Agenda item

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Adroddiad Chwarter 3 2021-22

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, er mwyn:

 

·          cydymffurfio â gofyniad y Sefydliad Siartedig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ‘Y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (argraffiad 2017)

·          rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyfalaf ar gyfer 2021-22 ar 31 Rhagfyr 2021 (Atodiad A i'r adroddiad)

·          ceisio cymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 i 2030-31 (Atodiad B)

·          wedi nodi'r Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill rhagamcanol ar gyfer 2020-21 (Atodiad C i'r adroddiad).

 

Rhoddodd adran nesaf yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020-21, ers i'r gyllideb gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor, ac mae'n ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 â chyfanswm o £49.603 miliwn, daw £28.495 miliwn ohono o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn, gyda'r £21.108 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol.

 

Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn dangos y rhaglen gyfalaf ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth o fis Hydref 2021 (chwarter 2) i safle’r Cyngor hyd at chwarter 3. Roedd hyn yn adlewyrchu llithriad i’r blynyddoedd nesaf o ychydig dros £30m.

 

Roedd Tabl 2 yn crynhoi’r tybiaethau ariannu presennol ar gyfer y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021-22. Cadarnhaodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid y gall hyn gynnwys adlinio cyllid i wneud y mwyaf o grantiau'r llywodraeth.

 

Rhoddodd Atodiad A fanylion y cynlluniau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf gan ddangos gwariant a gymeradwywyd, amrywiaethau a’r llithriant a gyfeiriwyd ato ar gyfer y gyllideb a ddiwygiwyd ar gyfer 2021-22.

 

Dangosodd paragraff 4.4 o'r adroddiad fod y cynlluniau unigol a oedd yn destun llithriant i'r blynyddoedd i ddod a rhoddodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid ddiweddariad o’r rhain er budd y Cyngor.

 

Ers yr adroddiad cyfalaf diwethaf a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2021, mae nifer o gynlluniau newydd a ariennir yn allanol wedi'u cymeradwyo yn ogystal â chynlluniau wedi’u hariannu'n fewnol, ac maen nhw wedi'u hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf, fel y nodir ym mharagraff 4.5 o'r adroddiad. Roedd nifer o gynlluniau eraill o fewn y rhaglen gyfalaf yn aros am gadarnhad o gyllid allanol dros gyfnod y gaeaf. Efallai y bydd angen ailbroffilio rhai o'r cynlluniau hyn hefyd, ychwanegod. Fe gynhyswyd y Rhaglen Gyfalaf fel Atodiad B i'r adroddiad.

 

Rhoddodd rhan nesaf yr adroddiad fanylion am Ddangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill ar gyfer 2021-22 ynghyd a manylion monitro'r rhain.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid na fyddai'r Cyngor, o ran benthyca unrhyw arian, yn mynd ar drywydd hyn yn y tymor byr, ond yn hytrach yn defnyddio ei gronfeydd wrth gefn tymor byr at y diben hwn. Fodd bynnag, byddai benthyca arian wrth symud ymlaen yn parhau i gael ei werthuso a'i fonitro.

 

Roedd Atodiad C i'r adroddiad yn manylu ar y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2020-21, y dangosyddion amcangyfrifedig ar gyfer 2021-22 a nodir yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor, a'r dangosyddion rhagamcanol ar gyfer 2021-22, yn seiliedig ar y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig. Roedd y rhain yn adlewyrchu bod y Cyngor yn gweithredu yn unol â therfynau cymeradwy.

 

O ran Monitro'r Strategaeth Gyfalaf, roedd gan y Cyngor nifer o rwymedigaethau hirdymor eraill a gynhwyswyd yn y Strategaeth Gyfalaf fel Menter Cyllid Preifat Ysgol Maesteg (PFO), yn ogystal â threfniadau prydlesu ar gyfer y Ganolfan Arloesi, Contract Gwastraff yr Awdurdod a benthyciad effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy arweinydd ei fod yn croesawu'r adroddiad ac yn benodol, y gwaith a gynigiwyd yn Depo Bryncethin i gefnogi'r defnydd o gerbydau electronig yn y dyfodol.

 

Gwnaeth Aelod y pwynt bod hyn yn ffordd ddrud o adeiladu'r ysgol mewn perthynas â'r Ysgol newydd ym Maesteg drwy ddyrannu arian PFI. Gan fod cyfraddau llog isel ar hyn o bryd, gofynnodd am unrhyw ffordd y gallai'r Cyngor dynnu'n ôl o'r Cytundeb, a allai wedyn fod o fudd i'r Awdurdod yn ariannol.

 

Nid oedd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid yn ymwybodol o hanes llawn y cynllun hwn, fodd bynnag, roedd yn ymwybodol bod darpariaeth yr ysgol wedi'i negodi a'i chytuno drwy gytundeb hirdymor ac os ceisiwn dynnu'n ôl o'r cytundeb hwn yn awr, yna byddai hyn yn newid trefniadau cytundebol y cytundeb a fyddai'n anochel yn arwain at ddyfarnu rhai costau cosb sylweddol yn erbyn y Cyngor.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod hwn wedi'i archwilio o'r blaen yn ystod y 18 mis diwethaf a sefydlwyd na fyddai unrhyw fudd ariannol i'r Awdurdod pe bai'n tynnu'n ôl o'r Cytundeb PFI. Cytunodd y Dirprwy Arweinydd â hyn, gan ychwanegu bod y Cyngor wedi sicrhau ffordd gost-effeithiol o brynu'r ysgol newydd o hyd.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn falch o weld rhai o'r cynlluniau newydd a gynigiwyd fel rhan o'r Rhaglen Gyfalaf, yn arbennig, Cynllun Newydd Pont/Croesfan Rheilffordd Heol Pencoed fel rhan o Gronfa Trafnidiaeth Leol Metro Plus, sydd ar hyn o bryd yn cael ei ymgynghori gan y cyhoedd. Gofynnodd beth oedd yr arian wedi'i ymrwymo hyd yn hyn, gan ei fod yn ymwybodol bod cyllid o £150k ac wedi'i fuddsoddi i ddechrau, gyda £47k o hyn yn cael ei wario hyd yma.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, fod y cynllun ym Mhencoed wedi cael ei amcangyfrif i gostio tua £17miliwn a byddai hyn yn cael ei geisio gan y Gronfa Lefelu. Ar hyn o bryd roedd y Cyngor yn gweithio ar ddyluniad y bont gyda rhanddeiliaid allweddol, gyda chais yn cael ei wneud erbyn mis Mehefin eleni. Pwysleisiodd fodd bynnag y byddai'r gwaith sydd ei angen wedyn yn cymryd tua thair blynedd i'w gwblhau, gan fod y rhain yn effeithio ar y brif reilffordd i Lundain. Roedd y cyllid cychwynnol wedi'i neilltuo drwy Gronfa Ranbarthol Bargen Ddinesig Caerdydd, ac yna'r rhan fwyaf o'r cyllid a ddaeth gan y Llywodraeth Ganolog, h.y. y Gronfa Lefelu.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau, fod £17m yn gost amcangyfrif ar hyn o bryd, a allai, mewn gwirionedd, fod yn amcangyfrif ceidwadol o gostau.

 

Nododd Aelod fod llithriant yn y swm o ychydig dros £30m yn mynd i'r flwyddyn ariannol nesaf, o ganlyniad i'r pandemig ac ati, a oedd yn ddealladwy i raddau, o ystyried y pwysau yr oedd awdurdodau lleol wedi'u hwynebu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gofynnodd sut y mae hyn yn llithro o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Croesawodd hefyd y newyddion bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo £2.65m o gyllid i gefnogi gwaith blaenorol a wnaed mewn cartrefi preswylwyr yn Ward Caerau a gofynnodd a ddylai'r Cyngor hefyd fod yn ychwanegu at y cyllid hwn drwy ddyraniad y Rhaglen Gyfalaf.

 

O ran y cymariaethau llithriad ar gyfer eleni a’r flwyddyn nesaf a chymariaethau â blynyddoedd blaenorol, dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai'n ymchwilio i'r gymhariaeth hon y tu allan i'r cyfarfod ac yn ei dro yn bwydo hyn yn ôl i'r Aelod. Byddai unrhyw newidiadau i'r Rhaglen Gyfalaf yn cael eu cynnig gan y Cabinet yn y ffordd arferol ac yna'n cael eu cyflwyno i'r Cyngor llawn yn dilyn hyn, i'w benderfynu.  

 

PENDERFYNIAD:                         Fod y Cyngor wedi:

 

(1)   wedi nodi diweddariad Rhaglen Gyfalaf 2020-21 Chwarter 3 y Cyngor i 31 Rhagfyr 2021 (Atodiad A i'r adroddiad)

(2)  Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig (Atodiad B i'r adroddiad);

Nodi y Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill a ragwelir ar gyfer 2021-22   (Atodiad C)  

Dogfennau ategol: