Agenda item

Deddf Trwyddedu 2003: Ystyried Hysbysiadau Gwrthwynebu a dderbyniwyd mewn perthynas â Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu adroddiad, a'i ddiben oedd ystyried hysbysiad gwrthwynebu a gyflwynwyd gan Heddlu De Cymru mewn perthynas â Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro a gyflwynwyd i'r awdurdod trwyddedu.

 

Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndirol, ac yn dilyn hynny, dywedodd wrth yr Aelodau fod Saima Rasul, Defnyddiwr y Safle wedi cyflwyno Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro (A a B) ar y Cyngor fel awdurdod trwyddedu mewn perthynas â'r safle a elwir 33 Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3LU (Eden). Amlinellwyd manylion pellach am y rhain a oedd yn bennaf ar gyfer ymestyn oriau ar ddyddiadau penodol dros gyfnod yr ?yl er mwyn gwerthu alcohol a darparu adloniant rheoledig ym mharagraffau 4 o'r adroddiad.

 

Mae gan y safle fudd o Drwydded Safle BCBCLP740, sy'n awdurdodi gwerthu drwy alcohol a darparu adloniant rheoledig fel a ganlyn:

 

             Dydd Sul i ddydd Iau 11:30 tan 02:00 o'r gloch

             Dydd Gwener a dydd Sadwrn 11:30 - 04:00 o'r gloch

 

          Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu fod defnyddiwr y safle wedi cyflwyno copïau o'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro i Heddlu De Cymru a'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. Mae Heddlu De Cymru wedi cyflwyno Hysbysiad Gwrthwynebu i gynnwys y ddau Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TENS).  Mae copi o'r Hysbysiad Gwrthwynebu wedi'i gyflwyno i ddefnyddiwr y safle ac roedd wedi'i atodi yn Atodiad A (i'r adroddiad).

 

Mae'r awdurdod trwyddedu yn ymwybodol ei bod yn bosibl i ddefnyddiwr y safle a Heddlu De Cymru gynnal cyfnod o drafodaeth ynghylch y gwrthwynebiadau a godwyd a bod Adran 106 o'r Ddeddf yn galluogi addasu'r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro gyda chytundeb pob parti.  Cynghorir yr Aelodau bod yr amserlenni sy'n llywodraethu Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro yn gymharol fyr ac, ar yr adeg y cafodd yr adroddiad hwn ei anfon, nad oedd yr awdurdod trwyddedu wedi cael gwybod bod unrhyw barti wedi dod i gytundeb. Cadarnhaodd y ddwy ochr a oedd yn bresennol fod hyn yn wir. 

 

Mae'r Hysbysiadau Gwrthwynebu i'w trin fel pe na baent wedi'u tynnu'n ôl felly.

 

Amgaewyd copi o amodau'r Drwydded Safle yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Roedd tystiolaeth bellach i gefnogi gwrthwynebiadau Heddlu De Cymru i'r  Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro wedi'i chyflwyno i bob parti ar ôl i'r agenda a'r papurau cysylltiedig gael eu dosbarthu. Cadarnhaodd pawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod eu bod wedi derbyn y dystiolaeth ategol hon.

 

             Felly, cadarnhaodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu fod rhaid i'w wrandawiad felly ystyried y pwyntiau a godwyd yn yr Hysbysiad Gwrthwynebu a gwneud penderfyniad ar y ddau Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro.  Ar ôl ystyried yr Hysbysiad Gwrthwynebu, mae gan yr Is-bwyllgor yr opsiynau canlynol:

 

a)             Caniatáu i'r gweithgareddau trwyddedadwy fynd yn eu blaenau fel y nodir yn y ddau Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro;

 

b)          Os yw'r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro mewn cysylltiad â safle trwyddedig, gall yr awdurdod trwyddedu hefyd osod un neu fwy o amodau presennol y drwydded ar un neu'r ddau o'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro (i'r graddau nad yw amodau o'r fath yn anghyson â'r digwyddiad) os yw o'r farn bod hyn yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu;

            

             neu

 

c)          Os yw o'r farn y byddai'r digwyddiad yn tanseilio'r amcanion trwyddedu ac na ddylid ei gynnal, rhoi gwrth-hysbysiadau mewn perthynas ag un neu'r ddau Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro.

 

Yna dechreuodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy ofyn i Swyddog Trwyddedu Heddlu De Cymru F. Colwill amlinellu sail gwrthwynebiadau'r Heddlu i geisiadau Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro.

 

Cadarnhaodd fod yr Heddlu'n gwrthwynebu'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro a gyflwynwyd gan Mrs Rasul ar gyfer Eden, 33 Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Ymestyn oriau ar 18 a 19 Rhagfyr 2021 o 04.00 tan 04.30 o'r gloch, 20 Rhagfyr 2021 02:00 tan 04:30 o'r gloch a 24 Rhagfyr 02:00 tan 04:30 o'r gloch ar gyfer gwerthu drwy fanwerthu alcohol, ar y safle ac oddi arno, a darparu adloniant rheoledig i 200 o bobl.

 

Roedd gan yr heddlu rwymedigaeth, dyletswydd, i atal troseddu ac anhrefn ac i gadw'r heddwch.  Prif flaenoriaeth Heddlu De Cymru oedd lleihau ac atal troseddu ac anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi a'u cymunedau.

 

Roedd holl ethos y Ddeddf Drwyddedu, meddai, wedi'i seilio ar y pedwar amcan trwyddedu a dylai hyrwyddo'r amcanion trwyddedu hyn fod yn ystyriaeth hollbwysig bob amser.  Mae hyn yn cynnwys amddiffyn pobl rhag niwed, eu cadw'n ddiogel ac atal trosedd ac anhrefn a niwsans cyhoeddus.

 

Mae gan Heddlu De Cymru bryderon ynghylch nifer y galwadau trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd a niwsans cyhoeddus yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n gysylltiedig â'r economi hwyrnos. Roedd Eden, 33 Stryd y Farchnad wedi'i lleoli yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr a'i bywyd nos.

 

Ers 1 Mai 2021, cofnodwyd 48 o ddigwyddiadau yn gysylltiedig â'r safle.

 

Ers 1 Medi diwethaf, cofnodwyd yr 17 digwyddiad canlynol a gofnodwyd yn gysylltiedig â'r safle:

 

04/12/2021 – 23:38 – Adroddiad gan gamerâu cylch cyfyng am aflonyddwch

 

28/11/2021 – 01:30 - Dyn yn dweud iddo gael ei ymosod gan 20 o bobl ifanc ar lawr dawns y clwb, gwnaed honiad bod y bobl ifanc dan oed. Roedd y dyn yn feddw iawn

 

28/11/2021 – 01:06 - Adroddiad gan gamerâu cylch cyfyng o frwydr barhaus

 

27/11/2021 – 03:51 - Adroddodd dyn meddw fygythiadau gan ddyn anhysbys i’w ladd

 

27/11/2021 – 01:37 - Arestio menyw am fod yn Feddw ac yn Anhrefnus ar ôl cael ei thaflu allan o'r clwb

 

07/11/2021 – 00:30 – Ymosodiad ar ddyn – Mynychodd Ysbyty Tywysoges Cymru (POW), Cyfeiriodd meddyg y dyn at Ysbyty'r Mynydd Bychan i weld arbenigwr llygaid – Angen 5 pwyth – Dim golwg mewn un llygad – roedd camerâu cylch cyfyng a welwyd gan swyddogion ar y safle o ansawdd gwael ond gellir gweld dyn yn gwneud ymosodiad – Ar ddydd Sul 12 Rhagfyr 2021 cyhoeddwyd y digwyddiad ar Wales Online, gyda'r pennawd '‘Disabled Man punched into unconsciousness in a gruesome bar attack in Bridgend’, gan roi delwedd negyddol o economi hwyrnos yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

01/11/2021 – 22:48 – Toriad Covid

 

16/10/2021 – 03:48 – Ymosodiad – Dyn yn feddw iawn – Wedi'i gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru gan Swyddogion

 

09/10/2021 – 04:02 – Dyn wedi'i arestio am fod yn Feddw ac yn Anhrefnus

 

09/10/2021 – 03:42 – Ymosodiad/Dyn ymosodol – Dyn wedi cael anaf i’w lygad

 

09/10/2021 – 00:00 – Ymosodiad gan staff y drws – Yn destun Ymchwiliad

 

02/10/2021 – 03:34 – Dyn ymosodol

 

26/09/2021 – 03:10 – Pryder am ddyn – Dyn yn anymwybodol ar y llawr y tu allan i'r safle

 

25/09/2021 – 03:37 – Ymosodiad

 

12/09/2021 – 05:33 – Ymosodiad a Lladrad – 2 ddyn wedi'u harestio

 

04/09/2021 – 03:17 – Ymosodiad – Atebion Cymunedol wedi delio â’r digwyddiad – Partïon wedi’u cludo adref gan swyddogion

 

04/09/2021 – 22:19 – Cais gan yr heddlu am dystiolaeth gamerâu cylch cyfyng

 

Nododd cynrychiolydd Heddlu De Cymru fod naw o'r digwyddiadau hyn fod  wedi cael eu hadrodd iddynt ar ôl 03:00 o'r gloch pan fo lefelau meddwdod yn uchel. Roedd pob un o'r naw galwad yn ymwneud ag ymosodiad, ymddygiad ymosodol neu feddwdod.

 

Yn ogystal â'r digwyddiadau uchod, dros y penwythnos diwethaf ar ddydd Sul 12 Rhagfyr am 02:00 o'r gloch, adroddwyd am ddigwyddiad arall. Cafwyd adroddiad gan gamerâu cylch cyfyng fod dau berson y tu allan i glwb nos Eden yn anymwybodol a bod nifer o bobl yn tyrru o gwmpas yno.

 

Roedd y digwyddiad fel a ganlyn:

 

Roedd y dyn wedi bod yn achosi niwsans y tu mewn i'r clwb a bu'n rhaid i staff y drws ei daflu allan.  Roedd yn gynhyrfus ac yn gwrthsefyll staff y drws ac o ganlyniad bu'n rhaid ei ddal wrth ei daflu allan. Mae camerâu cylch cyfyng o flaen y clwb yn dangos, wrth iddynt fynd y tu allan i'r drws ffrynt, fod y dyn wedi parhau i fod yn ymosodol ac wedi ceisio penio'r prif borthor.  Mae holl staff y drws wedi mynd â'r dyn i'r llawr. Mae nifer o bobl eraill wedi cymryd rhan wedyn ac yn ceisio cael staff y drws oddi ar y dyn. Mae'r dyn wedi ceisio codi eto ond unwaith eto mae’n cael ei roi ar y llawr gan staff y drws.  Mae'r dyn wedi parhau i gicio allan tra ar y llawr ac wedi parhau i fod yn ymosodol.  Wrth gario'r dyn allan mae rhai o'i ffrindiau a phobl eraill wedi taflu dyrnau tuag at staff y drws.  Cafodd y dyn ei gludo i'r gilfan y tu allan i'r clwb.  Yn ystod y digwyddiad, cafodd menyw ei tharo drosodd hefyd.

 

Yn ôl aelodau o'r cyhoedd cafodd y dyn ei daro'n anymwybodol. Dangosodd camerâu cylch cyfyng fod y dyn ar y llawr ac nad oedd yn symud. Ar ôl i swyddogion fynychu roedd y dyn yn ymwybodol ac yn ceisio codi.  Roedd swyddogion wedi ei gynghori i aros ar y llawr ac aros am ambiwlans.  Roedd y dyn yn mynd drwy gyfnodau o gynhyrfu ac yn ceisio taro allan at bobl a oedd yn ceisio ei helpu. Cyrhaeddodd parafeddygon y lleoliad a thrin y dyn a'r fenyw a oedd wedi cael ei tharo drosodd. Aed â'r dyn i mewn i'r ambiwlans a'i gludo'n ddiweddarach i Ysbyty Tywysoges Cymru .

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru, na all yr Heddlu gefnogi safle sy'n ymestyn ei oriau gwerthu alcohol ymhellach gyda'r lefel bresennol o anhrefn a thrais yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. I ychwanegu at yr anrhefn, mae gennym heriau pellach yn awr gydag amrywiolyn Omicron y Coronafeirws yn lledaenu'n gyflym ledled ein cymunedau, er ein bod ni fel Swyddogion Trwyddedu yn llwyr werthfawrogi'r adegau anodd y mae unrhyw un sy'n gweithredu neu sy'n cael eu cyflogi yn economi'r nos wedi'u profi ers mis Mawrth 2020.

 

Daeth hyn â sylwadau Heddlu De Cymru i ben.

 

Nododd Aelod o un o'r digwyddiadau uchod fod person yn yr ysbyty a'i fod mewn coma. Gofynnodd ble roedd y digwyddiad yn ymwneud â hyn wedi digwydd.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu, Heddlu De Cymru, na allai enwi'r safle gan fod yr ymchwiliad yn parhau, fodd bynnag, gallai ddweud ei fod wedi digwydd mewn safle trwyddedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr ychydig 100 llath i ffwrdd o Eden.

 

Dywedodd Mr Rasul wrth yr Is-bwyllgor ei fod wedi cael cyfarfodydd rheolaidd o'r blaen gyda Swyddog Trwyddedu'r Heddlu a oedd yn absennol o'r gwaith ar hyn o bryd oherwydd salwch.

 

Byddent bob amser yn cyfarfod ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth ar ôl y penwythnos, er mwyn trafod unrhyw broblemau a oedd wedi digwydd yn y safle neu o'i amgylch y penwythnos blaenorol, gan gynnwys archwilio lluniau o gamerâu cylch cyfyng ac ati. Pwysleisiodd nad oedd yr holl broblemau a ddigwyddodd wedi’u cysylltu’n uniongyrchol ag Eden. Roedd swyddfa dacsi gerllaw a Gorsaf Fysiau Pen-y-bont ar Ogwr ac roedd llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol a ddigwyddodd ar nos Wener neu nos Sadwrn, o ganlyniad i ddigwyddiadau yn yr ardaloedd hyn ac nid ei safle. Cafwyd digwyddiadau hefyd i'r cyfeiriad arall y tu allan i The Roof. Fodd bynnag, gan fod ei safle wedi'i leoli rhwng y lleoliadau hyn, priodolwyd llawer o'r drafferth hon yn anghywir i fod wedi digwydd y tu allan i Eden.

 

Ychwanegodd Mr Rasul, gan fod y Swyddog Trwyddedu uchod wedi bod i ffwrdd o'r gwaith yn sâl, nad oedd wedi cael ymweliad ar ôl gweithgareddau'r penwythnos gan F. Colwill, i fynd drwy unrhyw ddigwyddiadau a allai fod wedi digwydd mewn perthynas ag Eden ar y dydd Gwener neu'r dydd Sadwrn blaenorol. Teimlai pe bai hyn wedi digwydd, y byddai wedi gallu egluro, h.y. drwy luniau camerâu cylch cyfyng ac ati, nad oedd unrhyw ddigwyddiadau o'r fath yn uniongyrchol gysylltiedig â'i safle, ond yn fwy i sefydliadau hwyrnos eraill gerllaw yng nghanol y dref.

 

Roedd hefyd yn cadw llyfr log ar y safle er mwyn cofnodi unrhyw ddigwyddiadau a ddigwyddodd yno. Ychwanegodd nad oedd yr un o'r digwyddiadau y cyfeiriodd cynrychiolydd yr Heddlu atynt wedi'u cofnodi fel rhai a oedd wedi digwydd yn Eden neu'r tu allan iddo.

 

Heriodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu'r datganiad hwn, gan ei bod yn honni bod y mwyafrif, os nad pob un o'r digwyddiadau hyn, wedi'u hadrodd o ganlyniad i luniau camerâu cylch cyfyng a rennir a galwad ddilynol i'r Heddlu i ymchwilio iddynt. Roedd hyn yn cynnwys y digwyddiad ar 12 Rhagfyr 2021, y cyfeirir ato uchod hefyd. 

 

Dywedodd Mr Rasul fod Eden wedi'i leoli wrth ymyl safle The Roof a bod ei safle yn aml yn cael ei dargedu ar gyfer digwyddiadau a ddigwyddodd y tu allan i The Roof, neu ar ochr arall ei safle lle'r oedd safle tacsis ac ymhellach ar Orsaf Fysiau Pen-y-bont ar Ogwr. Ychwanegodd fod rhai achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn hwyr y nos wedi digwydd yn y lleoliadau hyn, yn hytrach nag yn Eden neu'r tu allan iddi. Ychwanegodd nad oedd unrhyw ddigwyddiad ar y safle ar 12 Rhagfyr, fel yr honnwyd gan yr Heddlu.

 

Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod yr holl dystiolaeth uchod yr oedd wedi'i chyflwyno wedi'i chynhyrchu o luniau camerâu cylch cyfyng a adroddwyd i ganolfan alwadau'r Heddlu (neu Swyddogion yr Heddlu) gan yr awdurdod lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Gofynnodd y Swyddog Cyfreithiol am eglurhad yngl?n â'r math o ddigwyddiad a oedd wedi digwydd ar 12 Rhagfyr diwethaf.

 

Cadarnhaodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod hwn yn ffrae, brwydr o bosibl a byddai'r lluniau camerâu cylch cyfyng yn datgelu beth yn union oedd wedi digwydd. Yr hyn a oedd hyd yn oed yn fwy pryderus, oedd bod 18 o achosion o aflonyddwch o ryw fath neu'i gilydd, wedi digwydd yn y safle neu'r tu allan iddo ers mis Medi diwethaf. Un broblem, fodd bynnag, oedd pan hysbyswyd yr Heddlu am y digwyddiadau hyn, erbyn iddynt ymweld â'r safle, roedd y digwyddiad wedi dod i ben gyda'r bobl a oedd yn gysylltiedig â hyn wedi’u gwasgaru o'r lleoliad.

 

Cyfeiriodd Mr Rasul at y digwyddiad ar 4 Rhagfyr 2021 am 23:38 uchod a dywedodd wrth yr Aelodau nad oedd hyn wedi digwydd y tu allan i safle Eden, felly, roedd yn honiad ffug. Pe bai wedi digwydd, byddai naill ai ei hun neu aelod o'i staff wedi rhoi gwybod i'r Heddlu. Mae'n bosibl bod  hwn wedi digwydd y tu allan i'r eiddo gwag lle'r oedd Coral’s bookmakers wedi'i leoli'n flaenorol neu o bosibl y tu allan i The Roof. Er y gallai staff Rheoli Drysau Eden ddelio ag aflonyddwch a ddigwyddodd y tu mewn neu'n union y tu allan i Eden, ni allent ddatrys problemau ymhellach i lawr y stryd y naill ffordd na'r llall, gan nad oeddent wedi'u hyswirio i wneud hynny.

 

Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol iddi gael ei harwain i gredu o dystiolaeth yr Heddlu, fod y digwyddiad hwn wedi digwydd ar y llawr dawns yn Eden ei hun?

 

Heriodd Mr Rasul hyn, ond cydnabu fod aelod o'i staff wedi hebrwng cwsmer allan o'r safle lle'r oedd wedi gadael yn heddychlon ac wedi mynd â thacsi i rywle eraill. Ychwanegodd nad oedd yr Heddlu wedi gofyn am luniau camerâu cylch cyfyng o'r digwyddiad honedig hwn (h.y. o'r llawr dawns), yn y bôn oherwydd nad oedd wedi digwydd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i Mr Rasul, am ba hyd y cadwodd ei luniau camerâu cylch cyfyng. Cadarnhaodd eu bod yn cael eu cadw am 30 diwrnod ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe'i hadolygwyd ynghyd â'r cofnod o unrhyw ddigwyddiadau a allai fod wedi digwydd ar y safle o fewn yr un cyfnod. 

 

Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod Swyddogion yr Heddlu wedi mynychu'r lleoliad am 01:30 a sefydlu bod y person a oedd wedi adrodd am y digwyddiad yn feddw ac wedi cael ei ymosod ar lawr dawns Eden gan 20 o bobl ifanc. Siaradodd â Swyddogion y diwrnod canlynol a chadarnhaodd fod cwsmeriaid dan oed wedi bod yn bresennol ar y safle y noson cynt. Unwaith eto, ceisiodd swyddogion gael gafael ar y cwsmer yn dilyn y cyfarfod, ond ni allent gael gafael arno. Felly, ni ymchwiliwyd i'r teledu cylch cyfyng gan na ddilynwyd y g?yn gan nad oedd yr achwynydd wedi ymateb i alwadau'r Heddlu.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd yr Heddlu'n ymchwilio i'r honiad bod cwsmeriaid dan oed wedi bod yn y Clwb y noson y gwnaed y g?yn.

 

Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod camerâu cylch cyfyng yn cael eu harchwilio at y diben hwnnw, fodd bynnag, roedd yn anodd iawn canfod oedran y cwsmeriaid. Gwaith staff Rheoli Drysau oedd gwirio ID cwsmeriaid wrth fynedfa'r Clwb, i weld pa oedran oeddent.

 

Dywedodd Mr Rasul pe bai'r achwynydd wedi'i anafu yn Eden y noson honno, yna sut y llwyddodd i gerdded i fyny'r stryd i siarad â'r Heddlu (h.y. gydag anafiadau). Ychwanegodd pe bai wedi dweud bod cwsmeriaid dan oed yn Eden y noson honno, yna dylai'r Heddlu fod wedi ymchwilio i mewn i hyn, ond yn amlwg nid oeddent wedi gwneud hynny.

 

Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu y gallai fod wedi digwydd oherwydd na allai Swyddogion yr Heddlu yn y fan a'r lle sefydlu maint yr hyn yr oedd yn ei ddweud mewn gwirionedd, o gofio ei fod mor feddw ar y pryd.

 

Gofynnodd Aelod o'r Panel i Mr Rasul a oedd wedi gwirio'r camerâu cylch cyfyng i edrych ar yr ymosodiad honedig hwn, oherwydd bod yr honiad wedi'i wneud.

 

Atebodd Mr Rasul y byddai wedi cael gwybod yn llawn am hyn ar y noson gan ei staff pe bai rhywbeth o'r fath wedi digwydd, er ei fod wedi gwirio'r camerâu cylch cyfyng ac ni oedd wedi canfod unrhyw beth a oedd yn dangos bod hyn wedi digwydd. Ychwanegodd mai dim ond un digwyddiad oedd wedi'i gofnodi fel un oedd wedi digwydd ar y safle, yn ystod y 4 wythnos diwethaf.  

 

Yna cyfeiriodd Mr Rasul at y digwyddiad ar 27 Tachwedd 2021 am 03:51. Dywedodd fod dyn wedi dod i fynedfa Eden o gyfeiriad safle The Roof. Dywedodd staff y drws wrtho y byddai'r safle'n cau cyn bo hir, ac ar ôl hynny gwnaeth fygythiadau i'r staff am eu bod yn gwrthod iddo fynediad i’r safle. Roedd hyn yn rhywbeth a ddigwyddodd yn aml mewn sefydliadau hwyrnos pan wrthodwyd mynediad i gwsmeriaid. Roedd yn amlwg ei fod wedi mynd yn feddw drwy yfed alcohol mewn mannau eraill ac wedi cynhyrfu o ganlyniad i hyn, pan nad oedd yn gallu cael mynediad i Eden.

 

Heriodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu y fersiwn hon o ddigwyddiadau, gan ychwanegu, pan oedd Swyddogion wedi cyrraedd y lleoliad, fod y staff diogelwch ar y safle wedi'u galw gan fod y cwsmer dan sylw yn cael ffrae lafar gyda chwsmer gwrywaidd arall yn y safle. Yna aeth swyddogion â'r cwsmer dan sylw i d? ffrind. Honnodd y person hwn fod y dyn arall y tu mewn i'r safle wedi bygwth ei ladd. Ni wyddai pwy oedd y dyn hwn.

 

Cadarnhaodd Mr Rasul na fyddai ei staff drws wedi cymryd bygythiad o'r fath yn ysgafn ac nad oedd yr achwynydd wedi dweud wrth unrhyw staff yn Eden ei fod wedi cael ei fygwth. Felly, nid oedd yn ymwybodol ohono a phe bai wedi bod byddai wedi cael ei drin a'i gofnodi yn y Llyfr Digwyddiadau.

 

Ychwanegodd fod pobl sy'n feddw yn aml yn dweud pethau drwy'r ddiod, na fydden nhw'n dweud fel arall, mae'n fath o 'siarad rhad'. Rhoddodd sicrwydd i'r Is-bwyllgor ei fod ond wedi ymchwilio i un digwyddiad a oedd wedi digwydd ar y safle o fewn y 4 wythnos diwethaf. Ailadroddodd fod cynrychiolydd yr Heddlu yr oedd wedi delio ag ef o'r blaen, yn arfer cysylltu ag ef yn wythnosol, i weld a oedd unrhyw ddigwyddiadau wedi digwydd yn Eden neu'r tu allan iddo'r wythnos flaenorol, gyda'r bwriad o ymchwilio i'r rhain a'u datrys ynghyd â'i wraig a'i hun fel perchnogion yn y safle. Ychwanegodd nad oedd Ms Colwill, yn anffodus, wedi parhau â'r trefniant hwn.

 

Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu nad oedd gan Heddlu De Cymru yr adnoddau i gyfarfod â Deiliaid Trwyddedau Safleoedd yn wythnosol, gan fod Swyddogion yn cwmpasu'r Fwrdeistref Sirol i gyd ac nid canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn unig. Roedd lefelau meddwdod a thrais yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn uchel iawn, felly er mwyn ceisio lleihau hyn, ni allai'r Heddlu gefnogi safleoedd i fod ar agor ar ôl 02.30am, hyd yn oed ar ffurf Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro, nes i'r broblem hon ddechrau dangos arwyddion o wella.

 

Dywedodd Mr Rasul er ei fod yn gwerthfawrogi hyn, mai dim ond am ddwy awr ychwanegol o fasnachu yr oedd yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yr oedd yn gwneud cais amdano, er mwyn i Eden allu cael cydraddoldeb â safleoedd hwyrnos gerllaw, fel Sax, The Phoenix a The Roof, a gafodd yr oriau estynedig hyn fel rhan o'u Trwyddedau Safle.

 

Yna cyfeiriodd Mr Rasul at y digwyddiad ar 27 Tachwedd 2021 am 01.37am, pan gafodd menyw ei harestio am fod yn feddw ac yn anhrefnus ar ôl cael ei thaflu allan o Eden.

 

Cadarnhaodd ei bod wedi cael ei gweld gan staff yn mynd drwy fag llaw rhywun arall, ac yn dilyn hynny gofynnwyd iddi adael y safle, ac yn dilyn hynny gwnaeth hynny heb unrhyw drafferth. Yna dangoswyd ar gamerâu cylch cyfyng y tu allan i'r Clwb ei bod wedi ei daro yn ei wyneb ac wedi dweud 'Paki go home.' Adroddwyd am hyn gan gamerâu cylch cyfyng y Cyngor i'r Heddlu ac nid ar ei ben ei hun, er bod y person hwn wedi ymosod arno.

 

Ychwanegodd Mr Rasul fod yr Heddlu wedi gofyn iddo a oedd am ddwyn  cyhuddiadau yn erbyn y fenyw ac yna aeth ymlaen i ymweld â safle hwyrnos arall, lle cafodd ei harestio. Nid oedd wedi cael ei harestio yn Eden, gan fod staff wedi'i thaflu allan yng nghwmni Swyddogion yr Heddlu.

 

Cadarnhaodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod y person wedi cael ei daflu allan o Eden, gan ei bod wedi achosi aflonyddwch yno, ond ei bod wedi gwrthsefyll hyn. Yna cyrhaeddodd Swyddogion yr Heddlu'r safle ac roedd staff y drws wedi cadarnhau iddynt, ei bod yn feddw a'i bod wedi bod mewn ffrae yn Eden gyda'i phartner. Ar ôl cael ei fonitro gan gamerâu cylch cyfyng, aeth i sefydliad arall wedyn, ond yna dychwelodd i Eden. Felly, er iddi gael ei harestio, roedd hi wedi bod yn Eden, wedi'i thaflu allan o'r fan honno ond yna'n dychwelyd i'r safle.

 

Dywedodd Mr Rasul ei bod wedi cael ei thaflu allan am ddwyn, nid oherwydd ei bod yn feddw ac yn anhrefnus a phan gafodd ei thaflu allan, dyna pryd yr oedd wedi'i ddyrnu. Pan ddychwelodd i Eden, dyna pryd roedd hi'n feddw ac yn anhrefnus ac nid pan oedd hi wedi bod yn y Clwb o'r blaen y noson honno. Honnodd fod camerâu cylch cyfyng wedi dangos hyn, fodd bynnag, ei bod wedi cael ei harestio y tu allan i safle arall ac nid Eden.

 

O ran y toriad Covid yn y safle ar 1 Tachwedd 2021 am 22:48, dywedodd Mr Rasul fod unrhyw achosion posibl o dorri rheolau yma wedi cael eu trin rhyngddo ef a'r awdurdod lleol. Roedd y rhan fwyaf o'r digwyddiadau a godwyd gan yr Heddlu yn ymwneud â dynion yn feddw ac yn anhrefnus ar y safle, er mai dyma a ddigwyddodd yn y rhan fwyaf o sefydliadau hwyrnos.

 

Yna cyfeiriodd at y digwyddiad ar 12 Medi 2021, sef ymosod a dwyn a dau ddyn a arestiwyd am 05.33am. Roedd y safle wedi’i gau gyda'r goleuadau ymlaen, pan oedd dau ddyn yn dod i mewn i Eden ac yn dwyn rhai poteli o alcohol. Roedd cwsmer wedi gweld hyn ac wedi tynnu sylw'r staff ato, a oedd wedyn wedi mynd at y dynion ac yn tynnu'r alcohol oddi arnynt. Yna, dyrnodd un o'r dynion Mr Rasul yn yr wyneb, ac yn dilyn hynny galwodd yr Heddlu. Yna gwadodd y dyn ei fod wedi ei ddyrnu. Yna dangosodd Mr Rasul luniau camerâu cylch cyfyng yr Heddlu ac yna cafodd y ddau ddyn eu harestio. Ond nid oedd yr Heddlu fel petaent wedi mynd ar drywydd yr ymosodiad arno, ychwanegodd.

 

Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod yr Heddlu wedi gweld y lluniau camerâu cylch cyfyng a'u bod wedi dilyn ac arestio'r dynion am y lladrad, fodd bynnag, roedd Mr Rasul wedi cynghori'r Heddlu ar y pryd, nad oedd am iddynt fynd ar drywydd yr ymosodiad.

 

Yna cyfeiriodd Mr Rasul at y digwyddiad ar 16 Hydref 2021 am 03.48am, a oedd yn ymosodiad honedig – Dyn meddw iawn – wedi'i gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru gan Swyddogion. Unwaith eto, ni allai ddod o hyd i unrhyw beth yn y llyfr log safle a oedd yn ymwneud â hyn, yn union fel na allai gyda digwyddiadau eraill a amlinellwyd gan gynrychiolydd yr Heddlu.

 

Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod y person a oedd wedi syrthio ar y safle yn feddw iawn wedi rhoi gwybod iddyn nhw am hyn. Roedd staff y safle wedi cadarnhau i'r Heddlu ei fod yn feddw ar y pryd. Roedd ymosodiad ond roedd y cwsmer wedi syrthio pan oedd yn feddw. Ar yr adeg uchod fe'i cymerwyd i Ysbyty Tywysoges Cymru gan Swyddogion yr Heddlu.

 

Dywedodd Mr Rasul fod yr Heddlu wedi codi'r person hwn y tu allan i Eden a'i fod wedi yfed alcohol mewn mannau eraill, ond nid yn Eden. Unwaith eto, teimlai fod ei safle'n cael y bai, gan ei fod wedi'i leoli yn agos i sefydliadau eraill sydd ar agor yn hwyr yn y nos ac yn agos at y safle tacsis a'r orsaf fysiau lle byddai pobl yn ceisio cael cludiant adref gyda'r nos.

 

Cadarnhaodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod y person wedi galw am Ambiwlans pan oedd y tu allan i safle Eden.

 

Yna cyfeiriodd Mr Rasul at y digwyddiad 9 Hydref 2021 04:02am, Dyn wedi'i arestio am fod yn feddw ac yn anhrefnus. Unwaith eto, nid oedd ganddo gofnod o hyn yn ei lyfr log.

 

Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod Swyddogion wedi delio â galwad ar wahân gan Eden am 04:54am, fod dyn oedd yn cael ei hebrwng allan o'r safle gan staff, wedi mynd yn ymosodol ac wedi gwrthod gadael. Roedd y dyn yn feddw ac yn dechrau poeri a rhegi ar Swyddogion yr Heddlu. Yna cafodd ei arestio am fod yn feddw ac yn anhrefnus ar ôl iddo gael ei daflu allan o'r safle gan staff y drws.

 

Dywedodd Mr Rasul fod dyn wedi cerdded allan o Eden y tro hwn a thra ei fod y tu allan yno, dechreuodd fynd yn ddadleuol. Roedd yn si?r nad oedd hyn yn y llyfr log, fodd bynnag, dywedodd y byddai'n gwirio hyn ddwywaith rhag ofn.

 

9 Hydref 2021 03.42am Ymosodiadau/dynion ymosodol – Dyn wedi cael anaf i'w lygad , cadarnhaodd Mr Rasul ei fod wedi rhoi cymorth cyntaf i'r cwsmer ar y safle ar ôl iddo gael ergyd gan gwsmer arall. Daeth yr Heddlu i Eden ac awgrymodd fod y dyn yn dwyn cyhuddiadau yn erbyn y person oedd wedi ei daro. Fodd bynnag, roedd y dyn arall a oedd wedi achosi'r anaf wedi gadael Eden i fynd i The Phoenix. Dywedodd yr Heddlu y bydden nhw'n mynd ag ef i'r ysbyty, ond bod y dyn a anafwyd wedi gwrthod mynd.

 

Fodd bynnag, dywedodd y Cadeirydd fod y digwyddiad wedi cymryd lle yn safle Eden.

 

Dywedodd Mr Rasul ei fod wedi digwydd oherwydd cymysgedd dros ddiodydd, fodd bynnag, nid oedd yr un person wedi bod yn or-feddw ar y pryd. Roedd y dyn yr ymosodwyd arno yn gwthio'r dyn arall, a oedd wedyn yn ei ddyrnu. Roedd camerâu cylch cyfyng ar gael i'r Heddlu eu harchwilio. Ychwanegodd fod y digwyddiad ar ben mewn ychydig eiliadau yn unig ac nid oedd yn 'feddw ac anhrefnus,' yn ei natur.

 

Dywedodd Mr Rasul nad oedd yn ymwybodol o’r digwyddiad am 3:34am – dyn ymosodol, yr honnir gan yr Heddlu iddo ddigwydd ar 2 Hydref 2021 ,

 

Cadarnhaodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod hwn yn ddigwyddiad lle'r oedd dyn dig wedi taflu potel wydr y tu ôl i'r rhwystrau y tu allan i'r Clwb tuag at staff y drws. Cafodd ei daro gan fenyw ac roedd wedi bod yn y lloches ysmygu ar y safle pan oedd cwsmer gwrywaidd arall eisiau ymladd ag ef. Roedd y cwsmer benywaidd wedi gwthio'r gwryw ac yna'n ei daro. Yna dechreuodd dyn arall gymryd rhan. Yna ffoniodd y dyn yr ymosodwyd arno yr Heddlu i wneud cwyn yngl?n â hyn.

 

Gofynnodd Mr Rasul i gynrychiolydd yr Heddlu a oedd ei staff ar y drws wedi cael gwybod am hyn ac a ydynt wedi taflu’r troseddwr gwrywaidd allan.

 

Cadarnhaodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod staff y drws wedi cael gwybod am hyn, gan fod Swyddogion yr Heddlu wedi siarad â nhw amdano. Yna, roeddent wedi'u gwahanu yn ardal ysmygu'r safle.

 

Ychwanegodd Mr Rasul mai dim ond digwyddiad domestig/perthynas oedd hwn a allai fod wedi digwydd  ym mron unrhyw le ac unrhyw bryd.

 

Cadarnhaodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu unrhyw dystiolaeth bod hwn yn ddigwyddiad domestig.

 

Yna, cyfeiriodd Mr Rasul at y digwyddiad honedig ar 4 Medi 2021 am 03:17am – Ymosodiad – a gafodd ei ymdrin gan Atebion Cymunedol – Partïon a gafodd eu cludo adref gan swyddogion a gofynnodd i gynrychiolydd yr Heddlu beth oedd hyn yn ei olygu.

 

Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod staff drws yn Eden wedi cysylltu â'r Heddlu yngl?n ag ymosodiad ar ddyn y tu mewn i'r safle a bod y digwyddiad yn 'dechrau arni'. Roedd y ffrae yn ymwneud â dyn a oedd wedi dyrnu cwsmer arall yn y Clwb sawl gwaith, ac yn dilyn hynny, ceisiodd ei dagu wedyn. Roedd y dioddefwr wedi syrthio i'r llawr a thorri ei ben. Cafodd anafiadau'r dioddefwr eu trin yn Eden ac roedd wedi ysgwyd dwylo gyda'r cyflawnwr ac nid oedd am ddwyn cyhuddiad o ganlyniad i'r ymosodiad. Ychwanegodd fodd bynnag fod hyn wedi digwydd y tu mewn i Eden.

 

Pwysleisiodd Mr Rasul ei fod yn gwneud y peth iawn bryd hynny, h.y. drwy gysylltu â'r Heddlu, dim ond wedyn i gael 'marc du' pellach wedi'i gofrestru yn erbyn y safle.

 

Ailadroddodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu nad oedd problem yn erbyn staff y drws am roi gwybod am y digwyddiad hwn, roedd yn fwy o achos nad oedd yr Heddlu'n dymuno ymestyn oriau trwyddedu ar safleoedd y tu hwnt i 02:30am drwy unrhyw estyniad pellach o oriau, er mwyn caniatáu yfed mwy o alcohol. Digwyddodd hyn yn ystod oriau hwyr y nos i oriau mân y bore wedyn, sef yr adeg pan oedd problemau’n codi, gan fod cwsmeriaid mewn sefydliadau hwyrnos yn yfed yn ormodol, ac yna'n achosi trafferth.

 

Ychwanegodd fod yr hyn sy'n mynd yn erbyn Deiliad Trwydded Safle, oedd os ymosodwyd ar rywun yn ei safle, yn enwedig os oedd digwyddiadau fel hyn a phethau tebyg yn digwydd yn rheolaidd.

 

Gofynnodd Aelod o'r Is-bwyllgor i Mr Rasul a oedd y digwyddiad hwn wedi'i gofrestru yn llyfr log y Safle, ac atebodd ei fod wedi gwneud hynny.

 

Gofynnodd Mr Rasul i gynrychiolydd yr Heddlu, faint o ddigwyddiadau a gafodd eu galw i mewn gan staff yn Eden, er mwyn cael cymorth gan yr Heddlu, mewn perthynas ag unrhyw ddigwyddiadau.

 

Cadarnhaodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu mai hwn oedd yr unig un o Eden, ynghyd â phedwar drwy ddigwyddiadau camerâu cylch cyfyng gan Gyngor Bwrdeistref Siriol Pen-y-bont ar Ogwr. Ychwanegodd ei bod yn arferiad i'r Heddlu orfod codi popeth oedd wedi ei gofnodi mewn Gwrandawiadau fel heddiw. Roedd y rhan fwyaf o'r galwadau i'r Heddlu wedi dod gan bobl a dramgwyddwyd (a oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiadau). Rôl yr Heddlu oedd atgoffa'r rhai a oedd yn bresennol, i godi ac ymchwilio i ddigwyddiadau yr adroddwyd amdanynt, gan fod ganddynt ddyletswydd gofal i'r cyhoedd o ran eu diogelu.

 

Yna gofynnodd Mr Rasul am ddiweddariad ar 9 Hydref 2021 am 00:00am – Ymosodiad gan staff y drws – Dan Ymchwiliad.

 

Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod y mater hwn yn dal i gael ei ymchwilio a bod trydydd parti wedi rhoi gwybod i'r Heddlu am hyn. Roedd yn ymwneud â'r modd yr oedd cwsmer yn y Clwb wedi cael ei drin gan staff y drws. O ganlyniad i hyn, bu'n rhaid iddo fynd i'r ysbyty. Roedd cynrychiolydd o'r Heddlu wedi siarad â Mr Rasul ar 12 Hydref am y digwyddiad hwn ac roedd wedi dweud wrthynt y byddai'n darparu lluniau camerâu cylch cyfyng o unrhyw ddigwyddiad honedig, ond hyd yma, nid oedd hyn wedi digwydd. Roedd y dioddefwr wedi anfon tystiolaeth ffotograffig o anafiadau a dderbyniodd yn dilyn y digwyddiad a bod Mr Rasul wedi cael ei gyfweld yn ei gylch.   Roedd y mater yn parhau, meddai, felly ni allai roi unrhyw sylw pellach ar hyn.

 

Cadarnhaodd Mr Rasul nad oedd unrhyw ddatganiadau wedi'u cymryd ganddo ef nac unrhyw un o staff y drws gan yr Heddlu, ynghylch yr uchod.

 

Cynghorodd y Cadeirydd Mr Rasul i fynd â'r mater hwn ymhellach gyda'r Heddlu, y tu allan i'r cyfarfod.

 

Dywedodd Mr Rasul fod llawer o'r honiadau a wnaed yn erbyn y Clwb a'i staff, gan gynnwys ei hun, wedi'u gwneud gan bobl feddw ac unigolion o dan ddylanwad alcohol yn aml yn rhoi ffeithiau cyfeiliornus am ddigwyddiadau sy'n digwydd yng nghyffiniau ei safle ac oddi mewn iddo.

 

Wrth i'r ddadl hon ar yr adroddiad ddod i ben, gofynnodd y Cadeirydd i'r ddau barti grynhoi.

 

Teimlai Mr Rasul fod Eden yn aml yn cael ei ddewis fel sefydliad hwyrnos a ddenodd drafferth, pan nad oedd hyn yn wir mewn gwirionedd. Ychwanegodd fod yr Heddlu yn rhan fawr o hyn. Fodd bynnag, nid oedd ganddo ef na'i staff unrhyw broblemau na gwrthdaro â Heddlu De Cymru.

 

Roedd am i'r Aelodau ystyried nad oedd wedi gwneud cais am unrhyw Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro ers cryn amser, ac nid oedd wedi cael ei alw gerbron Aelodau Trwyddedu'r Cyngor, am unrhyw broblemau sylweddol a oedd wedi digwydd yn Eden.

 

Roedd ganddo safleoedd tebyg yng Nghastell-nedd Port Talbot, Caerfyrddin a Chasnewydd ac nid oedd ganddo bron cymaint o broblemau yn y safleoedd hyn, a oedd ganddo, i bob golwg, gyda'r safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Teimlai fod angen i'r Heddlu ddod ynghyd â rheolwyr pob un o'r sefydliadau hwyrnos ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gyrraedd nod cyffredin, lle'r oedd y safleoedd hyn yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl drwy'r staff sy'n gweithio yno, ynghyd â chymorth gan yr Heddlu pan fo angen h.y. mewn perthynas â digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol, a ddigwyddodd bob amser o bryd i'w gilydd, mewn sefyllfaoedd lle'r oedd pobl yn ymgasglu gyda'i gilydd dan ddylanwad alcohol. Dull partneriaeth, gydag un nod mewn golwg, oedd cadw at yr Amcanion Trwyddedu.

 

Nododd fod rhai o'r digwyddiadau y cyfeiriwyd atynt heddiw fel rhai a oedd wedi digwydd yn Eden, wedi digwydd rhwng 04:30 a 06:00am. Teimlai y dylai mwy o Swyddogion Heddlu fod wrth law yng nghanol y dref nag oedd, yn ystod oriau hyn y penwythnos. Er ei fod yn teimlo bod llai o drafferth yn awr yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ar nos Wener a nos Sadwrn, nag a fu yn yr 1980au a'r 1990au.

 

Roedd am i'r Aelodau gydnabod bod ei safle wedi'i leoli rhwng safle tacsis/swyddfa a sefydliad hwyrnos arall, felly, roedd cwsmeriaid yn pasio ei safle yn aml yn hwyr yn y nos mewn cyflwr meddwol a bod trafferthion yn digwydd am y rheswm hwn.

 

Er ei fod yn cydnabod yr elfen ddiogelwch sy'n gysylltiedig â darpariaeth camerâu cylch cyfyng ychwanegol yng nghanol y dref a bod hyn yn ofynnol iawn i gadw pobl yn ddiogel ac i nodi digwyddiadau sy'n digwydd, roedd hyn yn aml yn codi problem lle'r oedd rhai safleoedd fel ei safleoedd yn cael eu dangos fel sefydliadau problemus, pan nad oeddent mewn gwirionedd.

 

Roedd sefydliadau hwyrnos yn dioddef yn ariannol oherwydd Covid-19 a'r cyfyngiadau symud a oedd wedi digwydd. Felly, roedd yn dda i berchnogion fel ef ei hun gael incwm ychwanegol drwy agor oriau hirach ar rai achlysuron megis dros y Nadolig a da i gwsmeriaid hefyd, h.y. i fwynhau eu hunain.

 

Roedd llawer o'r dystiolaeth a rannwyd gan yr Heddlu heddiw yn seiliedig ar honiadau nid ar ffeithiau gwirioneddol a dyna pam yr oedd wedi herio rhai o'r rhain. Teimlodd fod ef a’i staff wedi delio â digwyddiadau eraill cystal ag y gallent yn unol â phrotocolau a gweithdrefnau yr oedd angen eu dilyn. Gallai problemau ddigwydd mewn unrhyw dafarn neu glwb ar unrhyw adeg mewn amrantiad, ychwanegodd Mr Rasul.

 

Gorffennodd drwy ddweud bod ei geisiadau wedi'u gwneud, dros gyfnod y Nadolig, er mwyn iddo allu cystadlu o ran masnach, gyda sefydliadau hwyrnos eraill a oedd ag oriau trwyddedu hirach nag a oedd gan Eden.

 

Yna rhoddodd cynrychiolydd yr Heddlu grynodeb o'r achos ar ran Heddlu De Cymru, fel a ganlyn.

 

Dywedodd nad oedd y gwrandawiad heddiw'n ymwneud ag ennill y dydd, ond â chadw ein cymunedau'n ddiogel, atal troseddu ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd a niwsans cyhoeddus.

 

Roedd Heddlu De Cymru yn gweithredu proses deg ac ni allent reoli'r oriau gweithredu a roddwyd i safleoedd eraill, gan fod hyn yn ymwneud â'r cais i ymestyn gwerthiant oriau alcohol i 04:30 o'r gloch yn Eden. Byddai'r Heddlu'n gwrthwynebu unrhyw estyniad i oriau o unrhyw safle i'r amser hwnnw, oherwydd lefelau trosedd ac anhrefn yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn yr oriau cynnar, dros gyfnod y penwythnos.

 

Roedd angen i'r Is-bwyllgor gofio nad yw'r Heddlu am i Ben-y-bont ar Ogwr gael penawdau gwael fel yr adroddodd Wales Online dros y penwythnos diwethaf, gyda phenawd, 'Disabled man punched into unconsciousness in gruesome bar attack in Bridgend,' gan fod hyn yn annheg i gymuned Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Roedd lefelau meddwdod yn uchel mewn sefydliadau hwyrnos ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn i mewn i’r dyddiau canlynol.  Nid oedd yr Heddlu am weld digwyddiadau fel hyn lle mae rhywun yn ymladd am ei fywyd oherwydd meddwdod a’r trafferthion sy'n digwydd o ganlyniad i hynny.

 

Er na allai benderfynu beth sy'n cael ei adrodd i Heddlu De Cymru, y ffaith yw bod 48 o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi sy'n gysylltiedig â 33 Stryd y Farchnad (Eden) ers 1 Mai 2021.  Mae'r rhain yn ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig ag un safle trwyddedig yn unig yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, tra bod tua 9 safle trwyddedig arall o'r fath.

          

Gadawodd y Pwyllgor i ystyried y cais ymhellach ac, wedi iddynt ddychwelyd, cafwyd:

 

PENDERFYNIAD:                            Cynhaliodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu wrandawiad ar-lein i ystyried y cais a gyflwynwyd gan Mrs Rasul ar gyfer dau hysbysiad digwyddiad dros dro mewn perthynas ag eiddo yn 33 Mark Street, Pen-y-bont ar Ogwr. Daeth Fiona Colwill o Heddlu De Cymru a Mr a Mrs Rasul yr Ymgeiswyr i'r gwrandawiad.

 

                                                 Mae gan y safle fudd o Drwydded Safle BCBCLP740 sy'n awdurdodi gwerthu drwy alcohol a darparu adloniant rheoledig fel a ganlyn:

 

                           Dydd Sul i ddydd Iau 1130 i 0200 o'r gloch

                           Dydd Gwener a dydd Sadwrn 1130 i 0400 o'r gloch

 

Bydd y cais yn ymestyn yr oriau ar y diwrnodau canlynol, 18 i 20 Rhagfyr - dydd Gwener tuag at ddydd Sadwrn 4am i 4.30am yn gynnar yn y bore dydd Sadwrn tuag at ddydd Sul 4am i 4.30am yn gynnar yn y bore dydd Sul tuag at ddydd Llun 2am i 4.30am yn gynnar yn y bore 23 Rhagfyr- 2am tan 4.30am yn gynnar fore 24 Rhagfyr

 

Deunydd gerbron yr Is-bwyllgor

Cyn hynny, roedd gan yr Is-bwyllgor adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu a oedd yn cynnwys sylwadau gan yr Heddlu a chofnod o ddigwyddiadau sydd wedi'u cofrestru yn erbyn y safle. Cynhyrchodd Mrs Rasul yr Ymgeisydd gofrestr o staff diogelwch ar ddyletswydd yn y safle.

 

Achos yr Heddlu

                                                 Aeth yr Heddlu drwy gofnod o ddigwyddiadau a oedd wedi'u cofnodi yn erbyn y safle ar eu systemau. Holodd yr ymgeisydd yr Heddlu'n helaeth am bob un o'r digwyddiadau ac roedd yn anghytuno â'r ffeithiau a roddwyd gan yr Heddlu.  Rhoddodd yr Ymgeiswyr eu fersiwn eu hunain o bob digwyddiad a oedd yn gwrth-ddweud y dystiolaeth a roddwyd gan yr Heddlu.  Gwrthododd yr Ymgeisydd fod nifer o'r digwyddiadau wedi'u cynnal mewn gwirionedd. Wrth fynd drwy gofnodion yr Heddlu, dywedodd Ms Colwill ar sawl achlysur fod nifer o'r dioddefwyr yn feddw iawn yn y safle.

 

Dywedodd Mr Rasul wrth yr Is-bwyllgor ei fod wedi gwirio ei gamerâu cylch cyfyng mewn perthynas â'r digwyddiadau hyn ond nad oedd erioed wedi cynhyrchu unrhyw dystiolaeth i'r Pwyllgor i wrth-ddweud y dystiolaeth a roddwyd gan yr Heddlu. Cyfeiriodd Mr Rasul hefyd ar sawl achlysur at log a gadwodd ar y safle ond ni chynhyrchodd y log i'r Is-bwyllgor.

 

Canfyddiadau'r Is-bwyllgor

Canfu'r Is-bwyllgor ar y cydbwysedd tebygolrwydd bod problemau ar rai o'r dyddiadau dan sylw a bod nifer o'r digwyddiadau o ganlyniad i unigolion yn feddw iawn ar y safle felly roedd yn amlwg bod problemau ar y safle ar rai o'r dyddiadau a roddwyd gan yr Heddlu. Canfu'r Is-bwyllgor hefyd fod y digwyddiadau yr oeddent yn fodlon eu bod wedi digwydd o natur ddifrifol.   Sef yr ymosodiadau a ddigwyddodd ar y safle.

 

                                                 Mae'r Is-bwyllgor wedi ystyried pob digwyddiad yn ei dro ac wedi nodi'r cyfrif a gofnodwyd gan yr Heddlu ac atgof yr Ymgeisydd o'r ffeithiau.

 

Penderfyniad

Wrth wneud penderfyniadau, rhaid i'r Is-bwyllgor hyrwyddo'r amcanion trwyddedu statudol ac yn benodol, atal troseddu ac anhrefn a diogelwch y cyhoedd.

 

                                                 Wrth ystyried y digwyddiadau yn y safle, canfu'r Is-bwyllgor fod rhai digwyddiadau difrifol wedi digwydd ar y safle ac felly'n tanseilio amcan trosedd ac anhrefn y Ddeddf Trwyddedu.

Er mwyn hyrwyddo amcanion Trwyddedu, mae'r Is-bwyllgor wedi penderfynu cyhoeddi gwrth-hysbysiad.        

    

Dogfennau ategol: