Agenda item

Gweithredu Cronfa Fusnes Rhaglen Trawsnewid Trefi (TT) 2021-2022

Cofnodion:

Cyflwynodd  Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer Awdurdodau Lleol De-ddwyrain Cymru i symud y rhaglen Trawsnewid Trefi (TT) yn ei blaen: Cronfa Fusnes o fewn 3 Canol Tref y Fwrdeistref Sirol, sef Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl.

 

Esboniodd fod adroddiad Cabinet Medi 2021 yn rhoi trosolwg ar lwyddiant y rhaglen TRI / TT hyd yma a gofynnodd am gymeradwyaeth i ymestyn y rhaglen hyd fis Mawrth 2022. Yn dilyn cymeradwyo'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw, mae cynnydd wedi bod yn mynd ymlaen i ddwyn amrywiaeth o brosiectau i ffrwyth. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu grant o £1,166,000 i'w rannu rhwng 10 Awdurdod Lleol y De-ddwyrain.

 

Darparodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fanylion cynlluniau nodedig hyd yma oedd yn cynnwys:

 

  • Family Value - derbyniodd 38-40 Stryd Commercial ym Maesteg £250,000 i ddod ag ef yn ôl i ddefnydd ar gyfer manwerthu ar y llawr gwaelod a phreswylio uwchben.

 

  • New Look - 6 i 7 Stryd Talbot wedi derbyn £250,000 ar gyfer ehangu a gwella amodau.

 

  • Derbyniodd Zia Nina – 28 Dunraven Place £250,000 ar gyfer gwaith adnewyddu.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT) yn gweithredu fel y corff arweiniol ar gyfer rhanbarth y De-ddwyrain ac y bydd yn adrodd i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Adfywio Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru, fydd yn cynnwys Bwrdd Adfywio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae RhCT yn ei gwneud yn ofynnol i CBS Pen-y-bont ar Ogwr a'r awdurdodau lleol eraill sy'n rhan o ranbarth y De-ddwyrain ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda RhCT i hwyluso tynnu'r arian grant i lawr a sicrhau cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau cyllid grant LlC.

 

Tynnodd sylw'r Cabinet at y risgiau yr oedd angen bod yn ymwybodol ohonynt, sef nad oedd swm penodol wedi'i ddyrannu i bob Awdurdod Lleol yn y De-ddwyrain. O'r herwydd ni fyddai prosiectau'n cael eu dyfarnu ond pan fyddent yn barod i fynd ac os oedd cyllid ar gael. Mae angen monitro cadarn gan swyddogion CBSP a RhCT.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn braf gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud i nifer o adeiladau ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd yn adeiladau tirnod oedd o fudd i lawer o'r trigolion. Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau, o fis Mawrth 2022 ymlaen, fod 19 o geisiadau wedi cael eu cyflwyno eisoes ar gyfer y gronfa sy’n dangos pa mor boblogaidd a llwyddiannus y bu’r cynllun o ran gwella ardaloedd ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl.

 

Ategodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio y sylwadau a dywedodd ei bod yn gadarnhaol gweld cymaint o sefydliadau manwerthu yn defnyddio cyllid ar gyfer gwelliannau gan fod llawer o'r adeiladau ledled Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd amser i'w gwella oherwydd eu natur sensitif.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  • yn dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Cymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid a’r Prif Swyddog - Cyfreithiol, AD a Gwasanaethau Rheoleiddiol, i:

 

  • negodi a llunio cytundeb lefel gwasanaeth gyda Rhondda Cynon Taf; a

 

chymeradwyo unrhyw estyniad neu ddiwygiad i’r cytundeb lefel gwasanaeth ac ymrwymo i unrhyw weithredoedd a dogfennau pellach a oedd yn ategol i gytundeb lefel gwasanaeth

Dogfennau ategol: