cyfleusterau argraffu yn y dyfodol ac edrych ar y prydlesi i weld a allent ddod â rhai i ben. Roedd arbedion posibl, ond nid ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd Aelod pam nad oedd dogfennau’n cael eu sganio a’u hanfon dros e-bost yn hytrach nag anfon copiau papur. Eglurodd y Pennaeth Partneriaethau bod tymor o 3 blynedd ar yr argraffwyr a byddai pobl yn argraffu yn y swyddfa yn gwrthbwyso’r gost. Gwnaethant sganio swm sylweddol, ond roedd hyn yn bennaf ar ôl cael ei anfon allan. Roeddent wedi lleihau'r argraffu'n aruthrol ac wedi dechrau sganio’n llawer mwy aml.

 

Gofynnodd Aelod a oedd Swyddogion yn medru dod i’r swyddfeydd i gasglu post. Atebodd y Pennaeth Caledu bod Swyddogion yn defnyddio system ddigidol lle roedd papurau’n cael eu sganio a’u hanfon ymlaen yn electronig. Roedd y pwysau hwn yn bennaf yn ymwneud â rhoi dogfennau i breswylwyr, a byddai hyn wedi'i gynnwys o dan gyllideb wahanol yn flaenorol.      

 

Gofynnodd Aelod am ragor o wybodaeth am yr adolygiad cymorth busnes. Esboniodd y Prif Weithredwr fod hyn ychydig yn gamarweiniol gan ei fod yn edrych fel cynnydd o £405,000 pan oedd mewn gwirionedd yn rhan o'r ymateb i wella adnoddau gwasanaethau rheng flaen fel gwasanaethau plant a'r gwasanaeth cymorth cynnar. Roeddynt wedi ceisio mabwysiadu arferion gwahanol i ryddhau staff rheng flaen er mwyn ymdopi â'r cynnydd yn y galw.Byddai Cam 2 yr adolygiad o gymorth busnes yn dal i gael ei gynnal ond byddai hyn yn creu sefyllfa i fynd i'r afael â'r galw ar y funud honno.

 

Cyfeiriodd aelod at CW1, praesept y Gwasanaeth Tân a gofynnodd a fu unrhyw symudiad ar ei gyllideb ac a ddylai'r Awdurdod Tân fod fel yr Heddlu a'i braesept eu hunain. 

 

Atebodd y Prif Swyddog – Perfformiad a Newid Cyllid nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ddiweddariad ac y byddai'r Awdurdod Tân yn cyfarfod ddechrau mis Chwefror i gwblhau ei gyllideb. Nid oeddent yn rhagweld unrhyw newidiadau. Bu trafodaethau ynghylch cyllid er mwyn iddynt ddod yn debycach i'r Heddlu, a bu ymgynghoriad ar hyn.       

 

Gofynnodd Aelod am y Gronfa Caledi yr oedd yr ysgolion wedi dibynnu arni. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod canllawiau ynghylch Covid gan gynnwys gosod swigod, diheintio dwylo a glanhau mwy trylwyr a gofynnodd a fyddai disgwyl i'r ysgolion wneud y gwaith ychwanegol o hyd ac a fyddai hyn yn cael ei ariannu gan y Cyngor neu a fyddai disgwyl i'r ysgolion dalu'r gost. Nid oedd yr Aelod ar y Pwyllgor Craffu a oedd yn mynd i’r afael ag addysg, felly ni fyddai’n medru gofyn y cwestiwn ar yr adeg berthnasol. Cytunwyd y gellid codi'r cwestiwn ar ei rhan yng nghyfarfod SOSC 1 y diwrnod canlynol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai'r naratif o amgylch y £1 miliwn oedd y byddai'n cael ei ddyrannu'n daclus lle'r oedd ei angen. Nid oeddent yn gofyn i ysgolion ysgwyddo'r arbedion o 1%, ond disgwylid na fyddai'r £1 miliwn yn talu am bopeth. Roedd potensial i ddyrannu arian wrth symud ymlaen. 

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw ffigurau dangosol ynghylch y pwysau parhaus ar ddigartrefedd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Perfformiad a Newid Cyllid fod darpariaeth eisoes o fewn y gyllideb sylfaenol i gefnogi gwasanaethau digartrefedd wrth symud ymlaen a byddai hyn yn cael ei fonitro'n ofalus.  

 

Cyfeiriodd Aelod at y Cyflog Byw Go Iawn a dywedodd fod croeso mawr iddo. Gofynnodd am eglurder bod y naratif yn cyfeirio at weithwyr gofal a phob cysylltydd allanol fel Halo ac Awen.

 

Atebodd y Dirprwy Arweinydd eu bod yn anelu at gynnwys yr holl wasanaethau a gomisiynwyd yn allanol.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyfreithiol, Rheoleiddio ac Adnoddau Dynol a Swyddog Monitro mai dyma’r cyfeiriad ar hyn o bryd a'i fod wedi'i gynnwys yn y cynllun gweithredu a gyflwynwyd i'r Sefydliad Cyflog Byw Go Iawn i'w achredu. Roeddent mewn contractau gyda'r partneriaid a'r asiantaethau felly roedd proses yr oedd yn rhaid iddynt fynd drwyddi, a byddai'n cael ei chynnwys wrth ddyfarnu contractau newydd.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid mai dim ond i gefnogi cyflog byw gwirioneddol y gweithwyr gofal y byddai pwysau'r gyllideb hon yn cynyddu'n fewnol ac yn allanol. Roeddent yn aros am Ganllawiau ar sut y byddai'n cael ei ddefnyddio.

 

Gofynnodd Aelod pam mae’r Cyflog Byw Go Iawn a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu trin yn wahanol o fewn y contractau. Atebodd y Prif Swyddog Cyfreithiol, Rheoliadol ac Adnoddau Dynol a’r Swyddog Monitro bod cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn orfodol ac nid oedd disgresiwn, tra bod yr Awdurdod wedi gwneud cais i ddod yn achrededig o ran y Cyflog Byw Go Iawn, ac nid oeddynt dan unrhyw rwymedigaeth i’w dalu ar y cam hwn. Roedd hyn yn barhaus a byddai’n parhau wrth symud ymlaen ac wrth i gontractau gael eu diweddaru, byddai’n cael ei gynnwys yn y broses gaffael.

 

Cynghorodd y Cadeirydd fod pob Aelod o’r Pwyllgor a oedd yn dymuno gofyn cwestiynau wedi siarad, felly gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r gwahoddedigion, diolchodd iddynt am eu presenoldeb a daeth y cyfarfod i ben.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r atodiadau, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion canlynol i’w cadarnhau a’u cynnwys yn yr adroddiad i'r Cabinet ar yr MTFS drafft, gan gynnwys y pwysau cyllidebol arfaethedig a'r cynigion i leihau'r gyllideb o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu hwn, fel rhan o broses ymgynghori'r gyllideb:

Argymhellion:

 

1. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid adolygu ac addasu'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a'r Cynllun Corfforaethol yn seiliedig ar ansefydlogrwydd y cyllid, anawsterau cynllunio ariannol ar gylch 3 i 5 mlynedd a'r angen i symud ymlaen yn ddoeth.

 

2. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnal trosolwg corfforaethol o'r broses gaffael a

thendro ac mae'n ystyried rhwymedigaethau ychwanegol i'r Awdurdod ar gyfer costau staffio, a fyddai'n cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol, codiadau cyflog / cyflog cenedlaethol, etc.

 

3. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad a yw'r gofyniad i'r

Awdurdod dalu mwy o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i staff mewn

gwasanaethau a gomisiynir yn dod o gyfraith cyflogaeth neu o fewn

telerau'r contractau.

 

4. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Awdurdod lobïo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am gyllid canlyniadol ar gyfer y gofynion ychwanegol a osodir ar Awdurdodau Lleol gan bwysau deddfwriaethol a rheoleiddiol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â: Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd, cyfrifoldebau awdurdodau lleol mewn perthynas ag ymateb i newid yn yr hinsawdd a bodloni targedau di-garbon net, goblygiadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, etc, ac mae'n gofyn i Lywodraeth Cymru nodi’r rhan o’r cyllid craidd sy'n cwmpasu'r cyfrifoldebau ychwanegol hyn. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am ddadansoddiad fesul eitem o faint mae'r ymrwymiadau deddfwriaethol / rheoleiddiol ychwanegol, fel Cyflogau Athrawon, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, Cyflog Byw Go Iawn, etc, yn ei ddefnyddio o’r cynnydd gwerth £19.6 Miliwn mewn cyllid, er mwyn cael syniad cywir o weddill y cynnydd o 9.2% yn y cytundeb cyllideb.

 

5. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Cabinet ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn eu hannog i bennu cylch cytundeb cyllideb Strategaeth ariannol Tymor Canolig aml-flwyddyn, o 3 neu 5 mlynedd.

 

6. O ran pwysau cyllideb CEX1, argymhellodd y Pwyllgor

y dylid ystyried parhau i leihau cost postio yn ganolog

oherwydd y cynnydd yn y ddarpariaeth o wasanaethau digidol, a gofynnodd i’r arbedion

sy'n cael eu gwneud gan Gyfarwyddiaethau unigol gael eu nodi.

 

7. O ran pwysau cyllideb CW1, argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Cabinet ofyn am eglurder ar ganlyniad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar braesept / cyllid y Gwasanaeth Tân ac Achub.

 

8. O ran pwysau cyllideb CW3, mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch a fyddai'r £1M yn ddigon i fodloni'r ystod o wasanaethau posibl y gallai fod angen eu cefnogi, o ystyried graddau'r hawliadau blaenorol am Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru gan wasanaethau o'r fath e.e., ysgolion, digartrefedd etc, a gofynnodd am restr i weld beth yw’r pwysau am gefnogaeth yn dilyn dod â chronfa caledi Llywodraeth Cymru i ben.

Dogfennau ategol: