Agenda item

Cyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Rhaglen o Gyflwyniadau i’r Cyngor yn y Dyfodol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad uchod, gyda rhan ohono'n cyflwyno'r cynrychiolwyr a oedd yn bresennol o'r Bwrdd Iechyd Prifysgol uchod (BIP CTF).

 

Yn bresennol o’r Bwrdd Iechyd roedd Paul Mears, Prif Weithredwr, Emrys Elias, Cadeirydd ac Anthony Gibson, Cyfarwyddwr Gr?p, ILG Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mynegodd Mr. Mears, y Prif Weithredwr, pa mor falch ydoedd o allu bod yn bresennol heddiw a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith sy'n mynd rhagddo yn y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd. Fel y byddai’r Cyngor yn sylweddoli, bu gwaith cyson gyda staff a oedd dan bwysau aruthrol drwy gydol y pandemig hyd heddiw.

 

Byddai’r cyflwyniad heddiw yn amlwg yn ymdrin â COVID-19 a chynllunio ynghylch adfer gwaith llawfeddygol dewisol a chynllunio ar gyfer gwaith y gaeaf rydym yn ei wneud mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y Cyngor yn lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd Prif Weithredwr Cwm Taf hefyd yn bwriadu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol, yr Ysbyty Cymunedol, Maesteg a CAMHS.

 

Bellach roedd cyfnod brig unwaith eto yn cael ei brofi mewn perthynas â COVID, ar ffurf amrywiolyn Omicron a oedd yn dechrau cydio yng Nghymru. Ar hyn o bryd nid oedd wedi cael effaith mor sylweddol o ran derbyniadau i’r ysbyty hyd yma yn CTM, ac yn wir roedd cyfraddau trosglwyddo Omicron yn gymunedol yn ein hardal yn dal yn gymharol isel. Fodd bynnag, fel gydag amrywiolion eraill o’r salwch bu’n rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd edrych ar ei gapasiti dros yr ychydig wythnosau a’r misoedd nesaf i wneud yn si?r bod cyflenwad digonol o staff ar gael i ymdopi ag unrhyw oblygiadau a allai ddod yn sgil y straen, hy derbyniadau i’r ysbyty a chapasiti o ran gwelyau ac ati. Mae’n debyg y bydd y straen hwn o’r salwch yn cynyddu'n gyflym iawn fel y mae eisoes yn ei wneud mewn rhannau o Loegr, ychwanegodd.

 

Yn amlwg, rhan allweddol o’r ymateb i COVID yw’r drefn brofi. Rydym wedi cael galw mawr iawn am ein profion PCR. Mae hynny’n eithaf sefydlog ar hyn o bryd, a’r cynllun yn amlwg yw parhau â’r capasiti profi sydd gennym ar draws ein hardal ffiniau iechyd, i sicrhau ein bod yn rhoi mynediad cyn gynted â phosibl i bobl a allai amau bod ganddynt symptomau, i allu eu cael wedi’u profi. Ac yn gefn i hynny mae’n amlwg mae’r olrhain cyswllt sydd y tu ôl i'r profion.

 

Roedd hefyd yn bwysig gwneud yn si?r ein bod yn gallu olrhain a diogelu pobl sydd wedi dod i gysylltiad ag unigolion sydd wedi profi’n bositif am COVID.

 

O ran brechu, dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf fod 159,000 o bigiadau atgyfnerthu wedi’u rhoi ar draws ei ardaloedd, sef 49.59% o boblogaeth gymwys y Bwrdd Iechyd. Serch hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddeb yn ystod y diwrnodau diwethaf, y dylem fod yn cynnig y pigiad i bob un cymwys trwy Gymru.

 

Felly erbyn diwedd Rhagfyr, y nod yw cynnig pigiad i bawb yn ardal Cwm Taf, a theimlai’r Prif Weithredwr ei bod yn bwysig gwahaniaethu rhwng cynnig y pigiad, a chael un ym mreichiau pobl mewn gwirionedd, sef y nod. 

 

Yn amlwg, y rhesymeg y tu ôl i gynyddu ymgyrch y pigiadau atgyfnerthu yw ceisio mynd i’r afael â chynnydd yr amrywiolyn Omicron. Gwyddom fod y brechlyn yn rhoi amddiffyniad ychwanegol rhag yr amrywiolyn ac yn amlwg, rydym yn ceisio brechu cymaint o bobl â phosibl er mwyn lleihau effaith salwch pobl ar wasanaethau iechyd. Dywedodd y bydd llawer o Aelodau’n ymwybodol o’r cyfryngau nad ydym yn gwbl si?r eto beth fydd effaith yr amrywiolyn newydd ar dderbyniadau i’r ysbyty. Serch hynny, mae posibilrwydd y gallai’r amrywiolyn newydd arwain at straen sylweddol unwaith eto o ran adnoddau ar y Gwasanaeth Iechyd.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr, Cwm Taf, fod canolfannau brechu ychwanegol bellach yn gweithredu o ddiwedd yr wythnos hon. Byddai’r rhain yn gweithredu o 7:00 a.m. tan 10:00 p.m., saith diwrnod yr wythnos. Roedd hyn, fodd bynnag, hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Gwm Taf gynyddu ei gapasiti staffio yn eithaf sylweddol, er mwyn gallu darparu gwasanaeth ar adeg pan fo staff o’r fath hefyd yn amlwg yn flinedig iawn oherwydd nad oedd unrhyw saib sylweddol wedi bod yn y pandemig a salwch i aelodau’r gymdeithas. Ychwanegodd y byddai’r fyddin hefyd yn helpu i gefnogi rhaglen y brechiad atgyfnerthu hon.

 

Yr unig eithriad i agor rhagor o ganolfannau brechu fyddai Dydd Nadolig a G?yl San Steffan. Oherwydd yr oriau agor ychwanegol hyn a rhagor o Ganolfannau ar agor, bu modd i ni ychwanegu 10,000 o apwyntiadau ychwanegol yr wythnos diwethaf ac rydym wedi gweld cynnydd pellach yr wythnos hon, gan ein bod wedi gallu cael mwy o staff wrth law i allu helpu i ehangu’r gweithlu brechu.

Diolchodd Prif Weithredwr Cwm Taf i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eu cymorth yn darparu llawer o gefnogaeth weinyddol i'r ymdrechion yn ymwneud â brechu, trwy ddarparu staff i gynorthwyo yma. Anogodd y Cynghorwyr hefyd i ymgysylltu â’u hetholwyr, i gael cymaint o bobl â phosibl i gael eu brechu yn y gymuned, ar draws pob ystod oedran. Gobeithio, drwy'r dull cydgysylltiedig hwn, y bydd pawb dros 18 oed wedi cael cynnig y pigiad atgyfnerthu erbyn diwedd mis Rhagfyr.

Oherwydd pwysau parhaus Covid-19 a’r heriau a ddaeth yn sgil y salwch, yn anffodus roedd ôl-groniad sylweddol o gleifion bellach yn aros am weithdrefnau a llawdriniaethau wedi’u cynllunio.

Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, roedd ymdrechion ar y gweill i geisio delio â hyn. Eleni, roedd Cwm Taf wedi derbyn £16m ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi hyn.

Fodd bynnag, roedd y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu her sylweddol yn barhaus o ran ceisio jyglo’r galwadau cystadleuol o reoli cymorth brys i gleifion Covid, yn erbyn cefnogi cleifion â salwch a chlefydau eraill, a oedd wedi bod yn broblem enfawr ers dechrau’r pandemig.

Roedd problem yn parhau lle roedd pobl yn cael dyddiadau ar gyfer llawdriniaeth fawr, gyda’r rhain yn gorfod cael eu canslo ar y funud olaf oherwydd mewnlifiad o gleifion Covid i’r ysbyty oherwydd straen newydd o amrywiolion yn dod i’r amlwg, gyda hyn ar ben yr heriau yn ymwneud â chleifion oedd angen gofal sylfaenol; pobl yn cael apwyntiad gyda’u meddyg teulu ar gyfer salwch mwy cyffredinol arall a phobl yn teimlo’r straen meddwl a achosir gan y salwch, fel y rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain ac yn profi unigedd, yn enwedig yn ystod y cyfnodau clo.

Mewn rhai ardaloedd, megis yn y Rhondda, roedd Canolfannau Gofal Sylfaenol wedi’u cyflwyno, er mwyn cymryd rhywfaint o’r straen a roddwyd ar y Gwasanaeth Iechyd gan y pandemig. Roedd wedi bod yn anodd i gleifion hefyd weld meddyg teulu am apwyntiad, a bu'n rhaid iddynt gael eu hasesu dros y ffôn yn gyntaf. Yr hyn a oedd wedi bod o gymorth yma fodd bynnag oedd y ffaith bod y gwasanaethau Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau a oedd gynt ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig, bellach wedi’u hymestyn ar draws ardal Cwm Taf. Felly roedd yn haws cael apwyntiad i weld meddyg teulu, er y gallai fod yn rhaid i gleifion deithio ar gyfer hyn yn hytrach na gweld eu meddyg teulu eu hunain yn eu practis lleol. Roedd y gwasanaeth hwn hefyd wedi’i ymestyn ac roedd bellach yn wasanaeth 24 awr 

Yn ychwanegol at hyn eglurodd Prif Weithredwr Cwm Taf, roedd cefnogaeth ein tîm Gofal Aciwt yn y gymuned a oedd yn wasanaeth cartref. Felly os oeddech yn glaf, a oedd wedi cael eich asesu gan feddyg teulu fel un oedd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol megis, er enghraifft, mewnbwn gan geriatregydd neu fod arnoch angen cael eich goruchwylio tra roeddech gartref, roedd nyrsys arbenigol ar gael yn y gymuned i ymweld â chleifion (yn eu cartrefi) ac mewn gwirionedd ofalu amdanynt yno, er mwyn osgoi dod â nhw i'r ysbyty. Roedd y rhain wrth gwrs yn gleifion y gellid eu trin yn ddigonol gartref heb fod angen iddynt ddod i mewn i sefydliad /amgylchedd gofal.

Canmolodd Prif Weithredwr Cwm Taf hefyd y gwaith partneriaeth a oedd yn parhau i gael ei ddatblygu rhyngddynt hwy a 3 awdurdod lleol Merthyr, RhCT a CBSP. Roedd hyn wedi datblygu ar y gwaith a gyflawnwyd yn ddiweddar, gan ganolbwyntio ar integreiddio gwasanaethau ar gyfer y boblogaeth leol ymhellach a dod ag iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd mewn modd llawer mwy cydgysylltiedig ar draws y 3 ardal. Roedd gwaith yn mynd rhagddo yma, roedd yn falch o gadarnhau, gan gynnwys fel ffrwd waith ar y cyd yn y dyfodol, gan ymdrin gyda’i gilydd â'r agenda datgarboneiddio, trefniadau rheoli cyfunol rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd, fel y rhai a brofir mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Yna cyfeiriodd Prif Weithredwr, Cwm Taf, at rywfaint o’r gwaith gwella sydd wedi bod yn digwydd yn y gwasanaethau mamolaeth, gan gynnwys yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hyfforddiant a datblygiad pellach i staff wedi helpu i gyflawni hyn, ychwanegodd.

Roedd gwaith pellach hefyd yn mynd rhagddo yn ein gwasanaethau newydd-enedigol, y rhoddir adroddiad amdano yn y gwanwyn. Roedd hwn yn faes lle cafodd Cwm Taf ymdrech sylweddol a chymorth cynyddol gan glinigwyr ar draws y Bwrdd Iechyd, i edrych ar sut y gallai wella’r gwasanaethau newydd-enedigol ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed ymhellach. Roedd hyn yn cael ei ystyried i ddechrau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr, gyda gwelliannau wedyn yn cael eu hymestyn i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Prif Weithredwr, Cwm Taf y byddai'r gwaith a oedd wedi'i wneud mewn gwasanaethau newydd-enedigol yn destun adolygiad, a fyddai'n cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Roedd rhaglen waith ar y gweill ar hyn o bryd yn yr Ysbyty Cymunedol ym Maesteg. Roedd angen gwneud gwaith ar y to, gan ei fod mewn cyflwr gwael. Roedd y gwaith hwn bellach wedi'i gwblhau. Byddai gwaith ar wahoddiadau i dendro yn dechrau yn fuan ar gyfer gwaith ar welyau cleifion mewnol a materion yn ymwneud â chapasiti.

Roedd Cwm Taf wedi bod yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru am fwy o adnoddau ariannol mewn perthynas â’r uchod, oherwydd nad oedd yr amlen wreiddiol o gyllid a ddyrannwyd ar gyfer y gwaith hwn bellach yn mynd i fod yn ddigonol, o ystyried y chwyddiant yn y costau sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.

Byddai Cwm Taf yn diweddaru’r gymuned leol, gan gynnwys Aelodau Wardiau a rhanddeiliaid eraill i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau a’r cynnydd yma, gan gynnwys canlyniad sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru.

Yn olaf, rhannodd y Prif Weithredwr rywfaint o wybodaeth ag Aelodau am CAMHS, sef gwasanaeth y GIG sy'n asesu ac yn trin pobl ifanc ag anawsterau emosiynol, ymddygiadol neu iechyd meddwl. Mae cymorth CAMHS yn cynnwys trin iselder, problemau gyda bwyd a bwyta, hunan-niweidio, cam-drin, trais neu ddicter, anhwylder deubegynol, sgitsoffrenia a phryder, ymhlith anawsterau eraill.

Roedd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnal yn bennaf yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, lle bu cynnydd sylweddol yn y galw yn ddiweddar, cyn ac ers y pandemig. Roedd yn rhaid creu meysydd twf yn awr i gefnogi’r bobl ifanc hyn a’u problemau yn well oherwydd y cynnydd hwn mewn galw, nad oedd wedi dangos unrhyw arwydd o leihau. Yn amlwg nid oedd effaith y pandemig wedi eu helpu gyda'u problemau, ond yn fwy rhagweladwy roedd wedi eu gwaethygu. Bu cynnydd amlwg, meddai’r Prif Weithredwr, mewn pobl ifanc ag anhwylderau bwyta nid yn unig o ran niferoedd, ond hefyd o ran difrifoldeb eu problemau yma. Roedd gwasanaeth arbennig bellach wedi'i sefydlu er mwyn darparu mwy o gymorth i'r categori penodol hwn o glaf. 

Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda cholegau lleol, er mwyn ceisio sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n profi problemau fel y rhai a restrir uchod yn cael cymorth cwnsela a threfniadau diogelu drwy'r awdurdod lleol, lle'r oedd hynny'n cael ei ystyried yn angenrheidiol.

Ar safle Ysbyty Tywysog Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd canolfan Haen 4 arbenigol a oedd yn darparu cymorth i bobl ifanc â phroblemau CAMHS, gan gynnwys anhwylderau bwyta.

Diolchodd y Maer i'r cynrychiolwyr o Gwm Taf am eu cyflwyniad ac yna agorodd y llawr ar gyfer cwestiynau i'r Gwahoddedigion.

 Cyfeiriodd Aelod at Ysbyty Cymunedol Maesteg a'i bryder bod oedi yno o ran symud pethau ymlaen o ran y gwaith sy'n cael ei gynnig yno. Roedd hefyd yn bryderus ynghylch y ffaith fod sïon ar led i'r perwyl bod yr ysbyty yn mynd i gael ei gau. Gofynnodd felly am ddiweddariad ar hyn.

Roedd hefyd yn ymwybodol fod cynnig i ddatblygu gwasanaeth dialysis ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gofynnodd a oedd bwriad i hwn gael ei arwain gan Feddyg Ymgynghorol neu Ymarferydd Nyrsio.

Sicrhaodd Prif Weithredwr Cwm Taf yr Aelod fod ymrwymiad i gadw Ysbyty Cymunedol Maesteg ar agor a’r ystod o wasanaethau gofal iechyd y mae’n eu darparu yno. Byddai’r rhain yn wasanaethau sy’n diwallu anghenion poblogaeth Llynfi yn ogystal ag anghenion rhai o drigolion y Fwrdeistref Sirol ehangach.

Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf fod trafodaethau ar y gweill gyda Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a oedd yn darparu cymorth dialysis i bobl yr oedd angen hyn arnynt yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr trwy wasanaethau iechyd arbenigol. Roedd nifer o opsiynau ar y bwrdd ar hyn o bryd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol, sef Uned Dialysis oddi ar y safle ar wahân i Ysbyty Tywysoges Cymru, yn ogystal â chyfleuster Cleifion Allanol. Byddai'r Uned yn cael ei harwain gan nyrsys ond hefyd yn cael ei chefnogi gan fewnbwn dyddiol gan Feddyg Ymgynghorol, felly model cymysg yn y bôn. Gan y byddai hwn yn cael ei adeiladu gan gontractwr preifat, nid oedd unrhyw wybodaeth gadarn hyd yma ymhle y byddai hwn yn cael ei leoli yn y Fwrdeistref Sirol.

Nododd Aelod fod gwasanaeth cymorth CAMHS T? Llidiard yn gyfleuster Haen 4. Gofynnodd beth oedd Haen 4 yn ei olygu.

Cadarnhaodd Prif Weithredwr, Cwm Taf mai Haen 4 oedd y lefel uchaf o gymorth i gleifion CAMHS mewn gofal a bod T? Llidiard yn darparu cymorth i bobl ifanc yn Ne Cymru hyd at gyrion De-orllewin Cymru, felly roedd yn cael ei ddosbarthu fel canolfan gefnogaeth lefel uchel draws-ranbarthol.

Cadarnhaodd Aelod ei fod wedi cyfarfod yn 2019 â Chadeirydd Cwm Taf ar y pryd ynghylch y diffyg darpariaeth gofal sylfaenol yn ardal Porth y Cymoedd (oddi ar Gyffordd 36). Roedd wedi cadarnhau y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch cynnig posibl i ymestyn Meddygfa Tyn-y-Coed yn Sarn, i gymryd i ystyriaeth y diffyg darpariaeth hwn ac o ystyried y ffaith bod yr ardal hon o’r Fwrdeistref Sirol wedi cynyddu yn nhermau ei thwf mewn poblogaeth.

Yn wyneb y ffaith fod yr Aelod wedi cysylltu’n uniongyrchol â Chwm Taf ar y mater hwn, cadarnhaodd Prif Weithredwr Cwm Taf y byddai’n siarad â’r Cynghorydd am y mater hwn, y tu allan i’r cyfarfod.

Gofynnodd Aelod a fyddai pobl sy’n cael eu dosbarthu fel rhai sy’n gaeth i’r t? yn cael pigiad atgyfnerthu Covid yn y cartref gan Ymarferydd Nyrsio.

Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf y byddai pawb sy'n gaeth i'w cartrefi yn y Fwrdeistref Sirol yn cael eu pigiad atgyfnerthu erbyn diwedd mis Rhagfyr, drwy ymweliadau cartref, naill ai gan Feddygon Teulu neu Ymarferwyr Nyrsio. Fodd bynnag, byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r rhai a oedd mewn gwirionedd yn gaeth i’r t? yng ngwir ystyr y gair, oherwydd mewn rhai achosion roedd unigolion a oedd yn honni eu bod yn gaeth i’r t?, mewn gwirionedd, trwy gefnogaeth pobl eraill, yn gallu ymweld â’u practis meddyg teulu neu ganolfannau fel yr un yn Ravenscourt ar gyfer y pigiad atgyfnerthu.  

Daeth yr Arweinydd â’r ddadl ar y pwnc pwysig hwn i ben drwy ddiolch i’r Prif Weithredwr a’i gydweithwyr am dderbyn y gwahoddiad i’r cyfarfod heddiw a darparu diweddariad mor addysgiadol a chynhwysfawr ar waith Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Ategwyd y teimladau hyn gan y Maer, cyn i’r gwesteion adael y cyfarfod.

PENDERFYNWYD:              Nodi adroddiad y Prif Weithredwr a'r cyflwyniad a roddwyd gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Dogfennau ategol: