Agenda item

Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2022-23

Cofnodion:

Daeth y Dirprwy Faer â'r Cadeirydd ar gyfer yr eitem, o ystyried y datganiad o ddiddordeb niweidiol yr oedd y Maer wedi'i ddatgan yn yr adroddiad hwn yn gynharach yn y cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i ddiben, oedd rhoi gwybodaeth i'r Cyngor ynghylch gweithredu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2022-23 (CTR), ac i nodi'r gofyniad i'r Cyngor fabwysiadu cynllun CTR erbyn 31 Ionawr 2022, ynghyd â'r goblygiadau o ran ariannu.

 

Cynghorodd ar ffurf cefndir, hynny Mae CTR yn rhoi cymorth i'r rhai sydd ar incwm isel sydd ag atebolrwydd i dalu Treth y Cyngor. 

 

Roedd Llywodraeth y DU eisoes wedi datganoli i Lywodraeth Cymru y gallu i sefydlu cynlluniau lleol yng Nghymru a nododd y bwriad i leihau gwariant ar CTB o 10%.

 

Ar 20 Ionawr 2021, fe wnaeth y Cyngor fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2021-2222 mewn cytundeb a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Bydd y cynllun hwn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022.

 

O'r data diweddaraf, mae 12,717 o aelwydydd yn derbyn CTR ar hyn o bryd. Mae 8,114 o'r rhain o oedran gweithio ac mae 4,603 o oedran pensiynadwy. O'r 12,717 o aelwydydd sy'n derbyn CTR, mae gan 9,801 hawl i ostyngiad CTR llawn.

 

Parhaodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, drwy ddweud bod y Cynulliad ar 27 Tachwedd 2013 wedi gosod reoliadau, gweithredodd a threfniadau i gefnogi'r rhai a fydd yn talu Treth y Cyngor. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013), yn rhagnodi prif nodweddion y cynllun sydd i'w fabwysiadu gan bob cyngor yng Nghymru. Ers hynny, mae mân ddiwygiadau i'r rheoliadau hyn wedi'u gwneud pob blwyddyn ariannol.

 

 

Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiada’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofal (Cymru) (Diwygio) 2022 wedi’i roi o flaen y Senedd i’w gymeradwyo. Mae'r rheoliadau hyn yn diweddaru'r ffigurau ariannol a ddefnyddir yn y cynlluniau CTR ac yn gwneud diwygiadau i'r hyn a amlinellir ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Nid oedd y rheoliadau newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau sylweddol o safbwynt yr hawlwyr, i'r cynllun presennol ac roedd y lefel uchaf o gymorth y gall hawlwyr cymwys ei chael yn parhau i fod yn 100%.

 

Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid ei bod yn ofynnol i'r Cyngor fabwysiadu Cynllun CTR p'un a yw'n cymhwyso unrhyw un o'r elfennau dewisol ai peidio, a ddangosir ym mharagraff 4.6 o'r adroddiad. Os bydd y Cyngor yn methu â chymeradwyo cynllun, yna bydd cynllun diofyn yn gymwys. Dim ond os yw'n gwneud ei gynllun ei hun o dan y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig y gall y Cyngor gymhwyso disgresiwn.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn amlinellu manylion ynghylch yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y Cynllun CTR.

 

Cynigiodd yr adroddiad fod yr elfennau dewisol yn parhau fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.11 o'r adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod angen i'r Cyngor ystyried a ddylid disodli neu ddiwygio ei gynllun CTR a'i fod yn gorfod gwneud cynllun o dan ofynion y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig. Mae'r rhwymedigaeth yn ddyletswydd statudol ac mae'n gymwys hyd yn oed os yw'r Cyngor yn dewis peidio â chymhwyso unrhyw un o'r disgresiwn sydd ar gael iddo.

 

Y dull a argymhellir o ymdrin â'r disgresiwn sydd ar gael yw cymhwyso'r argymhellion yn Nhabl 1 ym mharagraff 4.23 o'r adroddiad. Dylid nodi nad oes arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i ariannu'r elfennau dewisol, ychwanegodd. Ychwanegodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid ymhellach fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd cyllid ychwanegol i bontio unrhyw fwlch a bydd disgwyl i bob awdurdod fodloni unrhyw ddiffyg.

 

Roedd yr argymhelliad mewn perthynas â'r elfennau dewisol sydd ar gael yn ystyried y canlynol:

 

·         Yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gafwyd yn 2016, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â'r elfennau dewisol;

·         Y cynllun lleol presennol mewn perthynas â thrin Pensiynau Anabledd Rhyfel, Pensiynau Gweddwon Rhyfel a Phensiynau Gweddwon Rhyfel ar gyfer Budd-dal Tai a chynllun CTR 2020-21, sy'n diystyru'r taliadau hyn yn llawn; a

·         Y cyllid sefydlog sydd ar gael.

 

Daeth y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid i ben ei hadroddiad drwy gynghori Aelodau o'i oblygiadau ariannol.

 

Nododd Aelod fod dros 8,000 o aelwydydd o oedran gweithio yn hawlio'r lwfans hwn, ond gofynnodd, a oedd dadansoddiad pellach ar gael a oedd y bobl hyn yn gweithio (ar incwm isel) ac yn hawlio neu a oeddent yn economaidd anweithgar.

 

Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol y gellid rhannu'r wybodaeth i raddau, ond y gallai fod yn anodd o ran y rhai sydd hefyd yn cael budd-daliadau pellach fel, er enghraifft, Cymhorthdal Incwm a Chredyd Cynhwysol.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd y byddai'r lwfans hwn yn cynorthwyo'r rhai sy'n cael anhawster ariannol o ran talu eu Treth Gyngor ac y byddai'r Cyngor yn sicrhau bod Cynllun Cyfathrebu wedi'i roi ar waith, fel bod y rhai a oedd yn gymwys ar gyfer y Cynllun yn ymwybodol ohono ac yn gwybod sut i hawlio ohono.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod y budd-dal hefyd ar gael i bobl sydd wedi ymddeol gan gynnwys gweddwon Rhyfel/gweddwon.

 

PENDERFYNIAD:                            Bod y Cyngor:

 

  • Yn nodi Rheoliadau Cynlluniau Gtyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a’r Rheoliadau  a ddiwygwyd yn 2014 i 2022.
  • Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2022-2023 fel y nodir ym mharagraffau 4.18 i 4.23 o'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: