Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Sylwadau a Chwynion 2020/21

Cofnodion:

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant am Adroddiad Blynyddol 2020/21 ar sylwadau a chwynion y gwasanaethau cymdeithasol fel sy’n ofynnol dan ganllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet am yr angen i awdurdodau lleol gael gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer ystyried unrhyw sylwadau neu gwynion a gâi eu gwneud ynghylch cyflawni eu swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol. Tynnodd sylw at elfennau allweddol Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol a bod gan achwynwyr, ar ôl dihysbyddu’r weithdrefn gwyno, yr hawl i gyfeirio eu pryder i’w ystyried gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet fod yr Adroddiad Blynyddol yn gosod pwyslais nid yn unig ar gwynion ond hefyd ar y sylwadau a’r ganmoliaeth a dderbyniwyd dan ddefnyddwyr y gwasanaeth er mwyn rhoi darlun cytbwys. Dywedodd fod y gwasanaethau yn awyddus i ddysgu oddi wrth y wybodaeth a gasglwyd a defnyddio hon i hysbysu datblygiadau gwasanaeth yn y dyfodol ac unrhyw welliannau i’r gwasanaeth. Roedd hefyd yn cynnwys ystadegau yn ymwneud â chwynion yr ymdriniwyd â hwy yn unol â Gweithdrefn Gwynion Gorfforaethol yr Awdurdod, gyda’r mwyafrif o gwynion wedi derbyn sylw a’u datrys yn anffurfiol (cyn cyrraedd Cam 1 y weithdrefn gwyno). Roedd hyn yn sicrhau bod pryderon yn cael eu datrys yn gyflym ac yn cadw achwynwyr rhag gorfod defnyddio’r weithdrefn gwyno ffurfiol heb fod rhaid. Tynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sylw at enghreifftiau yn yr Adroddiad Blynyddol lle roedd teuluoedd defnyddwyr gwasanaeth wedi rhoi adborth cadarnhaol iawn a chanmoliaeth i’r staff yn Gofal Cymdeithasol Oedolion a Gofal Cymdeithasol Plant am fynd uwch ben a’r tu hwnt mewn blwyddyn oedd wedi cael ei drysu gan Covid-19 a phan oedd cyfyngiadau sylweddol yn eu lle. Gellid bod wedi disgwyl mwy o gwynion; fodd bynnag, roedd y staff wedi addasu i ffyrdd newydd o weithio.    

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet fod adroddiad 2020/21 yn cynnwys gwybodaeth ystadegol ynghylch y sylwadau a’r cwynion a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn yngl?n â Gofal Cymdeithasol Oedolion a Gofal Cymdeithasol Plant. Dywedodd yr ymgymerid â’r rhan fwyaf o'r gwaith a gâi ei wneud o fewn Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â naill ai’r Swyddog Monitro a/neu’r Gwasanaethau Cyfreithiol a bod perthynas waith gref rhwng staff cwynion y gwasanaethau cymdeithasol a thîm staff y gwasanaethau cyfreithiol.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i holl dîm y Gwasanaethau Cymdeithasol am y gwaith eithriadol yr oedd wedi ei gyflawni yn y flwyddyn a aeth heibio yn cynorthwyo’r trigolion mwyaf bregus.     

 

Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant beth oedd yn digwydd pan dderbynnid c?yn a beth mae’r gwasanaeth yn ei wneud i ymateb i g?yn. Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet ei bod yn bwysig cyfarfod â’r achwynwr a datrys y mater yn fuan a’i bod yr un mor bwysig cefnogi staff a sicrhau bod y staff wedi derbyn hyfforddiant ac wedi eu grymuso. Roedd hefyd yn bwysig datrys y g?yn yn fuan er mwyn cadw’r mater rhag cael ei gyfeirio at yr Ombwdsmon. Gwnaeth yr Arweinydd sylw am bwysigrwydd cael datrysiad buan i gwynion oherwydd mai anaml, fel arall, y ceid bodlonrwydd. Dywedodd hefyd ei bod yn bwysig i drigolion gymryd rhan yn y broses gwynion. Dywedodd fod y broses yn foddion i atgoffa bod y Cyngor yno i ddarparu cymorth ar yr adeg bwysicaf ym mywydau pobl.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar weithdrefnau sylwadau a chwynion y gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer 2020/21.        

Dogfennau ategol: