Agenda item

Monitro Cyllideb 2021-22 - Rhagolygon Refeniw Chwarter 3

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar sefyllfa ariannol refeniw’r Cyngor ar yr 31ain o Ragfyr 2021, ac yn gofyn am gymeradwyaeth i drosglwyddiadau cyllideb rhwng £100,000 a £500,000, fel sy’n ofynnol dan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.

 

Tynnodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid sylw at y tabl yn adran 4 yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y sefyllfa ariannol ar yr 31ain o Ragfyr 2021, a’r Gymhariaeth rhwng y gyllideb a’r alldro disgwyliedig.

 

Eglurodd fod tanwariant net o £2.525 miliwn yn cynnwys tanwariant net o £2.072 miliwn ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net o £7.457 miliwn ar gyllidebau'r cyngor cyfan, wedi'i wrthbwyso gan ddyraniad net o £7.004 miliwn i gronfeydd wrth gefn oedd wedi eu clustnodi. Roedd yr hyn yr oedd y sefyllfa ragamcanol yn seiliedig arno wedi'i restru yn 4.1.2 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd fod y tanwariant a ragwelir ar gyllideb y Cyngor yn chwarter 3 yn cuddio'n sylweddol y pwysau cyllidebol sylfaenol mewn rhai meysydd gwasanaeth yr adroddwyd amdanynt yn 2020-21 ac oedd yn dal i fodoli yn 2021-22. Roedd y prif bwysau ariannol mewn Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Digartrefedd a Gwastraff. Amlinellwyd y rhesymau am y rhain yn adrannau 4.1.4 trwy 4.1.7 o'r adroddiad.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid effeithiau pandemig Covid-19 a beth oedd amcangyfrif o’r costau gan y Cyngor mewn ymateb i hyn. Rhoddodd ffigurau ar hawliadau gwariant Covid-19 hyd at ddiwedd Tachwedd 2021 yn ogystal â cholled incwm Covid-19 hyd at Chwarter 2 2021-22. Roedd manylion am hyn yn adran 4 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y bu nifer o drosglwyddiadau cyllidebol ac addasiadau technegol rhwng cyllidebau ers i Ragolwg Refeniw chwarter 2 gael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Hydref. Adroddwyd ar sefyllfa'r gyllideb gan ragdybio y bydd y trosglwyddiadau hyn yn cael eu cymeradwyo. Roedd y manylion yn 4.1.22 o'r adroddiad.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn falch o sefyllfa tanwariant yr awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ond gallai’r darlun fod wedi bod yn wahanol oni bai am gronfa galedi Llywodraeth Cymru. Diolchodd i'r swyddogion am eu gwaith yn tynnu’r arian i lawr oddi wrth Lywodraeth Cymru. Ategodd yr Arweinydd y sylwadau hyn a dywedodd efallai na fydd y gronfa galedi yno yn y flwyddyn ariannol nesaf ac felly ei bod yn bwysig i'r awdurdod dynnu'r hyn a allent o'r cronfeydd hyn.

 

Soniodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau fod yr adroddiad yn amlygu tanwariant o ganlyniad i Covid. Gofynnodd a oedd unrhyw achosion eraill dros y tanwariant fel cadwyni cyflenwi ac ati.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod yna broblemau ychwanegol ac mai cadwyni cyflenwi oedd un o'r rhai mwyaf amlwg.  Ychwanegodd nad oedd hwn yn fater unigryw i Ben-y-bont ar Ogwr ond i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae hyn hefyd wedi effeithio ar allu contractwyr i ymgymryd â gwaith ychwanegol, sydd yn ei dro wedi effeithio ar faint y cynnydd a wnaed ar brosiectau penodol. Ychwanegodd fod cynnydd wedi bod mewn costau o ganlyniad i Brexit a Covid oedd yn anodd cynllunio ar eu cyfer ac felly bod hyn yn rhywbeth i gadw llygad arno yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau ble roeddem yn gweld gor-chwyddiant mewn costau mewn perthynas â darparu nwyddau a gwasanaethau, a ydym yn dewis peidio â rhoi’r gwaith hwnnw oherwydd defnydd amhriodol o arian y Cyngor. Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod hyn yn rhywbeth yr oedd angen edrych arno’n unigol ac y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal gyda chyflenwyr yngl?n â’r gwaith yr oedd arnom ei angen a’r costau, ond bod llawer o gynlluniau’n hanfodol ac felly roedd rhaid eu caffael hyd yn oed os oedd y costau’n uwch na’r disgwyl.

 

Gwnaeth yr Arweinydd sylw ar y pwynt hwn a dywedodd mai enghraifft dda o waith yr oedd yn rhaid ei gaffael oedd y cynllun teithio i ddysgwyr. Mae hwn yn wasanaeth hanfodol y mae'n rhaid ei ddarparu. Roedd rhai o'r gwasanaethau hyn wedi mynd allan i'w haildendro, ond roedd costau darparwyr wedi cynyddu'n sylweddol mewn rhai achosion.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  • yn nodi’r sefyllfa refeniw a ragwelir ar gyfer 2021-22;

 

Yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol rhwng £100,000 a £500,000 fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.1.22 o’r adroddiad.

Dogfennau ategol: