Agenda item

Cynllun Ynni Ardal Leol Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i adnewyddu Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd fod CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ddewis yn 2014 fel un o'r tair ardal arddangos ar gyfer Rhaglen System Glyfar a Gwres (SSH) Llywodraeth y DU. Rhoddodd y Cabinet awdurdod i CBSP gyfranogi yn y Rhaglen SSH mewn adroddiad a gyflwynwyd ar 3 Chwefror 2015. Cynlluniwyd y rhaglen i greu offer arloesol a fyddai’n ei gwneud yn bosibl datgarboneiddio gwres ar draws y DU yn unol â thargedau lleihau carbon 2050.

 

Dywedodd mai un o'r arfau a grëwyd o fewn y Rhaglen System Glyfar a Gwres oedd Cynlluniau Ynni Ardal Leol (CYAL). Ni fabwysiadodd CYAL ddull traddodiadol o ddatblygu strategaeth gan nad oedd yn cynnig yn glir beth, pryd a sut y byddai angen i weithgareddau ddigwydd er mwyn cyrraedd targedau datgarboneiddio 2050. Yn hytrach, cynigiodd y CYAL lwybr tuag at gyflawni'r targedau hynny. Roedd cefndir pellach ar CYAL yn adran 3 yr adroddiad.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, yn dilyn penderfyniad y Cabinet ym mis Chwefror 2019, fod Llywodraeth y DU wedi symud targedau lleihau carbon y DU i ffwrdd oddi wrth ostyngiad o 80% erbyn 2050 i un o Sero Net erbyn 2050. Seiliwyd CYAL Pen-y-bont ar Ogwr ar gyrraedd y gostyngiad targed o 80%. Yn dilyn y newid yn nhargedau Llywodraeth y DU ar gyfer lleihau carbon, bu CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried ei sefyllfa mewn perthynas â’i CYAL a daeth i’r casgliad bod angen adnewyddu’r cynllun er mwyn ei gadw’n berthnasol. Wrth adnewyddu’r cynllun, ystyriwyd targed Sero Net Llywodraeth y DU erbyn 2050, rhoi’r gorau i werthu cerbydau tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2030 a’r rôl y gallai hydrogen ei chwarae mewn sicrhau Pen-y-bont ar Ogwr Sero Net. Roedd rhagor o wybodaeth yn adran 4 yr adroddiad.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod dwy senario wedi cael eu rhoi gerbron gyda golwg ar rôl hydrogen a'i effaith ar Ben-y-bont ar Ogwr. Roedd Ffigur 2 a 3 yn dangos Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio hydrogen a heb ei ddefnyddio. Roedd y CYAL llawn wedi'i adnewyddu yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod tîm Ynni CBSP wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn ogystal â chysylltu â Llywodraeth Japan ar brosiect ar gyfer ynni hydrogen. Esboniodd fod llywodraeth y DU yn treialu defnyddio hydrogen fel math o b?er ar gyfer cludiant. Roedd hyn yn rhywbeth yr oedd ar CBS Pen-y-bont ar Ogwr eisiau ei ystyried hefyd fel llwybr datgarboneiddio yn y dyfodol. Amlinellodd y goblygiadau ariannol fel y nodir yn adran 8 yr adroddiad.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau, er nad oedd llawer o fanylion yn cael eu dangos ar gyfer y cyfnod 2020-30, nad oedd yn hysbys pa dechnolegau newydd fyddai’n dod i fod ac yn disodli’r hyn oedd yn cael ei ystyried yn dechnolegau newydd heddiw, ac felly roedd yn bwysig manteisio ar y cyfleoedd hynny oedd o'n blaenau a gwneud newidiadau lle gellid eu gwneud.

 

Ategodd yr Arweinydd y sylwadau hyn a braf oedd gweld ein bod ar flaen y gad yn yr ymateb i’r argyfwng hinsawdd o ran lleihau ynni, oedd yn amlwg gyda’r rôl y gellid ei chyflawni gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Japan.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Ynni newydd Ardal Leol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dogfennau ategol: