Cofnodion:
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau adroddiad oedd yn gofyn am ganiatâd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) ymrwymo i Gytundeb Perthynas rhanbarthol yn ymwneud ag ariannu a chyflawni Prosiect Connect Engage Listen Transform (CELT), a ariennir drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU (CRF) gydag amrywiol Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Eglurodd fod dod â Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) i ben yn ystod 2022 a 2023 wedi creu angen i gael cyllid newydd yn enwedig yr hyn oedd yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd. Roedd y 10 Awdurdod Lleol sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi bod yn gweithio fel Gr?p Clwstwr Awdurdodau Lleol i drafod cyfleoedd ariannu newydd a allai ddisodli cyllid cyflogadwyedd ESF.
Dywedodd fod Llywodraeth y DU wedi creu cronfa newydd o’r enw y Gronfa Adnewyddu Cymunedol (CRF) a thrwy gydweithio â’i gilydd fod yr holl awdurdodau lleol sy’n ffurfio’r CCR wedi datblygu prosiect CELT a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) ar ran Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i Lywodraeth y DU ar y 18fed o Fehefin 2021. Gofynnodd elfen CBSP o’r prosiect am £274,817 gan y CRF yn seiliedig ar ganlyniadau gweithio gyda 140 o gleientiaid a chael 26 i mewn i gyflogaeth yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd cefndir pellach yn adran 3 o'r adroddiad.
Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod CBST wedi derbyn cadarnhad gan Lywodraeth y DU ar y 4ydd o Dachwedd 2021 fod cais CELT wedi cael ei gymeradwyo’n llwyddiannus. Ar yr adeg pan gyfunodd CBST gais y CCR, cyflwynwyd canlyniadau gwahanol yn erbyn cais CBSP am gyllid. Mae set newydd o dargedau a drafodwyd gwahanol i'r rhai a nodwyd yn 3.4 wedi'u cytuno a byddant yn cael eu hadlewyrchu yn y Cytundeb Perthynas. Roedd manylion hyn yn Nhabl 1 yr adroddiad.
Cyfeiriodd at yr angen am Gr?p Cyflawni Gweithredol, oedd angen cynrychiolydd o bob Awdurdod Lleol. Cynigiwyd enwebu Rheolwr Cyflogadwyedd a Menter i gynrychioli CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar Fwrdd Rheoli Strategol CELT a bod Arweinydd Tîm Cyflogadwyedd yn cael ei enwebu i gynrychioli CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar Gr?p Cyflawni Gweithredol CELT.
Tynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau sylw at y goblygiadau ariannol a dywedodd fod prosiect CELT yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth y DU heb unrhyw ofyniad gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr am arian cyfatebol. Bydd y Cytundeb Perthynas yn nodi manylion cyllid y prosiect a ddyrannwyd i CBS Pen-y-bont ar Ogwr (£274,817).
Soniodd yr Arweinydd fod nifer o fentrau ar waith eisoes; fodd bynnag, roedd pob un ohonynt drwy'r rhaglen gyflogadwyedd. Gofynnodd a oedd dim risg o ddyblygu na'r tebygolrwydd y byddai pobl yn syrthio drwy unrhyw fylchau. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau fod hwn ar wahân; er ei fod yn rhan o'r adran gyflogadwyedd ei fod yn gynllun oedd yn cyd-fynd â'r gwaith a wnaed eisoes. Ychwanegodd y gallai fod yn fwy ystyrlon i bobl oedd eisoes yn y cynlluniau presennol.
Croesawodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau’r adroddiad ac roedd yn braf gweld y cynllun yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth y DU. Ychwanegodd ei fod wedi dod ar adeg pan oedd angen mawr amdano oherwydd effeithiau'r Pandemig ar gyflogaeth pobl a'r anawsterau o ran cael gwaith newydd ac felly bod y cynlluniau hyn wedi bod o fudd i unigolion a’u teuluoedd hefyd.
Eiliwyd y sylwadau hyn gan Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio ac ychwanegodd fod y tîm wedi dod yn bell dros y blynyddoedd ac y byddai uno'r gwasanaethau hyn yn gymorth arbennig i bobl iau sydd angen y cymorth ychwanegol i gael i mewn i waith ystyrlon.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:
Yn cytuno y byddai'r Rheolwr Cyflogadwyedd a Menter yn cynrychioli CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar Fwrdd Rheoli Strategol CELT ac y byddai'r Arweinydd Tîm Cyflogadwyedd yn cynrychioli CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar Gr?p Cyflawni Gweithredol CELT.
Dogfennau ategol: