Agenda item

Taliad Untro Ychwanegol i Ofalwyr Maeth a Gofalwyr Lleoliadau Oedolion Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Adroddodd Rheolwr Gr?p Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr am gynnig i wneud taliad untro i Ofalwyr Maeth a Gofalwyr Lleoliadau Oedolion Pen-y-bont ar Ogwr fel cydnabyddiaeth o’r gwaith caled yr oeddent wedi ei gyflawni drwy gydol Pandemig Covid.

 

Dywedodd fod y cyfnod clo wedi achosi cau ysgolion a phlant a phobl ifanc yn aros gartref ar hyd y dydd, gydag ychydig iawn o gyfle i gymdeithasu gyda’u cyfoedion a bod hynny wedi amharu ar eu bywydau. Roedd plant mewn gofal wedi dioddef yr effaith ychwanegol o fethu â chyfarfod gyda’u teulu wyneb yn wyneb a’r rhieni maeth yn ystod y cyfnod hwn yn hwyluso cyswllt gyda’r plant hyn dros y ffôn neu gan ddefnyddio Facetime, gan ymgymryd â’r rôl hon yn aml am y tro cyntaf gydag ychydig o baratoad, hyfforddiant na mynediad hawdd at gymorth. Dywedodd fod gofalwyr maeth a darparwyr oedd yn rhedeg llety â chymorth wedi dangos lefelau uchel o wytnwch, gan gynnig y safonau uchaf o ofal i’r plant yr oeddent yn gofalu amdanynt, yr oedd llawer ohonynt yn ymddwyn yn heriol o ganlyniad i’w profiadau o drawma. Hysbysodd y Cabinet mai effaith arall y pandemig oedd yr effaith ar oedolion ag anabledd dysgu oedd yn byw gyda theuluoedd lleoliadau oedolion. Nid oedd y gr?p hwn o bobl yn gallu cymryd rhan yn eu gweithgareddau dyddiol arferol bellach oherwydd y cyfyngiadau ar redeg gwasanaethau dydd, na chael cyswllt wyneb yn wyneb gyda’u cyfeillion a’u perthnasau.

 

Dywedodd fod dau daliad wedi cael eu gwneud i’r gweithlu gofal cymdeithasol fel rhan o fenter genedlaethol yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, i gydnabod a gwobrwyo gwaith caled ac ymrwymiad staff oedd wedi darparu gofal hanfodol i’r dinasyddion mwyaf bregus yn ystod pandemig Covid-19. Ni chafodd gofalwyr maeth, y darparwyr oedd yn rhedeg llety â chymorth, a theuluoedd lleoliadau oedolion eu gwobrwyo yn y ffordd hon er gwaethaf eu hymrwymiad a’r swyddogaeth sylweddol yr oeddent yn ei chyflawni mewn diogelu plant agored i niwed, pobl ifanc ac oedolion ag anabledd dysgu yr oeddent yn gofalu amdanynt yn ystod cyfnod eithriadol o anodd.

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p Lleoliadau a Gwasanaethau Darparwyr fod yna brinder pobl a all ddarparu gofal maeth a lleoliadau llety â chymorth i blant a phobl ifanc nad ydynt yn medru byw gartref gyda’u teuluoedd biolegol. Dywedodd nad oedd gan y Cyngor yn fewnol ddigon o ofalwyr maeth a darparwyr oedd yn rhedeg llety â chymorth ac felly, ochr yn ochr â recriwtio gofalwyr newydd ei bod yn hanfodol dangos i’r gofalwyr presennol mor werthfawr ydynt a chymaint y maent yn cael eu gwerthfawrogi, er mwyn eu cadw. Mae’r sefyllfa’n debyg mewn perthynas â recriwtio teuluoedd lleoliadau oedolion sydd wedi bod yn broblemus, er bod yna nifer fechan o deuluoedd wrthi’n cael eu hasesu ar gyfer ymuno â’r cynllun. Effaith arall y pandemig oedd bod oedolion ag anabledd dysgu, oedd yn byw gyda theuluoedd lleoliadau oedolion, yn methu â chymryd rhan yn eu gweithgareddau arferol yn ystod y dydd.

 

Fe wnaeth yr Aelod o’r Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, wrth gymeradwyo’r cynnig i wneud y taliad untro i ofalwyr maeth a gofalwyr lleoliadau oedolion, ddiolch iddynt am eu hymdrechion, yr oedd hi a’r Arweinydd wedi eu gweld drostynt eu hunain mewn digwyddiad diweddar i ofalwyr maeth. Dywedodd yr Arweinydd y byddai gofalwyr maeth a gofalwyr lleoliadau oedolion wedi gweld cynnydd yn eu costau byw a’u biliau tanwydd a’i bod yn bwysig cydnabod y swyddogaeth sylfaenol yr oeddent yn ei chyflawni. 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynnig i wneud taliad untro i’r holl ofalwyr maeth cymeradwy, darparwyr lleoliadau llety â chymorth a theuluoedd lleoliadau oedolion fel y disgrifiwyd yn yr adroddiad.      

Dogfennau ategol: