Agenda item

Strategaeth Gyllido Tymor Canolig 2022-23 i 2025-26

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar sefyllfa ariannol refeniw’r Cyngor ar yr 31ain o Ragfyr 2021, ac roedd yn gofyn am gymeradwyaeth i drosglwyddiadau cyllideb rhwng £100,000 a £500,000, fel sy’n ofynnol dan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.

 

Eglurodd fod y Cyngor ar y 24ain o Chwefror 2021 wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £298.956 miliwn ar gyfer 2021-22. Fel rhan o'r Fframwaith Rheoli Perfformiad, roedd rhagamcanion cyllideb yn cael eu hadolygu'n rheolaidd a'u hadrodd i'r Cabinet bob chwarter.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid y sefyllfa ariannol ar yr 31ain o Ragfyr 2021 oedd wedi ei grynhoi yn Nhabl 1 yr adroddiad. Manylwyd ar y sefyllfa ragamcanol yn 4.1.2 yr adroddiad gydag effeithiau Covid 19 fel y crybwyllwyd mewn adroddiad blaenorol wedi eu disgrifio yn 4.1.12.

 

Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor wedi parhau i gefnogi addysg, ymyrraeth gynnar, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau lles i sicrhau ein bod yn rhoi blaenoriaeth i'r rhai sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) yn ailadrodd bod y Cyngor wrth symud ymlaen yn edrych ar gynifer o ffyrdd ag y gallwn i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ganddo er mwyn gallu parhau i ddiogelu'r gwasanaethau hyn.

 

Ychwanegodd y byddai'r Cyngor yn ceisio codi incwm ychwanegol lle bynnag y bo modd, ond mai cyfyngedig fyddai’r cyfleoedd i wneud hynny o ystyried heriau Covid-19. Byddai'r Cyngor yn parhau i chwilio am ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaethau i ddarparu cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd. Roedd arbedion ar gyfer y flwyddyn i ddod yn cynnwys adolygu a rhesymoli cyflenwadau a gwasanaethau'r cyngor.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor yn bwriadu gwario 131 miliwn ar wasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Roedd cyllid cyfalaf ychwanegol hefyd ar gael i gefnogi, adeiladu ac adnewyddu ein hysgolion fel rhan o raglen band B o dan raglen Moderneiddio'r Unfed Ganrif ar Hugain.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor yn bwriadu gwario 78 miliwn ar wasanaethau gofal cymdeithasol a lles yn y flwyddyn i ddod. Strategaeth y Cyngor yw trawsnewid sut rydym yn gweithio gyda phobl gan sicrhau bod y gwasanaethau yn gynaliadwy yn y tymor hir.

 

Nododd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid y Trosolwg Ariannol Corfforaethol a oedd yn cynnwys y pwysau sy'n gwasgu adnoddau. Crynhowyd y rhain yn adran 4.1.1 yr adroddiad. Tynnodd sylw at yr arbedion yr edrychwyd arnynt oedd yn cwmpasu rhai meysydd allweddol a restrir isod:

 

  • mesurau effeithlonrwydd cyffredinol
  • arbedion eiddo
  • modelau darparu gwahanol
  • newidiadau yn y gwasanaethau a ddarperir
  • addysg
  • gofal cymdeithasol a lles
  • newidiadau adrannol

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, oherwydd y cyhoeddiad hwyr ynghylch yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, na dderbyniwyd y setliad dros dro i Lywodraeth Leol tan yr 21ain o Ragfyr 2021.


Roedd y setliad drafft yn nodi cynlluniau gwariant cyfalaf cyffredinol refeniw ar gyfer 2022-23 ac roedd hefyd yn cynnwys dyraniadau arfaethedig ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Dywedodd mai'r prif ffigur ar gyfer y gyllideb refeniw ar gyfer 2022-23 oedd cynnydd cyffredinol o 9.4% ledled Cymru ac ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr roedd y cynnydd yn 9.2% yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru.

 

Pwysleisiodd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gwrdd â chost cytundeb cyflog athrawon o fewn ffigwr y setliad hwn. Roedd yn ofynnol hefyd i'r Cyngor dalu'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol uwch yn ogystal â thalu'r costau ychwanegol o gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Roedd y manylion ar gyfer hyn eto i ddod.

 

Tynnodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid sylw at y pwysau cyllidebol sydd wedi codi, sef cyfanswm o £11.860 miliwn a £3.6 miliwn pellach hefyd wedi'i nodi ar gyfer y dyfodol. Roedd manylion y rhain yn Atodiad A yr adroddiad. Roedd cynigion i leihau'r gyllideb o £631,000 ar gyfer 2022-23 wedi'u nodi o gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol i sicrhau cyllideb gytbwys, roedd manylion hyn yn Atodiad B yr adroddiad. Rhoddodd hefyd grynodeb o gronfeydd wrth gefn y cyngor a'r Dyraniadau Blynyddol Arfaethedig o Gyllid Cyfalaf y manylwyd arnynt yn nhabl 8 a 9 yr adroddiad.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd yr anhawster o ddatblygu SATC a diolchodd i'r Prif Swyddog am y gwaith caled a wnaed i ddatblygu hyn. Bu'n gweithio'n agos gyda'i rhagflaenydd a oedd wedi rhoi help llaw i gael yr arbenigedd gan ddau Swyddog yn ystod y cyfnod o drawsnewid. Diolchodd i'r tîm am eu gwaith yn cynorthwyo i ddatblygu'r strategaeth. Ychwanegodd ei fod yn dueddol eisoes tuag at y cynigion yn y strategaeth ariannol tymor canolig gan eu bod wedi'u datblygu gyda'r Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol a dyma oedd y broses bob blwyddyn. Roedd yn croesawu barn yr holl Aelodau ar y cynigion gan fod hyn yn rhan bwysig o'r broses. Wrth ddatblygu’r SATC, y nod oedd cadw’r toriadau i wasanaethau rheng flaen i lawr i’r eithaf, a lle bynnag yr oedd modd, cyfyngu’r cynnydd yn y dreth gyngor i’r lleiafswm. Gofynnodd a oedd unrhyw newidiadau i'r setliad.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn y ffurf drafft ac y byddai’n bosibl ei newid. Gallai'r newidiadau fod am nifer o resymau ond roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd mai bychan iawn fyddai unrhyw newidiadau. Hefyd, oherwydd bod y setliad yn hwyr, roedd Llywodraeth Cymru yn gallu ymgorffori newidiadau yn ddiweddarach cyn darparu’r setliad.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a dywedodd er ei fod yn rhagdueddol, bod ei feddwl yn agored a’i fod yn croesawu unrhyw fewnbwn gan Aelodau. SATC drafft oedd hon ac roedd yn bwysig casglu ystod eang o safbwyntiau a mewnbwn cyn ei chwblhau. Hyd yn hyn, roedd argymhellion o'r ymgynghoriadau cyhoeddus wedi'u hymgorffori, y Panel Ymchwil a Gwerthuso'r Gyllideb (BREP) yn ogystal ag Aelodau. Mynegodd ei ddiolch i'r tîm am eu gwaith caled.

 

Ategodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio y sylw hwn ac ychwanegodd ei bod yn braf ar ôl 6 blynedd fel aelod o'r Cabinet i beidio â gweld effeithiau llymder ideolegol gorfodol a gallu edrych ar gynlluniau gwariant newydd.

 

Ategodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau’r sylwadau ac ychwanegodd ei bod yn braf gweld bod mynd i’r afael ag eiddo gwag yn cael ei ystyried yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, rhywbeth oedd wedi bod yn amharu ar gymdeithas ers peth amser.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr adroddiad a'r sylwadau gan gyd-Aelodau’r Cabinet. Roedd yn falch o weld y cynigion cadarnhaol mewn perthynas â’r gwasanaethau cymdeithasol gan ei bod yn hanfodol bwysig sicrhau bod trigolion yn derbyn gofal. Roedd costau byw wedi cynyddu'n arbennig dros y 2 flynedd ddiwethaf yn ogystal â chynnydd posibl mewn prisiau tanwydd ac felly roedd y cynigion a nodid yn yr adroddiad yn bwysig.

 

Adleisiodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol y sylwadau ac fel y dywedodd Aelodau’r Cabinet gyda’r toriadau a dderbyniwyd dros y 9 mlynedd neu fwy roedd yn braf gweld bod hyd yn oed y senario waethaf eleni yn well na llawer o senarios achos gorau mewn blynyddoedd blaenorol. Gofynnodd sut oedd hyn wedi'i ragweld.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid bod angen inni edrych ymlaen o ran cynllunio ariannol ac edrych ar yr hyn sy’n ariannol gyraeddadwy ac wrth ystyried y sefyllfa waethaf bosibl, roedd yn bwysig edrych ar dueddiadau’r flwyddyn flaenorol er mwyn ceisio rhagweld sut y byddai’r flwyddyn i ddod yn edrych. Ychwanegodd yr Arweinydd, oherwydd y rhesymau a drafodwyd, fod angen trin y rhagolygon yn ofalus.

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau am ragor o wybodaeth am yr amrywiadau mewn setliadau i'r holl Awdurdodau Lleol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y cynnydd cyfartalog ar draws Cymru yn 9.4% gyda’r uchaf yn 11.2% a’r isaf yn 4%. Roedd nifer o Awdurdodau Lleol wedi derbyn mwy na 9% ac felly er bod CBS Pen-y-bont ar Ogwr ychydig yn is na'r cyfartaledd roedd yn dal yn gadarnhaol iawn. Ychwanegodd fod newidiadau yn y boblogaeth yn ffactor mawr mewn ffigyrau setlo, oedd yn rheswm arall pam ei bod yn anodd rhagweld yn gywir. 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  • yn nodi’r sefyllfa refeniw a ragwelir ar gyfer 2021-22

 

Yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol rhwng £100,000 a £500,000 fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.1.22 o’r adroddiad.

Dogfennau ategol: