Agenda item

Adnewyddu Prydles Tŷ Clwb a Phafiliwn Clwb Criced Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghaeau Trecelyn, Pen-y-bont ar Ogwr yn unol ag Adran 123(2A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau adroddiad oedd i ystyried cynnwys darn bach o dir ychwanegol, yn cynnwys y rhwydi criced presennol, y storfa a darn bach o dir y tu ôl i'r pafiliwn yng Nghaeau Trecelyn, Pen-y-bont ar Ogwr, fel rhan o'r cynllun adnewyddu prydles T? Clwb a Phafiliwn Clwb Criced Tref Pen-y-bont ar Ogwr i Ymddiriedolwyr Clwb Criced Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Eglurodd fod Clwb Criced Tref Pen-y-bont ar Ogwr (CCTP) ar hyn o bryd yn meddiannu eu T? Clwb a'u Pafiliwn yn rhinwedd prydles 21 mlynedd a ddechreuodd ar 1 Medi 1998 am rent hedyn pupur. Roedd y tir oedd wedi’i gynnwys yn y brydles hon wedi’i ddangos ag ymyl goch ar y cynllun oedd ynghlwm yn Atodiad A.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod y brydles bresennol yn dod i ben ar 31 Awst 2019 a bod CCTP yn dal yr awenau ar hyn o bryd o dan yr un telerau â'r brydles hon sydd wedi dod i ben.  O dan delerau'r brydles, CCTP oedd yn gyfrifol am adeiladu'r T? Clwb a'r Pafiliwn. Ariannwyd y datblygiad hwn yn rhannol gan grant Sportlot oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyfleusterau newid fod ar gael i glybiau chwaraeon eraill yn ystod misoedd y gaeaf at ddefnydd chwaraeon gaeaf.

 

Dechreuodd trafodaethau cychwynnol ar gyfer caniatáu’r brydles adnewyddu beth amser yn ôl a chawsant eu cwblhau ddiwedd 2019. Yn ystod y trafodaethau hyn gofynnodd CCTP am i'r tir y mae eu rhwydi ymarfer criced wedi'u lleoli arno a darn bach o dir ychwanegol at ddibenion storio y tu ôl i'r pafiliwn gael eu cynnwys yn y brydles adnewyddu. Mae cynnwys y tir ychwanegol hwn yn y brydles adnewyddu yn rhoi cyfle i'r Cyngor unioni'r sefyllfa ac mae’n cynyddu cyfanswm arwynebedd y tir i 0.2789 erw (1,128 metr sgwâr). Dangosir hwn ag ymyl goch ar y cynllun sydd ynghlwm yn Atodiad B. Roedd cefndir pellach yn rhan 3 yr adroddiad.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau y cytunwyd ar delerau ag Ymddiriedolwyr CCTP a bod hysbysiad pwerau dirprwyedig CMMPS-20-014 (dyddiedig 1 Ionawr 2020) wedi awdurdodi adnewyddu prydles T? Clwb a Phafiliwn Clwb Criced Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghaeau Trecelyn, Pen-y-bont ar Ogwr i CCTP.

 

Dywedodd y byddai’r Cabinet yn gwybod y cynigir datblygu strategaeth unigol ar gyfer rheoli safle ehangach Caeau Trecelyn yn y dyfodol. Mae hwn yn un o'r safleoedd y mae'r Cyngor wedi'i nodi sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth fel parc cyhoeddus gan aelodau'r cyhoedd yn ogystal â darparu cyfleusterau chwaraeon ffurfiol (pafiliynau a meysydd chwarae). O ganlyniad, oherwydd maint y safleoedd, defnydd y cyhoedd, nifer y clybiau dan sylw, a/neu’r angen am welliant / datblygiad, mae’r Cyngor wedi penderfynu y dylid ystyried dewisiadau eraill yn ychwanegol at y Trosglwyddiad Ased Cymunedol arferol i glybiau chwaraeon, gyda strategaethau unigol yn cael eu datblygu ar gyfer pob safle yn dilyn gwerthuso’r dewisiadau.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau am eglurhad ar y trefniadau o gwmpas y brydles newydd a bod yr amodau yr un fath, dim ond bod tir ychwanegol wedi ei gynnwys. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau hyn.

 

Credai Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod Caeau Trecelyn yn ased gwerthfawr i dref Pen-y-bont ar Ogwr a bod hynny’n cynnwys y clwb criced a’i bod yn bwysig bod y bartneriaeth gyda hwy yn llwyddiannus ac yn barhaus.

 

Soniodd yr Arweinydd am y broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) a’i bod yn amlwg y llwyddiant oedd yn bosibl drwy’r broses hon, fel y gwelwyd gyda Chlwb Criced Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet, ar ôl ystyried yr Adroddiad a’r diffyg gwrthwynebiadau dilys a dderbyniwyd mewn ymateb i’r Hysbysiadau a gyhoeddwyd yn unol ag Adran 123(2A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn awdurdodi bod y man agored cyhoeddus bychan ychwanegol, sy’n cynnwys y tir a ddefnyddir ar gyfer y rhwydi criced a'r darn bach o dir y tu ôl i Bafiliwn presennol y Clwb Criced, yn cael ei gynnwys yn y brydles adnewyddu i Ymddiriedolwyr Clwb Criced Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Dogfennau ategol: