Agenda item

Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymgynghori â’r Heddlu, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a chyrff perthnasol eraill mewn perthynas â’r canlynol:

 

·         Estyniad i’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus presennol sy'n ymwneud â rheoli alcohol

·         Estyniad i’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus presennol sy’n ymwneud â’r cyfyngiad ar fynediad i fan cyhoeddus yn yr ardal rhwng Stryd Talbot a Stryd Plasnewydd, Maesteg

·         Estyniad i'r GDMAC presennol sy'n ymwneud â Rheoli C?n

·         Amrywio rheolaeth yr ardal alcohol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gynnwys yr ardal a adwaenir fel y parc chwarae ar Heol Quarella, Wildmill

·         Gan nodi, yn dilyn yr ymgynghoriad, y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r cabinet er mwyn i benderfyniad gael ei wneud ynghylch ymestyn ac amrywio'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus

 

Esboniodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus presennol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dod yn ddeddf ar 18 Mehefin 2019 a’i fod yn ymwneud â rheoli alcohol, cyfyngu ar fynediad i fannau agored cyhoeddus a rheoli c?n. Daw i ben ar 18 Mehefin 2022. Mae GDMAC yn parhau mewn grym am dair blynedd oni bai ei fod yn cael ei ddileu gan yr awdurdod lleol. Amlinellwyd mwy o fanylion ynghylch GDMAC yn adran 3 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod yn rhaid cynnal ymgynghoriad ynghylch unrhyw Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ychwanegol, neu amrywiad neu estyniad i GDMAC presennol. Roedd y manylion yn adran 4 yr adroddiad.

 

Dywedodd pe bai'n cael ei gymeradwyo, y byddai'r ymgynghoriad yn cychwyn ar 7 Chwefror 2022 ac yn parhau am gyfnod o 12 wythnos. Byddai’r ymgynghoriad yn gofyn am farn yngl?n â’r canlynol:

 

·         ymestyn y GDMAC presennol sy’n ymwneud â rheoli alcohol yng Nghaerau, Pencoed, Porthcawl, Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr ar yr un telerau yn union.

·         ymestyn y GDMAC sy’n cyfyngu mynediad rhwng Stryd Talbot a Stryd Plasnewydd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 17:30 ar un diwrnod a 09:00 y diwrnod wedyn ac ar ddydd Sul a’r holl wyliau banc am 24 awr.

·         ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus presennol ynghylch rheoli c?n yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar yr un telerau yn union.

·         peidio ag ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus sy'n ymwneud â chyfyngu mynediad rhwng Stryd Wesley a Stryd Lloyd, Caerau.

 

Roedd rhagor o fanylion am y GDMAC yn adran 4 yr adroddiad gyda’r gorchymyn presennol ynghlwm yn Atodiad 1, map yn dangos yr ardaloedd estynedig yn Atodiad 2 a’r gorchymyn cyfredol yn ymwneud â rheoli c?n ynghlwm yn Atodiad 3.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau’r adroddiad a chredai y byddai gan lawer o drigolion, yn enwedig yn ei ward ef, ddiddordeb mawr yn yr ymgynghoriad cyhoeddus oherwydd nifer o faterion oedd wedi codi yn ystod y pandemig. Dywedodd yr Arweinydd fod Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn arf defnyddiol wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a'i bod yn bwysig eu hadolygu er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau oedd yn cael eu gwneud yn adlewyrchu anghenion y meysydd lle caent eu gweithredu. 

 

PENDERFYNWYD: (1) Bod y Cabinet wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus i gymeradwyo’r estyniad arfaethedig i’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus fel yr amlinellir ym mharagraff 4.3 o’r adroddiad hwn, yn benodol:

 

·         Ymestyn y GDMAC presennol sy'n ymwneud â rheoli alcohol yng Nghaerau, Pencoed, Porthcawl, Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr ar yr un telerau yn union.

·         Ymestyn yr ardal a gwmpesir gan GDMAC presennol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n ymwneud â rheoli alcohol i gynnwys yr ardal a elwir yn ardal chwarae, Heol Quarella, Wildmill, Pen-y-bont ar Ogwr.

·         Ymestyn y GDMAC presennol sy'n cyfyngu mynediad rhwng Stryd Talbot a Phlasnewydd ar yr un telerau yn union.

·         Ymestyn y GDMAC presennol ynghylch rheoli c?n yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar yr un telerau yn union.

 

(2) Nododd y Cabinet hefyd, yn dilyn yr ymgynghoriad, y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r cabinet am benderfyniad ynghylch ymestyn ac amrywio'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

Dogfennau ategol: