Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid Perfformiad a Newid adroddiad, a’i ddiben oedd:
Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 ar hyn o bryd yn dod i gyfanswm o £49.603 miliwn, a bod £28.495 miliwn ohono’n cael ei dalu o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gyda’r £21.108 miliwn sy’n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol Llywodraeth Cymru. Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn dangos y Rhaglen Gyfalaf fesul Cyfarwyddiaeth ar gyfer 2021-22. Dywedodd fod y llithriad i flynyddoedd i ddod ychydig dros £30 miliwn a bod hyn yn golygu nad oedd llawer o gynlluniau yn mynd i wario'r gyllideb a ddyrannwyd iddynt yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac y byddant felly'n llithro i'r flwyddyn nesaf. Mae’r cynlluniau hyn yn parhau yn y rhaglen gyfalaf ac felly roedd yr arian yn dal i fod wedi ei ddyrannu iddynt.
Tynnodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid sylw at dabl 2 oedd yn manylu ar Adnoddau Rhaglen Gyfalaf 2021-22. Roedd Atodiad A yr adroddiad yn rhoi manylion y cynlluniau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf, gan ddangos unrhyw rai newydd oedd wedi eu cymeradwyo, trosglwyddiadau arian a llithriad i gyllideb ddiwygiedig 2021-22. Crynhodd nifer o gynlluniau lle roedd angen llithriad a manylwyd arnynt yn 4.4 o'r adroddiad.
Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod nifer o gynlluniau newydd wedi eu hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf ers i’r adroddiad cyfalaf diwethaf gael ei gymeradwyo ym mis Hydref. Manylwyd ar y rhain yn 4.5 o'r adroddiad. Roedd manylion y rhaglen gyfalaf ddiwygiedig yn Atodiad B yr adroddiad.
Ychwanegodd gyda'r cynlluniau amrywiol yn galw am lithriad i'r flwyddyn nesaf, y byddai'r Cyngor angen benthyca llai o arian nag a ragwelwyd yn wreiddiol, oedd yn golygu na fyddai'r Cyngor yn mynd i unrhyw ddyled benthyciad ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod Pandemig Covid-19 wedi cael effaith ar ein Rhaglen Gyfalaf ond rhoddodd sicrwydd bod y cynlluniau’n dal yn flaenoriaeth. Croesawyd y cyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu i ehangu fflyd y Cyngor o gerbydau allyriadau isel yn ogystal â chyllid tuag at y paneli solar ffotofoltäig yn Nepo Bryncethin.
Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol am y llithriad yn Neuadd y Dref Maesteg a sut y byddai hyn yn effeithio ar ddyddiad y gystadleuaeth.
Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod Cynllun Neuadd y Dref Maesteg yn un pwysig iawn a bod cyflwyno hwn wedi bod yn heriol gan ei fod wedi bod yn digwydd yn ystod y Pandemig. Un o'r heriau a gawsom oedd y nifer cyfyngedig o staff oedd yn cael mynd ar y safle yn ystod y cyfyngiadau. Mater arall oedd yr anhawster i gael y cyflenwadau oedd eu hangen oherwydd y prinder yn y gadwyn gyflenwi, costau nwyddau ac yn y blaen. Ychwanegodd ei bod yn bwysig bod ansawdd y gwaith yn cael y lle blaenaf, yn hytrach na’r amser a gymerid ac felly bod llithriad yn angenrheidiol ond y rhagwelid y byddai’r gwaith wedi cael ei gwblhau tua haf 2022.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:
yn nodi’r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2021-22 (Atodiad C i’r adroddiad).
Dogfennau ategol: