Agenda item

Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid am gytundeb y Cabinet i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor i gymeradwyo rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-22 i 2030-31.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor ar 24 Chwefror 2021 wedi cymeradwyo Strategaeth Gyfalaf, yn ymgorffori'r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021-22, ynghyd â rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2020-21 i 2030-31 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC). Cawsai’r rhaglen gyfalaf ei diweddaru yn ystod y flwyddyn gyda chynlluniau newydd, diwygiadau i becynnau ariannu oedd yn bod eisoes a newidiadau i broffiliau cyflawni. Roedd dyfarniadau grant newydd, canlyniadau prosesau tendro a diweddariadau ar gynlluniau oedd yn bod eisoes, yr oedd angen eu cynnwys yn y rhaglen gyfalaf, wedi digwydd ers i’r Cyngor gymeradwyo’r rhaglen ddiwethaf ar 19 Ionawr 2022. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Cabinet y câi rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2021-22 i 2031-2032 ei chyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor, ar 22 a 23 Chwefror 2022 yn y drefn honno, fel rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022- 23 i 2025-26, ochr yn ochr â’r Strategaeth Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022-23 i 2031-32. Dywedodd fod yna nifer o bwysau ariannol yn codi o ganlyniad i amodau presennol y farchnad, yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig a Brexit.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021-22 i 2030-31, a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2002, yn £212,439 miliwn, ac y daw £118.094 miliwn ohono o adnoddau’r Cyngor, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi a benthyca, gyda'r £94.345 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol. Dywedodd wrth y Cabinet fod angen cynnwys y cynlluniau newydd canlynol yn awr yn y rhaglen gyfalaf, y mae rhai ohonynt yn cael eu hariannu’n gyfan gwbl neu’n rhannol â grant, ynghyd ag eraill sydd angen eu diwygio:

 

  • Fflyd Ddi-Garbon Sero Net
  • Metro+ Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Stad Ddiwydiannol Heol Ewenni
  • Adfywio Porthcawl
  • Hwb Plant Brynmenyn
  • Rhaglen Diogelwch Ynni Cymunedol / Cam 1 Arbed
  • Offer TGCh – Ysgolion
  • Cynllun Peilot Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru
  • Llety Ychwanegol Ysgol Arbennig Heronsbridge

 

Wrth gymeradwyo’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig, gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ar effaith Brexit a Covid ar y Cyngor ac ar gostau byw oedd wedi gweld cynnydd yn y prisiau a gyflwynwyd gan dendrwyr wrth dendro am gynlluniau. Tynnodd sylw at y tendr diweddar, fel enghraifft, o ddwy groesfan i gerddwyr lle roedd y swm a dendrwyd 2.5 gwaith y gost a ragwelwyd. Croesawai gyllid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a fyddai’n golygu bod Metro+ Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Ystad Ddiwydiannol Heol Ewenni yn dwyn ffrwyth. Soniodd yr Arweinydd am bwysigrwydd y cyllid gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, na allai’r cynlluniau ddigwydd hebddo. 

 

Pwysleisiai Aelod y Cabinet dros Gymunedau bwysigrwydd y cyllid ar gyfer mabwysiadu Ynyslas, Porthcawl, i’r trigolion. Gofynnodd am esboniad ar y buddsoddiad ychwanegol mewn offer TGCh ar gyfer ysgolion. Eglurodd  Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y cyllid wedi dod o Grant Seilwaith Hwb Llywodraeth Cymru ac y gellid cario’r cyllid drosodd pe na châi ei wario yn y flwyddyn ariannol hon. Holodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ynghylch natur yr offer TGCh oedd i gael ei brynu. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd wrth y Cabinet fod adnoddau wedi'u casglu ar gyfer offer i ddysgwyr sydd wedi'u hallgau’n ddigidol. Dywedodd fod yr offer yn cael ei brynu o gatalog Llywodraeth Cymru a bod ysgolion yn nodi natur yr offer TGCh i’w brynu, sy’n gyffredinol ei natur ac sy’n ei gwneud yn bosibl i TGCh gynorthwyo.     

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y cynnig i ddarparu llety ychwanegol yn Ysgol Arbennig Heronsbridge, sy'n angenrheidiol i gwrdd â'r diffyg yn y llety i ddisgyblion i gefnogi dysgwyr ag anghenion cymhleth ac sy'n fuddsoddiad doeth. Dywedodd, er bod gwaith yn mynd rhagddo i gael ysgol arbennig newydd yn lle Heronsbridge, fod angen yr adeiladau ychwanegol yn gynt yn y tymor byr. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y bydd dysgwyr ag anghenion cymhleth yn elwa o 3 chyfleuster arbenigol a bod angen cynyddu'r capasiti yn y tymor byr i atal dysgwyr rhag gorfod teithio.

 

Holodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol beth oedd y rheswm am yr oedi yn Hwb y Plant ym Mrynmenyn. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y caiff cais ei wneud i sicrhau cyllid cyfalaf o’r Gronfa Integredig Ranbarthol, a fyddai’n gohirio’r prosiect tan Wanwyn 2023.         

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cytuno i gyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig, yn Atodiad A i'r adroddiad, i'r Cyngor i'w chymeradwyo.    

Dogfennau ategol: