Agenda item

Strategaeth Gyllido Tymor Canol 2022-23 i 2025-26 a Phroses Ymgynghori ar y Gyllideb Ddrafft

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (COSC) ar gynigion Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor (SATC) i’r Cabinet.

 

Dywedodd fod y COSC, er hwylustod, wedi ystyried canfyddiadau'r Panel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb a'r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar 1 Chwefror 2022 i benderfynu a ddylid anfon yr argymhellion ymlaen i'r Cabinet, fel rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb. Dywedodd fod y COSC wedi derbyn yr argymhellion a'r sylwadau gan y Panel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb (PYGG) a'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gynigion SATC ac wedi cytuno i'w cyflwyno i'r Cabinet.

 

Mynegodd y Dirprwy Arweinydd ei ddiolch i Gadeirydd y COSC am gyflwyno'r argymhellion i'r Cabinet ac ychwanegodd y byddai'r Cabinet yn ystyried ac yn ymateb i'r argymhellion a dderbyniwyd. Dywedodd fod rhai o'r argymhellion a gynigiwyd wedi cael eu gweithredu eisoes, tra byddai argymhellion eraill yn gofyn am ddarn mwy manwl o waith.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol i aelodau’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, sy’n drawsbleidiol am eu cyfranogiad yn y gwaith o graffu ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Mynegodd yr Arweinydd hefyd ei werthfawrogiad o waith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a'r Panel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb.

 

Sicrhaodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar Gadeirydd y COSC, mewn perthynas ag Argymhelliad 6, fod y Cabinet eisoes yn lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyfrifoldebau ychwanegol a roddir ar y Cyngor drwy’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dod â chyllid i’w canlyn. Mewn perthynas ag Argymhelliad 8, dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y Cabinet yn ymwybodol iawn o effaith Covid a Covid hir ar gostau gofal cymdeithasol, a’i fod yn edrych ar ddyblygu swyddogaethau’r swyddfa gefn er mwyn rhyddhau amser gweithwyr cymdeithasol. Mewn perthynas ag argymhelliad 9, mae cynnig yn cael ei wneud i Lywodraeth Cymru a San Steffan ariannu diwygio’r system gofal cymdeithasol yn gyfan gwbl gyda’r nod strategol o ariannu gofal cymdeithasol sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mewn perthynas ag argymhelliad 10, dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod ail-gydbwyso’r farchnad rhwng gwasanaethau a gomisiynir a gwasanaethau mewnol dan ystyriaeth, gyda golwg ar y Cyngor yn cartrefu pobl ifanc gan yn y tymor hir. 

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at argymhelliad 5 a gofynnodd a oedd yr adolygiad yr oedd yn ei argymell yn ymwneud â chost darparu addysg feithrin amser llawn. Dywedodd Cadeirydd y COSC nad oedd consensws trawsbleidiol ar yr argymhelliad hwn a bod geiriad yr argymhelliad wedi cael ei adael yn amhendant.  

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at argymhelliad 11, oedd yn ymwneud â’r Cabinet yn edrych i mewn i’r potensial o gynyddu taliadau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a dywedodd mai Llywodraeth Cymru oedd yn rheoleiddio ac yn pennu’r rhan fwyaf o’r taliadau a godir, megis y cap ar gyfer gofal cartref. Dywedodd Cadeirydd y COSC wrth y Cabinet y byddai'n gofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2 ymateb yn llawnach i'r argymhelliad hwnnw. 

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at argymhelliad 14, oedd yn argymell bod y Cabinet yn edrych i mewn i’r posibilrwydd o godi tâl mewn perthynas â'r ffi weinyddol ar gyfer cyhoeddi ac ailgyhoeddi Bathodynnau Glas a dywedodd nad oes gan y Cyngor bwerau i wneud hynny gan ei fod yn gweinyddu'r cynllun.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau am eglurhad pellach ynghylch bwriad argymhelliad 18, oedd yn argymell bod y Cabinet yn adolygu ac yn symleiddio'r strwythur codi tâl am barcio ceir ac yn tapro'r cyfleuster parcio am ddim. Dywedodd Cadeirydd y COSC y byddai'n ceisio cael eglurhad pellach ar yr argymhelliad hwn gan Gadeirydd y Panel Ymchwilio a Gwerthuso Cyllideb.  

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau at argymhelliad 21, oedd yn ymwneud ag ailnegodi mynediad at 25% o’r stoc tai a dywedodd nad oedd yn credu y byddai hyn yn bosibl oherwydd y ddogfen gynnig oedd yn ei lle gyda V2C, ond y gallai Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol gymryd y mater hwn i fyny.

                     

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cytuno i ystyried Argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, mewn ymateb i Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022-23 i 2025-26 a Phroses Ymgynghori'r Gyllideb Ddrafft.    

Dogfennau ategol: