Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Gogledd-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gychwyn proses ymgynghori statudol i wneud newid rheoledig er mwyn ehangu Ysgol Gymraeg (YG) Bro Ogwr yn ysgol 2.5 dosbarth mynediad (DM), a meithrinfa gyda’r hyn sy’n cyfateb i 90 lle llawn amser, ynghyd â dosbarth ag 8 lle ar gyfer arsylwi ac asesu, ar dir oddi ar Ffordd Cadfan. Byddai’r cynnig yn dod i rym o ddechrau tymor yr hydref 2025.

 

Eglurodd y cafwyd cymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen ag astudiaeth ddichonoldeb ar y safle ym Mryn Bracla o ran y dewis addysg a ffefrir ar gyfer cynllun Gogledd Ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr. Ar ôl ystyried y cymhlethdodau technegol a'r costau posibl oedd yn gysylltiedig â datblygu'r ysgol ym Mryn Bracla, penderfynodd y Cabinet adael y safle hwnnw allan o unrhyw ystyriaeth yn y dyfodol mewn perthynas ag YG Bro Ogwr a rhoddwyd caniatâd i swyddogion ystyried dewisiadau eraill ar gyfer yr ysgol newydd.

 

Ychwanegodd fod y Cabinet, ym mis Tachwedd 2021, wedi derbyn adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Chyfarwyddwr y Cymunedau, oedd yn manylu ar ganlyniad astudiaeth ddichonoldeb mewn perthynas â’r tir oddi ar Ffordd Cadfan ac wedi cadarnhau addasrwydd y safle i’w ddatblygu. Yn yr un cyfarfod cafwyd cymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen â chaffael y safle. Roedd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd, er mwyn ehangu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr (h.y. 2.5 DM arfaethedig, 90 o leoedd meithrin cyfwerth ag amser llawn ynghyd â dosbarth arsylwi ac asesu ag 8 lle), fod y Cod Trefniadaeth Ysgolion yn ei gwneud yn ofynnol cynnal ymgynghoriad gyda chorff llywodraethu'r ysgol, staff, rhieni, disgyblion a phartïon â diddordeb. Dyma’r cam cyntaf yn y broses statudol.  Os caiff ei chwblhau, rhagwelir ar hyn o bryd y daw’r cynnig hwn i rym ar ddechrau tymor yr hydref 2025. Bydd y ddogfen ymgynghori’n nodi goblygiadau'r cynnig. Yn dilyn y cyfnod hwn o ymgynghori, byddai adroddiad pellach ar ganlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet iddo gael ystyried canlyniad y broses honno. Yna byddai angen i'r Cabinet benderfynu a ddylid awdurdodi cyhoeddi hysbysiad statudol. Pe câi hysbysiad o'r fath ei gyhoeddi, byddai'n gwahodd gwrthwynebiadau ffurfiol yn ystod y cyfnod statudol o 28 diwrnod. Roedd rhagor o wybodaeth yn adran 4 yr adroddiad.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio yr adroddiad a dywedodd ei fod yn uchelgais gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr ond bod angen barn pobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr drwy ymgynghoriad a bod hon yn rhan bwysig o symud hyn ymlaen. Credai ei bod yn bwysig cael ysgol yr 21ain ganrif gyfrwng Cymraeg a bod y lleoliad hwn yn ddewis addas i wasanaethu'r ardaloedd oedd ei hangen.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd at hyn gan ddweud bod angen cynyddol yng ngogledd ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr am leoedd ychwanegol ac y byddai hyn yn ehangiad mawr ar nifer y lleoedd oedd ar gael. Roedd yn gobeithio y byddai pobl yn ymgysylltu’n llawn â’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod barn trigolion yn cael ei chlywed. 

 

PENDERFYNWYD: Rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i ddechrau proses ymgynghori statudol i wneud newid rheoledig er mwyn ehangu YG Bro Ogwr yn ysgol 2.5 DM, gyda meithrinfa’n cynnwys 90 lle cyfwerth ag amser llawn, ynghyd â dosbarth arsylwi ac asesu ag 8 lle, ar dir oddi ar Ffordd Cadfan. Byddai’r cynnig yn dod i rym o ddechrau tymor yr hydref 2025.

Dogfennau ategol: