Agenda item

Diweddariad ar y Rheoliadau i Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a’r Newidiadau o ganlyniad i Gyd-bwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad gyda’r bwriad o wneud y canlynol:

 

  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CBC) yn unol â’r ddarpariaeth yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
  • Ystyried Rheoliadau Cydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru 2021, a ddaeth i rym ar y 1af o Ebrill 2021, mewn perthynas â sefydlu a gweithredu CBC, gyda’r swyddogaethau llesiant economaidd, trafnidiaeth a chynllunio strategol oedd yn dod i fodolaeth ar yr 28ain o Chwefror 2022;
  • Ystyried Adroddiad Cabinet Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Caerdydd dyddiedig Medi 2021, oedd yn nodi sut y bydd swyddogaethau’r Cyd-bwyllgor presennol yn cael eu trosglwyddo i Gydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru ar y 1af o Fawrth 2022 a nodi’r argymhellion;
  • Nodi’r digwyddiadau sydd bellach wedi digwydd ers yr Adroddiad hwnnw ac ystyried Adroddiad Cabinet Cyd-bwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd dyddiedig Rhagfyr 2021 oedd yn nodi’r dull “trac deuol” fydd yn cael ei roi ar waith yn awr cyn i Gydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru osod ei gyllideb statudol gyntaf ar yr 31ain o Ionawr 2022;
  • rhoi gwybod i’r Cabinet am y camau nesaf i ddatrys y rhwystrau presennol i weithrediad llawn y model “codi a symud” sy’n ceisio dod â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r CBC ynghyd yn y pen draw yn un model cydlynol o lywodraethu economaidd rhanbarthol.

 

Darparodd y Prif Weithredwr gefndir gan nodi bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cynnwys darpariaethau i greu Cydbwyllgorau Corfforaethol (CJC) fel cyfrwng ar gyfer cydweithredu rhanbarthol cyson rhwng prif gynghorau. Y nod oedd sicrhau bod yna drefniadau rhanbarthol cyson, gwydn ac atebol ar gyfer cyflawni tair swyddogaeth bwysig, sef (i) cynllunio defnydd tir strategol (ii) cynllunio trafnidiaeth strategol a (iii) datblygu economaidd.


Eglurodd y Prif Weithredwr fod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRCD) ers ei sefydlu yn 2016 wedi darparu ystod o raglenni a mentrau uchel eu gwerth ar draws y rhanbarth, gan roi cyfanswm o tua £198 miliwn o fuddsoddiadau. Mae’r strategaeth fuddsoddi wedi’i seilio ar ddiwallu anghenion sylfaenol lleol – darparu cynlluniau trafnidiaeth cynaliadwy, cyflwyno seilwaith ar gyfer cerbydau gydag allyriadau isel iawn (ULEV), cau bylchau hyfywedd ar safleoedd diwydiannol ar gyfer tai, cymorth ar gyfer sgiliau a safleoedd datblygu strategol – ochr yn ochr ag amrywiaeth o fuddsoddiadau wedi'u targedu'n well i gyfateb i’r farchnad o amgylch yr economi arloesi a  chynyddu dwyster ymchwil a datblygu hanfodol.

 

Ychwanegodd fod egwyddorion allweddol wedi'u datblygu i fanteisio ar y buddsoddiad a wnaed, drwy fframwaith buddsoddi a oedd wedi blaenoriaethu dylanwad y sector preifat a natur sgiliau uchel y swyddi a grëwyd. Hyd yma, roedd y trosoledd rhagamcanol oddeutu £2.5 biliwn gyda tharged o 6,900 o swyddi. Yn allanol, mae’r ysbryd cystadleuol wedi cynyddu gyda dwy wobr Strength in Places yn cael eu dyfarnu o fewn cyfnod o ddwy flynedd gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU, sy’n rhychwantu sectorau blaenoriaeth diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Diwydiannau Creadigol a bron i £100 miliwn o fuddsoddiad uniongyrchol newydd.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr y manylion ar drosglwyddo Swyddogaethau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd De-ddwyrain Cymru – Llywodraethu a Chyflawni. Eglurodd fod y Rheoliadau Sefydlu yn darparu swyddogaethau’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol (CBC) a ddaw i rym ar yr 28ain o Chwefror 2022. Roedd hyn i bob pwrpas yn golygu bod yn rhaid i Gyd-bwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fod yn barod i “fynd yn fyw” a gweithredu drwy gorff y CBC erbyn y 1af o Fawrth 2022. Yng nghyfarfod Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (“y Cabinet Rhanbarthol”) ar yr 20fed o Fedi 2021, ystyriodd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y pedwar dewis a restrwyd yn 4.2 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd, yn dilyn gwerthuso’r dewisiadau, y penderfynwyd mai Dewis 3 oedd y model a ffefrir am y rhesymau a restrwyd yn 4.3 yr adroddiad. Roedd rhagor o wybodaeth am hyn yn adran 4 yr adroddiad.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y camau nesaf yn y broses hon. Mae’r dull “lleiafswm moel” arfaethedig yn darparu ffordd bragmatig o alluogi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r deg Cyngor Cyfansoddol i ddechrau gweithredu gofynion y CBC a mabwysiadu’r dyletswyddau statudol tra ar yr un pryd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatrys y materion sy’n atal trosglwyddo i’r model “Codi a Symud”. O ganlyniad, mae angen rhoi cyfres o gamau yn eu lle rhwng hyn a’r 31ain o Ionawr 2022 (sef y dyddiad y mae’n rhaid i’r CBC gymeradwyo ei gyllideb) er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ond yn amddiffyn sefyllfa tymor byr a hirdymor y deg Cyngor Cyfansoddol a, lle bynnag y bo modd, yn diogelu rhag unrhyw anfantais. Ar sail cyngor allanol a chymorth technegol, bydd y dull “lleiafswm prin” arfaethedig yn galluogi’r Prifddinas-Ranbarthol i ddangos ei bod wedi dechrau’r cyfnod pontio ac yn sicrhau cydymffurfioh â’r ddeddfwriaeth. Bydd yn ei hanfod yn creu amlinelliad o’r CBC fel isafswm statudol absoliwt a safle interim yn unig. Bydd yn gweithredu ar y disgwyliad mai dim ond y lleiafswm absoliwt o weithgaredd gweithredol angenrheidiol fydd yn cael ei gyflawni. Mae’n annhebygol y bydd unrhyw weithgaredd allanol yn digwydd (megis cynhyrchu cynllun busnes, cyfarfodydd y CBC y tu hwnt i gyfarfodydd cychwynnol i osod cyllideb / sefydlu, cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, trefniadau staffio y tu hwnt i'r rhai sy'n gysylltiedig â'r uchod). Roedd manylion yr hyn sydd wedi'i gynnwys yn 4.14 o'r adroddiad gyda manylion pellach yn 4.15 ymlaen.

 

Credai'r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod y rhain yn fesurau gweinyddol a thechnegol fyddai’n galluogi menter strategol ranbarthol bwysig iawn i ddwyn ffrwyth. Cefnogodd y Dirprwy Arweinydd hyn a'r adroddiad hyd nes y ceir eglurder pellach ar y meysydd a grybwyllwyd.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod hyn wedi bod yn destun trafodaeth helaeth ymhlith y 10 Awdurdod Lleol ar lefel Cabinet rhanbarthol yn ogystal â thrwy ymgysylltu â Llywodraeth Cymru gan ei fod yn cael ei lywio gan ddeddfwriaeth newydd.

 

PENDERFYNWYD: (1) Bod y Cabinet:

 

  1. Yn nodi’r Rheoliadau Sefydlu newydd oedd wedi sefydlu CBC De-ddwyrain Cymru;
  2. Yn nodi penderfyniad y Cabinet Rhanbarthol ar yr 20fed o Fedi 2021 i drosglwyddo ei swyddogaethau presennol, a oedd yn ymwneud yn bennaf â chytundeb y Fargen Ddinesig fel yr ymrwymwyd iddo gan ddeg cyngor De-ddwyrain Cymru ym mis Mawrth 2016, i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru ar yr 28ain o Chwefror 2022;
  3. Yn nodi penderfyniadau’r Cabinet Rhanbarthol ar y 13eg o Ragfyr 2021, yn dilyn gwireddu’r risgiau a’r materion a oedd yn awr yn atal gweithredu’n llawn model “Codi a Symud” dewis Llywodraethu a Chyflawni 3 a ddewiswyd yn ôl yr amserlen a gynigiwyd yn flaenorol a’r trefniadau diwygiedig, i :

·           gymeradwyo ailgyfeirio ac ail-bennu pwrpas yr egwyddorion sydd wedi’u cynnwys yn adroddiad 20 Medi 2021 a chytuno ar weithredu’r dulliau “lleiafswm moel” a’r “trac deuol” a nodwyd yn yr adroddiad, gan ganiatáu i Ddinas-ranbarth Caerdydd (CCR) gydymffurfio â’r Rheoliadau Sefydlu, hyd nes y gellir atgyfodi trawsnewid drwy'r model “codi a symud” ac ochr yn ochr â datrys materion sy'n weddill;

·           cymeradwyo ailosod y llwybr critigol mewn perthynas â’r tasgau a’r gweithgareddau y mae angen eu cyflawni cyn gosod y gyllideb erbyn yr 31ain o Ionawr 2022 a phenderfynu rhoi’r gorau i’r Bwrdd Pontio yn y cyfnod hwn;

·           cytuno i ofyn i Lywodraeth Cymru ddiwygio’r Rheoliadau Sefydlu i newid dyddiad cychwyn ymarfer ei swyddogaethau mewn perthynas â’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, y Cynllun Datblygu Strategol a grym llesiant economaidd o’r 28ain o Chwefror 2022 i’r 30ain o Fehefin 2022;

  1. Yn nodi’r gofyniad i’r CBC osod a chymeradwyo cyllideb ar neu cyn yr 31ain o Ionawr 2022 a’r camau a nodir yn yr adroddiad i wneud hyn yn bosibl;
  2. Yn nodi'r risgiau a'r materion a eglurwyd yn yr adroddiad yr oedd angen eu monitro, eu lliniaru a'u rheoli'n barhaus;
  3. Yn nodi’r Rheolau Sefydlog drafft yn Atodiad 1 i’r Adroddiad hwn sy’n egluro’r gofynion cychwynnol a’r model gweithredu ar gyfer y CBC yn ogystal â busnes cychwynnol y cyfarfod cyntaf ar yr 31ain o Ionawr 2022;
  4. Yn nodi’r gwaith sy’n mynd rhagddo gan Ddinas-ranbarth Caerdydd a’i Gynghorau Cyfansoddol i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru a chynghorwyr fel y bo’n briodol, i helpu i lywio’r gwaith o ddatrys y materion sy’n weddill lle bynnag y bo modd;
  5. Yn nodi y byddai Arweinydd y Cyngor hwn, mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr a’r Swyddog Adran 151, yn ystyried ac yn gosod cyllideb gyntaf y CBC erbyn yr 31ain o Ionawr 2022 fan bellaf er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth fel sydd angen;

(2) Yn nodi y byddai diweddariadau'n cael eu darparu ar y cynnydd o ddull y “trac deuol” i'r model “codi a symud”.   

Dogfennau ategol: