Agenda item

Cynlluniau Cludiant Strategol

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau adroddiad a roddai drosolwg ar brosiectau cludiant strategol y Cyngor ar hyn o bryd a rhai posibl yn y dyfodol ac roedd yn edrych am flaenoriaethau i gynlluniau symud ymlaen ar gyfer unrhyw gyfnodau yn rhaglen Metro De-ddwyrain Cymru yn y dyfodol neu unrhyw gyllid neu fecanwaith darparu arall. 

 

Hysbysodd y Cabinet y byddai’r prosiectau a nodwyd hefyd yn ffurfio sail i flaenoriaethau cludiant strategol Pen-y-bont ar Ogwr mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru (LlC), Trafnidiaeth Cymru a Rhwydwaith y Rheilffyrdd ac yn hwyluso ymhellach y defnydd o gludiant cyhoeddus a seilwaith teithiol llesol drwy eu gwneud yn fwy cyfleus a defnyddiol. Byddai’r cynlluniau hefyd yn cyfrannu tuag at leihau’r ôl troed carbon, gan annog newid dulliau teithio i deithio cynaliadwy a thrwy leihau tagfeydd cerbydau, gan ddarparu gwell mynediad at gludiant cyhoeddus, gostyngiad mewn traffig a’r buddion amgylcheddol cysylltiedig. Byddent hefyd yn ei gwneud yn bosibl gwella amlder gwasanaethau trên, yn enwedig y llwybr o Faesteg i Gaerdydd, sydd wedi ei adnabod fel coridor trafnidiaeth allweddol. Byddai’r cynlluniau hefyd yn rhoi cyfle i gynlluniau adfywio lleol yn y dyfodol o gwmpas meysydd y prosiect gyda’r buddion economaidd a chymdeithasol cysylltiedig.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau mai Dinas-Ranbarth Caerdydd drwy ei rhaglen Metro ynghyd â Llywodraeth Cymru sy’n darparu’r prif fecanwaith cyllido ar gyfer prosiectau cludiant strategol mawr o fewn y rhanbarth. Mae’r prosiectau cyfredol yn cynnwys cyfleuster bysiau Cyswllt Metro Porthcawl yn ogystal â gwaith dichonolrwydd a chynllunio ar Bont Heol Penprysg/Teithio Llesol newydd a dileu’r groesfan reilffordd ym Mhencoed. Mae cynlluniau teithio llesol hefyd yn dibynnu’n bennaf ar gyllid LlC (sy’n cael ei reoli gan Drafnidiaeth Cymru), gyda’r rhaglen honno’n cael blaenoriaeth ar wahân. Gall prosiectau seilwaith cludiant eraill (gan gynnwys gwelliannau i deithio llesol a phriffyrdd) gael eu cyllido drwy gyfraniadau datblygwyr (drwy gytundebau cynllunio Adran 106), drwy fentrau cyllido grantiau eraill a  chefnogaeth o fewn yr awdurdod ambell waith. 

 

Hysbysodd hi’r Cabinet ei bod yn hanfodol bod y Cyngor yn cytuno ar restr o gynlluniau y gellir eu cyflwyno fel rhan o unrhyw gynigion cyllido cludiant yn y dyfodol yn ogystal â nodi prosiectau cydnabyddedig y gellid eu hyrwyddo wrth geisio cyfraniadau datblygwyr drwy gytundebau cynllunio Adran 106. Amlinellodd y cynlluniau arfaethedig a rhai presennol fel a ganlyn:

 

·         Rhaglen Teithio Llesol

·         Gorsaf Reilffordd Arhosfa Bracla

·         Gwella Gorsaf Reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr

·         Cyfnewidfa Heol Ewenni (Maesteg)

·         Lein Leol Ford

·         Seilwaith Bysiau Cyflym Cymoedd Garw ac Ogwr

·         Cyffordd 36 (M4)

·         Pont Heol Penprysg

·         Cyswllt Metro Porthcawl

·         Gwelliannau Blaenoriaeth i Fysiau Porthcawl i’r Pîl/Pen-y-bont ar Ogwr

·         Adleoli Gorsaf Reilffordd y Pîl a Pharcio a Theithio

 

Roedd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau, wrth ganmol y cynlluniau cludiant strategol, yn falch i weld y gwaith mewn partneriaeth â Dinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru drwy raglen y Metro ar Gyswllt Metro Porthcawl, sydd ar hyn o bryd wedi symud ymlaen yn sylweddol a Phont Heol Penprysg. Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod y cynlluniau i gyd i’w canmol a’u bod yn dangos dychymyg ac yn obeithiol ac yn cynrychioli newid yn y dull o deithio o’r cerbyd modur i gludiant cyhoeddus a theithio llesol. Roedd yr Arweinydd yn falch i weld bod llawer o’r prosiectau yn agos i gael eu cwblhau a bod cais cynllunio wedi ei dderbyn ar gyfer cyswllt Metro Porthcawl. Roedd yn falch hefyd i weld prosiectau yn asio â’i gilydd, safleoedd tir llwyd yn cael eu datblygu a gwelliannau i orsafoedd rheilffordd, yn cynrychioli newid mewn dulliau teithio i gludiant cyhoeddus a theithio llesol, gyda’r cynlluniau i gyd yn brosiectau adfywio ac nid prosiectau cludiant yn unig. Roedd Aelod y Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yn falch i nodi bod gan y cynlluniau rywbeth ar gyfer pob rhan o’r Sir a’u bod yn welliant cadarnhaol.    

 

Roedd Aelod y Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yn cwestiynu’r amserlenni ar gyfer cyflawni’r prosiectau. Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y Cabinet y byddai yna amrywiaeth o brosiectau. Gwariwyd swm o £3 miliwn ar lwybrau Teithio Llesol. Mae Gorsaf Reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o Brif Gynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ac mae’n cael ei symud ymlaen gyda thirfeddianwyr. Dywedodd y byddai gwelliannau i Gyffordd 36 yr M4 a’r cysylltiadau seilwaith bysiau a rheilffordd yn digwydd dros y 5 mlynedd nesaf. Prosiectau mwy hirdymor fyddai Lein Leol Ford ac adleoli Gorsaf Reilffordd y Pîl a Pharcio a Theithio. 

 

Tanlinellodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio bwysigrwydd allweddol Dinas-Ranbarth Caerdydd, ac na ellid symud ymlaen ar Gyswllt Metro Porthcawl a Phont Heol Penprysg hebddi.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo cynnwys y prosiectau cludiant strategol a nodwyd uchod fel rhan o unrhyw raglen Metro Dinas-Ranbarth Caerdydd neu fecanwaith cyllido arall yn y dyfodol yn ogystal â bod yn sail i drafodaeth gyda chyrff cludiant allanol eraill ar flaenoriaethau cludiant strategol cenedlaethol a rhanbarthol.        

Dogfennau ategol: